xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

AtodolLL+C

Valid from 25/09/2014

11Adolygu gweithrediad y DdeddfLL+C

Rhaid i Weinidogion Cymru, dim hwyrach na’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau yn union ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn adran 4(6)(a), gynnal adolygiad o weithrediad y Ddeddf hon, gyda’r nod penodol o asesu pa mor llwyddiannus y bu wrth sicrhau llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwella’r llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig presennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 14(1)

12Cyfarwyddiadau a chanllawiauLL+C

(1)Caniateir i unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddir o dan y Ddeddf hon gan Weinidogion Cymru gael eu hamrywio neu eu dirymu ganddynt.

(2)Wrth roi (neu amrywio neu ddirymu) cyfarwyddiadau neu ganllawiau o dan y Ddeddf hon rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb—

(a)hyrwyddo teithiau teithio llesol, a

(b)sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig a gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 12 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 14(2)

13DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 13 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 14(2)

14CychwynLL+C

(1)Daw adrannau 3 i 11 i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 14 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 14(2)

15Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 15 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 14(2)