Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 37 – Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn

127.Mae adran 37 yn pennu’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i awdurdod lleol fod o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn o fewn ei ardal.

128.Mae’n amod bod yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra a bennir o dan adran 32. Fodd bynnag, mae is-adran (3) yn darparu rhagofalon i sicrhau bod awdurdodau lleol o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn os yw hynny’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn y plentyn rhag cael, neu rhag risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu ei niweidio mewn modd arall, hyd yn oed os nad yw ei anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra. Diffinnir “camdriniaeth” a “cam-drin”, “esgeulustod” a “niwed” yn adran 197(1).

129.Nid yw’r awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion plentyn sy’n cael eu diwallu gan ofalwr neu gan deulu’r plentyn. Pe bai gofalwr neu deulu’r plentyn yn peidio â darparu gofal a diwallu anghenion y plentyn, byddai hyn yn ysgogi adolygiad o gynllun gofal a chymorth y plentyn, a gall olygu y byddai’n ofynnol wedyn i’r awdurdod lleol ddiwallu’r anghenion. Yn yr un modd, os yw’r plentyn yn nodi nad yw am i ofalwr ddiwallu rhai neu bob un o’i anghenion, neu nad yw bellach am i’w anghenion gael eu diwallu yn y ffordd hon, gall hyn olygu y byddai’r awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion y plentyn ac y bydd angen iddo ystyried ffyrdd eraill o wneud hyn.

130.Mae’r ddyletswydd yn ddyledus i unrhyw blentyn sydd o fewn ardal awdurdod lleol, hyd yn oed os yw’n preswylio fel arfer yn rhywle arall. Mae’r ddyletswydd hefyd yn ddyledus i blant sy’n cael eu lletya y tu allan i ardal yr awdurdod lleol ond a oedd yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod cyn iddynt gael eu lletya (ac y mae’r awdurdod wedi ei hysbysu amdanynt o dan adran 120).

131.Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw’r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru. Darperir ar wahân ar gyfer y plant hynny yn Rhan 6. (Am ystyr plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, gweler adran 74). Nid yw’r adran yn gymwys ychwaith i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr neu’r Alban neu gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.

132.Mae’n bosibl y bydd awdurdod lleol o dan ddyletswydd hefyd i ddarparu llety i blant o dan adran 76 neu adran 77 o’r Ddeddf, ac o dan ddyletswyddau eraill i ddiogelu ac amddiffyn y plentyn o dan Rannau 4 neu 5 o Ddeddf Plant 1989.