RHAN 2TRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.
Rheolwyr safle i fod yn bersonau addas a phriodol
28Gofyniad bod rhaid i reolwr safle fod yn berson addas a phriodol
(1)
Ni chaiff perchennog tir achosi na chaniatáu i unrhyw ran o’r tir gael ei defnyddio fel safle rheoleiddiedig oni bai (yn ychwanegol at yr angen i’r perchennog ddal trwydded safle) bod yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal—
(a)
wedi ei fodloni bod y perchennog yn berson addas a phriodol i reoli’r safle neu (os nad y perchennog sy’n rheoli’r safle) fod person a benodwyd i wneud hynny gan y perchennog yn berson addas a phriodol i wneud hynny, neu
(b)
gyda chydsyniad y perchennog, wedi penodi person ei hun i reoli’r safle.
(2)
Os bydd perchennog tir sy’n dal trwydded safle ar gyfer y tir yn torri is-adran (1), caiff yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal wneud cais i’r tribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn yn dirymu’r drwydded safle.
(3)
Mae person sy’n mynd yn groes i’r gofyniad a osodir gan is-adran (1) yn cyflawni trosedd.
(4)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.
(5)
Os collfernir y perchennog tir sy’n dal trwydded safle ar gyfer tir am drosedd o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r tir ac os yw’r person wedi ei gollfarnu o’r trosedd mewn perthynas â’r tir ar 2 neu ragor o achlysuron blaenorol, caiff y llys ynadon y collfernir y perchennog ger ei fron, ar gais gan yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal, wneud gorchymyn sy’n dirymu trwydded safle’r perchennog ar y diwrnod a bennir yn y gorchymyn.