Search Legislation

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 10

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 25/02/2015

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/10/2014. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, Paragraff 10. Help about Changes to Legislation

Siewmyn teithiolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

10(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio gan siewmon teithiol sy’n aelod o sefydliad i siewmyn teithiol sydd â thystysgrif a roddwyd o dan y paragraff hwn ac sydd, ar y pryd, yn teithio at ddibenion busnes neu sydd wedi gosod annedd gaeaf ar y tir gyda chyfarpar am ryw gyfnod sy’n syrthio rhwng dechrau mis Hydref mewn unrhyw flwyddyn a diwedd mis Mawrth yn y flwyddyn wedyn.

(2)At ddibenion y paragraff hwn caiff Gweinidogion Cymru roi tystysgrif i unrhyw sefydliad a gydnabyddir ganddynt fel un sy’n cyfyngu ei haelodaeth i siewmyn teithiol bona fide; a chaniateir i dystysgrif gael ei thynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru unrhyw bryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Back to top

Options/Help