Adran 190 – Methiant darparwr: eithriad i’r ddyletswydd dros dro
497.Mae adran 190 yn nodi’r eithriadau i’r ddyletswydd dros dro a osodir gan adran 189. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i sefydlu dull cydlynol o ddiogelu pobl sy’n agored i niwed yn achos methiant busnes. Mae adran 190 yn egluro nad yw’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion fel y’u hamlinellir yn adran 189 cyn i’r methiant busnes gael ei ganfod.