Adran 149 – Cyfarwyddiadau i'w gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â chodau ymarfer
398.Mae adran 149 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol i gydymffurfio â’r cod os ydynt o’r farn na fydd datganiad polisi amgen yr awdurdod yn cyflawni yn ddigonol ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Fel y nodir mewn man arall yn y Rhan hon, rhaid rhoi’r cyfarwyddyd ar ffurf ysgrifenedig a chaniateir iddo gael ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach a rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag ef.