Cyflwyniad

I11Trosolwg

Mae prif ddarpariaeth y Ddeddf hon yn diwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 fel bod y ddyletswydd bresennol ar bob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru i sicrhau nad yw ei wariant yn uwch na’i gyllid mewn blwyddyn ariannol yn dod, yn lle hynny, yn ddyletswydd i sicrhau nad yw ei wariant yn uwch na’i gyllid dros gyfnod o dair blynedd ariannol; a chaiff Gweinidogion Cymru ei wneud yn ddarostyngedig i orswm y caniateir ei oddef.