Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

23Apelio o dan adran 17, 21 neu 22LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i apêl o dan adran 17, 21 neu 22 gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd y ddogfen berthnasol (y cyfeirir ato yn yr adran hon ac adran 24 fel “y cyfnod apelio”).

(2)Yn is-adran (1) ystyr “dogfen berthnasol” yw—

(a)yn achos apêl o dan adran 17, yr hysbysiad cydymffurfio,

(b)yn achos apêl o dan adran 21, yr hysbysiad o dan is-adran (8) o’r adran honno, ac

(c)yn achos apêl o dan adran 22, yr hawliad o dan yr adran honno.

(3)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl ganiatáu i apêl o dan adran 17, 21 neu 22 gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod apelio os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw ohirio wedyn cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio allan o amser).

(4)O ran apêl o dan adran 17, 21 neu 22—

(a)mae i gael ei chynnal ar ffurf ail-wrandawiad, ond

(b)caniateir iddi gael ei phenderfynu gan roi sylw i faterion na wyddai’r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad amdanynt.

(5)Caiff y tribiwnlys drwy orchymyn—

(a)ar apêl o dan adran 17, gadarnhau, amrywio neu ddileu’r hysbysiad cydymffurfio,

(b)ar apêl o dan adran 21, cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad yr awdurdod lleol, neu

(c)ar apêl o dan adran 22, cadarnhau, amrywio neu ddileu’r hawliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 23 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)