(1)At ddibenion y Ddeddf hon mae llwybr mewn ardal awdurdod lleol yn llwybr teithio llesol—
(a)os yw’r llwybr mewn man ddynodedig yn yr ardal, a
(b)os yw’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn briodol iddo gael ei ystyried yn llwybr teithio llesol.
(2)Yn yr adran hon ystyr “llwybr” yw priffordd, neu unrhyw lwybr arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, (gan gynnwys croesfan priffordd neu unrhyw lwybr o’r fath) ac y caiff cerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, ei ddefnyddio’n gyfreithlon.
(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “cerddwyr a beicwyr” yw—
(a)pobl sy’n cerdded,
(b)pobl sy’n defnyddio beiciau pedal, ac eithrio beiciau pedal sy’n gerbydau modur at ddibenion Deddf Traffig Ffyrdd 1988, ac
(c)pobl anabl nad ydynt o fewn paragraff (a) na (b) sy’n defnyddio cadeiriau olwyn modur, sgwteri symudedd neu gymhorthion symudedd eraill.
(4)Yn y Ddeddf hon ystyr “dynodedig”, mewn perthynas â man, yw wedi ei phennu, neu o ddisgrifiad sydd wedi ei bennu, mewn cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu man, neu ddisgrifiad o fan, drwy gyfeirio at—
(a)dwysedd ei phoblogaeth,
(b)ei maint,
(c)ei hagosrwydd at fannau dwys eu poblogaeth sy’n fwy na maint penodol,
(d)ei safle rhwng y cyfryw fannau,
(e)ei hagosrwydd at wasanaethau a chyfleusterau cymunedol, neu
(f)y potensial, am resymau eraill, i fod yn fan, neu’n ddisgrifiad o fan, lle y mae cerddwyr a beicwyr yn gwneud mwy o deithio a hynny trwy deithiau teithio llesol.
(6)Wrth ystyried a yw’n briodol i lwybr gael ei ystyried yn llwybr teithio llesol, rhaid i awdurdod lleol roi ystyriaeth i’r canlynol—
(a)a yw’r llwybr yn hwyluso gwneud teithiau teithio llesol gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, a
(b)a yw lleoliad, natur a chyflwr y llwybr yn ei wneud yn addas i’w ddefnyddio yn ddiogel gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad ar gyfer gwneud y teithiau hynny,
a rhaid iddo roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(7)Yn y Ddeddf hon ystyr “taith teithio llesol” yw taith a wneir i weithle neu sefydliad addysgol neu oddi yno neu er mwyn defnyddio gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd neu hamdden neu wasanaethau neu gyfleusterau eraill.
(8)At ddibenion y Ddeddf hon ystyr “cyfleusterau cysylltiedig”, mewn perthynas â llwybr teithio llesol, yw—
(a)cyfleusterau sy’n rhoi lloches, cyfleusterau gorffwys neu gyfleusterau storio,
(b)toiledau neu gyfleusterau ymolchi,
(c)arwyddion, neu
(d)cyfleusterau eraill,
sydd ar gael i’w defnyddio gan gerddwyr a beicwyr, neu gerddwyr a beicwyr o unrhyw ddisgrifiad, sy’n defnyddio’r llwybr teithio llesol.
(9)Wrth benderfynu a yw unrhyw beth yn gyfleusterau cysylltiedig at ddibenion y Ddeddf hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 14(2)