(1)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu atodol y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol.
(2)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(3)Cyn gwneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon rhaid i Weinidogion Cymru gynnal unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus sy’n briodol yn eu barn hwy.
(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
(5)Nid yw is-adrannau (3) a (4) yn gymwys i orchmynion o dan adran 21 (cychwyn).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)
I2A. 20 mewn grym ar 12.9.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 2(c)