Adran 135 – Swyddogaethau a gweithdrefnau Byrddau Diogelu
381.Mae is-adran (1) yn pennu amcanion Bwrdd Diogelu Plant. Yr amcanion hyn yw amddiffyn plant yn ei ardal sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed ac atal plant yn ei ardal rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed. Mae “camdriniaeth” a “cam-drin”, “esgeulustod” a “niwed” wedi eu diffinio yn adran 197(1).
382.Mae is-adran (2) yn nodi amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion. Yr amcanion hyn yw amddiffyn oedolion yn ei ardal sydd ag anghenion am ofal a chymorth ac sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso a hefyd atal oedolion sydd ag anghenion am ofal a chymorth rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
383.Mae Bwrdd Diogelu o dan ddyletswydd i gyflawni ei amcanion drwy gydgysylltu a sicrhau effeithiolrwydd y cyfraniadau a wneir gan bob un o’r partneriaid. Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu gan gynnwys ffyrdd o roi cyfle i blant neu oedolion i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd. Caiff Bwrdd Diogelu gydweithredu â Bwrdd Diogelu arall a chaiff weithredu ar y cyd â Byrddau Diogelu eraill. Caiff Bwrdd Diogelu Plant a Bwrdd Diogelu Oedolion ffurfio cyd-fwrdd.