Search Legislation

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 25

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, Adran 25. Help about Changes to Legislation

25Adennill treuliau a hawlir o dan adran 19 neu 22LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)O’r adeg y daw hawliad o dan adran 19 neu 22 yn weithredol, mae’r treuliau perthnasol a nodir yn yr hawliad yn cario llog ar unrhyw gyfradd a bennir gan yr awdurdod lleol hyd nes i’r holl symiau sy’n ddyledus o dan yr hawliad gael eu hadennill; ac mae’r treuliau ac unrhyw gyfradd log yn adenilladwy ganddynt fel dyled.

(2)O’r adeg honno ymlaen, mae’r treuliau ac unrhyw log, hyd nes y cânt eu hadennill, yn arwystl ar y tir y mae’r hysbysiad cydymffurfio neu’r camau brys yn ymwneud ag ef.

(3)Mae’r arwystl yn dod yn effeithiol ar yr adeg honno fel arwystl cyfreithiol sy’n bridiant tir lleol.

(4)Er mwyn gorfodi’r arwystl mae gan yr awdurdod lleol yr un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ac fel arall â phe bai yn forgeisiai drwy weithred sydd â phwerau i werthu ac i brydlesu, pwerau i dderbyn ildiad prydles ac i benodi derbynnydd.

(5)Mae’r pŵer i benodi derbynnydd yn arferadwy unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 1 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r arwystl yn effeithiol.

(6)Yn yr adran hon mae i “treuliau perthnasol”—

(a)yn achos hawliad o dan adran 19, yr ystyr a roddir gan is-adran (3) o’r adran honno, a

(b)yn achos hawliad o dan adran 22, yr ystyr a roddir gan is-adran (6) o’r adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 25 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

Back to top

Options/Help