ATODLEN 2TELERAU CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

(a gyflwynir gan adran 50)

RHAN 1TELERAU A YMHLYGIR GAN Y DDEDDF

PENNOD 1CYMHWYSO

1

1

Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 2 yn gymwys i bob cytundeb ac eithrio cytundeb sy’n ymwneud â llain ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

2

Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 3 yn gymwys i gytundeb sy’n ymwneud â llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

3

Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 4 yn gymwys i gytundeb sy’n ymwneud â llain barhaol ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

4

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw’r datganiad ysgrifenedig y mae’n ofynnol i berchennog y safle gwarchodedig ei roi i feddiannydd y cartref symudol gan adran 49(1);

  • ystyr “dyddiad yr adolygiad” (“review date”), mewn perthynas â chytundeb, yw’r dyddiad a bennir yn y datganiad ysgrifenedig fel y dyddiad y caiff y ffi am y llain ei hadolygu bob blwyddyn, neu os nad oes dyddiad o’r fath wedi ei bennu, pen blwydd dyddiad cychwyn y cytundeb;

  • ystyr “mynegai prisiau defnyddwyr” (“consumer price index”) yw’r mynegai cyffredinol o eitemau defnyddwyr (o bob eitem) a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau neu, os na chyhoeddir y mynegai hwnnw am fis perthnasol, unrhyw fynegai neu ffigurau o fynegai amgen a gyhoeddir gan y Bwrdd.

PENNOD 2CYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU AC EITHRIO’R RHAI HYNNY SYDD AR SAFLEOEDD AWDURDODAU LLEOL I SIPSIWN A THEITHWYR

Parhad y cytundeb

2

Yn ddarostyngedig i baragraff 3, mae’r hawl i osod y cartref symudol ar dir sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig yn bodoli hyd nes i’r cytundeb gael ei derfynu o dan baragraff 4, 5, 6 neu 7.

3

1

Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am gyfnod amhenodol, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

2

Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

3

Os ceir newid amgylchiadau cyn diwedd cyfnod a bennir gan y paragraff hwn a hwnnw’n caniatáu cyfnod hirach, mae ystyriaeth i gael ei rhoi i’r newid hwnnw.

Terfynu

4

Mae gan y meddiannydd hawl i derfynu’r cytundeb drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i’r perchennog nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol.

5

Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol ar gais gan y perchennog—

a

wedi ei fodloni bod y meddiannydd wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau’r cytundeb ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio â’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a

b

o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

6

Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol, ar gais y perchennog—

a

wedi ei fodloni nad yw’r meddiannydd yn meddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r meddiannydd, a

b

o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

7

1

Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith—

a

os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi penderfynu bod y cartref symudol, o roi sylw i’w gyflwr, yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, a

b

wedyn, ar gais y perchennog, os bydd y corff barnwrol priodol, o roi sylw i benderfyniad y tribiwnlys ac i unrhyw amgylchiadau eraill, o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

2

Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys, ar gais i’r tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(a)—

a

os bydd y tribiwnlys o’r farn, o roi sylw i gyflwr presennol y cartref symudol, ei fod yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, ond

b

ei fod o’r farn hefyd y byddai’n rhesymol ymarferol i waith trwsio penodol gael ei wneud ar y cartref symudol a fyddai’n golygu na châi’r cartref symudol yr effaith andwyol honno, ac

c

os bydd y meddiannydd yn mynegi i’r tribiwnlys fod y meddiannydd yn bwriadu gwneud y gwaith trwsio hwnnw.

3

Mewn achos o’r fath, caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn interim—

a

sy’n pennu’r gwaith trwsio y mae’n rhaid ei wneud ac o fewn pa amser y mae’n rhaid ei wneud, a

b

sy’n gohirio’r achos ar y cais am unrhyw gyfnod a bennir yn y gorchymyn interim sy’n rhesymol ym marn y tribiwnlys i alluogi i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

4

Os bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim o dan is-baragraff (3), rhaid iddo beidio â gwneud penderfyniad o dan is-baragraff (1)(a) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y cyfnod penodedig wedi dod i ben heb i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

8Adennill gordaliadau gan y meddiannydd

Os terfynir y cytundeb fel y crybwyllir ym mharagraff 4, 5, 6 neu 7, mae gan y meddiannydd hawl i adennill oddi ar y perchennog gymaint o unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb ag sydd i’w briodoli i gyfnod sy’n dechrau ar ôl y terfynu.

Gwerthu cartref symudol

9

1

Os yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, mae gan y meddiannydd hawl i werthu’r cartref symudol ac i aseinio’r cytundeb i’r person y gwerthir y cartref symudol iddo (y “meddiannydd newydd”) heb gymeradwyaeth y perchennog.

2

Yn y paragraff hwn a pharagraffau 10, 12 a 13, ystyr “cytundeb newydd” yw cytundeb—

a

a wnaed ar ôl i’r paragraff hwn gychwyn, neu

b

a wnaed cyn iddo gychwyn, ond sydd wedi ei aseinio ar ôl iddo gychwyn.

3

Rhaid i’r meddiannydd newydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r perchennog fod y gwerthiant wedi ei gwblhau a bod y cytundeb wedi ei aseinio.

4

Mae’n ofynnol i’r meddiannydd newydd dalu comisiwn i’r perchennog ar werthiant y cartref symudol ar raddfa nad yw’n fwy nag unrhyw raddfa a bennir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

5

Ac eithrio i’r graddau a grybwyllir yn is-baragraff (4), ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb i’r meddiannydd newydd.

6

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd neu’r meddiannydd newydd gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad—

a

â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb, neu

b

â thalu comisiwn yn rhinwedd is-baragraff (4).

10

1

Os nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, mae gan y meddiannydd hawl i werthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb heb gymeradwyaeth y perchennog—

a

os bydd y meddiannydd yn cyflwyno i’r perchennog hysbysiad (“hysbysiad o’r bwriad i werthu”) fod y meddiannydd yn bwriadu gwerthu’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i’r person a enwir yn yr hysbysiad (y “meddiannydd arfaethedig”), a

b

os bodlonir yr amod cyntaf neu’r ail amod.

2

Yr amod cyntaf yw nad yw’r meddiannydd, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y perchennog yr hysbysiad o’r bwriad i werthu (“y cyfnod o 21 o ddiwrnodau”), yn cael hysbysiad gan y perchennog fod y perchennog wedi gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn yn atal y meddiannydd rhag gwerthu’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i’r meddiannydd arfaethedig (“gorchymyn gwrthod”).

3

Yr ail amod yw hyn—

a

o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau—

i

bod y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod, a

ii

bod y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog, a

b

bod y tribiwnlys yn gwrthod y cais.

4

Os bydd y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ond nad yw’r meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog o fewn y cyfnod hwnnw—

a

mae’r cais i’w drin fel pe bai heb ei wneud, a

b

gan hynny mae’r amod cyntaf i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni.

5

Rhaid i hysbysiad o’r bwriad i werthu gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

6

O ran hysbysiad o’r bwriad i werthu neu hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod—

a

rhaid iddo fod mewn ysgrifen, a

b

caniateir ei gyflwyno drwy’r post.

7

Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y caniateir gwneud cais am orchymyn gwrthod; a rhaid i hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod bennu ar ba sail neu seiliau y gwneir y cais.

8

Mae’n ofynnol i’r person y gwerthir y cartref symudol iddo (“y meddiannydd newydd”) dalu comisiwn i’r perchennog ar werthiant y cartref symudol ar raddfa nad yw’n fwy nag unrhyw raddfa a bennir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

9

Ac eithrio i’r graddau a grybwyllir yn is-baragraff (8), ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb.

10

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd, meddiannydd arfaethedig neu’r meddiannydd newydd gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad—

a

â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb, ac

b

â thalu comisiwn yn rhinwedd is-baragraff (8).

11

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r meddiannydd yn bwriadu gwerthu’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, yn unol â pharagraff 9 neu 10.

2

Rhaid i’r meddiannydd, heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau cyn cwblhau gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb, roi’r canlynol i’r meddiannydd arfaethedig—

a

unrhyw ddogfennau, neu ddogfennau o unrhyw ddisgrifiad, a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a

b

unrhyw wybodaeth arall a ragnodir yn y rheoliadau, yn y ffurf a ragnodir ynddynt.

3

Ond os bydd y meddiannydd arfaethedig yn cydsynio mewn ysgrifen i’r dogfennau a’r wybodaeth arall gael eu rhoi erbyn dyddiad (“y dyddiad a ddewiswyd”) sy’n llai nag 28 o ddiwrnodau cyn cwblhau’r gwerthiant ac aseinio’r cytundeb, rhaid i’r meddiannydd roi’r dogfennau a’r wybodaeth arall i’r meddiannydd arfaethedig heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a ddewiswyd.

4

Mae’r dogfennau a’r wybodaeth arall y caniateir eu rhagnodi mewn rheoliadau o dan is-baragraff (2) yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain)—

a

copi o’r cytundeb,

b

copi o reolau’r safle (os oes rhai) ar gyfer y safle gwarchodedig y gosodwyd y cartref symudol arno,

c

manylion y ffi am y llain sy’n daladwy o dan y cytundeb,

d

cyfeiriad anfon ymlaen y meddiannydd,

e

mewn achos o fewn paragraff 9, gwybodaeth am y gofyniad a osodir yn rhinwedd is-baragraff (3) o’r paragraff hwnnw,

f

manylion y comisiwn a fyddai’n daladwy gan y meddiannydd arfaethedig yn rhinwedd paragraff 9(4) neu 10(8),

g

gwybodaeth am unrhyw ofynion a ragnodir mewn rheoliadau o dan baragraff 9(6) neu 10(10).

5

Caniateir i ddogfennau neu wybodaeth arall y mae’n ofynnol eu rhoi o dan y paragraff hwn gael eu rhoi i’r prynwr arfaethedig yn bersonol neu eu hanfon drwy’r post.

6

Caniateir i hawliad bod person wedi torri’r ddyletswydd o dan is-baragraff (2) neu (3) fod yn destun achos sifil yn yr un modd ag unrhyw hawliad arall mewn camwedd am dorri dyletswydd statudol.

Rhoi cartref symudol yn anrheg

12

1

Os yw cytundeb yn gytundeb newydd, ar yr amod bod y meddiannydd wedi rhoi’r dystiolaeth berthnasol i’r perchennog, mae gan y meddiannydd hawl i roi’r cartref symudol, ac i aseinio’r cytundeb, i aelod o deulu’r meddiannydd (y “meddiannydd newydd”) heb gymeradwyaeth y perchennog.

2

Dyma’r dystiolaeth berthnasol—

a

tystiolaeth, neu dystiolaeth o ddisgrifiad, a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru fod y person y mae’r meddiannydd yn bwriadu rhoi’r cartref symudol iddo, ac aseinio’r cytundeb iddo, yn aelod o deulu’r meddiannydd, neu

b

unrhyw dystiolaeth foddhaol arall fod y person o dan sylw yn aelod o deulu’r meddiannydd.

3

Rhaid i’r meddiannydd newydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r perchennog ei fod wedi cael y cartref symudol a bod y cytundeb wedi ei aseinio iddo.

4

Ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, a grybwyllir yn is-baragraff (1).

5

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd neu’r meddiannydd newydd gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, a grybwyllir yn is-baragraff (1).

13

1

Os nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, mae gan y meddiannydd hawl i roi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i aelod o deulu’r meddiannydd (y “meddiannydd arfaethedig”) heb gymeradwyaeth y perchennog—

a

os bydd y meddiannydd yn cyflwyno hysbysiad i’r perchennog (“hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref”) fod y meddiannydd yn bwriadu rhoi’r cartref symudol i’r meddiannydd arfaethedig, a

b

os bodlonir yr amod cyntaf neu’r ail amod.

2

Yr amod cyntaf yw nad yw’r meddiannydd, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y perchennog yr hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref (“y cyfnod o 21 o ddiwrnodau”), yn cael hysbysiad gan y perchennog fod y perchennog wedi gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn yn atal y meddiannydd rhag rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i’r meddiannydd arfaethedig (“gorchymyn gwrthod”).

3

Yr ail amod yw hyn—

a

o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau—

i

bod y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod, a

ii

bod y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog, a

b

bod y tribiwnlys yn gwrthod y cais.

4

Os bydd y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ond nad yw’r meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog o fewn y cyfnod hwnnw—

a

mae’r cais i’w drin fel pe bai heb ei wneud, a

b

gan hynny mae’r amod cyntaf i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni.

5

Rhaid i hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref gynnwys—

a

y dystiolaeth berthnasol o dan baragraff 12(2), a

b

unrhyw wybodaeth arall a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

6

O ran hysbysiad o’r bwriad i roi cartref neu hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod—

a

rhaid iddo fod mewn ysgrifen, a

b

caniateir ei gyflwyno drwy’r post.

7

Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y caniateir gwneud cais am orchymyn gwrthod; a rhaid i hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod bennu ar ba sail neu seiliau y gwneir y cais.

8

Ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, fel y crybwyllir yn is-baragraff (1).

9

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd a’r meddiannydd arfaethedig neu’r person y rhoddir y cartref iddo gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, fel y crybwyllir yn is-baragraff (1).

14Ail-leoli cartref symudol

1

Mae gan y perchennog hawl i’w gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod o ran llain arall sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig (“y llain arall”)—

a

os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd a’i bod yn rhesymol gosod y cartref symudol ar y llain arall am y cyfnod hwnnw, neu

b

os bydd angen i’r perchennog wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys nad oes modd ei wneud ond os caiff y cartref symudol ei symud i’r llain arall am y cyfnod hwnnw, a naill ai—

i

bod tribiwnlys, ar gais gan y perchennog, wedi ei fodloni ynglŷn â’r angen hwnnw ac wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd, neu

ii

os yw’r brys ynglŷn â’r angen yn golygu ei bod yn anymarferol gwneud cais cyn i’r cartref symudol gael ei ail-leoli.

2

Mewn achos pan fo is-baragraff (ii) o baragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r perchennog wneud cais ar unwaith i dribiwnlys ac os nad yw tribiwnlys wedi ei fodloni fel y crybwyllir yn is-baragraff (i) o’r paragraff hwnnw rhaid i’r perchennog sicrhau ar unwaith fod y cartref symudol yn dychwelyd i’r llain wreiddiol.

3

Os bydd y perchennog yn ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd osod y cartref symudol ar y llain arall er mwyn i’r perchennog amnewid neu drwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni, rhaid i’r perchennog sicrhau bod y cartref symudol yn dychwelyd i’r llain wreiddiol pan gwblheir y gwaith amnewid neu’r gwaith trwsio, os bydd y meddiannydd yn gofyn i’r perchennog wneud hynny neu os bydd tribiwnlys ar gais y meddiannydd yn gorchymyn i’r perchennog wneud hynny.

4

Rhaid i’r perchennog dalu’r holl gostau a threuliau yr eir iddynt gan y meddiannydd mewn cysylltiad â symud y cartref symudol yn ôl ac ymlaen i’r llain arall.

5

Yn y paragraff hwn a pharagraff 16 ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—

a

trwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,

b

gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu

c

gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.

15Mwynhau’r cartref symudol yn ddidramgwydd

Mae gan y meddiannydd hawl i fwynhau’r cartref symudol ynghyd â’r llain yn ddidramgwydd yn ystod cyfnod y cytundeb, yn ddarostyngedig i baragraffau 14 a 16.

16Hawl y perchennog i fynd i’r llain

1

Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—

a

i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a

b

i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.

2

Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

3

Dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto y caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall.

4

Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.

Y ffi am y llain

17

1

Dim ond yn unol â’r paragraff hwn y caniateir newid y ffi am y llain, naill ai—

a

gyda chytundeb y meddiannydd, neu

b

os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog neu’r meddiannydd, o’r farn ei bod yn rhesymol i’r ffi am y llain gael ei newid a’i fod yn gwneud gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

2

Rhaid i’r ffi am y llain gael ei hadolygu’n flynyddol ar ddyddiad yr adolygiad.

3

O leiaf 28 o ddiwrnodau clir cyn dyddiad yr adolygiad rhaid i’r perchennog roi hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion o ran y ffi newydd am y llain.

4

Nid yw hysbysiad o dan is-baragraff (3) sy’n cynnig cynnydd yn y ffi am y llain yn effeithiol oni bai bod dogfen yn cyd-fynd ag ef sy’n cydymffurfio â pharagraff 23.

5

Os bydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen.

6

Os na fydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain—

a

caiff y perchennog neu’r meddiannydd wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

b

rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan y tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

c

mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen ond rhaid peidio â barnu bod y meddiannydd mewn ôl-ddyledion tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunwyd ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn y tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

7

Caniateir i gais o dan is-baragraff (6)(a) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr adolygiad ond heb fod yn fwy na 3 mis ar ôl dyddiad yr adolygiad.

8

Mae is-baragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd y perchennog—

a

heb gyflwyno’r hysbysiad y gofynnir amdani o dan is-baragraff (3) erbyn yr amser yr oedd yn ofynnol ei gyflwyno, ond

b

ar unrhyw adeg wedyn yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion o ran ffi newydd am y llain.

9

Nid yw hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b) sy’n cynnig cynnydd yn y ffi am y llain yn effeithiol oni bai bod dogfen yn cyd-fynd ag ef sy’n cydymffurfio â pharagraff 23.

10

Os bydd y meddiannydd (unrhyw bryd) yn cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b).

11

Os na fydd y meddiannydd wedi cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain—

a

caiff y perchennog neu’r meddiannydd wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

b

rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

c

os bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn o’r fath, mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b).

12

Caniateir i gais o dan is-baragraff (11) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b) ond heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad hwnnw.

13

Caiff tribiwnlys ganiatáu i gais o dan is-baragraff (6)(a) neu (11)(a) gael ei wneud iddo y tu allan i’r terfyn amser a bennir yn is-baragraff (7) (yn achos cais o dan is-baragraff (6)(a)) neu yn is-baragraff (12) (yn achos cais o dan is-baragraff (11)(a)) os bydd wedi ei fodloni, o dan yr holl amgylchiadau, fod rhesymau da dros fethu â gwneud cais o fewn y terfyn amser cymwys a thros unrhyw ohirio ers hynny wrth wneud cais am ganiatâd i wneud y cais y tu allan i’r amser.

14

Rhaid peidio â thrin y meddiannydd fel pe bai mewn ôl-ddyledion—

a

pan fo is-baragraff (10) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain, neu

b

pan fo is-baragraff (11)(b) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn y tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

15

Mae is-baragraff (16) yn gymwys os bydd tribiwnlys, ar gais y meddiannydd, wedi ei fodloni—

a

nad oedd hysbysiad o dan is-baragraff (3) neu (8)(b) yn effeithiol o ganlyniad i is-baragraff (4) neu (9), ond

b

bod y meddiannydd er hynny wedi talu’r ffi am y llain a gynigwyd yn yr hysbysiad i’r perchennog.

16

Caiff y tribiwnlys orchymyn i’r perchennog dalu i’r meddiannydd, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y gorchymyn, y gwahaniaeth rhwng—

a

y swm yr oedd yn ofynnol i’r meddiannydd ei dalu i’r perchennog am y cyfnod o dan sylw, a

b

y swm y mae’r meddiannydd wedi ei dalu i’r perchennog am y cyfnod hwnnw.

18

1

Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain rhaid rhoi sylw yn benodol i’r canlynol—

a

unrhyw symiau a wariwyd gan y perchennog ers dyddiad yr adolygiad diwethaf ar welliannau—

i

sydd er lles meddianwyr cartrefi symudol ar y safle gwarchodedig,

ii

a fu’n destun ymgynghori yn unol â pharagraff 22(1)(e) ac (f), a

iii

nad yw mwyafrif o’r meddianwyr wedi anghytuno â hwy mewn ysgrifen neu, yn achos anghytuno o’r fath, y tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi gorchymyn y dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm y ffi newydd am y llain,

b

unrhyw ddirywiad yng nghyflwr, ac unrhyw ostyngiad yn amwynder, y safle neu unrhyw dir cyfagos a feddiennir neu a reolir gan y perchennog ers y dyddiad y daeth yr is-baragraff hwn i rym (i’r graddau nad oes sylw wedi ei roi o’r blaen i’r dirywiad neu’r gostyngiad hwnnw at ddibenion yr is-baragraff hwn),

c

unrhyw ostyngiad yn y gwasanaethau y mae’r perchennog yn eu darparu i’r safle, y llain neu’r cartref symudol, ac unrhyw ddirywiad yn ansawdd y gwasanaethau hynny, ers y dyddiad y daeth yr is-baragraff hwn i rym (i’r graddau nad oes sylw wedi ei roi o’r blaen i’r dirywiad neu’r gostyngiad hwnnw at ddibenion yr is-baragraff hwn), a

d

unrhyw effaith uniongyrchol ar y costau sy’n daladwy gan y perchennog o ran cynnal a chadw neu reoli’r safle yn sgil deddfiad sydd wedi dod i rym ers dyddiad yr adolygiad diwethaf.

2

Ond rhaid peidio â rhoi sylw, wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog ers dyddiad yr adolygiad diwethaf er mwyn cydymffurfio â’r darpariaethau a geir yn y Rhan hon nas cynhwyswyd yn Neddf Cartrefi Symudol 1983 fel yr oedd yn gymwys o ran Cymru cyn i’r Rhan hon ddod i rym.

3

Wrth gyfrifo faint yw mwyafrif o’r meddianwyr at ddibenion is-baragraff (1)(a)(iii) rhaid cymryd mai 1 meddiannydd yn unig sydd gan bob cartref symudol ac os oes mwy nag 1 meddiannydd cartref symudol, cymerir mai’r meddiannydd yw p’un bynnag ohonynt y mae’r meddianwyr yn cytuno arno neu, yn niffyg cytundeb, yr un y mae ei enw’n ymddangos gyntaf ar y cytundeb.

4

Mewn achos lle nad yw’r ffi am y llain wedi ei hadolygu o’r blaen, mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ddyddiad yr adolygiad diwethaf i’w darllen fel cyfeiriadau at y dyddiad y cychwynnodd y cytundeb.

19

1

Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, nid oes unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad ag ehangu’r safle gwarchodedig i’w cymryd i ystyriaeth.

2

Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, ni chaniateir rhoi sylw—

a

i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog o ran cynnal achos o dan y Rhan hon neu’r cytundeb,

b

i unrhyw ffi y mae’n ofynnol i’r perchennog ei thalu yn rhinwedd adran 6 neu 13, nac

c

i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad â’r canlynol—

i

unrhyw gamau a gymerwyd gan awdurdod lleol o dan adrannau 15 i 25, neu

ii

collfarnu’r perchennog am drosedd o dan adran 18.

20

1

Oni bai y byddai hynny’n afresymol, o roi sylw i baragraff 18(1), rhagdybir bod y ffi am y llain i gynyddu neu i ostwng yn ôl canran nad yw’n fwy na chanran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifir drwy gyfeirio at y canlynol—

a

y mynegai diweddaraf, a

b

y mynegai a gyhoeddwyd am y mis a syrthiodd 12 mis cyn y mis y mae’r mynegai diweddaraf yn cyfeirio ato.

2

Yn is-baragraff (1) ystyr “y mynegai diweddaraf”—

a

mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(3), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw, a

b

mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(8)(b), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol i’r perchennog gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(3).

21Rhwymedigaethau’r meddiannydd a rhwymedigaethau cyfatebol y perchennog

1

Rhaid i’r meddiannydd—

a

talu’r ffi am y llain i’r perchennog,

b

talu i’r perchennog yr holl symiau sy’n ddyledus o dan y cytundeb o ran gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog,

c

cadw’r cartref symudol mewn cyflwr cadarn,

d

cadw—

i

y tu allan i’r cartref symudol, a

ii

y llain, gan gynnwys pob ffens ac adeilad allanol sy’n perthyn iddi ac i’r cartref symudol, neu a fwynheir gyda hwy,

mewn cyflwr glân a chymen, ac

e

os bydd y perchennog yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol i’r perchennog o unrhyw gostau neu dreuliau y bydd y meddiannydd yn gofyn am ad-daliad yn eu cylch.

2

Rhaid i’r perchennog beidio â gwneud unrhyw beth na pheri i unrhyw beth gael ei wneud—

a

a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni’r rhwymedigaeth o dan is-baragraff (1)(c) neu a allai atal y meddiannydd rhag gwneud gwelliannau mewnol i’r cartref symudol nac ymyrryd â gallu’r meddiannydd i wneud hynny, na

b

a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni’r rhwymedigaethau o dan is-baragraff (1)(d) neu a allai atal y meddiannydd rhag gwneud gwelliannau allanol i’r cartref symudol nac ymyrryd â gallu’r meddiannydd i wneud hynny.

3

Nid yw is-baragraff (2) yn awdurdodi’r meddiannydd i wneud gwaith ar y cartref symudol a waharddwyd gan delerau’r cytundeb neu gan neu o dan unrhyw ddeddfiad.

4

Os yw telerau’r cytundeb yn caniatáu i waith ar y cartref symudol gael ei wneud â chaniatâd y perchennog yn unig, rhaid peidio â dal y caniatâd hwnnw yn ôl yn afresymol.

Rhwymedigaethau eraill y perchennog

22

1

Rhaid i’r perchennog—

a

os bydd y meddiannydd yn gofyn, ac os bydd y meddiannydd yn talu tâl nad yw’n fwy na £30, roi manylion ysgrifenedig cywir am y canlynol—

i

maint y llain a’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni, a

ii

lleoliad y llain a’r sylfaen o fewn y safle gwarchodedig,

a rhaid i’r manylion gynnwys mesuriadau rhwng pwyntiau gosod y gellir eu hadnabod ar y safle gwarchodedig a’r llain a’r sylfaen,

b

os bydd y meddiannydd yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol (yn ddi-dâl) i ategu ac i esbonio—

i

unrhyw ffi newydd am y llain,

ii

unrhyw daliadau am wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb, a

iii

unrhyw daliadau, costau neu dreuliau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb,

c

bod yn gyfrifol am drwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni ac am gynnal unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog i’r llain neu i’r cartref symudol,

d

cadw’r rhannau hynny o’r safle gwarchodedig, gan gynnwys ffyrdd mynediad, ffensys terfyn y safle a choed, nad ydynt yn gyfrifoldeb i feddiannydd unrhyw gartref symudol a osodwyd ar y safle gwarchodedig, mewn cyflwr glân a chymen,

e

ymgynghori â’r meddiannydd ynghylch gwelliannau i’r safle gwarchodedig yn gyffredinol, ac yn arbennig ynghylch y rhai y mae’r perchennog yn dymuno iddynt gael eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm unrhyw ffi newydd am y llain, ac

f

ymgynghori â chymdeithas trigolion gymwys (os oes un) neu (fel arall) â meddianwyr cartrefi symudol a osodwyd ar y safle gwarchodedig, ynghylch pob mater sy’n ymwneud â gweithredu a rheoli’r safle gwarchodedig, gwelliannau iddo, neu unrhyw newid arfaethedig yn ei ddefnydd ac a allai effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

2

At ddibenion is-baragraff (1)(e), ystyr “ymgynghori” â’r meddiannydd yw—

a

rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd am y gwelliannau arfaethedig sydd—

i

yn disgrifio’r gwelliannau arfaethedig a sut y byddant o les i’r meddiannydd yn y tymor hir a’r tymor byr,

ii

yn manylu ar sut y gellid effeithio ar y ffi am y llain y tro nesaf y caiff ei hadolygu, a

iii

yn datgan pryd a ble y caiff y meddiannydd gyflwyno sylwadau am y gwelliannau arfaethedig, a

b

cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y meddiannydd ynghylch y gwelliannau arfaethedig, yn unol â pharagraff (a)(iii), cyn ymgymryd â hwy.

3

At ddibenion is-baragraff (1)(f), ystyr “ymgynghori” â chymdeithas trigolion gymwys yw—

a

rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r gymdeithas neu’r meddianwyr am y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(f) sydd—

i

yn disgrifio’r materion a sut y gallent effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn y tymor hir a’r tymor byr, a

ii

yn datgan pryd a ble y caiff y gymdeithas neu’r meddianwyr gyflwyno sylwadau am y materion, a

b

cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y gymdeithas neu’r meddianwyr, yn unol â pharagraff (a)(ii), cyn bwrw ymlaen â’r materion.

23

Rhaid i’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff 17(4) a (9)—

a

bod ar unrhyw ffurf a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau,

b

pennu canran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifwyd yn unol â pharagraff 20,

c

esbonio effaith paragraff 17,

d

pennu’r materion y mae’r swm a gynigir ar gyfer y ffi newydd am y llain i’w priodoli iddynt,

e

cyfeirio at rwymedigaethau’r meddiannydd ym mharagraff 21(1)(c) i (e) ac at rwymedigaethau’r perchennog ym mharagraff 22(1)(c) a (d), ac

f

cyfeirio at rwymedigaethau’r perchennog ym mharagraff 22(1)(e) ac (f) (fel y maent wedi eu glosio gan baragraff 22(2) a (3)).

Enw a chyfeiriad y perchennog

24

1

Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys, drwy hysbysiad, am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd neu gan gymdeithas trigolion gymwys.

2

Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna (yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)) mae unrhyw swm sy’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio ag is-baragraff (1).

3

Os bydd y perchennog yn unol â’r cytundeb yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu i gymdeithas trigolion gymwys, rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

enw a chyfeiriad y perchennog, a

b

os nad yw’r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru nac yn Lloegr, cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog.

4

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)—

a

pan fo’r meddiannydd neu gymdeithas trigolion gymwys yn cael hysbysiad o’r fath, ond

b

nid yw’r hysbysiad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd neu’r gymdeithas trigolion gymwys o ran yr hysbysiad.

5

Nid yw swm na hysbysiad o fewn is-baragraff (2) neu (4) i’w trin fel pe baent wedi eu crybwyll o ran unrhyw amser pan fo penodiad mewn grym, yn rhinwedd gorchymyn gan unrhyw lys neu dribiwnlys, ar gyfer derbynnydd neu reolwr y mae ei swyddogaethau’n cynnwys derbyn oddi wrth y meddiannydd y ffi am y llain, taliadau am wasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill.

6

Nid oes dim yn is-baragraffau (3) i (5) yn gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 25(1) yn gymwys iddo.

25

1

Os bydd y perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys—

a

enw a chyfeiriad y perchennog, a

b

os nad yw’r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru nac yn Lloegr, cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog.

2

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3)—

a

pan fo’r meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond

b

nid yw’r hawliad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1),

mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.

3

Nid yw’r swm a hawlir i’w drin fel pe bai’n ddyledus o ran unrhyw amser pan fo penodiad mewn grym, yn rhinwedd gorchymyn gan unrhyw lys neu dribiwnlys, ar gyfer derbynnydd neu reolwr y mae ei swyddogaethau’n cynnwys derbyn oddi wrth y meddiannydd y ffi am y llain, taliadau am wasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill.

PENNOD 3CYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU TRAMWY AR SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR AWDURDODAU LLEOL

Parhad y cytundeb

26

Yn ddarostyngedig i baragraff 27 mae’r hawl i osod y cartref symudol ar y llain dramwy yn bodoli hyd nes—

a

y daw’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb i ben, neu

b

y terfynir y cytundeb o dan baragraff 28 neu 29,

p’un bynnag yw’r cynharaf.

27

1

Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am y cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

2

Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

3

Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu ei bod yn ofynnol i’r perchennog gyfyngu ar gyfnod aros cartrefi symudol ar y safle, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.

Terfynu

28

Mae gan y meddiannydd hawl i derfynu’r cytundeb cyn i’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb ddod i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r perchennog.

29

Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb cyn i’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb ddod i ben—

a

heb fod yn ofynnol iddo ddangos unrhyw reswm, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol, neu

b

ar unwaith, pan fo—

i

y meddiannydd wedi torri un neu ragor o delerau’r cytundeb, ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio a’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a

ii

y perchennog o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

30Adennill gordaliadau gan y meddiannydd

Os terfynir y cytundeb fel y crybwyllir ym mharagraff 28 neu 29, mae gan y meddiannydd hawl i adennill oddi ar y perchennog gymaint o unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb ag sydd i’w briodoli i gyfnod sy’n dechrau ar ôl y terfynu.

31Mwynhau’r cartref symudol yn ddidramgwydd

Mae gan y meddiannydd hawl i fwynhau’r cartref symudol ynghyd â’r llain yn ddidramgwydd yn ystod cyfnod y cytundeb, yn ddarostyngedig i baragraff 32.

32Hawl y perchennog i fynd i’r llain

1

Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—

a

i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a

b

i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.

2

Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

3

Yn y paragraff hwn ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—

a

gwaith trwsio i’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,

b

gwaith trwsio i unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir gan y perchennog ar y llain ac i unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill neu amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog yn yr adeiladau allanol hynny,

c

gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu

d

gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.

4

Oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall, caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto.

5

Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.

Enw a chyfeiriad y perchennog

33

1

Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd drwy hysbysiad am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd.

2

Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna mae unrhyw swm sy’n ddyledus fel arall gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio ag is-baragraff (1).

3

Pan fo’r perchennog, yn unol â’r cytundeb, yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

4

Pan fo—

a

y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r fath, ond

b

nid yw’r hysbysiad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd o ran yr hysbysiad.

5

Nid oes dim yn is-baragraffau (3) a (4) sy’n gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 34(1) yn gymwys iddo.

34

1

Pan fo’r perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

2

Pan fo—

a

y meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond

b

nid yw’r hawliad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1),

mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.

PENNOD 4CYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU PARHAOL AR SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR

Parhad y cytundeb

35

Yn ddarostyngedig i baragraff 36, mae’r hawl i osod y cartref symudol ar dir sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig yn bodoli hyd nes i’r cytundeb gael ei derfynu o dan baragraff 37, 38, 39 neu 40.

36

1

Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am gyfnod amhenodol, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

2

Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

3

Os ceir newid amgylchiadau cyn diwedd cyfnod a bennir gan y paragraff hwn a hwnnw’n caniatáu cyfnod hirach, mae ystyriaeth i gael ei rhoi i’r newid hwnnw.

Terfynu

37

Mae gan y meddiannydd hawl i derfynu’r cytundeb drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i’r perchennog nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol.

38

Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol ar gais gan y perchennog—

a

wedi ei fodloni bod y meddiannydd wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau’r cytundeb ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio â’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a

b

o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

39

Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol, ar gais y perchennog—

a

wedi ei fodloni nad yw’r meddiannydd yn meddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r meddiannydd, a

b

o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

40

1

Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith—

a

os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi penderfynu bod y cartref symudol, o roi sylw i’w gyflwr, yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, a

b

wedyn, ar gais y perchennog, os bydd y corff barnwrol priodol, o roi sylw i benderfyniad y tribiwnlys ac i unrhyw amgylchiadau eraill, o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

2

Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys, ar gais i’r tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(a)—

a

os bydd y tribiwnlys o’r farn, o roi sylw i gyflwr presennol y cartref symudol, ei fod yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, ond

b

ei fod o’r farn hefyd y byddai’n rhesymol ymarferol i waith trwsio penodol gael ei wneud ar y cartref symudol a fyddai’n golygu na châi’r cartref symudol yr effaith andwyol honno, ac

c

os bydd y meddiannydd yn mynegi i’r tribiwnlys fod y meddiannydd yn bwriadu gwneud y gwaith trwsio hwnnw.

3

Mewn achos o’r fath, caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn interim—

a

sy’n pennu’r gwaith trwsio y mae’n rhaid ei wneud ac o fewn pa amser y mae’n rhaid ei wneud, a

b

sy’n gohirio’r achos ar y cais am unrhyw gyfnod a bennir yn y gorchymyn interim sy’n rhesymol ym marn y tribiwnlys i alluogi i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

4

Os bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim o dan is-baragraff (3), rhaid iddo beidio â gwneud penderfyniad o dan is-baragraff (1)(a) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y cyfnod penodedig wedi dod i ben heb i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

Aseinio cytundeb

41

1

Caiff y meddiannydd (“A”) aseinio’r cytundeb—

a

i berson sy’n aelod o deulu A, neu

b

i berson arall (“B”) os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2).

2

Dyma’r amodau—

a

rhaid i A gael cymeradwyaeth y perchennog, a

b

rhaid i B—

i

feddiannu llain barhaol ar safle perthnasol, a

ii

gael cymeradwyaeth y perchennog i B aseinio ei gytundeb i A neu i berson arall sy’n meddiannu llain barhaol ar safle perthnasol.

3

Safle perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol yn ardal yr awdurdod lleol lle y mae’r safle y mae’r llain arno y mae cytundeb A yn ymwneud â hi.

4

Ni chaiff y meddiannydd na’r perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r meddiannydd neu i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad ag aseinio’r cytundeb o dan y paragraff hwn.

42

1

Caiff y meddiannydd gyflwyno cais i’r perchennog i gymeradwyo, at ddibenion paragraff 41, aseiniad i berson a enwir yn y cais (“y meddiannydd arfaethedig”).

2

Pan fo’r cais yn ymwneud ag aseiniad o dan baragraff 41(1)(a) rhaid i’r cais gynnwys tystiolaeth foddhaol bod y meddiannydd arfaethedig yn aelod o deulu’r meddiannydd.

3

Pan fo’r perchennog yn cael cais o dan is-baragraff (1), rhaid i’r perchennog, cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y daw y cais i law—

a

cymeradwyo’r aseiniad, oni bai ei bod yn rhesymol i’r perchennog beidio â gwneud hynny, a

b

cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y perchennog (“hysbysiad penderfynu”) i’r meddiannydd.

4

Os yw person (“P”) yn cael cais o dan is-baragraff (1) ac mae P—

a

er nad ef yw’r perchennog, ag ystâd neu fuddiant yn y tir, a

b

yn credu mai person arall yw’r perchennog,

ac nid yw’r person arall wedi cael cais o’r fath, mae ar P ddyletswydd i’r meddiannydd (y gellir ei gorfodi drwy hawliad mewn camwedd am dorri dyletswydd statudol, yn ogystal â thrwy achos am dorri term ymhlyg) i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y person arall yn cael y cais cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad pryd y caiff P ef.

5

Os gwrthodir y gymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad penderfynu bennu’r rhesymau dros ei gwrthod.

6

Pan fo ffi sy’n ddyledus yn gyfreithlon oddi wrth y meddiannydd heb gael ei thalu neu pan fo unrhyw un neu ragor o delerau’r cytundeb wedi cael ei dorri neu heb ei berfformio, caniateir rhoi’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol at ddibenion paragraff 41 yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd dalu’r ffi sy’n aros heb ei thalu, cywiro’r toriad neu berfformio’r rhwymedigaeth.

7

Ac eithrio fel y’i darperir gan is-baragraff (6), ni ellir rhoi’r gymeradwyaeth at ddibenion paragraff 41 yn ddarostyngedig i amod ac mae amod a osodir yn wahanol i’r hyn a ddarperir felly i’w ddiystyru.

8

Os yw’r perchennog yn methu â chyflwyno’r hysbysiad neu’n gwrthod cymeradwyo’r aseiniad caiff y meddiannydd wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn sy’n datgan bod yr aseiniad wedi ei gymeradwyo at ddibenion paragraff 41 a chaiff y tribiwnlys wneud gorchymyn o’r fath os yw’n barnu bod hynny’n addas.

9

Os cyfyd cwestiwn ynghylch a gyflwynwyd yr hysbysiad sy’n ofynnol gan is-baragraff (3)(b) cyn pen y cyfnod gofynnol o 28 o ddiwrnodau, y perchennog sydd i ddangos bod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno felly.

10

Os na chymeradwyodd y perchennog yr aseiniad a chyfyd cwestiwn ynghylch a oedd yn rhesymol i’r perchennog beidio â gwneud hynny, y perchennog sydd i ddangos bod hynny’n rhesymol.

11

O ran cais neu hysbysiad o dan y paragraff hwn—

a

rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, a

b

caniateir ei gyflwyno drwy’r post.

12

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (13), rhaid i gais gan feddiannydd i’r tribiwnlys o dan is-baragraff (8) gael ei wneud—

a

cyn pen y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau drannoeth y dyddiad y caiff y meddiannydd yr hysbysiad penderfynu, neu

b

pan na fo’r meddiannydd yn cael hysbysiad penderfynu, cyn pen y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r dyddiad sy’n 29 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynodd y meddiannydd y cais o dan is-baragraff (1).

13

Caiff tribiwnlys ganiatáu i gais o dan is-baragraff (8) gael ei wneud i’r tribiwnlys ar ôl y cyfnod cymwys a bennir yn is-baragraff (12) os yw wedi ei fodloni bod, o dan yr holl amgylchiadau, resymau da dros y methiant i wneud cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw a thros unrhyw oedi ers hynny wrth wneud cais am ganiatâd i wneud y cais allan o amser.

43Adennill gordaliadau gan feddiannydd

Os terfynir y cytundeb fel y crybwyllir ym mharagraffau 37, 38, 39 neu 40, mae gan y meddiannydd hawl i adennill oddi ar y perchennog gymaint o unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb ag sydd i’w briodoli i gyfnod sy’n dechrau ar ôl y terfynu.

44Ail-leoli cartref symudol

1

Mae gan y perchennog hawl i’w gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod o ran llain arall sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig neu lain sy’n ffurfio rhan o safle gwarchodedig arall (“y llain arall”)—

a

os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd a’i bod yn rhesymol gosod y cartref symudol ar y llain arall am y cyfnod hwnnw, neu

b

os bydd angen i’r perchennog wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys nad oes modd ei wneud ond os caiff y cartref symudol ei symud i’r llain arall am y cyfnod hwnnw, a bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd.

2

Nid yw llain sy’n ffurfio rhan o safle gwarchodedig arall, at ddibenion is-baragraff (1)(a), yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd, ond os yw’n rhoi mynediad i wasanaethau iechyd ac addysg sy’n ofynnol gan y meddiannydd sydd, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, yn debyg yn fras i’r mynediad a roddwyd gan lain wreiddiol y meddiannydd.

3

Os yw’r perchennog yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd osod y cartref symudol ar y llain arall er mwyn i’r perchennog gallu rhoi sylfaen newydd i’r cartref symudol gael ei osod arni neu i wneud gwaith trwsio i’r sylfaen honno, rhaid i’r perchennog, os yw’r meddiannydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog wneud hynny, sicrhau bod y cartref symudol yn cael ei ddychwelyd i’r llain wreiddiol ar ôl i’r gwaith o roi sylfaen newydd neu’r gwaith trwsio gael ei gwblhau.

4

Rhaid i’r perchennog dalu’r holl gostau a threuliau y mae’r meddiannydd yn mynd iddynt mewn cysylltiad â symud y cartref symudol i’r llain arall ac yn ôl.

5

Yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 46 ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—

a

gwaith trwsio i’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,

b

gwaith trwsio i unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir gan y perchennog ar y llain ac i unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill neu amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog yn yr adeiladau allanol hynny,

c

gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu

d

gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.

45Mwynhau’r cartref symudol yn ddidramgwydd

Mae gan y meddiannydd hawl i fwynhau’r cartref symudol ynghyd â’r llain yn ddidramgwydd yn ystod cyfnod y cytundeb, yn ddarostyngedig i baragraffau 44 a 46.

46Hawl y perchennog i fynd i’r llain

1

Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—

a

i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a

b

i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.

2

Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

3

Oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall, caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) neu dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto.

4

Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.

Y ffi am y llain

47

1

Dim ond yn unol â’r paragraff hwn y caniateir newid y ffi am y llain, naill ai—

a

gyda chytundeb y meddiannydd, neu

b

os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog neu’r meddiannydd, o’r farn ei bod yn rhesymol i’r ffi am y llain gael ei newid a’i fod yn gwneud gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

2

Rhaid i’r ffi am y llain gael ei hadolygu’n flynyddol ar ddyddiad yr adolygiad.

3

O leiaf 28 o ddiwrnodau clir cyn dyddiad yr adolygiad rhaid i’r perchennog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion y perchennog o ran y ffi newydd am y llain.

4

Os bydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen.

5

Os na fydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain—

a

caiff y perchennog wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

b

rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan dribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

c

mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen ond rhaid peidio â barnu bod y meddiannydd mewn ôl-ddyledion tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunwyd ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn y tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

6

Caniateir i gais o dan is-baragraff (5)(a) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr adolygiad ond heb fod yn fwy na 3 mis ar ôl dyddiad yr adolygiad.

7

Mae is-baragraffau (8) i (12) yn gymwys os bydd y perchennog—

a

heb gyflwyno’r hysbysiad y gofynnir amdani o dan is-baragraff (3) erbyn yr amser yr oedd yn ofynnol ei gyflwyno, ond

b

ar unrhyw adeg wedyn yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion y perchennog o ran ffi newydd am y llain.

8

Os bydd y meddiannydd (unrhyw bryd) yn cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b).

9

Os na fydd y meddiannydd wedi cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain—

a

caiff y perchennog wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

b

rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan dribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

c

os bydd tribiwnlys yn gwneud gorchymyn o’r fath, mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b).

10

Caniateir i gais o dan is-baragraff (9) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b) ond heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad hwnnw.

11

Caiff tribiwnlys ganiatáu i gais o dan is-baragraff (5)(a) neu (9)(a) gael ei wneud iddo y tu allan i’r terfyn amser a bennir yn is-baragraff (6) (yn achos cais o dan is-baragraff (5)(a)) neu yn is-baragraff (10) (yn achos cais o dan is-baragraff (9)(a)) os bydd wedi ei fodloni, o dan yr holl amgylchiadau, fod rhesymau da dros fethu â gwneud cais o fewn y terfyn amser cymwys a thros unrhyw ohirio ers hynny wrth wneud cais am ganiatâd i wneud y cais y tu allan i’r amser.

12

Rhaid peidio â thrin y meddiannydd fel pe bai mewn ôl-ddyledion—

a

pan fo is-baragraff (8) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain, neu

b

pan fo is-baragraff (9)(b) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

48

1

Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain rhaid rhoi sylw yn benodol i’r canlynol—

a

unrhyw symiau a wariwyd gan y perchennog ers dyddiad yr adolygiad diwethaf ar welliannau—

i

sydd er lles meddianwyr cartrefi symudol ar y safle gwarchodedig,

ii

a fu’n destun ymgynghori yn unol â pharagraff 52(1)(f) ac (g), a

iii

nad yw mwyafrif o’r meddianwyr wedi anghytuno â hwy mewn ysgrifen neu, yn achos anghytuno o’r fath, y mae tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi gorchymyn y dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm y ffi newydd am y llain,

b

unrhyw ostyngiad yn amwynder y safle gwarchodedig ers dyddiad yr adolygiad diwethaf, ac

c

effaith unrhyw ddeddfiad sydd wedi dod i rym ers dyddiad yr adolygiad diwethaf.

2

Wrth gyfrifo faint yw mwyafrif o’r meddianwyr at ddibenion is-baragraff (1)(a)(iii) rhaid cymryd mai 1 meddiannydd yn unig sydd gan bob cartref symudol ac os oes mwy nag 1 meddiannydd cartref symudol, cymerir mai’r meddiannydd yw p’un bynnag ohonynt y mae’r meddianwyr yn cytuno arno neu, yn niffyg cytundeb, yr un y mae ei enw’n ymddangos gyntaf ar y cytundeb.

3

Mewn achos lle nad yw’r ffi am y llain wedi ei hadolygu o’r blaen, mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ddyddiad yr adolygiad diwethaf i’w darllen fel cyfeiriadau at y dyddiad y cychwynnodd y cytundeb.

49

Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, ni chaniateir rhoi sylw—

a

i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad ag ehangu’r safle gwarchodedig, neu

b

i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad â chynnal achos o dan y Rhan hon neu’r cytundeb.

50

1

Oni bai y byddai hynny’n afresymol, o roi sylw i baragraff 48(1), rhagdybir bod y ffi am y llain i gynyddu neu i ostwng yn ôl canran nad yw’n fwy na chanran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifir drwy gyfeirio’n unig at y canlynol—

a

y mynegai diweddaraf, a

b

y mynegai a gyhoeddwyd am y mis a syrthiodd 12 mis cyn y mis y mae’r mynegai diweddaraf yn cyfeirio ato.

2

Yn is-baragraff (1) ystyr “y mynegai diweddaraf”—

a

mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(3), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw, a

b

mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(7)(b), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol i’r perchennog gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(3).

51Rhwymedigaethau’r meddiannydd a rhwymedigaethau cyfatebol y perchennog

1

Rhaid i’r meddiannydd—

a

talu’r ffi am y llain i’r perchennog,

b

talu i’r perchennog yr holl symiau sy’n ddyledus o dan y cytundeb o ran gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog,

c

cadw’r cartref symudol mewn cyflwr cadarn,

d

cadw—

i

y tu allan i’r cartref symudol, a

ii

y llain, gan gynnwys pob ffens ac adeilad allanol sy’n perthyn iddi ac i’r cartref symudol, neu a fwynheir gyda hwy,

mewn cyflwr glân a chymen, ac

e

os bydd y perchennog yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol i’r perchennog o unrhyw gostau neu dreuliau y bydd y meddiannydd yn gofyn am ad-daliad yn eu cylch.

2

Rhaid i’r perchennog beidio â gwneud unrhyw beth na pheri i unrhyw beth gael ei wneud a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni rhwymedigaethau’r meddiannydd o dan is-baragraff (1)(c) a (d).

52Rhwymedigaethau eraill y perchennog

1

Rhaid i’r perchennog—

a

os bydd y meddiannydd yn gofyn, ac os bydd y meddiannydd yn talu tâl nad yw’n fwy na £30, roi manylion ysgrifenedig cywir am y canlynol—

i

maint y llain a’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni, a

ii

lleoliad y llain a’r sylfaen o fewn y safle gwarchodedig,

a rhaid i’r manylion gynnwys mesuriadau rhwng pwyntiau gosod y gellir eu hadnabod ar y safle gwarchodedig a’r llain a’r sylfaen,

b

os bydd y meddiannydd yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol (yn ddi-dâl) i ategu ac i esbonio—

i

unrhyw ffi newydd am y llain,

ii

unrhyw daliadau am wasanaethau nwy, trydan, dŵr carthffosiaeth neu wasanaethau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb, a

iii

unrhyw daliadau, costau neu dreuliau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb,

c

bod yn gyfrifol am drwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni ac am gynnal unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog i’r llain neu i’r cartref symudol,

d

bod yn gyfrifol am atgyweirio amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog ar y llain gan gynnwys unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir.

e

cadw’r rhannau hynny o’r safle gwarchodedig, gan gynnwys ffyrdd mynediad, ffensys terfyn y safle a choed, nad ydynt yn gyfrifoldeb i feddiannydd unrhyw gartref symudol a osodwyd ar y safle gwarchodedig, mewn cyflwr glân a chymen,

f

ymgynghori â’r meddiannydd ynghylch gwelliannau i’r safle gwarchodedig yn gyffredinol, ac yn arbennig ynghylch y rhai y mae’r perchennog yn dymuno iddynt gael eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm unrhyw ffi newydd am y llain, ac

g

ymgynghori â chymdeithas trigolion gymwys (os oes un) ynghylch pob mater sy’n ymwneud â gweithredu a rheoli’r safle gwarchodedig, gwelliannau iddo ac a allai effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

2

At ddibenion is-baragraff (1)(f), ystyr “ymgynghori” â’r meddiannydd yw—

a

rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd am y gwelliannau arfaethedig sydd—

i

yn disgrifio’r gwelliannau arfaethedig a sut y byddant o les i’r meddiannydd yn y tymor hir a’r tymor byr,

ii

yn manylu ar sut y gellid effeithio ar y ffi am y llain y tro nesaf y caiff ei hadolygu, a

iii

yn datgan pryd a ble y caiff y meddiannydd gyflwyno sylwadau am y gwelliannau arfaethedig, a

b

cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y meddiannydd ynghylch y gwelliannau arfaethedig, yn unol â pharagraff (a)(iii), cyn ymgymryd â hwy.

3

At ddibenion is-baragraff (1)(g), ystyr “ymgynghori” â chymdeithas trigolion gymwys yw—

a

rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r gymdeithas neu’r meddianwyr am y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(g) sydd—

i

yn disgrifio’r materion a sut y gallent effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn y tymor hir a’r tymor byr, a

ii

yn datgan pryd a ble y caiff y gymdeithas neu’r meddianwyr gyflwyno sylwadau am y materion, a

b

cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y gymdeithas neu’r meddianwyr, yn unol â pharagraff (a)(ii), cyn bwrw ymlaen â’r materion.

Enw a chyfeiriad y perchennog

53

1

Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys, drwy hysbysiad, am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd neu gan gymdeithas trigolion gymwys.

2

Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna mae unrhyw swm sy’n ddyledus fel arall gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio â’r is-baragraff hwnnw.

3

Os bydd y perchennog yn unol â’r cytundeb yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu (yn ôl y digwydd) i gymdeithas trigolion gymwys, rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

4

Pan fo—

a

y meddiannydd neu gymdeithas trigolion gymwys yn cael hysbysiad o’r fath, ond

b

nid yw’r cais hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd neu (yn ôl y digwydd) y gymdeithas o ran yr hysbysiad.

5

Nid oes dim yn is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 54(1) yn gymwys iddo.

54

1

Os bydd y perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

2

Pan fo—

a

y meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond

b

nid yw’r cais hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1), mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.

RHAN 2MATERION Y CANIATEIR I DELERAU GAEL EU YMHLYGU YN EU CYLCH GAN Y CORFF BARNWROL PRIODOL

55

Y symiau sy’n daladwy gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb a’r amserau y maent i gael eu talu.

56

Adolygiad blynyddol o’r symiau sy’n daladwy gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb.

57

Darparu neu wella gwasanaethau sydd ar gael ar y safle gwarchodedig, a defnyddio gwasanaethau o’r fath gan y meddiannydd.

58

Cadw amwynder y safle gwarchodedig.