Adran 20 – Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer oedolyn
43.Mae adran 20 yn darparu, yn gyffredinol, na fydd dyletswydd yr awdurdod lleol i asesu oedolyn yn gymwys os yw’r oedolyn yn gwrthod yr asesiad.
44.Mae’r ddarpariaeth hon yn sicrhau bod gan oedolion reolaeth ar b’un a wneir asesiad. Cânt benderfynu eu bod yn dymuno gwneud eu trefniadau eu hunain i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth heb gynnwys yr awdurdod lleol.
45.Yn yr un modd, nid yw’r ddyletswydd i asesu anghenion oedolyn yn gymwys os nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda asesiad a bod ‘person awdurdodedig’ yn gwneud y penderfyniad i wrthod yr asesiad ar ran yr oedolyn. Diffinnir ‘person awdurdodedig’ yn is-adran (4) fel person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion, neu a ofynna am un, ar ran yr oedolyn.
46.Fodd bynnag, mae rhai achosion pan fydd yr awdurdod lleol o dan rwymedigaeth i wneud asesiad, er gwaethaf gwrthodiad yr oedolyn o dan sylw neu wrthodiad person awdurdodedig. Pan fo’r awdurdod lleol yn amau bod yr oedolyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, mae’r awdurdod yn parhau o dan ddyletswydd i asesu anghenion yr oedolyn. Diffinnir “camdriniaeth” a “cam-drin” ac “esgeulustod” yn adran 197(1) o’r Ddeddf.
47.Pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda asesiad ond bod person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, nid yw gwrthodiad yr oedolyn o asesiad yn rhyddhau’r awdurdod lleol o’i ddyletswydd i wneud yr asesiad er y caiff gwrthodiad y person awdurdodedig wneud hynny.
48.Pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda asesiad ac nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, rhaid i’r awdurdod lleol wneud yr asesiad er gwaethaf gwrthodiad yr oedolyn os yw o’r farn y byddai hyn er lles pennaf yr oedolyn.
49.Pan fo’r ddyletswydd i asesu anghenion oedolyn wedi ei rhyddhau drwy wrthodiad, ailymrwymir i’r ddyletswydd os yw’r oedolyn o dan sylw (neu berson awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran) yn newid ei feddwl ac yn gofyn wedyn am asesiad; neu os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r oedolyn wedi newid.