Adran 62 – Rheoliadau yn datgymhwyso pŵer i osod ffi
228.Mae adran 62 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n datgymhwyso pŵer awdurdod lleol i osod ffi ac a gaiff ei gwneud yn ofynnol, yn hytrach, i’r awdurdod lleol ddarparu gofal a chymorth neu gymorth yn rhad ac am ddim.