Hyrwyddo trawsblannu
I12Dyletswydd Gweinidogion Cymru i hyrwyddo trawsblannu
1
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
hyrwyddo trawsblannu fel modd i wella iechyd pobl Cymru,
b
darparu gwybodaeth am drawsblannu a chynyddu ymwybyddiaeth ohono,
c
hysbysu’r cyhoedd am yr amgylchiadau lle yr ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi i weithgareddau trawsblannu yn absenoldeb cydsyniad datganedig, a
d
sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael i Fyrddau Iechyd Lleol yn cynnwys y cymwyseddau a’r sgiliau arbenigol sy’n ofynnol at ddibenion y Ddeddf hon.
2
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn cynnwys, yn benodol, rwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo, o leiaf unwaith bob 12 mis, ymgyrch i hysbysu’r cyhoedd ledled Cymru am yr amgylchiadau lle yr ystyrir bod cydsyniad i weithgareddau trawsblannu wedi ei roi yn absenoldeb cydsyniad datganedig.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru, am y pum mlynedd gyntaf ar ôl i’r adran hon ddod i rym, adrodd yn flynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y camau a gymerwyd i gyflawni eu dyletswyddau o dan is-adran (1).