(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud unrhyw ddiwygiadau i Atodlen 2, heblaw paragraff 11, sydd yn eu barn hwy yn briodol.
(2)Heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-adran (1), caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
(a)gwneud darpariaeth ynglŷn â phenderfynu ar unrhyw gwestiynau gan y llys neu gan dribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hynny, neu ynglŷn â gwneud unrhyw orchmynion gan y llys neu gan dribiwnlys, a bennir yn y gorchymyn, neu
(b)gwneud unrhyw ddiwygiadau i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn briodol o ganlyniad i unrhyw ddiwygiad a wneir yn Atodlen 2 drwy’r gorchymyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2A. 51 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)