Adran 131 – Canllawiau ynghylch oedolion sy’n wynebu risg a phlant sy’n wynebu risg
375.Mae adran 131 yn darparur pŵer i Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol sy’n llywodraethu’r trefniadau sydd wedi eu cynnwys yn adrannau 126, 127, 128 a 130 o’r Ddeddf. Rhaid ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn dyroddi canllawiau o’r fath.