Adran 153 – Pŵer i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghori
406.Mae adran 153 yn darparu, pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd o dan adran 152, y cânt gyfarwyddo’r awdurdod lleol (y maent yn ymyrryd mewn cysylltiad â’r modd y mae’n arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i ymrwymo i gontract gyda pherson neu gorff penodedig (neu berson neu gorff sy’n dod o fewn dosbarth penodedig) i ddarparu gwasanaethau penodedig o natur gynghorol. Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol bod y contract â’r person neu’r corff hwnnw yn cynnwys telerau ac amodau penodedig (is-adrannau (3) a (4)).