Cyflwyniad
I11Trosolwg
Mae prif ddarpariaethau’r Ddeddf hon—
a
yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo trawsblannu (adran 2);
b
yn darparu bod gweithgareddau penodol a wneir yng Nghymru at ddiben trawsblannu yn gyfreithlon os cânt eu gwneud â chydsyniad (adran 3);
c
yn nodi sut y caiff cydsyniad ei roi i weithgareddau trawsblannu, gan gynnwys yr amgylchiadau lle yr ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi yn absenoldeb cydsyniad datganedig (adrannau 4 i 9);
d
yn ei gwneud yn drosedd i weithgareddau trawsblannu gael eu cyflawni yng Nghymru heb gydsyniad (adran 10);
e
yn gwneud diwygiadau (adrannau 15 ac 16) i Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 gan gynnwys darpariaeth mewn perthynas â chod ymarfer sydd—
i
yn rhoi canllawiau ymarferol i bersonau sy’n cyflawni gweithgareddau trawsblannu, a
ii
yn gosod y safonau a ddisgwylir mewn perthynas â chyflawni’r gweithgareddau hynny, gan gynnwys sut y mae cydsyniad i’w gael.