xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Yn y Ddeddf hon—
mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr â “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989;
mae i “deunydd perthnasol” (“relevant material”) yr ystyr a roddir yn adran 18; ac mae i “deunydd perthnasol a eithrir” (“excluded relevant material”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 7;
mae i “gweithgareddau trawsblannu” (“transplantation activities”) yr ystyr a roddir yn adran 3;
ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sydd wedi cyrraedd 18 mlwydd oed;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 mlwydd oed.
(2)At ddibenion adrannau 6, 7 ac 8, mae plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsyniad os yw’n ymddangos i berson rhesymol bod gan y plentyn ddigon o ddealltwriaeth i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.
(3)Mae’r canlynol yn berthnasoedd cymhwysol at ddiben y Ddeddf hon—
(a)priod, partner sifil neu bartner;
(b)rhiant neu blentyn;
(c)brawd neu chwaer;
(d)tad-cu/taid neu fam-gu/nain , neu ŵyr neu wyres;
(e)plentyn i frawd neu chwaer;
(f)llys-dad neu lys-fam;
(g)hanner-brawd neu hanner-chwaer;
(h)cyfaill ers amser maith.
(4)At ddibenion y Ddeddf hon, mae person yn bartner i unigolyn arall os yw’r ddau ohonynt (p’un a ydynt o rywiau gwahanol neu o’r un rhyw) yn byw fel partneriaid mewn perthynas deuluol barhaus.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3) drwy orchymyn.
(6)Yn y Ddeddf hon—
(a)mae cyfeiriadau at ddeunydd o gorff person byw yn cyfeirio at ddeunydd o gorff person sy’n fyw adeg y gwahanu,
(b)mae cyfeiriadau at ddeunydd o gorff person ymadawedig yn cyfeirio at ddeunydd o gorff person nad oedd yn fyw adeg y gwahanu, ac
(c)mae cyfeiriadau at gydsyniad datganedig yn cynnwys cydsyniad a roddwyd cyn i’r Ddeddf hon ddod i rym.
(7)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at drawsblannu yn cyfeirio at drawsblannu i gorff dynol ac yn cynnwys trallwyso.
(8)At ddibenion y Ddeddf hon, nid yw deunydd i’w ystyried yn ddeunydd o gorff dynol os yw wedi ei greu y tu allan i’r corff dynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)
I2A. 19 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(e)