Adran 180 – Gwasanaethau eiriol annibynnol ar gyfer cwynion am ofal lliniarol a drefnir neu a ariennir yn breifat
451.Mae adran 180 hon yn diwygio adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Deddf 2006). Mae adran 187 o Ddeddf 2006 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i drefnu bod gwasanaethau eirioli annibynnol yn cael eu darparu (hynny yw, gwasanaethau sy’n darparu cynhorthwy i unigolion sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud cwynion) mewn perthynas â chwynion ynghylch gwasanaethau iechyd penodedig. Mae’r diwygiadau i adran 187 o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau eirioli annibynnol gael eu trefnu, yn ychwanegol, i (i) cwynion a wneir o dan weithdrefnau a weithredir gan ddarparwyr gofal lliniarol annibynnol, a (ii) cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Deddf 2005) mewn perthynas â darparwyr gofal lliniarol annibynnol. Mae ystyr “independent palliative care provider” wedi ei nodi yn Neddf 2005 (fel y’i diwygiwyd gan Atodlen 3 i’r Ddeddf hon).