xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CTELERAU CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

RHAN 1LL+CTELERAU A YMHLYGIR GAN Y DDEDDF

PENNOD 4LL+CCYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU PARHAOL AR SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR

Aseinio cytundebLL+C

41(1)Caiff y meddiannydd (“A”) aseinio’r cytundeb—

(a)i berson sy’n aelod o deulu A, neu

(b)i berson arall (“B”) os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2).

(2)Dyma’r amodau—

(a)rhaid i A gael cymeradwyaeth y perchennog, a

(b)rhaid i B—

(i)feddiannu llain barhaol ar safle perthnasol, a

(ii)gael cymeradwyaeth y perchennog i B aseinio ei gytundeb i A neu i berson arall sy’n meddiannu llain barhaol ar safle perthnasol.

(3)Safle perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol yn ardal yr awdurdod lleol lle y mae’r safle y mae’r llain arno y mae cytundeb A yn ymwneud â hi.

(4)Ni chaiff y meddiannydd na’r perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r meddiannydd neu i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad ag aseinio’r cytundeb o dan y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)