Adran 143 – Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol
392.Mae adran 143 yn cyflwyno Atodlen 2, sy’n cynnwys rhestr o ddeddfiadau y mae swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol wedi eu nodi a’u disgrifio ynddynt. Mae’r adran hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen drwy ychwanegu, dileu neu ddiwygio eitemau drwy is-ddeddfwriaeth.