Adran 14 – Asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol
18.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a BILlau gydweithio i asesu graddau’r anghenion am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwyr am gymorth) yn ardal yr awdurdod lleol ac i ba raddau nad yw’r anghenion hynny’n cael eu diwallu. Rhaid iddynt hefyd asesu ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu’r anghenion gofal a chymorth sydd wedi eu canfod, ac ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i atal, oedi neu leihau anghenion am ofal a chymorth ac i sicrhau’r dibenion eraill a nodir yn adran 15. Mae gofyniad hefyd i asesu’r camau y mae angen eu cymryd i ddarparu’r ystod hon a’r lefel hon o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
19.Mae’r gofyniad i gynnal asesiad o anghenion lleol o dan yr adran hon ar wahân i (ac yn ychwanegol at) unrhyw ofyniad i asesu anghenion iechyd a llesiant y boblogaeth leol a osodir gan reoliadau o dan adran 40 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae is-adran (3) yn diwygio adran 40 o Ddeddf 2006 i’w gwneud yn ofynnol i’r asesiad hwn o anghenion lleol gael ei ystyried wrth lunio neu adolygu’r strategaeth iechyd a llesiant berthnasol ac i osod rhwymedigaeth ar BILlau i gymryd y rhan arweiniol wrth gyflwyno i Weinidogion Cymru y rhannau hynny o’r strategaeth iechyd a llesiant sy’n ymwneud â gofalwyr.
20.Mae is-adran (4) yn diwygio adran 26 o Ddeddf Plant 2004 i’w gwneud yn ofynnol i’r asesiad o anghenion lleol gael ei ystyried yn yr un modd ag wrth lunio cynlluniau plant a phobl ifanc.