2.Mae’r adran hon yn nodi’r agweddau ar lesiant person a gynhwysir yn y term hwn. Mae is-adran (2) yn nodi’r agweddau a gynhwysir yng nghysyniad llesiant mewn perthynas â phob person, p’un a yw’n oedolyn neu’n blentyn. Mae is-adrannau (3) a (4) yn nodi’r agweddau ychwanegol hynny a gynhwysir yng nghysyniad llesiant mewn perthynas â phlant ac oedolion yn ôl eu trefn.
3.Mae adran 3 yn diffinio termau allweddol penodol at ddibenion y Ddeddf. Mae is-adran (4) yn diffinio gofalwr fel person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl (diffinnir anabledd yn is-adran (5) drwy gyfeirio at Ddeddf Cydraddoldeb 2010). Y rhagdybiaeth gyffredinol yw na ddylai gofalwyr proffesiynol sy’n derbyn tâl gael eu cynnwys o fewn cwmpas y diffiniad (gweler is-adran (7)). Fodd bynnag, caniateir disgresiwn eang i awdurdodau lleol i drin person fel gofalwr os ydynt o’r farn, yng nghyd-destun y berthynas o ofalu, y byddai’n briodol trin person fel gofalwr (gweler is-adran (8)). Byddai hyn, er enghraifft, yn galluogi awdurdod lleol i drin person fel gofalwr mewn achosion pan na fo’r berthynas o ofalu yn un fasnachol yn bennaf.
4.Ni chaiff person fod yn ofalwr os cedwir y person hwnnw yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu os yw’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd (gweler adran 187(1)). Mangre a gymeradwywyd yw mangre a ddefnyddir i letya personau sydd wedi cael mechnïaeth mewn achos troseddol, neu sydd i’w defnyddio i oruchwylio neu adsefydlu personau sydd wedi eu collfarnu o droseddau (gweler adran 188(1) o’r Ddeddf hon, sy’n diffinio ‘mangre a gymeradwywyd’ drwy gyfeirio at adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2013), neu mewn cysylltiad â hynny.
5.Mae adran 4 yn nodi ystyr y term ‘gofal a chymorth’, a ddefnyddir yn aml yn y Ddeddf.
6.Mae adran 5 yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth.
7.Mae’r ddyletswydd llesiant hollgyffredinol hon yn gymwys i bob person a chorff sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) ac asiantaethau statudol eraill.
8.Mae adran 6 yn rhoi effaith i egwyddorion allweddol penodol drwy nodi’r materion y mae’n rhaid i berson roi sylw iddynt wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag unigolion penodol. Mae is-adran (1) yn egluro bod y ddyletswydd i roi sylw i’r materion hyn yn gymwys ar yr adeg pan fo person yn cael ei asesu o ran p’un a oes arno anghenion am ofal a chymorth (neu anghenion am gymorth yn achos gofalwr), yn ogystal â phan fo wedi ei ddyfarnu bod ar y person anghenion o’r fath. Mae’r ddyletswydd i roi sylw i’r materion hyn hefyd yn gymwys pan fo person yn arfer swyddogaethau o dan Ran 6 o’r Ddeddf. Gellid arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal neu mewn perthynas â phlant a phobl ifanc eraill, er enghraifft y rhai sy’n gadael gofal.
9.Mae is-adran (2) yn nodi’r materion y mae’n rhaid i berson roi sylw iddynt wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas â’r unigolion a restrir yn is-adran (1).
10.Mae is-adrannau (3) a (4) yn nodi materion ychwanegol y mae’n rhaid i berson roi sylw iddynt wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag oedolion a phlant yn ôl eu trefn.
11.Mae adran 7 yn cynnwys dwy ddyletswydd. Mae’r gyntaf yn ddyletswydd ar bersonau sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth, neu ofalwyr y mae arnynt anghenion am gymorth. Y ddyletswydd, yn yr achos hwn, yw rhoi sylw dyladwy i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (fel y’u mabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991).
12.Mae’r ail yn ddyletswydd ar bersonau sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas â phlant y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth, gofalwyr sy’n blant y mae arnynt anghenion am gymorth a phersonau y mae swyddogaethau yn cael eu cyflawni mewn cysylltiad â hwy o dan Ran 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya). Y ddyletswydd, yn yr achos hwn, yw rhoi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (gweler penderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig Tachwedd 1989). Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i’w drin fel pe bai’n cael effaith ar y ffurf a nodir ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (gweler is-adran (3)).
13.Mae Gweinidogion Cymru eisoes yn ddarostyngedig i ddyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, gan gynnwys ei Brotocolau Gweithredol, wrth arfer eu swyddogaethau: gosodir y ddyletswydd hon gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae is-adran (4) yn ystyried hyn ac yn darparu nad yw’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys i Weinidogion Cymru.
14.Mae adran 8 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi datganiad ynghylch y canlyniadau llesiant sydd i’w sicrhau drwy ddarparu gofal a chymorth. Mae hefyd yn pennu dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid dyroddi’r datganiad, ac mae’n pennu’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys yn y datganiad. Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r datganiad yn gyson a chânt ddiwygio’r datganiad os ydynt yn ystyried bod hynny’n briodol. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy cyn dyroddi neu ddiwygio’r datganiad a rhaid iddynt osod y datganiad a ddyroddwyd neu a ddiwygiwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gyhoeddi.
15.Mae adran 9 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi, ac o bryd i’w gilydd ddiwygio, cod i helpu i sicrhau’r canlyniadau a bennir yn y datganiad a ddyroddir o dan adran 8. Caiff y cod roi canllawiau ac, yn achos awdurdodau lleol, caiff hefyd osod gofynion. Mae enghreifftiau o’r materion y gellir eu nodi yn y cod yn cynnwys safonau ansawdd, mesurau perfformiad a thargedau perfformiad. Rhaid cyhoeddi’r cod presennol a rhaid peri i unrhyw fersiynau o’r cod nad ydynt bellach mewn grym fod ar gael.
16.Mae adran 10 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu’n unol ag unrhyw ofynion a osodir gan y cod a rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo. Pan fo mesurau perfformiad wedi eu pennu yn y cod, cânt eu trin fel dangosyddion perfformiad sydd wedi eu pennu o dan y fframwaith ar gyfer gwella llywodraeth leol yn Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Dangosyddion perfformiad yw’r materion y caiff perfformiad awdurdod lleol wrth arfer ei swyddogaethau ei fesur drwy gyfeirio atynt. Yn yr un modd, pan fo’r cod yn pennu targedau perfformiad, caiff y rhain eu trin fel safonau perfformiad sydd wedi eu pennu o dan Ran 1 o Fesur 2009.
17.Mae adran 12 yn rhoi pŵer cyffredinol i Weinidogion Cymru i wneud unrhyw beth y maent yn ystyried ei fod yn debygol o helpu awdurdod lleol i gydymffurfio â gofynion y cod. Mae is-adran (2) yn disgrifio rhai o’r pethau y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud wrth arfer y pŵer cyffredinol hwn. Cyn gwneud unrhyw un o’r pethau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod lleol y maent yn bwriadu ei gynorthwyo ac unrhyw randdeiliaid perthnasol (oni bai bod y pethau hyn yn cael eu gwneud ar gais yr awdurdod lleol).
18.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a BILlau gydweithio i asesu graddau’r anghenion am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwyr am gymorth) yn ardal yr awdurdod lleol ac i ba raddau nad yw’r anghenion hynny’n cael eu diwallu. Rhaid iddynt hefyd asesu ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu’r anghenion gofal a chymorth sydd wedi eu canfod, ac ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i atal, oedi neu leihau anghenion am ofal a chymorth ac i sicrhau’r dibenion eraill a nodir yn adran 15. Mae gofyniad hefyd i asesu’r camau y mae angen eu cymryd i ddarparu’r ystod hon a’r lefel hon o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
19.Mae’r gofyniad i gynnal asesiad o anghenion lleol o dan yr adran hon ar wahân i (ac yn ychwanegol at) unrhyw ofyniad i asesu anghenion iechyd a llesiant y boblogaeth leol a osodir gan reoliadau o dan adran 40 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae is-adran (3) yn diwygio adran 40 o Ddeddf 2006 i’w gwneud yn ofynnol i’r asesiad hwn o anghenion lleol gael ei ystyried wrth lunio neu adolygu’r strategaeth iechyd a llesiant berthnasol ac i osod rhwymedigaeth ar BILlau i gymryd y rhan arweiniol wrth gyflwyno i Weinidogion Cymru y rhannau hynny o’r strategaeth iechyd a llesiant sy’n ymwneud â gofalwyr.
20.Mae is-adran (4) yn diwygio adran 26 o Ddeddf Plant 2004 i’w gwneud yn ofynnol i’r asesiad o anghenion lleol gael ei ystyried yn yr un modd ag wrth lunio cynlluniau plant a phobl ifanc.
21.Mae adran 15 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau lleol i ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau (y cyfeirir atynt yn gyffredinol fel “gwasanaethau ataliol”). Disgrifir y dibenion sydd i’w sicrhau drwy ddarparu gwasanaethau ataliol yn is-adran (2) ac maent yn cynnwys cyfrannu at atal neu oedi datblygiad anghenion pobl am ofal a chymorth a lleihau’r anghenion am ofal a chymorth i bobl y mae arnynt anghenion o’r fath. Un o’r dibenion eraill a ddisgrifir yw hyrwyddo magwraeth plant gan eu teuluoedd, pan fo hynny’n gyson â llesiant y plant. Mae’r elfen hon o adran 15 yn disodli darpariaeth a oedd gynt wedi ei chynnwys yn adran 17 o Ddeddf Plant 1989.
22.Rhaid i awdurdodau lleol ystyried hefyd bwysigrwydd sicrhau’r dibenion hyn wrth arfer eu swyddogaethau eraill. Golyga hyn mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yn gyffredinol, ac nid yr adran gwasanaethau cymdeithasol yn unig, yw ystyried y math o wasanaethau ataliol y gellid eu darparu.
23.Yn yr un modd, rhaid i BILlau ystyried hefyd bwysigrwydd sicrhau’r dibenion hyn wrth arfer eu swyddogaethau hwythau. Er nad yw hyn yn rhoi unrhyw swyddogaeth newydd i’r BILlau, mae’n golygu bod rhaid i BILlau ystyried a oes yna bethau y gallant eu darparu neu eu trefnu o dan eu swyddogaethau presennol a fyddai’n sicrhau’r dibenion hyn.
24.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo datblygiad mentrau cymdeithasol a sefydliadau neu drefniadau cydweithredol yn eu hardaloedd i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol. Mae hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo ymglymiad personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i’w darparu ar eu cyfer yn y broses o ddylunio a rhedeg y ddarpariaeth honno ac argaeledd gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol gan sefydliadau trydydd sector (p’un a ydynt yn fentrau cymdeithasol neu’n sefydliadau cydweithredol ai peidio).
25.Mae is-adran (2) yn darparu diffiniadau ar gyfer nifer o’r termau a ddefnyddir yn is-adran (1), gan gynnwys “menter gymdeithasol” a “sefydliad trydydd sector”.
26.Mae adran 17 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau y darperir gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Diben y gwasanaeth yw darparu gwybodaeth a chyngor i bobl ynglŷn â gofal a chymorth, gan gynnwys cymorth i ofalwyr, a’u cynorthwyo i gael gafael arnynt. Rhaid darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy mewn modd sy’n eu gwneud yn hygyrch i’r unigolyn y’u bwriedir iddo.
27.Rhaid sicrhau bod gwybodaeth a chyngor ar gael i bawb, p’un a oes arnynt anghenion am ofal a chymorth ai peidio. Gallai’r personau hynny gynnwys gofalwyr neu bartïon a chanddynt fuddiant, er enghraifft.
28.Rhaid i’r gwasanaeth gynnwys gwybodaeth (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, wybodaeth ariannol) a chyngor am y system gofal a chymorth y darperir ar ei chyfer o dan y Ddeddf, y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael yn ardal awdurdod lleol a sut y ceir gafael arnynt, a sut i leisio pryderon am bobl y mae’n ymddangos bod arnynt anghenion am ofal a chymorth, neu gymorth.
29.Mae BILlau ac Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) o dan ddyletswydd i hwyluso’r gwasanaeth drwy ddarparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol am y gofal a’r cymorth y maent yn eu darparu.
30.Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol sicrhau ar y cyd fod gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy yn cael ei ddarparu.
31.Mae’r adran hon yn disodli’r dyletswyddau yn adran 1(2) o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 a pharagraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989, ac mae’n ehangu’r dyletswyddau hynny.
32.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chynnal cofrestr o bobl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod ac sydd â nam ar eu golwg, nam ar eu clyw neu sy’n dioddef o nam ar eu golwg ac ar eu clyw sydd, gyda’i gilydd, yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd. Mae’r gofyniad hwn yn disodli’r gofyniad yn adran 29(4)(g) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.
33.Nid yw’r adran yn darparu diffiniadau ar gyfer “nam ar y golwg”, “nam difrifol ar y golwg”, “nam ar y clyw” na “nam difrifol ar y clyw”. Fodd bynnag, caniateir i’r pŵer i wneud rheoliadau yn is-adran (3) gael ei ddefnyddio i ddisgrifio ystyr y termau hyn at ddibenion rhwymedigaeth yr awdurdod lleol i lunio a chynnal cofrestr fel bod gan staff clinigol ac awdurdodau lleol gyd-ddealltwriaeth o’r derminoleg.
34.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chynnal cofrestr o blant sydd yn eu hardal hwy ac sydd naill ai’n anabl neu sydd â nam corfforol neu feddyliol a all arwain at anghenion am wasanaethau gofal cymdeithasol. Mae’r rhwymedigaeth hon yn disodli’r gofyniad ym mharagraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989.
35.Mae is-adrannau (5) i (7) yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol lunio a chynnal cofrestrau o oedolion sy’n anabl ac oedolion nad ydynt yn anabl ond y mae ganddynt nam corfforol neu feddyliol neu y mae arnynt anghenion o fath arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried y gallant arwain at angen am ofal a chymorth yn y dyfodol.
36.Bydd y cofrestrau a gaiff eu llunio yn unol ag is-adrannau (4) i (8) yn cynorthwyo awdurdod lleol i asesu anghenion am ofal a chymorth o fewn ei ardal yn y dyfodol drwy adnabod personau a all fod yn dioddef o gyflwr dirywiol ac y gall fod arnynt angen cynhorthwy yr awdurdod lleol yn y dyfodol wrth i’w cyflwr ddirywio er nad oes arnynt angen cynhorthwy o’r fath ar hyn o bryd.
37.Mae is-adrannau (9) a (10) yn darparu nad yw’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys unrhyw berson mewn cofrestr oni bai bod y person hwnnw wedi gwneud cais i gael ei gynnwys ynddi neu fod cais i’w gynnwys wedi ei wneud ar ei ran. Rhaid i awdurdod lleol hysbysu person ei fod wedi ei gynnwys mewn cofrestr ac, os gwneir cais gan y person, neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran, rhaid iddo ddileu unrhyw ddata personol sy’n ymwneud â’r person hwnnw (er y caiff gadw’r data di-enw).
38.Mae adran 19 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu a oes ar oedolyn anghenion am ofal a chymorth ac os oes, beth yw’r anghenion hynny. Ysgogir y ddyletswydd pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar oedolyn anghenion o’r fath.
39.Mae is-adran (3) yn egluro bod y ddyletswydd i wneud asesiad yn gymwys ni waeth beth fo lefel yr angen am ofal a chymorth a lefel adnoddau ariannol yr oedolyn.
40.Rhaid i’r asesiad ganolbwyntio ar y canlyniadau y mae’r oedolyn yn dymuno eu sicrhau yn ei fywyd beunyddiol: er enghraifft, i allu byw gartref a bwydo’i hun. Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried i ba raddau y gallai’r ddarpariaeth o ofal a chymorth, gwasanaethau ataliol, neu’r ddarpariaeth o wybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, helpu’r oedolyn i sicrhau’r canlyniadau hynny. Gallai fod yn bosibl, er enghraifft, helpu’r oedolyn i sicrhau’r canlyniadau hynny drwy roi cymorth i’r oedolyn i gael gafael ar ystod o wasanaethau yn ardal y person megis offer cymunedol, trafnidiaeth gymunedol a gwasanaethau ymgyfeillio gan wirfoddolwyr, yn ogystal â thrwy ddarparu gofal a chymorth mwy ffurfiol.
41.Mae is-adran (4)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried a allai materion eraill helpu’r oedolyn i sicrhau’r canlyniadau y mae am eu sicrhau, ac i ba raddau. Gallai’r materion hyn gynnwys galluoedd yr oedolyn ei hun, a galluoedd pobl eraill, i sicrhau’r canlyniadau hynny eu hunain, neu gael gwared â’r rhwystrau i sicrhau’r canlyniadau hynny.
42.Rhaid i’r asesiad ei hun fod yn un cymesur a rhaid iddo gynnwys yr oedolyn, a phan fo’n ddichonadwy, ofalwr yr oedolyn. Caiff rheoliadau o dan adran 30 osod gofynion pellach mewn perthynas â’r asesiad.
43.Mae adran 20 yn darparu, yn gyffredinol, na fydd dyletswydd yr awdurdod lleol i asesu oedolyn yn gymwys os yw’r oedolyn yn gwrthod yr asesiad.
44.Mae’r ddarpariaeth hon yn sicrhau bod gan oedolion reolaeth ar b’un a wneir asesiad. Cânt benderfynu eu bod yn dymuno gwneud eu trefniadau eu hunain i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth heb gynnwys yr awdurdod lleol.
45.Yn yr un modd, nid yw’r ddyletswydd i asesu anghenion oedolyn yn gymwys os nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda asesiad a bod ‘person awdurdodedig’ yn gwneud y penderfyniad i wrthod yr asesiad ar ran yr oedolyn. Diffinnir ‘person awdurdodedig’ yn is-adran (4) fel person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion, neu a ofynna am un, ar ran yr oedolyn.
46.Fodd bynnag, mae rhai achosion pan fydd yr awdurdod lleol o dan rwymedigaeth i wneud asesiad, er gwaethaf gwrthodiad yr oedolyn o dan sylw neu wrthodiad person awdurdodedig. Pan fo’r awdurdod lleol yn amau bod yr oedolyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, mae’r awdurdod yn parhau o dan ddyletswydd i asesu anghenion yr oedolyn. Diffinnir “camdriniaeth” a “cam-drin” ac “esgeulustod” yn adran 197(1) o’r Ddeddf.
47.Pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda asesiad ond bod person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, nid yw gwrthodiad yr oedolyn o asesiad yn rhyddhau’r awdurdod lleol o’i ddyletswydd i wneud yr asesiad er y caiff gwrthodiad y person awdurdodedig wneud hynny.
48.Pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda asesiad ac nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, rhaid i’r awdurdod lleol wneud yr asesiad er gwaethaf gwrthodiad yr oedolyn os yw o’r farn y byddai hyn er lles pennaf yr oedolyn.
49.Pan fo’r ddyletswydd i asesu anghenion oedolyn wedi ei rhyddhau drwy wrthodiad, ailymrwymir i’r ddyletswydd os yw’r oedolyn o dan sylw (neu berson awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran) yn newid ei feddwl ac yn gofyn wedyn am asesiad; neu os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r oedolyn wedi newid.
50.Mae adran 21 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas ag asesu anghenion plentyn i’r ddarpariaeth a wneir gan adran 19 mewn perthynas ag asesu anghenion oedolyn. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol asesu a oes ar blentyn anghenion am ofal a chymorth yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn ac os oes, beth yw’r anghenion hynny. Ysgogir y ddyletswydd pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar blentyn anghenion am ofal a chymorth. Rhagdybir bod angen gofal a chymorth ar blentyn anabl yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn. Mae hyn yn golygu y bydd awdurdod lleol, yn y rhan fwyaf o achosion, o dan rwymedigaeth i asesu anghenion plentyn anabl.
51.Mae’r ddyletswydd i wneud yr asesiad yn gymwys ni waeth beth fo lefel angen y plentyn am ofal a chymorth. Mae’r ddyletswydd i asesu hefyd yn gymwys ni waeth beth fo adnoddau ariannol unrhyw oedolyn y gellid gosod ffi arno am ddiwallu anghenion y plentyn am ofal a chymorth.
52.Mae ystyriaethau penodol yn gymwys i asesu plant. Rhaid i’r asesiad ystyried anghenion datblygiadol y plentyn, a cheisio canfod y canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno eu sicrhau, gan ystyried oedran a dealltwriaeth y plentyn wrth wneud hynny. Rhaid iddo hefyd geisio canfod y canlyniadau y mae’r rheini a chanddynt gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn dymuno i’r plentyn eu sicrhau, i’r graddau y mae hyn yn briodol gan roi sylw i’r angen i hyrwyddo llesiant y plentyn, a chanfod y canlyniadau y mae unrhyw bersonau a bennir mewn rheoliadau yn dymuno i’r plentyn eu sicrhau. Gallai’r canlyniadau hynny gynnwys canlyniadau sy’n ymwneud â datblygiad corfforol, cymdeithasol neu ymddygiadol ac, i blant hŷn, ganlyniadau sy’n ymwneud â sgiliau hunanofal neu fynediad i addysg a hyfforddiant.
53.Rhaid asesu i ba raddau y gallai’r ddarpariaeth o ofal a chymorth, gwasanaethau ataliol, neu’r ddarpariaeth o wybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu anghenion y mae’r asesiad yn eu canfod. Er enghraifft, gallai fod modd i rai anghenion plentyn gael eu diwallu drwy fynediad i wasanaethau megis clybiau ieuenctid, Teuluoedd yn Gyntaf neu Dechrau’n Deg, wrth ei gwneud yn ofynnol ar yr un pryd gael cynllun gofal a chymorth a reolir er mwyn diwallu anghenion eraill sy’n cael eu canfod drwy’r fframwaith asesu.
54.Mae is-adran (4)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i’r asesiad ystyried, yn ychwanegol, i ba raddau y gallai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau a ddymunir neu fel arall ddiwallu anghenion y plentyn. Gallai’r materion hynny, er enghraifft, gynnwys addysg neu ddarpariaeth tai.
55.Wrth gynnal yr asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys y plentyn ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
56.Rhaid i’r asesiad ei hun fod yn un cymesur. Caiff rheoliadau o dan adran 30 osod gofynion pellach mewn perthynas â’r asesiad.
57.Nid yw’r ddyletswydd i wneud asesiad o dan yr adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban neu gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon. Gwneir darpariaeth ar wahân yn Rhan 6 ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru.
58.Mae adran 22 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â phlant 16 neu 17 oed i’r ddarpariaeth a wneir gan adran 20 mewn perthynas ag oedolion.
59.Yn gyffredinol, nid oes rhwymedigaeth ar yr awdurdod lleol i asesu anghenion plentyn 16 neu 17 oed os yw’r plentyn yn gwrthod yr asesiad. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gan blant hŷn yr un rheolaeth ag oedolion ynglŷn â chynnwys yr awdurdod lleol ai peidio mewn darparu neu drefnu gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth.
60.Nid oes rhwymedigaeth ychwaith ar awdurdod lleol i wneud asesiad os nad oes gan blentyn 16 neu 17 oed alluedd i benderfynu a wrthoda asesiad a bod person awdurdodedig yn gwneud y penderfyniad i wrthod yr asesiad ar ran y plentyn. Diffinnir ‘person awdurdodedig’ yn is-adran (5) fel person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion, neu a ofynna am un, ar ran y plentyn. Pan na fo person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn hwnnw, nid oes rhwymedigaeth ar yr awdurdod lleol fel arfer i wneud asesiad os yw person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gwrthod yr asesiad ar gyfer y plentyn.
61.Fodd bynnag, mae rhai achosion pan fydd yr awdurdod lleol o dan rwymedigaeth i gynnal asesiad, er gwaethaf gwrthodiad y plentyn o dan sylw ac er gwaethaf gwrthodiad person awdurdodedig neu berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
62.Pan fo’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio mewn modd arall, bydd yr awdurdod yn parhau o dan ddyletswydd i asesu anghenion y plentyn. Diffinnir “camdriniaeth” a “cam-drin”, “esgeulustod” a “niwed” yn adran 197(1). Pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan blentyn 16 neu 17 oed alluedd i wrthod asesiad, ni fydd gwrthodiad y plentyn yn rhyddhau’r awdurdod lleol o’i ddyletswydd i wneud yr asesiad. Fodd bynnag, caiff gwrthodiad a roddir gan berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ryddhau’r ddyletswydd honno, oni bai bod yr awdurdod lleol o’r farn na fyddai peidio â chael yr asesiad er lles pennaf y plentyn.
63.Pan fo’r ddyletswydd i asesu anghenion plentyn wedi ei rhyddhau drwy wrthodiad, ailymrwymir i’r ddyletswydd os yw’r plentyn yn gofyn wedyn am asesiad. Os nad oes gan y plentyn alluedd, ailymrwymir i’r ddyletswydd os yw person awdurdodedig (neu, os nad oes person awdurdodedig, berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn) yn gofyn wedyn am asesiad.
64.Gall newid yn anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu newid yn anghenion neu amgylchiadau person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, hefyd arwain at ailymrwymo i’r ddyletswydd i asesu.
65.Yn achos plant o dan 16 oed, nid yw’r gyfraith yn rhagdybio bod ganddynt alluedd i wneud penderfyniadau. Er mwyn i wrthodiad gan blentyn o dan 16 oed ryddhau dyletswydd yr awdurdod lleol i wneud asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod y plentyn yn gallu gwneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod asesiad.
66.Fel rheol gyffredinol, nid oes dyletswydd ar awdurdod lleol i asesu anghenion plentyn o dan 16 oed os yw person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gwrthod asesiad o’r fath. Fodd bynnag, mae’r ddyletswydd i wneud asesiad yn parhau i fod yn gymwys os oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad ac nad yw’n cytuno â’r gwrthodiad a roddir gan y person a chanddo gyfrifoldeb rhiant.
67.Mae rhagofalon eraill hefyd yn bodoli i ganiatáu i wrthodiad o asesiad o anghenion ar gyfer plentyn o dan 16 oed gael ei drechu o dan amgylchiadau penodol fel bod y ddyletswydd i asesu yn parhau i fod yn gymwys.
68.Pan fo’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio mewn modd arall, mae’r awdurdod lleol yn parhau o dan ddyletswydd i asesu anghenion y plentyn. Diffinnir “camdriniaeth” a “cam-drin”, “esgeulustod” a “niwed” yn adran 197(1).
69.Pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni y byddai peidio â chael asesiad yn anghyson â llesiant y plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol ddiystyru unrhyw wrthodiad a roddir gan berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn a rhaid iddo wneud asesiad o anghenion y plentyn. Pan fo’r ddyletswydd i asesu anghenion plentyn wedi ei rhyddhau drwy wrthodiad, ailymrwymir i’r ddyletswydd os yw’r plentyn yn gofyn wedyn am asesiad a bod ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael asesiad. Ailymrwymir i’r ddyletswydd i asesu hefyd os yw person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gofyn wedyn am asesiad.
70.Gall newid yn anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu newid yn anghenion neu amgylchiadau person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, hefyd arwain at ailymrwymo i’r ddyletswydd i asesu.
71.Mae adran 24 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud asesiad o anghenion gofalwr am gymorth. Gweler y nodyn esboniadol ar gyfer adran 3 i gael rhagor o wybodaeth am bwy sy’n ofalwr at ddibenion y Ddeddf.
72.Ysgogir y ddyletswydd i asesu os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol y gall fod ar ofalwr anghenion am gymorth. Mae’r ddyletswydd yn gymwys ni waeth beth fo barn yr awdurdod ar lefel y cymorth y mae ei angen ar y gofalwr neu lefel adnoddau ariannol y gofalwr neu’r person y mae angen y gofal arno.
73.Rhaid i’r asesiad gynnwys asesiad o’r graddau y mae’r gofalwr yn gallu ac yn fodlon darparu’r gofal a pharhau i ddarparu’r gofal, y canlyniadau y mae’r gofalwr yn dymuno eu sicrhau ac, os plentyn yw’r gofalwr, y canlyniadau y mae rhiant y plentyn hwnnw (a’r personau eraill hynny a bennir mewn rheoliadau) yn dymuno eu sicrhau ar ei gyfer. Rhaid i’r asesiad ganfod hefyd y graddau y gallai cymorth, gwasanaethau ataliol, neu’r ddarpariaeth o wybodaeth, cyngor neu gynhorthwy neu unrhyw faterion eraill helpu i sicrhau’r canlyniadau sydd wedi eu nodi. Wrth wneud yr asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys y gofalwr a, phan fo’n ddichonadwy, y person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.
74.Rhaid i’r asesiad hefyd roi sylw i b’un a yw’r gofalwr yn dymuno gweithio a chymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu weithgareddau hamdden ac, os plentyn yw’r gofalwr, rhaid iddo hefyd roi sylw i’w anghenion datblygiadol a’r graddau y mae’n briodol i’r plentyn ddarparu’r gofal. Dylai hyn arwain at yr awdurdod lleol yn ystyried a yw gofalwr sy’n blentyn mewn gwirionedd yn blentyn y mae arno anghenion gofal a chymorth yn ei hawl ei hun y dylid ei asesu o dan adran 21.
75.Rhaid i’r asesiad ei hun fod yn un cymesur a rhaid iddo gynnwys yr oedolyn a, phan fo’n ddichonadwy, gofalwr yr oedolyn. Caiff rheoliadau o dan adran 30 osod gofynion pellach mewn perthynas â’r asesiad.
76.Mae adran 25 yn darparu nad yw dyletswydd yr awdurdod lleol i asesu anghenion gofalwr sy’n oedolyn yn gymwys os yw’r gofalwr yn gwrthod asesiad o anghenion a bod ganddo alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad.
77.Yn yr un modd, nid yw’r ddyletswydd i asesu anghenion gofalwr sy’n oedolyn yn gymwys os nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda asesiad a bod person awdurdodedig yn gwneud y penderfyniad i wrthod yr asesiad ar ei ran. Diffinnir ‘person awdurdodedig’ yn is-adran (4) fel person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion, neu a ofynna am un, ar ran y gofalwr.
78.Fodd bynnag, os yw gofalwr sy’n oedolyn yn gwrthod asesiad o anghenion o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y gofalwr alluedd ac nad oes person awdurdodedig a all weithredu ar ran y gofalwr, mae’n ofynnol, serch hynny, i’r awdurdod lleol wneud asesiad o anghenion y gofalwr os yw wedi ei fodloni y byddai cael yr asesiad er lles pennaf y gofalwr.
79.Pan fo’r ddyletswydd i asesu anghenion gofalwr wedi ei rhyddhau drwy wrthodiad, ailymrwymir i’r ddyletswydd os yw’r gofalwr (neu berson awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran) yn gofyn yn ddiweddarach am asesiad neu os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r gofalwr wedi newid.
80.Mae adran 26 yn darparu nad yw dyletswydd yr awdurdod lleol i asesu anghenion gofalwr sy’n 16 neu’n 17 oed yn gymwys os yw’r gofalwr yn gwrthod asesiad o anghenion a bod ganddo alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad.
81.Yn yr un modd, nid yw’r ddyletswydd i asesu anghenion gofalwr sy’n 16 neu’n 17 oed yn gymwys os nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad a bod person awdurdodedig yn gwneud y penderfyniad i wrthod ar ei ran. Diffinnir ‘person awdurdodedig’ yn is-adran (5) fel person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion, neu a ofynna am un, ar ran y gofalwr.
82.Pan na fo gan y gofalwr alluedd i benderfynu a gaiff asesiad o anghenion ac nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr, caiff person a chanddo gyfrifoldeb rhiant wrthod yr asesiad. Mae gwrthodiad o’r fath yn rhyddhau’r awdurdod lleol o’i ddyletswydd i asesu anghenion y gofalwr oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni na fyddai peidio â chael yr asesiad er lles pennaf y gofalwr.
83.Pan fo’r ddyletswydd i ryddhau anghenion gofalwr wedi ei rhyddhau drwy wrthodiad, ailymrwymir i’r ddyletswydd os yw’r gofalwr yn gofyn yn ddiweddarach am asesiad. Pan na fo gan y gofalwr alluedd, ailymrwymir i’r ddyletswydd i asesu hefyd os yw’r person awdurdodedig (neu berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant os nad oes person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad.
84.Gall newid yn anghenion neu amgylchiadau'r gofalwr neu newid yn anghenion neu amgylchiadau person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr hefyd arwain at ailymrwymo i’r ddyletswydd i asesu.
85.Mae adran 27 yn darparu nad yw dyletswydd yr awdurdod lleol i asesu gofalwr o dan 16 oed yn gymwys os yw’r gofalwr yn gwrthod yr asesiad a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod asesiad.
86.Yn yr un modd, nid yw’r ddyletswydd i asesu anghenion gofalwr yn gymwys pan fo person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros ofalwr o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y gofalwr. Trechir effaith gwrthodiad o’r fath, fodd bynnag, os oes gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad ac nad yw’n cytuno â’r gwrthodiad. O dan yr amgylchiadau hynny, mae’r awdurdod lleol yn parhau o dan ddyletswydd i asesu anghenion y gofalwr.
87.Mae’n ofynnol hefyd i awdurdod lleol wneud asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr o dan 16 oed, er gwaethaf y gwrthodiad gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr pan fo wedi ei fodloni y byddai peidio â chael yr asesiad yn anghyson â llesiant y gofalwr.
88.Pan fo’r ddyletswydd i asesu anghenion gofalwr wedi ei rhyddhau drwy wrthodiad, ailymrwymir i’r ddyletswydd os yw’r gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael asesiad. Ailymrwymir i’r ddyletswydd hefyd os yw’r person a chanddo gyfrifoldeb rhiant yn gofyn wedyn am asesiad, neu os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr, neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, wedi newid.
89.Mae adran 28 yn caniatáu i awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion person ag asesiad o anghenion ei ofalwr. Fodd bynnag, ni chaiff yr awdurdod lleol wneud hynny oni roddir cydsyniad dilys gan y personau hynny neu mewn cysylltiad â hwy, neu os yw’r amgylchiadau yn golygu y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.
90.Rhagdybir bod gan oedolyn neu blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed alluedd i roi cydsyniad dilys i gyfuno’r asesiadau. Gall plentyn o dan 16 oed roi cydsyniad dilys i gyfuno’r asesiadau os oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch y mater.
91.Gall person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn roi cydsyniad dilys ar ran plentyn o dan 16 oed, er y bydd y cydsyniad hwn yn annilys os oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno asesiadau ac nad yw’n cytuno â’r cydsyniad a roddir gan y person a chanddo gyfrifoldeb rhiant.
92.Pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan oedolyn neu blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed alluoedd i roi cydsyniad dilys, gall person awdurdodedig roi cydsyniad o’r fath yn ei le. Diffinnir ‘person awdurdodedig’ yn is-adran (7) fel person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion, neu a ofynna am un, ar ran yr oedolyn neu’r plentyn.
93.Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan oedolyn alluedd i roi cydsyniad dilys ac nad oes person awdurdodedig a all wneud hynny, gall yr awdurdod lleol hepgor y gofyniad i gael cydsyniad dilys a chyfuno asesiad yr oedolyn os yw wedi ei fodloni y byddai hyn er lles pennaf yr oedolyn.
94.Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed alluedd i roi cydsyniad dilys i gyfuno’r asesiadau ac nad oes person awdurdodedig a all wneud hynny, mae cydsyniad dilys person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn ofynnol. Fodd bynnag, gall yr awdurdod lleol hepgor yr angen am y cydsyniad hwn os yw wedi ei fodloni y byddai cyfuno asesiadau o anghenion er lles pennaf y plentyn.
95.Yn achos plentyn o dan 16 oed nad oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol i allu rhoi cydsyniad dilys i gyfuno’r asesiadau, mae cydsyniad dilys person sydd â chyfrifoldeb rhiant yn ofynnol. Fodd bynnag, gellir hepgor yr angen am y cydsyniad hwn os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion yn gyson â llesiant y plentyn.
96.Mae adran 29 yn darparu y caiff awdurdod lleol gyfuno’r asesiadau hynny pan ymddengys fod ar rywun angen cymorth fel gofalwr a bod arno anghenion am ofal a chymorth yn ei hawl ei hun hefyd.
97.Caiff awdurdod lleol wneud asesiad o anghenion person yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn gwneud asesiad statudol arall mewn perthynas â’r person hwnnw.
98.Mewn achosion o’r fath, caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad statudol arall ar ran y corff arall neu ar y cyd ag ef. Os yw’r corff arall eisoes wedi trefnu i’r asesiad arall gael ei wneud ar y cyd â thrydydd parti, caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad arall ar y cyd â’r corff arall a’r trydydd parti.
99.Bwriad y ddarpariaeth hon yw caniatáu i awdurdodau lleol wneud amryw asesiadau ar yr un pryd fel nad oes angen i unigolion fynd drwy gyfres o asesiadau ar wahân.
100.Mae adran 30 yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru ynglŷn â chynnal asesiadau o anghenion o dan Ran 3.
101.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adolygu asesiadau. Caiff y rheoliadau, er enghraifft, bennu pwy a all ofyn am adolygiad, o dan ba amgylchiadau y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chais, ac o dan ba amgylchiadau y caiff wrthod gwneud hynny.
102.Mae is-adran (3) yn rhoi enghreifftiau o fathau eraill o ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn y rheoliadau. Gallai’r ddarpariaeth hon gynnwys gofynion i gynnwys pobl eraill, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adrannau 19, 21 a 24, yn y broses asesu. Gallai’r rheoliadau hefyd ei gwneud yn ofynnol i asesiadau gael eu cynnal mewn ffordd benodol a gallent bennu’r personau y mae asesiadau i’w gwneud ganddynt: er enghraifft, awdurdodau lleol neu bersonau neu gyrff sy’n gweithredu ar ran awdurdodau lleol. Gallai’r rheoliadau, yn ychwanegol, bennu o fewn pa derfynau amser y bydd rhaid cwblhau asesiadau a’i gwneud yn ofynnol i ganlyniadau asesiad gael eu cofnodi mewn ffordd benodol er mwyn sicrhau cysondeb. Gallai darpariaeth arall gynnwys gofyniad i awdurdodau lleol roi sylw i ystyriaethau ychwanegol wrth gynnal asesiad a phŵer i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth at ddiben yr asesiad.
103.Mae adran 31 yn diffinio rhai o’r termau allweddol a ddefnyddir yn Rhan 3, sef ‘gwasanaethau ataliol’ a ‘gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy’.
104.Mae adran 32 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol, os daw asesiad i’r casgliad bod ar berson anghenion am ofal a chymorth, neu, yn achos gofalwr, anghenion am gymorth, ddyfarnu a yw’r anghenion hynny yn bodloni’r meini prawf cymhwystra sydd i’w nodi mewn rheoliadau.
105.Os nad yw’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, bydd angen i’r awdurdod lleol ystyried a yw’n angenrheidiol diwallu anghenion y person a asesir er mwyn ei amddiffyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso. Yn achos plentyn, bydd hyn hefyd yn cynnwys amddiffyn rhag niwed neu risg o niwed. Diffinnir “camdriniaeth” a “cam-drin”, “esgeulustod” a “niwed” yn adran 197(1). Os deuir i’r casgliad ei bod yn angenrheidiol diwallu’r anghenion am y rheswm hwn, bydd rhaid i’r awdurdod lleol ddiwallu’r anghenion hynny, hyd yn oed os nad yw’n bodloni’r meini prawf cymhwystra.
106.Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried hefyd a yw’r anghenion a ganfuwyd yn galw am arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon neu o dan Rannau 4 a 5 o Ddeddf Plant 1989. Er enghraifft, gall fod y gallai anghenion plentyn gael eu diwallu gan yr awdurdod lleol sy’n darparu llety yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 76 o’r Ddeddf hon (llety i blant sydd heb rieni, neu blant sydd ar goll neu sydd wedi eu gadael etc) neu gallai fod angen i’r awdurdod lleol ystyried a oes sail dros orchymyn gofal neu orchymyn goruchwylio neu dros gymryd camau eraill i amddiffyn y plentyn o dan Ran 5 o Ddeddf 1989.
107.Os yw’r awdurdod lleol yn dyfarnu ei fod o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion y person neu’n penderfynu arfer ei bwerau i ddiwallu anghenion, rhaid iddo fynd ymlaen i ystyried yr hyn y gellid ei wneud i ddiwallu’r anghenion a ganfuwyd. Mae adran 34 yn rhoi enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion, gan gynnwys gwneud taliadau uniongyrchol. Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd ystyried p’un ai i arfer ei bwerau yn Rhan 5 o’r Ddeddf hon i godi ffi am ddiwallu’r anghenion a ganfuwyd a faint y byddai’n ei godi. Os oes ffi i fod, dim ond swm y dyfernir ei bod yn rhesymol ymarferol iddo ei dalu, gan roi sylw i ganlyniad asesiad ariannol, y bydd yn ofynnol i’r person ei dalu.
108.Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd ystyried a fyddai darparu gwasanaethau ataliol, neu wybodaeth, cyngor a chynhorthwy, neu unrhyw beth arall a all fod ar gael yn y gymuned, o fudd i’r person. Mae hyn yn gymwys p’un a oes ar y person anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ai peidio.
109.Mae rheoliadau yn disgrifio’r anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra. Gall rheoliadau ddisgrifio anghenion drwy gyfeirio at yr effaith y mae’r anghenion yn ei chael ar y person o dan sylw neu drwy gyfeirio at amgylchiadau’r person. Bydd y rheoliadau yn cymryd lle’r meini prawf cymhwystra lleol a gymhwysir ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol yn unol â’r canllawiau yn “Creu System Deg ac Unedig i Asesu a Rheoli Gofal” a “Trefniadau Asesu, Cynllunio ac Adolygu Integredig ar gyfer Pobl Hŷn”.
110.Mae adran 33 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i fod yn gymwys i wneud rheoliadau o dan adran 32. Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau ynghylch y meini prawf cymhwystra, rhaid iddynt ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ymddangos bod y rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt, y sefydliadau hynny y mae’n ymddangos eu bod yn cynrychioli buddiannau’r rheini y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
111.Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfnod o 12 wythnos i’r rheini yr ymgynghorwyd â hwy gyflwyno sylwadau ar y rheoliadau drafft arfaethedig ynghylch cymhwystra. Rhaid iddynt wedyn ystyried y sylwadau hynny a chyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.
112.Ar ôl yr ymgynghoriad, rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o’r rheoliadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â datganiad yn rhoi manylion y gwahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt a’r rheoliadau drafft fel y’u gosodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
113.Ni chaniateir i reoliadau ar gymhwystra gael eu gwneud ond pan fo drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo, ac ni chaniateir i’r rheoliadau drafft gael eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol tan ar ôl i gyfnod o 60 niwrnod, o’r dyddiad y gosodir y rheoliadau drafft, ddod i ben.
114.Unwaith y bydd awdurdod lleol wedi dyfarnu ei fod yn mynd i ddiwallu anghenion person ac yn ystyried beth y gellid ei wneud i ddiwallu’r anghenion hynny, gall geisio diwallu’r anghenion hynny mewn nifer o ffyrdd. Yn wahanol i’r fframwaith cyfreithiol presennol, nid yw’r Ddeddf yn pennu pa ddarpariaeth y mae’n rhaid i’r awdurdodau lleol ei darparu, neu y cânt ei darparu.
115.Mae adran 34 yn nodi enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ddarparu i ddiwallu anghenion person ac enghreifftiau o’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol fynd ati i ddiwallu anghenion person. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys cymhorthion ac addasiadau a thaliadau, gan gynnwys taliadau uniongyrchol. Caiff awdurdodau lleol hefyd benderfynu naill ai ddarparu gwasanaethau eu hunain neu drefnu i’r gwasanaethau gael eu darparu gan rywun arall. Gellid diwallu anghenion person hefyd drwy ddarparu’r gwasanaethau i berson arall, er enghraifft darparu cymorth i deulu plentyn er mwyn diwallu anghenion y plentyn am ofal a chymorth.
116.Pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion person drwy ddarparu neu drefnu gofal a chymorth yng nghartref y person hwnnw ei hun, rhaid i’r awdurdod lleol fodloni ei hun fod yr ymweliadau â’r cartref yn ddigon hir i ddarparu’r gofal a’r cymorth y mae eu hangen. Bydd cod ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 145, yn cynnwys canllawiau ynghylch hyd ymweliadau â chartrefi pobl.
117.Mae rhai cyfyngiadau ar yr hyn y gall awdurdod lleol ei wneud i ddiwallu anghenion person. Nodir y rhain yn adrannau 47 i 49.
118.Mae adran 35 yn nodi’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i awdurdod lleol fod o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn yn ei ardal.
Mae’n amod bod yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra a bennir o dan adran 32. Fodd bynnag, mae is-adran (3)(b) yn darparu rhagofalon i sicrhau bod awdurdodau lleol hefyd o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn os yw hynny’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn yr oedolyn rhag cael, neu rhag risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, hyd yn oed os nad yw anghenion yr oedolyn yn bodloni’r meini prawf cymhwystra. Diffinnir “camdriniaeth” a “cam-drin” ac “esgeulustod” yn adran 197(1).
119.Nid yw’r awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddiwallu unrhyw un neu rai o anghenion yr oedolyn sy’n cael eu diwallu gan ofalwr. Pe bai gofalwr yn peidio â darparu gofal a diwallu unrhyw un neu rai o anghenion yr oedolyn, byddai hyn yn ysgogi adolygiad o gynllun gofal a chymorth yr oedolyn, a gall olygu y byddai’n ofynnol wedyn i’r awdurdod lleol ddiwallu’r anghenion. Yn yr un modd, os yw’r person y gofelir amdano yn nodi nad yw am i ofalwr ddiwallu rhai neu bob un o’i anghenion, neu nad yw bellach am i’w anghenion gael eu diwallu yn y ffordd hon, gall hyn olygu y byddai’r awdurdod lleol wedyn o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion yr oedolyn ac y bydd angen iddo ystyried ffyrdd eraill o wneud hyn.
120.Mae is-adran (4) yn darparu bod rhaid i’r awdurdod lleol ddiwallu anghenion oedolion sydd â hawlogaeth i gael gwasanaethau yn ddi-dâl neu y mae eu moddion yn peri nad oes rhaid iddynt dalu’r ffi lawn.
121.Nid oes rhaid i’r awdurdod lleol ddiwallu anghenion “hunangyllidwr”: sef oedolyn yr asesir bod eu moddion uwchlaw’r terfyn ariannol fel ei fod yn atebol i dalu’r ffi lawn oni bai bod yr oedolyn yn gofyn i’r awdurdod ddiwallu ei anghenion. Yn yr achos hwnnw, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion yr oedolyn a gall adennill y gost lawn o ddarparu neu drefnu gwasanaethau. Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn gallu gosod ffi “broceriaeth” (gweler adran 59(3) yn Rhan 5).
122.Pan fo ffi am ofal a chymorth, mae’r awdurdod lleol hefyd o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth os nad oes gan yr oedolyn alluedd i drefnu i ddarparu gofal a chymorth ei hun, ac nad oes neb wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu fel arall mewn sefyllfa i wneud hynny ar ran yr oedolyn. Bydd y ddyletswydd hon yn gymwys ni waeth beth fo lefel adnoddau ariannol yr oedolyn.
123.Hyd yn oed os bodlonir yr amodau hyn, ni fydd awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion person oni fydd yr amod preswylio yn is-adran (2) wedi ei fodloni. Mae is-adran (2) yn darparu y bydd awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion oedolyn os yw’r oedolyn yn “preswylio fel arfer” yn ardal yr awdurdod.
124.Rhaid i awdurdod lleol hefyd ddiwallu anghenion oedolion sydd o fewn ardal yr awdurdod ac nad oes ganddynt breswylfa sefydlog. Nid oes rhaid i’r awdurdod lleol ddiwallu anghenion oedolion sy’n preswylio dros dro yn ardal yr awdurdod ond sy’n preswylio fel arfer mewn man arall.
125.Mae adran 36 yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn heb o reidrwydd gwblhau asesiad o anghenion nac asesiad ariannol yn gyntaf. Mae’r pŵer hwn ar gael, er enghraifft, pan ystyrir bod ei angen er mwyn diwallu anghenion fel mater brys.
126.Mae’r pŵer ar gael hefyd mewn achosion pan fo asesiad wedi ei gynnal ond nid yw’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra. Yn yr amgylchiadau hyn, caiff yr awdurdod lleol, er gwaethaf hynny, benderfynu diwallu’r anghenion, er nad yw o dan ddyletswydd i wneud hynny. Os yw’r awdurdod lleol yn diwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw ei fod yn gwneud hynny.
127.Mae adran 37 yn pennu’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i awdurdod lleol fod o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn o fewn ei ardal.
128.Mae’n amod bod yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra a bennir o dan adran 32. Fodd bynnag, mae is-adran (3) yn darparu rhagofalon i sicrhau bod awdurdodau lleol o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn os yw hynny’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn y plentyn rhag cael, neu rhag risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu ei niweidio mewn modd arall, hyd yn oed os nad yw ei anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra. Diffinnir “camdriniaeth” a “cam-drin”, “esgeulustod” a “niwed” yn adran 197(1).
129.Nid yw’r awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion plentyn sy’n cael eu diwallu gan ofalwr neu gan deulu’r plentyn. Pe bai gofalwr neu deulu’r plentyn yn peidio â darparu gofal a diwallu anghenion y plentyn, byddai hyn yn ysgogi adolygiad o gynllun gofal a chymorth y plentyn, a gall olygu y byddai’n ofynnol wedyn i’r awdurdod lleol ddiwallu’r anghenion. Yn yr un modd, os yw’r plentyn yn nodi nad yw am i ofalwr ddiwallu rhai neu bob un o’i anghenion, neu nad yw bellach am i’w anghenion gael eu diwallu yn y ffordd hon, gall hyn olygu y byddai’r awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion y plentyn ac y bydd angen iddo ystyried ffyrdd eraill o wneud hyn.
130.Mae’r ddyletswydd yn ddyledus i unrhyw blentyn sydd o fewn ardal awdurdod lleol, hyd yn oed os yw’n preswylio fel arfer yn rhywle arall. Mae’r ddyletswydd hefyd yn ddyledus i blant sy’n cael eu lletya y tu allan i ardal yr awdurdod lleol ond a oedd yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod cyn iddynt gael eu lletya (ac y mae’r awdurdod wedi ei hysbysu amdanynt o dan adran 120).
131.Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw’r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru. Darperir ar wahân ar gyfer y plant hynny yn Rhan 6. (Am ystyr plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, gweler adran 74). Nid yw’r adran yn gymwys ychwaith i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr neu’r Alban neu gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
132.Mae’n bosibl y bydd awdurdod lleol o dan ddyletswydd hefyd i ddarparu llety i blant o dan adran 76 neu adran 77 o’r Ddeddf, ac o dan ddyletswyddau eraill i ddiogelu ac amddiffyn y plentyn o dan Rannau 4 neu 5 o Ddeddf Plant 1989.
133.Mae adran 38 yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn heb o reidrwydd gwblhau asesiad o anghenion nac asesiad ariannol yn gyntaf. Mae’r pŵer hwn ar gael, er enghraifft, pan ystyrir bod ei angen er mwyn diwallu anghenion fel mater brys.
134.Mae’r pŵer hwn ar gael hefyd mewn achosion pan fo asesiad wedi ei gynnal ond nad yw’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra. Yn yr amgylchiadau hyn, caiff yr awdurdod lleol benderfynu diwallu’r anghenion beth bynnag, er nad yw o dan ddyletswydd i wneud hynny.
135.Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu arfer y pŵer hwn i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall, yna rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw ei fod yn gwneud hynny.
136.Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw’r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru. Darperir ar wahân ar gyfer y plant hynny yn Rhan 6. Nid yw’r adran yn gymwys ychwaith i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr neu’r Alban neu gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
137.Mae adran 39 yn ailddatgan y ddarpariaeth yn mharagraff 10 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989.
138.Mae’n gosod dyletswyddau ychwanegol ar awdurdod lleol mewn perthynas â phlentyn yn ei ardal yr ystyria fod arno angen gofal a chymorth ac sy’n byw ar wahân i’w deulu, ond nad yw’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.
139.P’un a yw’r awdurdod lleol wedi dyfarnu bod gan blentyn o’r fath anghenion cymwys y mae’n rhaid eu diwallu ai peidio, rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau i alluogi’r plentyn i fyw gyda’i deulu, neu i hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a’i deulu, os yw o’r farn bod hynny’n angenrheidiol er mwyn hyrwyddo llesiant y plentyn.
140.Mae adran 40 yn nodi’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i awdurdod lleol fod o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion cymorth oedolyn sy’n ofalwr sy’n gofalu am oedolyn arall neu am blentyn anabl.
141.Mae’r cwestiwn o ran pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddiwallu anghenion cymorth gofalwr yn dibynnu ar breswylfa’r person y gofelir amdano. Hwn fydd yr awdurdod lleol a fyddai’n gyfrifol am ddiwallu anghenion y person y gofelir amdano pe bai’n gymwys yn ei hawl ei hun, naill ai fel oedolyn (gweler adran 35) neu fel plentyn (gweler adran 37).
142.Rhaid i anghenion y gofalwr sy’n oedolyn fodloni’r meini prawf cymhwystra sydd i’w pennu mewn rheoliadau o dan adran 32.
143.Mae cysylltiad rhwng y ddyletswydd i ddiwallu anghenion y gofalwr sy’n oedolyn am gymorth ac adnoddau ariannol y gofalwr sy’n oedolyn. I’r graddau y mae diwallu anghenion cymorth y gofalwr yn golygu darparu cymorth i’r gofalwr, mae adran 40(4)(a) yn darparu bod rhaid i’r awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr sydd â hawlogaeth i gael gwasanaethau yn ddi-dâl neu y mae ei foddion yn peri nad oes rhaid iddo dalu’r ffi lawn. Nid oes rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu cymorth i ofalwr sy’n oedolyn yr asesir bod ei foddion uwchlaw’r terfyn ariannol fel ei fod yn atebol i dalu’r ffi lawn (y cyfeirir atynt fel “hunangyllidwyr”) oni bai bod yr oedolyn yn gofyn i’r awdurdod ddiwallu ei anghenion.
144.Mae adran 44(2) yn caniatáu i awdurdod lleol ddiwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person y gofelir amdano (hyd yn oed pe na fyddai’r awdurdod fel arall o dan ddyletswydd i ddarparu’r gofal a’r cymorth hwnnw). Ond os yw’r awdurdod lleol yn dymuno diwallu anghenion y gofalwr yn y ffordd hon, ni chaiff wneud hynny oni fodlonir yr amod perthnasol yn adran 40(4)(c) neu (d). Mae adran 40(4)(b), (c) a (d) yn nodi amodau gwahanol yn dibynnu ar b’un a yw’r person y gofelir amdano yn oedolyn, yn blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed neu’n blentyn anabl o dan 16 oed. Ym mhob achos, mae ystyriaethau gwahanol yn dibynnu ar b’un a oes ffi ariannol am ddiwallu anghenion y person y gofelir amdano.
145.Mae angen ystyried yr amodau yn adran 40(4)(b), (c) a (d) ar y cyd â chynnwys adran 41, sy’n atodol i adran 40. Yr egwyddor allweddol yw bod rhaid i’r person y gofelir amdano gytuno i anghenion y gofalwr gael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person y gofelir amdano. Rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod gan oedolyn neu blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed alluedd i wneud ei benderfyniad ei hun, ac yn achos plentyn o dan 16 oed, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod y plentyn yn gallu gwneud penderfyniad deallus ynghylch diwallu anghenion y gofalwr yn y ffordd hon.
146.Gwneir darpariaeth ar gyfer yr hyn sydd i ddigwydd pan na fo gan yr oedolyn neu’r plentyn anabl o dan 16 neu 17 oed alluedd neu pan na fo gan blentyn o dan 16 oed ddealltwriaeth ddigonol i wneud ei benderfyniad ei hun.
147.Pan na fo gan oedolyn neu blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed alluedd, caniateir i berson awdurdodedig roi cydsyniad. Diffinnir person awdurdodedig yn adran 41(15) fel person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.
148.Pan na fo gan oedolyn alluedd ac na fo person awdurdodedig, caiff yr awdurdod lleol ddiwallu anghenion y gofalwr drwy ddarparu gofal a chymorth i’r oedolyn pe byddai hyn er lles pennaf yr oedolyn.
149.Pan na fo gan blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed alluedd ac nad oes person awdurdodedig, mae’r awdurdod lleol yn gallu diwallu anghenion y gofalwr drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl ar yr amod nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Mae’r awdurdod lleol yn gallu diystyru unrhyw wrthwynebiad o’r fath os yw o’r farn na fyddai hyn er lles pennaf y plentyn.
150.Yn achos plentyn anabl o dan 16 oed nad oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael anghenion y gofalwr wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth iddo, mae’r awdurdod lleol yn gallu diwallu anghenion y gofalwr drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl ar yr amod nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Mae’r awdurdod lleol yn gallu diystyru unrhyw wrthwynebiad o’r fath os yw o’r farn na fyddai hyn yn gyson â llesiant y plentyn.
151.Pan fo’r person y gofelir amdano yn blentyn anabl ac y byddai ffi yn cael ei gosod ar oedolyn am ddiwallu anghenion y plentyn hwnnw am ofal a chymorth, mae amod pellach sy’n ei gwneud yn ofynnol nad yw’r oedolyn yn gwrthwynebu’r ddarpariaeth o ofal a chymorth.
152.Mewn unrhyw achos pan na fo’n ddichonadwy i’r awdurdod lleol ddiwallu rhai neu bob un o anghenion y gofalwr drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person y gofelir amdano, mae’r awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddod o hyd o ryw ffordd arall o ddiwallu anghenion y gofalwr am gymorth (gweler adran 44).
153.Pan fo adnoddau ariannol yr oedolyn y gofelir amdano uwchlaw’r terfyn ariannol neu pan fyddai oedolyn yn atebol i dalu’r ffi safonol am y ddarpariaeth o ofal a chymorth i blentyn anabl y gofelir amdano gan ofalwr, bydd yr awdurdod lleol yn gallu codi ffi broceriaeth ar yr oedolyn am sefydlu’r trefniadau, yn unol â’r darpariaethau yn adran 59(3) (pwerau i osod ffioedd).
154.Mae adran 42 yn pennu’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i awdurdod lleol fod o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion cymorth gofalwr sy’n blentyn sy’n gofalu am oedolyn neu am blentyn anabl.
155.Bydd y cwestiwn o ran pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddiwallu anghenion cymorth gofalwr sy’n blentyn yn dibynnu ar breswylfa’r person y gofelir amdano. Yr awdurdod lleol cyfrifol fydd yr un a fyddai’n gyfrifol am ddiwallu anghenion y person y gofelir amdano pe bai’r person hwnnw yn gymwys yn ei hawl ei hun, naill ai fel oedolyn (gweler adran 35) neu fel plentyn (gweler adran 37).
156.Rhaid i anghenion y gofalwr sy’n blentyn fodloni’r meini prawf cymhwystra sydd i’w pennu mewn rheoliadau a wneir o dan adran 32.
157.Mae adran 44(2) yn caniatáu i awdurdod lleol ddiwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person y gofelir amdano (hyd yn oed pe na fyddai’r awdurdod fel arall o dan ddyletswydd i ddarparu’r gofal a’r cymorth hwnnw). Ond os yw’r awdurdod lleol yn dymuno diwallu anghenion y gofalwr sy’n blentyn yn y ffordd hon, ni chaiff wneud hynny oni fodlonir ‘Amod 3’ fel y’i nodir yn adran 42(4). Mae adran 42(4)(a), (b) ac (c) yn nodi amodau gwahanol yn dibynnu ar b’un a yw’r person y gofelir amdano yn oedolyn, yn blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed neu’n blentyn anabl o dan 16 oed. Ym mhob achos, mae ystyriaethau gwahanol yn dibynnu ar b’un a oes ffi am ddiwallu anghenion y person y gofelir amdano.
158.Mae angen ystyried yr amodau yn adran 42(4)(a), (b) ac (c) ar y cyd â chynnwys adran 43, sy’n atodol i adran 42. Yr egwyddor allweddol yw bod rhaid i’r person y gofelir amdano gytuno i anghenion y gofalwr sy’n blentyn gael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person y gofelir amdano. Rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod gan oedolyn neu blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed alluedd i wneud ei benderfyniad ei hun, ac yn achos plentyn o dan 16 oed, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod y plentyn yn gallu gwneud penderfyniad deallus ynghylch diwallu anghenion y gofalwr yn y ffordd hon.
159.Gwneir darpariaeth ar gyfer yr hyn sydd i ddigwydd pan na fo gan yr oedolyn neu’r plentyn anabl o dan 16 neu 17 oed alluedd neu pan na fo gan blentyn o dan 16 oed ddealltwriaeth ddigonol i wneud ei benderfyniad ei hun. Mae hon yn debyg i’r ddarpariaeth a wneir yn adrannau 40 ac 41 mewn perthynas â chytundeb y person y mae gofalwr sy’n oedolyn yn gofalu amdano.
160.Pan na fo gan oedolyn neu blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed alluedd, gall cydsyniad gael ei roi gan berson awdurdodedig. Diffinnir person awdurdodedig yn adran 43(13) fel person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.
161.Pan na fo gan oedolyn alluedd ac na fo person awdurdodedig, mae’r awdurdod lleol yn gallu diwallu anghenion y gofalwr drwy ddarparu gofal a chymorth i’r oedolyn pe byddai hyn er lles pennaf yr oedolyn.
162.Pan na fo gan blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed alluedd ac na fo person awdurdodedig, mae’r awdurdod lleol yn gallu diwallu anghenion y gofalwr wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl ar yr amod nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Mae’r awdurdod lleol yn gallu diystyru unrhyw wrthwynebiad o’r fath os yw o’r farn na fyddai hyn er lles pennaf y plentyn.
163.Yn achos plentyn anabl o dan 16 oed nad oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael anghenion y gofalwr wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth iddo, mae’r awdurdod lleol yn gallu diwallu anghenion y gofalwr drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl ar yr amod nad oes gwrthwynbiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Mae’r awdurdod lleol yn gallu diystyru unrhyw wrthwynebiad o’r fath os yw o’r farn na fyddai hyn yn gyson â llesiant y plentyn.
164.Gwneir darpariaeth bellach i ymdrin â’r sefyllfa pan fo’r person y gofelir amdano yn blentyn anabl ac y byddai ffi yn cael ei gosod ar oedolyn am ddiwallu anghenion y plentyn am ofal a chymorth. Yn yr achos hwn, mae amod pellach sy’n ei gwneud yn ofynnol nad yw’r oedolyn yn gwrthwynebu’r ddarpariaeth o ofal a chymorth.
165.Mewn unrhyw achos pan na fo’n ddichonadwy i’r awdurdod lleol ddiwallu rhai neu bob un o anghenion y gofalwr drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person y gofelir amdano, mae’r awdurdod lleol o dan ddyletswydd i ddod o hyd o ryw ffordd arall o ddiwallu anghenion y gofalwr am gymorth (gweler adran 44).
166.Pan fo adnoddau ariannol yr oedolyn y gofelir amdano uwchlaw’r terfyn ariannol neu pan fyddai oedolyn yn atebol i dalu’r ffi safonol am ddarparu gofal a chymorth i blentyn anabl y mae gofalwr yn gofalu amdano, bydd yr awdurdod lleol yn gallu codi ffi broceriaeth ar yr oedolyn am sefydlu’r trefniadau, yn unol â’r darpariaethau yn adran 59(3) (pwerau i osod ffioedd).
167.Mae adran 44 yn gwneud darpariaethau atodol mewn perthynas â’r dyletswyddau yn adrannau 40 a 42.
168.Os yw’n ddichonadwy gwneud hynny, caiff awdurdodau lleol ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth drwy ddarparu gwasanaethau i’r person y gofelir amdano, hyd yn oed pe na fyddai gan y person y gofelir amdano hawlogaeth i gael gwasanaethau yn ei hawl ei hun (o dan adrannau 35 neu 37).
169.Os nad yw’n ddichonadwy i’r awdurdod lleol ddarparu gofal a chymorth i’r person y gofelir amdano, yna rhaid i’r awdurdod lleol, i’r graddau y mae’n ddichonadwy, ganfod rhyw ffordd arall o ddiwallu rhai neu bob un o anghenion y gofalwr am gymorth.
170.Mae adran 45 yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion cymorth gofalwr heb o reidrwydd gwblhau asesiad o anghenion nac asesiad ariannol yn gyntaf. Mae’r pŵer hwn ar gael, er enghraifft, pan ystyrir bod angen diwallu anghenion fel mater brys.
171.Mae’r pŵer hwn ar gael hefyd mewn achosion pan fo asesiad wedi ei gynnal ond nad yw’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra. Yn yr amgylchiadau hyn, caiff yr awdurdod lleol, er gwaethaf hynny, benderfynu diwallu’r anghenion, er nad yw o dan ddyletswydd i wneud hynny.
172.Mae adran 46 yn gymwys mewn perthynas ag oedolion sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo o fewn ystyr adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999. Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn o’r fath sydd wedi codi dim ond oherwydd bod yr oedolyn yn ddiymgeledd neu oherwydd effeithiau corfforol, disgwyliedig neu wirioneddol, bod yn ddiymgeledd. Mae’n disodli eithriadau presennol a nodir, er enghraifft, yn adrannau 21(1A) ac (1B) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac adran 45(4A) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968.
173.Mae adran 47 yn nodi cyfyngiadau ar bwerau awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau iechyd.
174.Y man cychwyn (is-adran (1)) yw na chaniateir i awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth drwy ddarparu gwasanaethau gofal iechyd y mae’n ofynnol eu darparu o dan ddeddfiad iechyd (a ddiffinnir yn is-adran (10)). Mae’r gwaharddiad hwn yn gymwys hefyd mewn perthynas â phwerau awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau ataliol o dan adran 15.
175.Fodd bynnag, nid yw’r gwaharddiad hwn yn gymwys ynglŷn â darparu gwasanaethau gofal iechyd sy’n gysylltiedig â rhywbeth arall y mae’r awdurdod lleol yn ei wneud i ddiwallu anghenion person o dan adrannau 35 i 45 neu â’r ddarpariaeth o wasanaethau eraill o dan adran 15 neu sy’n ategol at hynny. Caiff awdurdodau lleol o dan amgylchiadau penodol ganiatáu i staff sydd â hyfforddiant, cymorth a goruchwyliaeth briodol ymgymryd â thasgau penodedig sy’n gysylltiedig ag iechyd wrth ddarparu gofal cymdeithasol. Enghraifft o hyn yw’r ddarpariaeth o gymorth i roi meddyginiaeth benodol.
176.Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o ran p’un a oes gan awdurdodau lleol bwerau i ddarparu mathau penodol o wasanaethau neu gyfleusterau ai peidio ac o ran p’un a yw’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal iechyd yn “gysylltiedig neu’n ategol”.
177.Hyd yn oed pan fo gan awdurdod lleol y pŵer i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd, fe’i gwaherddir o hyd rhag diwallu anghenion neu ddarparu gwasanaethau ataliol drwy ddarparu neu drefnu’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig. Diffinnir “gofal nyrsio” yn is-adran (10).
178.Mae is-adran (6) yn egluro nad yw’r gwaharddiad ar awdurdod lleol rhag darparu gofal nyrsio yn atal yr awdurdod rhag trefnu i ddarparu llety mewn cartref nyrsio, ar yr amod bod y corff GIG perthnasol (a bennir mewn rheoliadau) wedi cydsynio i hynny, neu fod yr achos yn un brys ac y ceir cydsyniad cyn gynted â phosibl ar ôl i’r trefniadau gael eu gwneud. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd yr elfen o ofal nyrsio yn cael ei chyllido gan y GIG yn unol â threfniadau ar gyfer gofal nyrsio sy’n cael ei gyllido gan y GIG.
179.Mae is-adran (8) yn galluogi rheoliadau i gael eu gwneud sy’n ei gwneud yn ofynnol i drefniadau gael eu sefydlu mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhwng awdurdodau lleol a chyrff GIG.
180.Caiff rheoliadau o dan is-adran (8) hefyd ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gymryd rhan yn y broses ar gyfer asesu anghenion gofal iechyd person a phenderfynu sut i ddiwallu’r anghenion hynny. Gellid gwneud rheoliadau o dan yr is‑adran hon, er enghraifft, i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gymryd rhan yn y gweithdrefnau ar gyfer dyfarnu cymhwystra am Ofal Iechyd Parhaus.
181.Mae is-adran (9) yn egluro nad yw’r adran hon yn gwahardd awdurdodau lleol rhag gwneud unrhyw beth y mae ganddynt, yn awdurdodau lleol, y pŵer i’w wneud o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hyn yn cynnwys, yn benodol, ymrwymo i drefniadau partneriaeth gyda chyrff GIG o dan adran 33 o Ddeddf 2006.
182.Mae adran 48 yn darparu ar gyfer cyfyngiadau eraill ar sut y gall awdurdodau lleol ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth neu ddarparu gwasanaethau ataliol o dan adran 15.
183.Yn benodol, fe’u gwaherddir rhag gwneud unrhyw beth y byddai’n ofynnol i awdurdod lleol ei wneud o dan Ddeddf Tai 1996. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, na all awdurdod lleol ddiwallu anghenion at ddibenion y Ddeddf hon drwy ddarparu llety os yw’n ofynnol i’r awdurdod (neu’n ofynnol i awdurdod lleol arall) ddarparu llety o dan ei ddyletswyddau tuag at bobl ddigartref o dan Ddeddf 1996. Nid yw hyn yn rhwystro awdurdodau lleol, o dan y Ddeddf hon, rhag darparu gwasanaethau mwy penodol (megis addasiadau tai), na rhag cydweithio ag awdurdodau tai.
184.Mae’r pŵer hefyd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn pennu deddfiadau eraill, fel na fyddai modd i awdurdodau lleol wneud unrhyw beth (at ddibenion eu swyddogaethau o dan adrannau 15 neu 35 i 45) y byddai’n ofynnol i awdurdod lleol ei wneud o dan y deddfiadau penodedig.
185.Mae adran 34 (sut i ddiwallu anghenion) yn darparu bod gwneud taliadau yn un o’r ffyrdd y gall awdurdod lleol eu defnyddio i ddiwallu anghenion unigolyn am ofal a chymorth ac y gall hyn gynnwys taliadau uniongyrchol. Mae adran 49 yn gosod cyfyngiadau ar yr amgylchiadau pan ellir gwneud taliadau. Gellir gwneud taliadau o dan y cynllun ar gyfer taliadau uniongyrchol fel y’i nodir yn adrannau 50 i 53. Gellir eu gwneud pan fo anghenion person, ym marn yr awdurdod lleol, yn rhai brys ac na fyddai’n rhesymol ymarferol diwallu’r anghenion mewn unrhyw ffordd arall. Mae is-adran (1)(c) yn caniatáu i awdurdod lleol wneud taliadau wrth gontractio ar gyfer darparu gwasanaethau. Caniateir i reoliadau bennu amgylchiadau eraill pan ganiateir gwneud taliadau.
186.Mae is-adran (2) yn gosod terfynau ar y graddau y gall taliadau gael eu defnyddio wrth gyflawni dyletswyddau awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau ataliol o dan adran 15.
187.Mae adran 50 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol, neu’n caniatáu, i awdurdod lleol wneud taliadau (taliadau uniongyrchol) tuag at y costau sy’n gysylltiedig â diwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth, er mwyn caniatáu i’r oedolyn wneud ei drefniadau ei hun ar gyfer prynu’r gofal sy’n ofynnol.
188.Mae is-adrannau (3) a (4) yn pennu’r rhagamodau ar gyfer gwneud unrhyw daliadau o’r fath. Rhaid i berson sydd â galluedd gydsynio i gael taliadau yn hytrach na gwasanaethau. Pan na fo gan berson alluedd, ceir rhoi’r cydsyniad ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol mewn nifer of ffyrdd. Os oes person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (drwy atwrneiaeth arhosol sydd wedi ei geirio’n briodol neu drwy ei benodi yn ddirprwy gan y Llys Gwarchod) yna gall y person hwnnw gydsynio, yn dderbynnydd y taliadau, neu gall gydsynio i’r taliadau gael eu gwneud i berson arall y mae’n rhaid iddo hefyd gydsynio. Os nad oes neb wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf 2005, yna gall person sy’n fodlon bod yn dderbynnydd y taliadau roi cydsyniad os yw’r amodau perthnasol eraill yn yr adran hon wedi eu bodloni.
189.Yn achos oedolyn sydd â galluedd neu sydd heb alluedd, gall taliadau gael eu gwneud os yw’n bosibl na fyddai derbynnydd y taliad yn gallu rheoli’r taliad ei hun ond y byddai ganddo’r gallu i wneud hynny gyda chymorth sydd ar gael iddo. Yn y ddau achos mae angen i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion gofal yr oedolyn. Yn ychwanegol, pan na fo gan yr oedolyn alluedd, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni y bydd derbynnydd y taliad yn gweithredu er lles pennaf yr oedolyn.
190.Mae adran 51 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol, neu’n caniatáu, i awdurdod lleol wneud taliadau (taliadau uniongyrchol) tuag at gostau diwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth. Gellir gwneud taliadau i berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sydd ag anghenion gofal a chymorth, neu i’r plentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth.
191.Rhaid i’r person y mae’r taliadau i’w gwneud iddo gydsynio i’r taliadau gael eu gwneud. Pan fo’r taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud i oedolyn neu blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed, rhaid i’r awdurdod lleol fod o’r farn bod gan y person sydd i gael y taliadau y galluedd i gydsynio i’r taliadau gael eu gwneud. Os yw’r person yn blentyn o dan 16 oed, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael taliadau uniongyrchol.
192.Ym mhob achos, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y plentyn, y bydd llesiant y plentyn yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy wneud y taliadau a bod gan y person sydd i gael y taliadau y gallu i’w rheoli ar ei ben ei hun neu gyda chymorth.
193.Mae adran 52 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol, neu’n caniatáu, i awdurdod lleol wneud taliadau (taliadau uniongyrchol) tuag at gostau diwallu anghenion gofalwr am gymorth.
194.Rhaid i’r taliadau uniongyrchol gael eu gwneud i’r gofalwr ei hun y mae’n rhaid iddo gydsynio i’r taliadau gael eu gwneud. Pan fo’r gofalwr yn oedolyn, neu’n blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed, rhaid i’r awdurdod lleol fod o’r farn bod gan y person hwnnw y galluedd i gydsynio i’r taliadau gael eu gwneud. Pan fo’r gofalwr yn blentyn o dan 16 oed, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael taliadau uniongyrchol.
195.Ym mhob achos, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y gofalwr a bod gan y gofalwr y gallu i reoli’r taliadau, naill ai ar ei ben ei hun neu gyda chymorth.
196.Mae adran 53 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch y pŵer yn y tair adran flaenorol (adrannau 50 i 52) i wneud rheoliadau, ac mae’n nodi ystod eang o faterion perthynol y cânt wneud darpariaeth yn eu cylch.
197.Mae is-adrannau (3) a (4) yn darparu y ceir arfer y pwerau i wneud rheoliadau i wneud darpariaeth mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol sy’n cyfateb i’r darpariaethau a wneir mewn perthynas â ffioedd o dan Ran 5. Fel enghraifft, gallai rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y swm y mae’n rhaid i berson ei dalu drwy ad-daliad neu gyfraniad.
198.Mae is-adran (5) yn darparu bod rhaid i reoliadau a wneir o dan adrannau 50 i 52 ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gymryd camau penodedig i sicrhau bod ‘personau perthnasol’ (fel y’u diffinnir yn is-adran (6)) yn cael eu galluogi i wneud dewisiadau deallus ynghylch y defnydd o daliadau uniongyrchol.
199.Mae is-adran (7) yn darparu bod rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 51 beidio â’i gwneud yn ofynnol i daliadau uniongyrchol a wneir i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn fod yn ddarostyngedig i ofyniad i ad-dalu costau’r awdurdod lleol pan fo’r person yn cael budd-dal o fewn categori penodedig.
200.Mae is-adrannau (9) a (10) yn darparu y gall derbynnydd taliadau uniongyrchol brynu gwasanaethau gan unrhyw berson, gan gynnwys yr awdurdod lleol ei hun ac, mewn achos o’r fath, caiff yr awdurdod lleol godi ffi er ei fod, fel arall, o dan ddyletswydd i ddiwallu’r anghenion o dan sylw.
201.Mae adran 54 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth ar gyfer person y mae’n ofynnol iddo ddiwallu ei anghenion. Rhaid adolygu’r cynlluniau yn gyson. Os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod amgylchiadau person wedi newid, rhaid iddo wneud asesiad newydd a diwygio’r cynllun.
202.Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynglŷn â’r modd y caiff y cynllun ei lunio, yr hyn y mae’n rhaid iddo ei gynnwys a threfniadau ar gyfer ei adolygu a’i ddiwygio. Rhaid i’r rheoliadau nodi pwy a gaiff ofyn am adolygiad o’r cynllun (ar ei ran ei hun neu ar ran eraill), pryd y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio â chais am adolygiad o’r cynllun a phryd y caiff gwrthod cais o’r fath. Mae’r adran hefyd yn nodi pwy y mae’n rhaid ei gynnwys yn y broses o lunio, adolygu a diwygio cynlluniau.
203.Caiff y broses o lunio, adolygu neu ddiwygio cynllun gofal a chymorth gysylltu â’r broses o lunio, etc cynlluniau gan gyrff eraill ar gyfer y person o dan sylw.
204.Mae adran 55 yn nodi enghreifftiau o’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn y rheoliadau a wneir o dan adran 54(5).
205.Mae adran 56 yn darparu ar gyfer yr hyn sydd i ddigwydd pan fo person y mae arno anghenion am ofal a chymorth y mae’n ofynnol i awdurdod lleol eu diwallu yn symud o ardal un awdurdod lleol i un arall.
206.Rhaid i’r awdurdod lleol (yr ‘awdurdod anfon’) sydd o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion y person, pan gaiff ei hysbysu bod y person yn bwriadu symud i ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru, hysbysu’r awdurdod arall hwnnw (yr ‘awdurdod derbyn’) am fwriad y person i symud. Rhaid iddo hefyd ddarparu copi i’r awdurdod hwnnw o gynllun gofal a chymorth y person.
207.Rhaid i’r ‘awdurdod anfon’ hefyd ddarparu unrhyw wybodaeth arall am y person, ynghyd â gwybodaeth am ofalwr y person, os oes un (er enghraifft copi o gynllun cymorth y gofalwr) y mae’r ‘awdurdod derbyn’ yn gofyn amdani.
208.Pan fo’r ‘awdurdod derbyn’ wedi ei fodloni bod y person yn symud i’w ardal, rhaid iddo hysbysu’r ‘awdurdod anfon’ am hyn a darparu gwybodaeth briodol i’r person (a’i ofalwr os oes un ganddo). Os yw’r person yn blentyn, rhaid iddo hefyd ddarparu gwybodaeth briodol i unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
209.Rhaid i’r ‘awdurdod derbyn’ asesu’r person, gan dalu sylw penodol i unrhyw newid yn anghenion gofal a chymorth y person sy’n deillio o’r symud. Rhaid iddo hefyd roi sylw i’r cynllun gofal a chymorth y mae’r ‘awdurdod anfon’ yn ei anfon ymlaen.
210.Ar y diwrnod y mae’r person yn symud i’w ardal, os nad yw’r ‘awdurdod derbyn’ wedi gwneud asesiad eto, rhaid iddo ddiwallu’r anghenion gofal a chymorth a nodir yn y cynllun a luniwyd gan yr ‘awdurdod anfon’. Rhaid iddo wneud hynny hyd nes y bydd wedi cwblhau ei asesiad ei hun ynghyd ag unrhyw gamau eraill y mae angen eu cymryd.
211.Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch y camau sydd i’w cymryd, y materion y mae’n rhaid i’r ‘awdurdod derbyn’ roi sylw iddynt ac achosion pan na fo’r dyletswyddau yn yr adran hon yn gymwys o bosibl.
212.Mae adran 57 yn darparu y ceir gwneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety y mae person yn ei ffafrio.
213.Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson dalu rhai neu bob un o gostau’r llety y mae’n ei ffafrio, i’r graddau y maent yn uwch na’r costau a dynnid fel arfer wrth ddarparu llety addas.
214.Mae adran 58 yn darparu ar gyfer gwarchod eiddo symudol person os gofelir amdano i ffwrdd o’i gartref. O dan yr amgylchiadau hyn, mae gan awdurdod lleol ddyletswydd i warchod eiddo symudol y person ac at y diben hwn, mae’n gallu mynd i mewn i fangre’r person a chymryd camau eraill er mwyn atal neu liniaru unrhyw golled neu ddifrod. Ni cheir arfer y pwerau hyn heb gael y cydsyniad angenrheidiol i’r camau gael eu cymryd.
215.Cyn arfer ei ddyletswyddau o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol, yn achos oedolyn, plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed y mae ganddo alluedd neu blentyn o dan 16 oed y mae ganddo ddealltwriaeth ddigonol, gael ei gydsyniad.
216.Pan fo’r person yn oedolyn nad oes ganddo alluedd, rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i roi cydsyniad ar ran yr oedolyn. Pan na fo person awdurdodedig, rhaid i’r awdurdod lleol fodloni ei hun y byddai cymryd camau er lles pennaf yr oedolyn.
217.Pan fo’r person yn blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed nad oes ganddo alluedd, rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i roi cydsyniad ar ran y plentyn. Pan na fo person awdurdodedig, rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
218.Pan fo’r person yn blentyn sy’n 16 oed nad oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol, rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
219.Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i gael y cydsyniad angenrheidiol, ond os nad yw wedi llwyddo i wneud hynny, nid yw’r ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i atal neu liniaru unrhyw golled bellach yn gymwys.
220.Rhaid i swyddog sydd wedi ei awdurdodi i arfer pwerau o dan yr adran hon, os gofynnir iddo wneud hynny, roi ei awdurdodiad. Mae’n drosedd rhwystro’r pŵer rhag cael ei arfer.
221.Gall awdurdod lleol adennill treuliau rhesymol a dynnir ond dim ond oddi wrth oedolyn mewn perthynas â’r camau a gymerir i warchod eiddo’r oedolyn.
222.Mae adran 59 yn darparu y caiff awdurdod lleol osod ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth neu gymorth. Ni chaiff ffi o’r fath fod yn ffi am ddim mwy na’r costau a dynnir gan yr awdurdod lleol wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn cael ei chodi amdanynt. Mae is-adran (3) yn cynnwys eithriad i’r cynigiad hwn, sy’n caniatáu i awdurdod lleol godi swm ychwanegol o dan yr amgylchiadau a nodir yn yr is-adran. Mae pŵer yr awdurdod lleol i osod ffi yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adrannau 61 a 62 ac i’r dyletswyddau yn adrannau 63, 66 a 67.
223.Mae adran 60 yn nodi’r personau y caniateir i ffioedd gael eu gosod arnynt am ddarparu gofal a chymorth (neu, pan fo’n berthnasol, cymorth).
224.Pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu i oedolyn (p’un ai i ddiwallu anghenion yr oedolyn ei hun neu i ddiwallu anghenion gofalwr yr oedolyn), caniateir i’r ffi gael ei gosod ar yr oedolyn hwnnw.
225.Pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu i blentyn (p’un ai i ddiwallu anghenion y plentyn ei hun neu i ddiwallu anghenion gofalwr y plentyn), caniateir i’r ffi gael ei gosod ar unrhyw oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Pan fo anghenion plentyn yn cael eu diwallu drwy ddarparu rhywbeth i oedolyn, caniateir i’r ffi gael ei gosod ar yr oedolyn hwnnw.
226.Pan fo’r ffi mewn cysylltiad â chymorth a ddarperir i ofalwr, caniateir i ffi gael ei gosod ar ofalwr sy’n oedolyn, neu yn achos gofalwr sy’n blentyn, ar unrhyw oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
227.Mae adran 61 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y ffordd y mae awdurdodau lleol yn arfer eu pwerau i godi ffi am wasanaethau gofal cymdeithasol. Mae is-adrannau (2) a (3) yn cynnwys enghreifftiau o’r ddarpariaeth y gellid ei gwneud yn y rheoliadau. Er enghraifft, gellid gwneud darpariaeth i bennu’r uchafsymiau y gellir eu codi am ddarparu gwasanaethau ar gyfer person, yr amgylchiadau pan ellid gosod ffi neu’r defnydd o unrhyw fformiwla i benderfynu’r ffi.
228.Mae adran 62 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n datgymhwyso pŵer awdurdod lleol i osod ffi ac a gaiff ei gwneud yn ofynnol, yn hytrach, i’r awdurdod lleol ddarparu gofal a chymorth neu gymorth yn rhad ac am ddim.
229.Mae adran 63 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol o adnoddau person pan fo wedi dod i’r casgliad y bydd yn diwallu ei anghenion am ofal a chymorth neu gymorth.
230.Mae adran 64 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y ffordd y mae asesiadau ariannol i’w cynnal gan awdurdod lleol. Rhaid i’r rheoliadau ddarparu ar gyfer cyfrifo incwm a chyfalaf person cymwys. Hefyd, cânt ddarparu ar gyfer y graddau y mae’r naill neu’r llall i’w ystyried neu i’w ddiystyru wrth gyfrifo’r ffioedd sydd i’w gosod, yr amgylchiadau pan ystyrir bod gan berson adnoddau ariannol uwchlaw trothwy penodedig a’r amgylchiadau pan fydd rhaid, neu pan ganiateir, cynnal asesiad ariannol newydd.
231.Mae adran 65 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n nodi’r amgylchiadau pan ddatgymhwysir y ddyletswydd i gynnal asesiad ariannol.
232.Mae adran 66 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddyfarnu, yng ngoleuni’r asesiad ariannol y mae wedi ei gynnal yn unol â gofynion rheoliadau a wneir o dan adran 64, a yw’n rhesymol ymarferol i berson dalu ei ffi safonol am y gwasanaeth ac, os nad ydyw, pa swm y mae’n rhesymol ymarferol i’r person ei dalu (os oes un). Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â dyfarnu ynghylch y gallu i dalu ffi am ofal a chymorth neu gymorth.
233.Mae adran 67 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi effaith i’r dyfarniad ynghylch gallu person i dalu ffi (fel y’i dyfarnwyd yn unol â gofynion adran 66 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan yr adran honno). Mae is-adran (2) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi’r amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd hon yn gymwys.
234.Mae adran 68 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i berson y mae ei anghenion yn cael eu diwallu gan awdurdod lleol, neu y mae ei anghenion yn mynd i gael eu diwallu (yn unol ag adrannau 35 i 45), wneud trefniadau gyda’r awdurdod lleol hwnnw i ohirio unrhyw ffioedd a osodir ar y person mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaethau hynny. Gelwir trefniant a wneir o dan yr adran hon yn “gytundeb ar daliadau gohiriedig”. Caiff y rheoliadau a gaiff Gweinidogion Cymru eu gwneud o dan yr adran hon bennu, er enghraifft, a ganiateir i log gael ei godi a hyd y cytundeb ar daliadau gohiriedig.
235.Mae adran 69 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch gallu awdurdod lleol i osod ffi am ddarparu gwasanaethau ataliol a chynhorthwy (a ddarperir yn unol ag adrannau 15 a 17). Mae is-adran (2) yn atal y rheoliadau hynny rhag gwneud darpariaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i berson dalu ffi o dan yr adran hon os oes ffi eisoes wedi ei gosod yn unol ag adran 59, ac yn atal y ffi rhag cwmpasu unrhyw beth ac eithrio’r gost o ddarparu’r gwasanaethau neu’r cynhorthwy y mae’r ffi yn ymwneud ag ef. Mae is-adran (2) hefyd yn atal ffi rhag cael ei gosod ar blentyn am wasanaethau a ddarperir yn unol ag adrannau 15 a 17.
236.Mae adran 70 yn darparu ar gyfer adennill ffioedd a osodir gan awdurdod lleol o dan y Rhan hon, ynghyd ag unrhyw gostau a dynnir wrth geisio adennill ffioedd o’r fath. Ni chaiff yr awdurdod lleol adennill ffioedd pe gellid bod wedi ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig, oni bai bod yr awdurdod wedi ceisio ymrwymo i un ond bod y person y mae’r arian yn ddyledus arno wedi gwrthod gwneud hynny. Mae is-adran (3) yn caniatáu i awdurdod lleol geisio adennill arian sy’n ddyledus iddo drwy’r llysoedd ynadon (yn ogystal ag yn y llysoedd sifil). Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau yn unol ag is-adran (8) i wneud darpariaeth bellach, er enghraifft, mewn perthynas â dyddiadau ad-dalu a chodi llog.
237.Mae adran 71 yn caniatáu i awdurdod lleol, o dan yr amgylchiadau priodol, greu arwystl dros fuddiant person mewn tir os yw’r person hwnnw yn methu â thalu swm y gall awdurdod lleol ei adennill o dan y Rhan hon, er mwyn sicrhau bod y swm sy’n ddyledus ganddo yn cael ei dalu.
238.Mae adran 72 yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag adennill ffioedd a osodir yn unol â’r Rhan hon pan fo unigolyn wedi trosglwyddo asedau i berson arall er mwyn osgoi talu ffioedd am wasanaethau i ddiwallu angen am ofal a chymorth neu gymorth. Pan fo’r trosglwyddiad wedi ei wneud am y rhesymau neu o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (1), caiff y person y trosglwyddwyd yr asedau iddo ddod yn atebol i wneud y taliad i’r awdurdod lleol. Mae is-adran (7) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu’r achosion pan na osodir atebolrwydd am y ffioedd ar y trosglwyddai.
239.Mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch rhwymedigaeth awdurdod lleol i gynnal adolygiad o benderfyniad a wneir ynglŷn â’r ffioedd a osodir o dan adran 59, dyfarniad a wneir yn unol ag adran 66 neu benderfyniadau sy’n ymwneud ag atebolrwydd o dan adran 72.
240.Caiff y rheoliadau hynny hefyd gynnwys darpariaeth i bennu’r weithdrefn sydd i’w dilyn, yn ogystal â phwy a gaiff ofyn am yr adolygiad a’r cyfnod o amser y mae cais am adolygiad i’w wneud ynddo.
241.Mae’r Rhan hon yn disodli’r mwyafrif o bwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu cymorth i blant a theuluoedd a nodir yn Rhan 3 o Ddeddf Plant 1989 (‘Deddf 1989’) ac Atodlen 2 iddi. Bydd Rhan 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi yn parhau i fod yn gymwys o ran awdurdodau lleol yn Lloegr ond ni fyddant yn gymwys bellach o ran Cymru.
242.Nid yw’r hawliau a’r dyletswyddau sydd wedi eu cynnwys yn adran 17 o Ddeddf 1989 – darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill – wedi ei hailadrodd yn y Rhan hon ond maent wedi eu cynnwys yn y ddarpariaeth a wneir yn Rhannau 2, 3 a 4 o’r Ddeddf, er nad yw’r cysyniad o blentyn “mewn angen” wedi ei ailadrodd yn y Ddeddf hon.
243.Mae’r cysyniad o lesiant fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau arni mewn cysylltiad â phlant, sy’n mynd drwy gydol Deddf 1989 wedi ei ddisodli yn y Ddeddf hon gyda’r gofyniad i hyrwyddo “llesiant” y plentyn. Mae llesiant wedi ei ddiffinio yn adran 2 o’r Ddeddf ac mae’n gymwys mewn perthynas â phlant ac oedolion at ddibenion y Ddeddf; mae’n cynnwys unrhyw un neu rai o’r wyth mater a nodir yn adran 2(2) ac mewn perthynas â phlentyn bydd hefyd yn cynnwys –
datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol y plentyn, a
“llesiant” y plentyn fel y diffinnir y gair hwnnw at ddibenion Deddf Plant 1989.
244.Mae adran 74 yn darparu’r dehongliad o’r termau allweddol a ddefnyddir yn y Rhan hon, yn benodol y diffiniad o “derbyn gofal” mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.
245.Mae adran 75 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau lleol i ddarparu llety i’r plant sy’n derbyn gofal ganddo o fewn ardal yr awdurdod lleol a hwnnw’n llety sy’n diwallu anghenion y plentyn. (O ran lleoliadau y tu allan i ardal, caiff Gweinidogion Cymru osod gofynion mewn rheoliadau, a wneir yn rhinwedd adrannau 87 a 90. Mae’r adrannau hynny yn eu tro yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ac yn nodi enghreifftiau o’r ffordd y caiff y pŵer hwnnw ei ddefnyddio i wneud darpariaeth ynghylch lleoli plant sy’n derbyn gofal y tu allan i ardal yr awdurdod lleol).
246.Mae adran 75(3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i fantais cael ystod o lety ar gael, a nifer digonol o rieni maeth neu gartrefi plant.
247.Mae adran 76 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn y mae’n ymddangos bod arno angen llety oherwydd nad oes person â chyfrifoldeb rhiant i ofalu amdano, neu sydd ar goll neu wedi ei adael, neu y mae’r person sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto wedi ei atal, am ba reswm bynnag, rhag darparu llety neu ofal i’r plentyn. Mae’n darparu ymhellach, os yw awdurdod lleol yn darparu llety mewn ardal ac nad yr ardal honno yw ardal yr awdurdod lleol y mae’r plentyn fel arfer yn byw ynddi, yna y gall yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal arall honno gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety.
248.Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd ddarparu llety i blentyn sydd wedi cyrraedd 16 oed, pe byddai methu â gwneud hynny yn andwyo llesiant y plentyn yn ddifrifol.
249.Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu llety ar gyfer plentyn os yw unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gwrthwynebu ac yn fodlon ac yn gallu darparu llety neu drefnu bod llety yn cael ei ddarparu. Gall person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn hefyd symud y plentyn ar unrhyw adeg o’r llety a ddarperir gan yr awdurdod lleol. Nid yw’r pwerau hyn sydd gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gymwys yn achos plentyn sy’n 16 oed neu drosodd ac sy’n cytuno i lety gael ei ddarparu iddo o dan yr adran hon. Nid ydynt yn arferadwy ychwaith os oes unrhyw un neu rai o’r canlynol yn cytuno i’r plentyn gael ei letya felly: person sydd â gorchymyn preswylio mewn perthynas â’r plentyn; gwarcheidwad arbennig y plentyn (a benodwyd yn unol ag adran 14A o Ddeddf Plant 1989); person sydd â gofal am y plentyn yn rhinwedd Gorchymyn gan yr Uchel Lys.
250.Mae adran 77 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu llety i blant:
sy’n cael eu symud o’u cartrefi neu sy’n cael eu cadw oddi yno o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989;
sy’n ddarostyngedig i’w hamddiffyn gan yr heddlu o dan adran 46(3)(f) o Ddeddf Plant 1989;
y gofynnir i’r awdurdod lleol eu derbyn o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;
sydd ar remánd yn rhinwedd paragraff 4 o Atodlen 1 neu baragraff 6 o Atodlen 8 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000;
sydd ar remánd yn rhinwedd paragraff 21 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008;
sydd ar remánd yn rhinwedd paragraff 10 o’r Atodlen i Ddeddf Troseddau Stryd 1959; neu sy’n ddarostyngedig i orchymyn adsefydlu ieuenctid sy’n gosod gofyniad preswylio neu faethu.
251.Pan fo awdurdod lleol yn tynnu costau o ganlyniad i symud plentyn o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989, ei gadw’n gaeth o dan adran 38 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 neu pan na ddarperir llety i’r plentyn gan yr awdurdod lleol, na chan y bwrdd iechyd lleol na’r Ymddiriedolaeth GIG (neu gan gyrff cyfatebol yn Lloegr), gellir adennill y costau hyn oddi ar yr awdurdod lleol lle y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer.
252.Mae adran 78 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn. Mae gan yr awdurdod lleol hefyd rwymedigaethau i ddefnyddio gwasanaethau sydd ar gael i blant y mae eu rhieni eu hunain yn gofalu amdanynt er budd y plentyn, pan fo’n rhesymol i’r awdurdod wneud hynny.
253.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, cyn iddo wneud unrhyw benderfyniad am blentyn y mae’n gofalu amdano, neu’n bwriadu gofalu amdano, yn ogystal â’i ddyletswydd i roi sylw i’r ystyriaethau yn adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf (sy’n nodi dyletswyddau hollgyffredinol awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf), roi sylw i farn, dymuniadau a theimladau unrhyw un sy’n berthnasol ym marn yr awdurdod ac ystyried crefydd, hil, diwylliant ac iaith y plentyn.
254.Caiff awdurdod lleol arfer ei ddyletswyddau mewn cysylltiad a phlentyn mewn modd nad yw yn unol â’i ddyletswyddau o dan yr adran hon (neu adran 6) os ymddengys ei bod yn angenrheidiol iddo wneud hynny er mwyn amddiffyn aelodau o’r cyhoedd rhag niwed difrifol.
255.Mae adran 81 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn wneud trefniadau ar gyfer lletya’r plentyn mewn lleoliad sy’n gyson â’i lesiant. Mae is-adran (6) yn cynnwys diffiniad o “lleoliad”.
256.Mae is-adrannau (2) a (3) yn disgrifio’r lleoliadau y mae rhaid i awdurdod leol roi blaenoriaeth uwch iddynt, oni bai bod lleoliadau o’r fath yn anghydnaws â llesiant y plentyn neu nad ydynt yn rhesymol ymarferol. Rhaid i awdurdod lleol sy’n methu â lleoli plentyn yn unol ag is-adrannau (2) a (3) leoli’r plentyn yn y “lleoliad mwyaf priodol” sydd ar gael yn lle hynny.
257.Mae is-adrannau (7), (8) a (9) gynnwys materion y mae rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth benderfynu beth yw lleoliad priodol.
258.Os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni y dylai’r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu rhaid iddo roi sylw i’r gofynion yn is-adrannau (10), (11) a (12) sy’n galluogi’r plentyn, o dan amgylchiadau priodol, i gael ei leoli gyda’i ddarpar rieni mabwysiadol.
259.Mae is-adran (13) yn rhoi pŵer i’r awdurdod lleol i benderfynu ar delerau’r trefniadau y mae’n eu gwneud ar gyfer lleoli plentyn o dan yr adran hon, gan gynnwys trefniadau o ran talu.
260.Mae is-adran (13) hefyd yn rhoi pŵer i’r awdurdod lleol i benderfynu ar y telerau ar gyfer gosod plentyn gyda’i ddarpar riant mabwysiadol o dan yr adran hon; caiff wneud taliadau i bersonau o’r fath. Mae’r pŵer hwn yn ddarostyngedig i orchymyn o dan adran 49 o Ddeddf Plant 2004. Mae adran 49 o Ddeddf 2004 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth i osod lefel y taliadau i’w gwneud i rieni maeth.
261.Mae adran 83 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i unrhyw gynllun gofal a chymorth (a lunnir o dan adran 54) ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol gael ei adolygu a’i gynnal o dan yr adran hon. Rhaid i’r awdurdod lleol gynnal asesiad newydd a diwygio’r cynllun os yw o’r farn bod amgylchiadau’r plentyn wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun presennol.
262.Os nad oes gan y plentyn gynllun gofal a chymorth pan ddaw yn blentyn sy’n derbyn gofal am y tro cyntaf, rhaid i’r awdurdod drefnu ar gyfer llunio cynllun o’r fath. Rhaid cynnwys y plentyn y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef, ynghyd ag unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, wrth lunio, adolygu neu ddiwygio’r cynllun.
263.Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau (yn unol ag is-adran (5)) ynghylch llunio’r cynlluniau, eu cynnwys, eu hadolygu a’u diwygio; nodi manylion y personau hynny y caniateir iddynt wneud cais am adolygiad o’r cynllun a’r amgylchiadau pan gaiff awdurdod lleol wrthod cais o’r fath a phan na chaiff wneud hynny.
264.Os oes cynlluniau eraill sy’n cael eu llunio ar gyfer y plentyn gan gyrff eraill, caniateir i’r cynlluniau hynny gael eu cynnwys gyda’r cynllun gofal a chymorth. Mae is-adran (9) yn caniatáu i unrhyw ran o gynllun gofal a chymorth a gynhelir o dan yr adran hon gael ei thrin fel cynllun a lunnir o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 (cynlluniau gofal sy’n ymwneud â cheisiadau ar gyfer gorchmynion gofal) at ddibenion y Ddeddf honno.
265.Mae adran 85 yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud darpariaeth sy’n nodi’r amgylchiadau pan gaiff yr awdurdod lleol ofyn am gyfraniadau oddi wrth oedolion tuag at gynhaliaeth plentyn sy’n derbyn gofal. Mae’r ddarpariaeth yn Atodlen 1, ar y cyfan, yn ailddatgan y ddarpariaeth yn Rhan 3 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989; fodd bynnag, mae paragraff 1 o Atodlen 1 yn atal gofyn am unrhyw gyfraniad oddi wrth berson sydd o dan 18 oed (p’un ai’r plentyn sy’n derbyn gofal neu’r rhiant neu’r person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn o’r fath yw’r person hwnnw).
266.Mae adran 86 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i benderfynu ar ba delerau y caiff awdurdod lleol leoli plentyn sy’n derbyn gofal ganddo mewn cartref plant sy’n cael ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan Weinidogion Cymru (yn unol â phwerau o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989).
267.Mae adran 87 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud darpariaeth bellach ynghylch y ffordd y mae’n rhaid i awdurdod lleol arfer ei ddyletswyddau mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal ganddo.
268.Mae adrannau 88 i 94 yn cynnwys enghreifftiau o’r math o ddarpariaeth y caiff rheoliadau o’r fath ei gwneud.
269.Mae adran 88 yn cynnwys enghraifft o’r ffordd y gellid defnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 87 i osod gofynion ar awdurdodau lleol ynghylch yr amgylchiadau pan gaiff plant sy’n derbyn gofal gael ei leoli gyda’i riant neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant. Caiff rheoliadau o’r fath gynnwys gofynion ynghylch prosesau’r awdurdod lleol ar gyfer gwneud penderfyniadau; gofynion ynghylch goruchwylio’r plentyn neu archwilio’r plentyn yn feddygol; neu’r amgylchiadau pan ganiateir symud plant o’r man lle y mae’r plentyn yn byw.
270.Mae adran 89 yn cynnwys enghraifft o’r ffordd y gellid defnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 87 i wneud darpariaeth ynghylch lleoliadau a wneir yn unol â “threfniadau eraill” a ganiateir yn rhinwedd adran 81(6)(d). Caiff rheoliadau o’r fath bennu’r personau y mae’n rhaid eu hysbysu am unrhyw drefniadau arfaethedig gan gynnwys unrhyw newidiadau i’r trefniadau hynny; cyfleoedd y personau hynny i gyflwyno sylwadau; cadw cofnodion a threfniadau goruchwylio awdurdodau lleol.
271.Mae adran 90 yn cynnwys enghraifft o’r ffordd y gellid defnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 87 i osod gofynion ar awdurdod lleol y mae’n rhaid eu dilyn cyn iddo leoli plentyn sy’n derbyn gofal y tu allan i ardal yr awdurdod ac ar gyfer sicrhau llesiant y plentyn pe bai lleoliad o’r fath y tu allan i ardal yn digwydd.
272.Mae adran 91 yn cynnwys enghraifft o’r ffordd y gellid defnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 87 i osod gofynion ar awdurdod lleol wrth wneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â lleoli plentyn pan fydd y plentyn ym mhedwerydd cyfnod allweddol ei addysg, fel y darperir ar ei gyfer o dan Ran 7 o Ddeddf Addysg 2002.
273.Mae adran 92 yn cynnwys enghraifft o’r ffordd y gellid defnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 87 i wneud darpariaeth ynghylch lleoli plant sy’n derbyn gofal mewn gofal maeth neu gyda darpar fabwysiadwyr. Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol bod trefniadau’n cael eu gwneud ynghylch iechyd ac addysg y plentyn; neu fod unrhyw lety y lleolir y plentyn ynddo yn ddarostyngedig i’w arolygu gan yr awdurdod lleol.
274.Mae adran 93 yn cynnwys enghraifft o’r ffordd y gellid defnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 87 i wneud darpariaeth ynghylch cymeradwyo rhieni maeth gan yr awdurdod lleol. Caiff rheoliadau o’r fath, er enghraifft:
cynnwys darpariaeth sy’n pennu na chaniateir i blentyn gael ei leoli gyda rhieni maeth hyd nes bo’r awdurdod lleol wedi cymeradwyo eu penodiad fel rhieni maeth;
cynnwys darpariaeth ynghylch sefydlu gweithdrefn annibynnol i adolygu’r broses o gymeradwyo rhieni maeth, gan gynnwys sefydlu panel a gynullir gan Weinidogion Cymru;
gwneud darpariaeth ynghylch dyletswyddau a phwerau panel o’r fath;
gwneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau o’r panel a’r modd y cânt eu talu a’r trefniadau ar gyfer adolygu penderfyniad y panel a’r gweithdrefnau ar gyfer monitro adolygiadau o’r fath; ac
gwneud darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i gontractio gyda sefydliad arall i arfer adolygiad annibynnol o benderfyniadau o’r fath.
275.Mae adran 94 yn cynnwys enghraifft o’r ffordd y gellid defnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 87 i wneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan gaiff awdurdod lleol wneud trefniadau gyda sefydliadau neu bersonau eraill i gyflawni dyletswyddau’r awdurdod lleol a osodwyd gan y rheoliadau.
276.Mae adran 95 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol hyrwyddo cyswllt rhwng plentyn y mae’n gofalu amdano a rhieni’r plentyn, eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, perthnasau a ffrindiau’r plentyn ac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn, cyhyd â bod hynny yn gyson â llesiant y plentyn a’i bod yn rhesymol ymarferol gwneud hynny. Rhaid i’r awdurdod hefyd sicrhau bod rhieni’r plentyn ac eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn cael eu hysbysu’n rheolaidd am y man lle y mae’r plentyn yn cael ei letya. Yn yr un modd, rhaid i’r personau hynny sicrhau eu bod yn hysbysu’r awdurdod lleol am unrhyw newidiadau i’w cyfeiriad.
277.Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn drosedd i riant neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sy’n derbyn gofal fethu â hysbysu’r awdurdod lleol am ei gyfeiriad.
278.Mae adran 95 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sy’n cymryd drosodd y cyfrifoldeb am ddarparu llety i blentyn oddi ar awdurdod lleol arall, hysbysu rhieni’r plentyn ac unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Nid yw’n ofynnol, fodd bynnag, i awdurdod lleol wneud hynny pe bai hynny yn peryglu llesiant y plentyn oni bai bod y plentyn o dan 16 oed ac yn cael ei letya o dan drefniadau gwirfoddol a wnaed yn rhinwedd adran 76.
279.Mae adran 96 yn rhoi pŵer i awdurdod lleol i wneud taliadau mewn perthynas â threuliau teithio, cynhaliaeth a threuliau eraill. Caiff taliadau o’r fath gael eu gwneud i riant neu i unrhyw un sy’n gysylltiedig â phlentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol pan fo’r person hwnnw yn ymweld â’r plentyn. Caiff yr awdurdod wneud taliadau hefyd i blentyn neu i unrhyw berson ar ran plentyn, pan fo plentyn yn ymweld â’i rieni neu unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r plentyn. Dim ond os byddai gwneud yr ymweliad hebddynt yn achosi caledi ariannol gormodol ac os yw’r amgylchiadau yn cyfiawnhau taliadau o’r fath y gall taliadau gael eu gwneud.
280.Mae adran 97 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau a chyswllt rhwng cynrychiolydd yr awdurdod a phlentyn sy’n derbyn gofal ganddo; plentyn a arferai dderbyn gofal ganddo; neu gategorïau eraill o blant a bennir mewn rheoliadau y caniateir eu gwneud o dan is-adran (2). Rhaid i gynrychiolydd yr awdurdod lleol drefnu i ddarparu cyngor, cymorth a chynhorthwy i’r plentyn. Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon hefyd wneud darpariaeth ynghylch amlder yr ymweliadau; yr amgylchiadau pan ganiateir i ymweliadau ddigwydd; a swyddogaethau cynrychiolwyr.
281.Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod gan ei gynrychiolydd y sgiliau a’r profiad priodol i gyflawni’r swyddogaethau.
282.Mae’r adran hon yn ailddatgan, i raddau helaeth, ddarpariaeth a wneir gan adran 23ZA o Ddeddf Plant 1989; fodd bynnag mae’r pŵer gwneud rheoliadau o fewn is-adran (1)(c) hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau gategorïau ychwanegol o blant y byddai’r ddyletswydd y darperir ar ei chyfer yn yr adran hon yn gymwys iddynt ac mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau o’r fath wneud darpariaeth ynghylch pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau mewn perthynas â phlant o’r fath.
283.Mae adran 98 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benodi person annibynnol i ymweld ag unrhyw blentyn y mae’r awdurdod yn gofalu amdano, os yw’r plentyn yn dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu pe byddai gwneud hynny’n fuddiol i’r plentyn.
284.Rhaid i berson a benodir yn ymwelydd o dan yr adran hon ymgyfeillio â’r plentyn a’i gynghori a chaiff hawlio gan yr awdurdod dreuliau a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
285.Daw penodiad yr ymwelydd annibynnol i ben unwaith y bydd y plentyn yn peidio â derbyn gofal gan yr awdurdod; pan fydd yr ymwelydd yn ymddiswyddo; neu os bydd yr awdurdod lleol yn terfynu’r penodiad. Ni chaniateir penodi ymwelydd o dan yr adran hon os oes gan blentyn ddealltwriaeth ddigonol a’i fod yn gwrthwynebu bod y penodiad hwnnw yn cael ei wneud. Os yw’r plentyn yn gwrthwynebu cael ymwelydd penodol, nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol benodi person arall.
286.Caiff rheoliadau y caniateir eu gwneud o dan is-adran (9) bennu’r amgylchiadau pan fo person i’w ystyried fel un sy’n annibynnol.
287.Mae adran 99 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benodi swyddog adolygu annibynnol i adolygu achos pob plentyn sy’n derbyn gofal ganddo. Rhaid penodi’r swyddog adolygu annibynnol cyn i achos y plentyn gael ei adolygu gyntaf yn unol ag adran 102. Mae is-adran (4) yn darparu bod rhaid i swyddog adolygu annibynnol fod yn berson sy’n dod o fewn categori a nodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
288.Mae adran 100 yn nodi swyddogaethau’r swyddogion adolygu annibynnol. Mae is-adran (1)(d) yn caniatáu i Weindiogion Cymru wneud rheoliadau sy’n rhagnodi swyddogaethau ychwanegol i swyddogion adolygu annibynnol ac mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gydweithredu â swyddog adolygu annibynnol mewn achos pan nad yw’r swyddog adolygu annibynnol yn swyddog i’r awdurdod.
289.Mae adran 101 yn bŵer i’r Arglwydd Ganghellor i wneud rheoliadau i estyn swyddogaethau “swyddog achosion teuluol Cymru” (sydd wedi ei ddiffinio yn adran 197 o’r Ddeddf) mewn perthynas ag achosion a atgyfeirir o dan adran 100(3). Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon hefyd wneud darpariaeth ynghylch y modd y mae swyddog achosion teuluol Cymru yn arfer ei swyddogaethau. Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon ond gael eu gwneud gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Mae’r adran hon yn ailddatgan darpariaeth a wnaed gan adran 25C o Ddeddf Plant 1989.
290.Mae adran 102 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i achos plentyn sy’n derbyn gofal gael ei adolygu. Mae is-adran (2) yn cynnwys enghreifftiau o faterion y caniateir eu cynnwys mewn rheoliadau o’r fath.
291.Mae adran 103 yn cynnwys dyletswydd sy’n eu gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ymgyfeillio â phlentyn y mae wedi peidio â gofalu amdano, ei gynghori a’i gynorthwyo, gyda’r bwriad o hyrwyddo llesiant y plentyn.
292.Mae adran 104 yn nodi’r categorïau gwahanol o bobl ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf hon. Mae gan bob categori hawlogaeth i gael cymorth o fath gwahanol neu ar lefel wahanol. Mae is-adran (2) yn cynnwys disgrifiad o’r chwe chategori gwahanol.
293.Mae person ifanc categori 1 yn blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed, sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sydd wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol (yng Nghymru neu yn Lloegr) am gyfnod (sydd wedi ei bennu mewn rheoliadau), a ddechreuodd ar ôl iddo gyrraedd oedran sydd wedi ei bennu mewn rheoliadau ac a ddaeth i ben ar ôl i’r plentyn gyrraedd 16 oed. Mae’r diffiniad hwn yn ailddatgan y diffiniad o “eligible child” ym mharagraff 19B(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989.
294.Mae person ifanc categori 2 yn blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed, nad yw’n derbyn gofal mwyach gan awdurdod lleol (yng Nghymru nac yn Lloegr) ond a arferai fod yn berson ifanc categori 1. Mae’r diffiniad o berson ifanc categori 2 yn atgynhyrchu’r diffiniad o “relevant child” yn adran 23A o Ddeddf Plant 1989.
295.Mae person ifanc categori 3 yn person ifanc sy’n 18 oed neu drosodd, a arferai fod yn berson ifanc categori 2 ac a fyddai’n parhau i fod felly pe bai o dan 18 oed; neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed, ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd ddod i ben, yn berson ifanc categori 1. Mae’r diffiniad o berson ifanc categori 3 yn ailddatgan y diffiniad o “former relevant child” yn adran 23C o Ddeddf Plant 1989.
296.Mae person ifanc categori 4 yn berson ifanc categori 3 sydd o dan 25 oed (neu oedran llai a bennir mewn rheoliadau) ac y mae’r dyletswyddau o dan adrannau 105, 106, 107(3) a (10) a 110 wedi peidio â bod yn gymwys iddo, ac sydd hefyd wedi hysbysu’r awdurdod lleol ei fod yn dilyn, neu ei fod yn dymuno dilyn, addysg neu hyfforddiant. Mae’r diffiniad o berson ifanc categori 4 yn cwmpasu’r bobl ifanc hynny y gwneir darpariaeth ar eu cyfer o fewn adran 23CA o Ddeddf Plant 1989 (personau sy’n gymwys i gael cynhorthwy pellach i ddilyn addysg neu hyfforddiant). Bydd pobl ifanc o’r fath yn gallu cael cyngor a chynhorthwy yn rhinwedd “ailgysylltu” ag awdurdod lleol at ddibenion ceisio dilyn addysg neu hyfforddiant.
297.Mae person ifanc categori 5 yn berson ifanc sy’n 16 oed ond nad yw eto yn 21 oed, y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad ag ef (neu, os yw’r person yn 18 oed neu drosodd, yr oedd gorchymyn mewn grym pan gyrhaeddodd 18 oed). Bydd gan berson ifanc categori 5 yr hawlogaeth i gael yr un cymorth gan awdurdod lleol â’r hyn ddarperir i berson sy’n gymwys i gael cyngor a chynhorthwy o dan adran 24A o Ddeddf Plant 1989 (ar y sail ei fod yn berson sy’n gymwys i gael cyngor a chynhorthwy yn rhinwedd adran 24(1A)) o Ddeddf Plant 1989).
298.Mae person ifanc categori 6 yn berson ifanc nad yw eto wedi cyrraedd 21 oed; sy’n preswylio yng Nghymru; ac sydd, er nad yw’n derbyn gofal nac yn cael ei letya na’i faethu ar hyn o bryd, wedi bod yn derbyn gofal neu wedi ei letya neu ei faethu am gyfnod pan oedd rhwng 16 a 18 oed. Nid yw’r categori hwn yn cynnwys unrhyw un y mae modd ei gwmpasu gan y diffiniad o berson ifanc categori 5. Bydd gan berson ifanc categori 6 yr hawlogaeth i gael yr un cymorth gan awdurdod lleol â’r hyn a ddarperir i berson sy’n gymwys i gael cyngor a chynhorthwy o dan adran 24A yn rhinwedd adran 24(1B) o Ddeddf Plant 1989.
299.Mae is-adrannau (3) a (4) yn darparu eglurhad o’r term “yn derbyn gofal, wedi ei letya neu ei faethu” at ddibenion y diffiniad o berson ifanc categori 6.
300.Mae is-adran (5) yn egluro pa awdurdod lleol yw’r “awdurdod lleol cyfrifol” a’r “awdurdod lleol sy’n gyfrifol” at ddibenion darparu cymorth i bob un o’r categorïau o’r rhai sy’n gadael gofal a ddisgrifir yn is-adran (2).
301.Caiff rheoliadau gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru yn unol â’r pŵer yn is-adran (6) i bennu categorïau ychwanegol o berson ifanc sydd â hawlogaeth i gael cymorth o dan Ran 6 neu i addasu categorïau sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys y rhai nad ydynt i’w trin fel pe baent yn dod o fewn categori penodol ac i ddarparu ar gyfer pa awdurdod lleol fyddai’r “awdurdod lleol sy’n gyfrifol” am unrhyw bersonau ifanc ychwanegol a bennir felly.
302.Mae adran 105 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i gadw mewn cysylltiad â phersonau sy’n dod o fewn y diffiniad o berson ifanc categori 2 neu gategori 3, p’un a yw’r person hwnnw yn bresennol yn gorfforol o hyd yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw o hyd ai peidio. Os yw’r awdurdod lleol yn colli cysylltiad â pherson ifanc categori 2 neu gategori 3, rhaid iddo gymryd camau rhesymol i ailsefydlu’r cyswllt, ac yn achos person ifanc categori 2, rhaid iddo barhau i wneud hynny hyd nes y bydd yn llwyddo. Mae is-adran (4) yn pennu’r amgylchiadau pan fo’r dyletswyddau o dan yr adran hon mewn perthynas â phersonau ifanc categori 3 yn dod i ben.
303.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ailsefydlu’r cyswllt â pherson ifanc categori 6 (a oedd yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol) os yw’r awdurdod lleol wedi colli cysylltiad â’r person hwnnw. Mae’r adran hon yn ailddatgan darpariaeth a wnaed gan adrannau 23B a 23C o Ddeddf Plant 1989 (mewn cysylltiad â phersonau ifanc categori 2 a chategori 3) ac adran 24 (mewn cysylltiad â phersonau ifanc categori 6).
304.Mae adran 106 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol drefnu bod person ifanc sy’n dod o fewn y diffiniad o berson ifanc categori 1, 2, 3 neu 4, yn cael cynghorydd personol. Caiff swyddogaethau cynghorydd personol gael eu pennu mewn rheoliadau. Mae’r adran hon yn ailddatgan darpariaeth a wnaed ym mharagraff 19C o Atodlen 2 (mewn cysylltiad â phersonau ifanc categori 1), adrannau 23B (mewn cysylltiad â phersonau ifanc categori 2); 23C (mewn cysylltiad â phersonau ifanc categori 3); a 23CA (mewn cysylltiad â phersonau ifanc categori 4) o Ddeddf Plant 1989.
305.Mae adran 107 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal asesiad er mwyn dyfarnu pa gyngor a chymorth y mae eu hangen ar berson ifanc categori 1, tra bo’n derbyn gofal ac ar ôl iddo beidio â derbyn gofal. Mae’r ddarpariaeth hon yn ailddatgan y ddyletswydd sydd wedi ei chynnwys ym mharagraff 19B(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989.
306.Mae is-adrannau (2), (3) a (4) yn gymwys i berson ifanc sy’n berson ifanc categori 2 neu gategori 3 nad oes cynllun llwybr eisoes ar waith ar ei gyfer, ac i berson ifanc categori 4. Mewn achosion o’r fath, rhaid i’r awdurdod lleol gynnal asesiad i ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall y byddai’n briodol i’r awdurdod lleol eu darparu i’r person ifanc. Yn dilyn asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol lunio cynllun llwybr a’i adolygu’n gyson. Mae’r ddarpariaeth hon yn ailddatgan y rhwymedigaethau sydd wedi eu cynnwys yn adrannau 23B, 23C a 23CA o Ddeddf Plant 1989.
307.Mae diben a chynnwys gofynnol cynllun llwybr wedi eu pennu yn is-adran (7) sydd hefyd yn cynnwys pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru i ychwanegu materion i’w cynnwys mewn cynllun llwybr. Mae’r is-adran hon yn ailddatgan darpariaeth a wnaed yn adran 23E, paragraff 19B(4) o Atodlen 2, ac adrannau 23C(3)(b) a 23CA(3)(a) o Ddeddf Plant 1989.
308.Caiff rheoliadau ynghylch asesiadau y caniateir i Weinidogion Cymru eu gwneud, yn unol â’r pŵer yn is-adran (8), gynnwys darpariaeth ynghylch materion megis â phwy y dylid ymgynghori; y dull ar gyfer cynnal asesiadau a’u hamseriad a chadw cofnodion. Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu cynllun llwybr yn gyson, ac mae is-adran (11) yn darparu y ceir cynnal asesiad(au) neu adolygiad(au) yn unol â’r adran hon ar yr un adeg ag unrhyw asesiad neu adolygiad arall.
309.Mae adran 108 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, pan fydd yn ymgymryd ag asesiad neu’n llunio, cynnal neu adolygu cynllun llwybr plentyn sy’n derbyn gofal ganddo yn unol â’i rwymedigaethau o dan adran 107, ganfod a yw’r plentyn sy’n derbyn gofal a’i riant (rieni) maeth yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18. Mae “trefniant byw ôl-18” wedi ei ddiffinio yn is-adran (3). Pan ddymunir trefniant o’r fath, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu cyngor a chymorth i hwyluso trefniadau o’r fath oni bai na fyddai trefniant byw ôl-18 yn gyson â llesiant y person ifanc.
310.Mae adran 109 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 ddiogelu a hyrwyddo ei lesiant, ac (i’r graddau y bo’n ofynnol) darparu cymorth i’r person ifanc drwy ei gynnal, drwy ddarparu llety addas iddo ac unrhyw gymorth arall a bennir mewn rheoliadau. Caniateir darparu cymorth ar ffurf da neu mewn arian parod. Caiff rheoliadau y caniateir i Weinidogion Cymru eu gwneud yn unol â’r pŵer i wneud rheoliadau yn is-adran (1)(c) hefyd ddiffinio “llety addas”, a gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd landlordiaid neu addasrwydd darparwyr eraill llety y mae awdurdod lleol yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau ar ffurf cymorth o dan yr adran hon. Mae hyn yn ailddatgan y ddarpariaeth yn adran 23B o Ddeddf Plant 1989.
311.Mae adran 110(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi cymorth i berson ifanc categori 3 (i’r graddau y bo’n ofynnol i’w lesiant) drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc i’w alluogi i fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu’n chwilio am waith cyflogedig. Mewn achosion pan fo, neu pan fydd, person ifanc yn derbyn addysg neu hyfforddiant, rhaid i’r awdurdod lleol (i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc) gyfrannu at y treuliau a dynnwyd wrth fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael addysg neu hyfforddiant a gwneud grant i alluogi’r person ifanc i astudio neu hyfforddi. Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd wneud unrhyw beth arall yr ystyria’r awdurdod yn briodol i roi cymorth i berson ifanc categori 3. Gall y cynhorthwy a ddarperir fod ar ffurf da neu mewn arian parod.
312.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol fonitro unrhyw drefniant byw ôl-18 sydd yn ei le a darparu cyngor a chymorth i gynnal y trefniant hwnnw (gan gynnwys darparu cymorth ariannol i gyn-riant maeth).
313.Os yw’r person ifanc categori 3 yn dilyn cwrs addysg bellach neu uwch lawnamser yna mae is-adran (6) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol dalu’r “swm perthnasol” i’r person ifanc hwnnw yn unol â’i gynllun llwybr. Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety yn ystod y gwyliau i berson ifanc categori 3 sydd mewn addysg bellach neu uwch lawnamser pan nad yw llety yn ystod y tymor ar gael. Mae adran 116 yn cynnwys pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth atodol ynghylch rhoi cymorth i bobl ifanc mewn addysg bellach neu uwch, gan gynnwys, er enghraifft, y pŵer i bennu’r “swm perthnasol” ac i ddiffinio termau megis “gwyliau” neu “llawnamser”.
314.Os na ddarperir llety yna rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu digon o arian i’r person ifanc i sicrhau’r llety y mae ei angen. Mae’r is-adran hon yn ailddatgan, yn rhannol, ddarpariaeth a wnaed yn adran 23C o Ddeddf Plant 1989.
315.Mae adran 111 yn nodi pa bryd y daw dyletswyddau’r awdurdod cyfrifol tuag at berson ifanc categori 3 i ben.
316.Mae adran 112(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi cymorth i berson ifanc categori 4 (i’r graddau y bo’n ofynnol i’w anghenion addysg neu hyfforddiant) drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc i’w alluogi i fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant a thrwy wneud grant i alluogi’r person ifanc i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu hyfforddiant.
317.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol, pan fo person ifanc categori 4 yn dilyn addysg uwch, dalu’r swm perthnasol iddo yn unol â’i gynllun llwybr. Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu llety yn ystod y gwyliau i berson ifanc categori 4 sydd mewn addysg bellach neu uwch lawnamser pan nad yw ei lety yn ystod y tymor ar gael. Os nad yw llety o’r fath yn cael ei ddarparu yna rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu digon o arian i’r person ifanc i sicrhau’r llety y mae ei angen. Mae adran 116 yn cynnwys pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth atodol ynghylch rhoi cymorth i bobl ifanc mewn addysg bellach neu uwch, gan gynnwys, er enghraifft, y pŵer i bennu’r “swm perthnasol” ac i ddiffinio termau megis “gwyliau” neu “llawnamser”.
318.Mae’r adran hon yn ailddatgan darpariaeth a wnaed gan adran 23CA o Ddeddf Plant 1989.
319.Mae adran 113 yn nodi pa bryd y daw dyletswyddau’r awdurdod cyfrifol tuag at berson ifanc categori 4 i ben.
320.Mae adran 114 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ystyried a yw amodau penodedig yn cael eu bodloni gan bersonau ifanc sy’n bersonau ifanc categori 5 neu a fu gynt yn bersonau ifanc categori 5 i ddyfarnu graddau a natur ei rwymedigaethau i ddarparu cymorth i bobl ifanc o’r fath. Yr amodau (a bennir yn is-adran (2)) yw bod angen cymorth ar y person ifanc ac nad oes gan bwy bynnag yr oedd yn derbyn gofal ganddo y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori nac i ymgyfeillio ag ef. Os yw’r amodau hyn yn gymwys, yna rhaid i’r awdurdod lleol gynghori’r person ifanc neu ymgyfeillio ag ef a chaiff ddarparu cymorth.
321.Mae is-adran (4) yn nodi’r math o gymorth y caiff yr awdurdod cyfrifol ei ddarparu i berson ifanc categori 5. Caiff y cymorth fod ar ffurf cyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc er mwyn ei alluogi i fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu’n chwilio am waith cyflogedig, neu lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant. Caiff yr awdurdod lleol wneud grant i alluogi’r person ifanc i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu hyfforddiant. Caniateir i’r cymorth gael ei ddarparu ar ffurf da neu mewn arian parod. Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu llety yn ystod y gwyliau i berson ifanc categori 5 sy’n dilyn addysg bellach neu uwch lawnamser pan nad yw llety yn ystod y tymor ar gael. Os nad yw llety’n cael ei ddarparu yna rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu digon o arian i’r person ifanc i sicrhau’r llety y mae ei angen.
322.Mae is-adran (6) yn rhoi pŵer i awdurdod lleol i ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg y person ifanc os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
323.Mae’r adran hon yn ailddatgan darpariaeth a wnaed yn adrannau 24A a 24B o Ddeddf Plant 1989.
324.Mae adran 115 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ystyried a yw amodau penodedig yn cael eu bodloni gan bersonau ifanc sy’n bersonau ifanc categori 6 neu a fu gynt yn bersonau ifanc categori 6 penodol, i ddyfarnu graddau a natur ei rwymedigaethau i ddarparu cymorth i bobl ifanc o’r fath. Yr amodau (a bennir yn is-adran (2)) yw bod angen cymorth ar y person ifanc; ac ar gyfer y rhai sy’n dod o fewn y diffiniad o berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(b) i (e), nad oes gan bwy bynnag yr oedd y person ifanc yn derbyn gofal ganddo y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori nac i ymgyfeillio ag ef. Os yw’r amodau hyn yn gymwys, yna rhaid i’r awdurdod lleol gynghori’r person ifanc neu ymgyfeillio ag ef a chaiff ddarparu cymorth.
325.Mae is-adran (5) yn nodi’r math o gymorth y caiff awdurdod lleol ei ddarparu. Gall y cymorth fod ar ffurf cyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc categori 6 er mwyn ei alluogi i fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu’n chwilio am waith cyflogedig neu lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant. Caiff yr awdurdod lleol hefyd wneud grant i alluogi’r person ifanc i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu hyfforddiant; neu drwy ddarparu llety mewn amgylchiadau eraill. Caiff cymorth fod ar ffurf da neu mewn arian parod.
326.Mae is-adran (7) yn rhoi pŵer i awdurdod lleol i ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg y person ifanc os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
327.Mae is-adran (8) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu llety yn ystod y gwyliau i berson ifanc categori 6 sy’n dilyn addysg bellach neu uwch lawnamser pan nad yw ei lety yn ystod y tymor ar gael. Os nad yw llety’n cael ei ddarparu yna rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu digon o arian i’r person ifanc i sicrhau’r llety y mae ei angen.
328.Mae’r adran hon yn ailddatgan darpariaeth a wnaed yn adrannau 24A a 24B o Ddeddf Plant 1989.
329.Mae adran 116 yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud darpariaeth bellach ynghylch y cymorth y mae’n rhaid i awdurdod lleol, neu y caiff awdurdod lleol, ei ddarparu i bersonau ifanc sy’n gadael gofal ac sy’n dilyn addysg bellach neu uwch.
330.Mae adran 117 yn cynnwys pŵer i awdurdod lleol i osod ffi am gymorth (ac eithrio am ddarparu cyngor) y mae’n ei ddarparu yn unol ag adrannau 109 i 115 o’r Ddeddf. Dim ond ar berson ifanc sy’n derbyn y cymorth ac sydd dros 18 oed y caniateir gosod ffi o’r fath, neu ar berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros berson ifanc sy’n derbyn y cymorth pan fo’r person ifanc hwnnw o dan 18 oed. Mae is-adran (3) yn darparu nad yw oedolyn yn atebol am dalu ffi o’r fath os yw’n cael budd-daliad/budd-daliadau o’r math a bennir mewn rheoliadau (y caniateir eu gwneud gan Weinidogion Cymru yn unol â’r pwerau sydd wedi eu cynnwys yn is-adran (3)).
331.Mae is-adrannau (5) a (6) yn darparu bod y pŵer i wneud rheoliadau sydd wedi ei gynnwys yn Rhan 5 o’r Ddeddf (yn adrannau 61 neu 62) yn gymwys i ffioedd o dan yr adran hon, a chaiff rheoliadau hefyd gymhwyso unrhyw ddarpariaeth a wneir yn adrannau 63 i 68 ac adrannau 70 i 73 neu odanynt (gyda neu heb addasiad) i ffi a osodir o dan yr adran hon.
332.Mae adran 118(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sydd â dyletswyddau i berson ifanc yn rhinwedd adrannau 105, 114 neu 115 hysbysu awdurdod lleol arall (yng Nghymru neu yn Lloegr) os yw’r person ifanc yn bwriadu byw, neu’n byw, yn ardal yr awdurdod lleol arall hwnnw.
333.Mae is-adran (2) yn cynnwys rhwymedigaethau pellach i roi gwybod am symudiadau plentyn sy’n cael ei letya yng Nghymru mewn mathau penodedig o lety, er enghraifft mewn llety a ddarperir gan neu ar ran corff iechyd.
334.Mae adran 119(1) yn darparu na chaniateir i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (yng Nghymru neu yn Lloegr) gael ei leoli, ac os yw wedi ei leoli, na chaniateir iddo gael ei gadw, mewn llety diogel yng Nghymru, oni bai ei bod yn ymddangos fod gan y plentyn hanes o ddianc a’i fod yn debygol o ddioddef niwed o bwys, neu fod y plentyn yn debygol o anafu ei hun neu eraill os yw’n cael ei gadw mewn llety o unrhyw fath arall.
335.Mae is-adran (2) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i nodi’r cyfnod hwyaf y ceir cadw plentyn mewn llety diogel heb awdurdod y llys, a hefyd y cyfnod hwyaf y caiff llys awdurdodi cadw plentyn mewn llety diogel yng Nghymru. Mae’r adran hefyd yn darparu ar gyfer dyfarniadau a gorchmynion gan y llys mewn perthynas â defnyddio llety diogel.
336.Mae is-adran (7) yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o ran cymhwyso ac addasu’r adran hon i blentyn o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, ac o ran dyfarniadau mewn perthynas â lleoli a chadw plant o ddisgrifiadau penodedig mewn llety diogel.
337.Mae is-adran (10) yn darparu bod yr adran hon yn ddarostyngedig i adran 76(5), sy’n ymwneud â hawl person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn i symud y plentyn o lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol.
338.Mae’r adran hon wedi ei seilio ar ddarpariaeth a wnaed yn adran 25 o Ddeddf Plant 1989.
339.Mae adran 120 yn ei gwneud yn ofynnol i “awdurdod lletya” (sef bwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol wrth arfer ei swyddogaethau addysg) sy’n lletya plentyn yng Nghymru am gyfnod di-dor o 3 mis neu fwy, neu sy’n bwriadu gwneud hynny, hysbysu swyddog priodol yn yr awdurdod lleol yng Nghymru neu yn Lloegr lle’r oedd y plentyn yn preswylio fel arfer. Os nad oes gan y plentyn breswylfa sefydlog, rhaid hysbysu yn lle hynny swyddog priodol yn yr awdurdod lleol yng Nghymru neu yn Lloegr lle y mae’r llety y mae’r plentyn wedi ei leoli ynddo. Mae dyletswydd debyg yn codi pan fo’r awdurdod lletya yn peidio â lletya’r plentyn mwyach. Mae “swyddog priodol” wedi ei ddiffinio yn is-adran (4).
340.Bydd ar “swyddog priodol” i awdurdod lleol a hysbysir felly ddyletswydd wedyn i asesu p’un a oes ar y plentyn anghenion o ran gofal a chymorth (yn unol ag adran 21) a rhaid iddo hefyd ystyried a ddylai’r awdurdod lleol arfer unrhyw swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon neu o dan Ddeddf Plant 1989.
341.Mae is-adran (6) yn datgymhwyso’r rhwymedigaeth i gynnal asesiad o blant sy’n blant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, yr Alban, neu Loegr neu (mewn perthynas â Gogledd Iwerddon) gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd unrhyw anghenion sydd ar blant o’r fath am ofal a chymorth yn cael eu diwallu gan yr awdurdod lleol neu gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n gyfrifol amdanynt.
342.Mae’r adran hon wedi ei seilio ar ddarpariaeth a wnaed yn adran 85 o Ddeddf Plant 1989.
343.Mae adran 121 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n rhedeg cartref gofal neu ysbyty yng Nghymru lle y mae plentyn wedi ei letya am gyfnod o 3 mis o leiaf (neu y mae’n fwriad i letya’r plentyn yn y fath fodd), hysbysu’r swyddog priodol (fel y’i diffinnir yn adran 120(4)) yn yr awdurdod lleol lle y lleolir y cartref gofal neu’r ysbyty annibynnol, ac unwaith eto hysbysu’r swyddog priodol pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn. Bydd dyletswydd wedyn ar y swyddog priodol i asesu’r plentyn (yn unol ag adran 21) i ddyfarnu a ddylai’r awdurdod lleol arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon neu Ddeddf Plant 1989.
344.Mae is-adran (4) yn datgymhwyso’r rhwymedigaeth i gynnal asesiad o blant sy’n blant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, yr Alban, neu Loegr neu (mewn perthynas â Gogledd Iwerddon) gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd unrhyw anghenion sydd ar blant o’r fath am ofal a chymorth yn cael eu diwallu gan yr awdurdod lleol neu gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n gyfrifol amdanynt.
345.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn drosedd os yw’r person sy’n gyfrifol am hysbysu’r swyddog priodol o dan yr adran hon yn methu â gwneud hynny (heb esgus rhesymol).
346.Mae is-adran (6) yn rhoi pŵer i berson sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol i gael mynediad i gartref gofal neu ysbyty annibynnol er mwyn gweld a yw’r rhwymedigaethau sydd wedi eu cynnwys yn yr adran hon wedi eu bodloni. Mae’n drosedd i rwystro person o’r fath wrth iddo arfer ei bŵer mynediad.
347.Mae’r adran hon wedi ei seilio ar ddarpariaeth a wnaed yn adran 86 o Ddeddf Plant 1989.
348.Mae adran 122 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog priodol (fel y’i diffinnir yn adran 120(4)), wneud trefniadau, yn unol â rheoliadau, i blentyn sy’n cael ei letya o dan adrannau 120 a 121 (ac yr hysbyswyd y swyddog mewn perthynas â’i lety) gael ymweliad gan gynrychiolydd o’r awdurdod lleol. Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch, er enghraifft, amlder yr ymweliadau a’r amgylchiadau pan ellir gwneud ymweliadau.
349.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod gan y cynrychiolydd sy’n ymweld â phlentyn sy’n cael ei letya fel y disgrifir yn adrannau 120 a 121 y sgiliau angenrheidiol i wneud y gwaith.
350.Mae’r adran hon wedi ei seilio ar ddarpariaeth a wnaed yn adran 86A o Ddeddf Plant 1989.
351.Mae adran 123 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau ar gyfer plant yr hysbyswyd ef amdanynt o dan adran 120 neu 121. Rhaid i’r gwasanaethau gael eu darparu gyda golwg ar hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a’i deulu. Mae unrhyw ddyletswyddau o’r fath yn ychwanegol at unrhyw ddyletswydd i gadw cyswllt â’r teulu sydd gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lletyir y plentyn ynddi o dan adran 39 (dyletswydd i gadw cyswllt â’r teulu).
352.Mae adran 124 hon yn darparu na chaiff awdurdod lleol drefnu i blentyn yn ei ofal fyw y tu allan i Loegr neu Gymru heb gymeradwyaeth y llys.
353.Mae is-adran (3) yn gwneud darpariaeth ynghylch yr ystyriaethau y dylai llys eu cadw mewn cof cyn gwneud dyfarniad o dan is-adran (1).
354.Mae is-adrannau (4) a (5) yn cynnwys darpariaeth i ddelio â sefyllfaoedd pan gaiff llys hepgor cydsyniad sy’n ofynnol o dan is-adran (3), megis pan fo wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i gydsynio neu i wrthod cydsynio.
355.Mae adran 124 hefyd yn gwneud darpariaeth o ran effaith cymeradwyaeth y llys yn ystod cyfnod apelio ac yn datgymhwyso’r adran i amgylchiadau pan fo awdurdod lleol yn lleoli plentyn i gael ei fabwysiadu gyda’i ddarpar fabwysiadwyr.
356.Mae’r adran hon wedi ei seilio ar ddarpariaeth a wnaed ym mharagraff 19 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989.
357.Mae adran 125 yn nodi’r camau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd yn achos marwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal ganddo.
358.Mae’r adran hefyd yn cynnwys pŵer i awdurdod lleol drefnu claddu neu amlosgi plentyn sydd wedi marw tra ei fod yn derbyn gofal (ar yr amod bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (1)(c) a (3) wedi eu bodloni).
359.Caiff yr awdurdod lleol hefyd wneud unrhyw daliadau a ganiateir drwy ddarpariaeth a wneir yn is-adran (1)(d) (ar yr amod bod yr amodau a nodir yn is-adran (2) wedi eu bodloni).
360.Caiff yr awdurdod lleol hefyd adennill unrhyw gostau a dynnir ganddo o dan yr adran hon oddi ar berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sydd o dan 16 oed ac sydd wedi marw (is-adrannau (4) a (5)).
361.Mae’r adran hon wedi ei seilio ar ddarpariaeth a wnaed ym mharagraff 20 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989.
362.Mae adran 126 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal ymchwiliad pan fo’n amau bod person yn “oedolyn sy’n wynebu risg”.
363.Mae oedolyn sy’n wynebu risg yn un sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, y mae arno anghenion am ofal a chymorth ac nad yw’n gallu amddiffyn ei hun rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso (neu’r risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso) o ganlyniad i’r anghenion hynny. Mae “camdriniaeth” a “cam-drin” ac “esgeulustod” wedi eu diffinio yn adran 197(1) (dehongli), ac i gael ystyr “gofal a chymorth” gweler adran 4.
364.Rhaid i’r awdurdod lleol wneud pa ymholiadau bynnag y mae’n credu eu bod yn angenrheidiol i’w helpu i benderfynu a ddylid cymryd camau. Gallai camau o’r fath gynnwys darparu gofal a chymorth o dan y Ddeddf hon neu gymryd camau i amddiffyn yr oedolyn o dan ddeddfwriaeth arall, megis Deddf Iechyd Meddwl 1983 neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Bydd yr egwyddorion yn adrannau 6 a 7 yn gymwys i’r ffordd y mae’r awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon. Golyga hyn fod rhaid i’r awdurdod, er enghraifft, roi sylw i farn, dymuniadau a theimladau’r oedolyn cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol.
365.Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu y dylid cymryd camau, disgwylir y bydd yn sicrhau bod cynllun gweithredu yn cael ei lunio. Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 54 (cynlluniau gofal a chymorth) ddarparu ar gyfer cofnodi casgliadau ymholiadau’r awdurdod leol (er enghraifft, ei benderfyniad i gymryd y camau a gofnodwyd yn y cynllun gweithredu) fel rhan o gynllun gofal a chymorth yr oedolyn.
366.Mae adran 127 yn galluogi ceisiadau i gael eu gwneud i lysoedd ynadon am orchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolyn. Diben gorchmynion o’r fath yw galluogi swyddog awdurdodedig i siarad yn breifat gyda pherson yr amheuir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg er mwyn canfod a yw’r oedolyn yn rhydd i wneud penderfyniadau ei hunan, asesu a yw’r person yn oedolyn sy’n wynebu risg a phenderfynu a ddylid cymryd camau yn ei gylch ai peidio, ac os felly, pa gamau y dylid eu cymryd.
367.Caiff ceisiadau am orchmynion o’r fath gael eu gwneud gan swyddog awdurdodedig sy’n unigolyn a awdurdodwyd gan yr awdurdod lleol i gyflawni swyddogaethau o dan yr adran hon. Caiff rheoliadau osod cyfyngiadau ar bwy y caniateir ei awdurdodi o dan yr adran hon, er enghraifft, drwy ei gwneud yn ofynnol i gael cymwysterau neu brofiad penodol.
368.Pan fo gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolion mewn grym, mae gan swyddog awdurdodedig, cwnstabl heddlu (os ystyrir bod ei angen) ac unrhyw berson arall a bennir yn y gorchymyn bŵer i fynd i mewn i’r fangre lle y mae’r oedolyn yr amheuir ei fod yn wynebu risg yn byw, at y dibenion a nodir yn is-adran (2). Mae is-adran (7) yn darparu y caiff y cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol (er enghraifft, i gael mynediad i’r fangre lle y mae’r oedolyn sy’n wynebu risg yn byw) os oes angen defnyddio grym o’r fath er mwyn i ddibenion y gorchymyn gael eu cyflawni.
369.Mae is-adran (4) yn nodi ar ba sail y ceir caniatáu gorchymyn. Mae is-adran (5) yn nodi’r hyn y mae’n rhaid ei bennu ym mhob gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn. Caiff ynadon heddwch hefyd osod amodau eraill i orchmynion.
370.Mae adran 128 yn ei gwneud yn ofynnol i ‘bartner perthnasol’ awdurdod lleol (fel y’i diffinnir yn adran 162) hysbysu’r awdurdod lleol os yw’n amau bod person yn ei ardal yn oedolyn sy’n wynebu risg (neu os yw’r person yn ardal awdurdod lleol arall, bod yr awdurdod lleol hwnnw yn hysbysu’r awdurdod lleol arall). Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd i awdurdod lleol hysbysu awdurdod lleol arall (yng Nghymru neu yn Lloegr) os yw oedolyn y mae’n amau ei fod yn wynebu risg yn byw yn ardal yr awdurdod arall hwnnw neu’n symud iddi.
371.Mae adran 129 yn datgymhwyso o ran Cymru adran 47 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 sy’n rhoi i awdurdodau lleol y pŵer i symud person y mae angen gofal arno o’i gartref.
372.Mae adran 130 yn ei gwneud yn ofynnol i ‘partner perthnasol’ awdurdod lleol (tîm troseddwyr ifanc neu bartner perthnasol fel y’i diffinnir yn adran 162) hysbysu’r awdurdod os yw’n amau bod plentyn yn ei ardal yn blentyn sy’n wynebu risg (neu os yw’r plentyn yn ardal awdurdod lleol arall, bod yr awdurdod lleol hwnnw yn hysbysu’r awdurdod lleol arall).
373.Mae plentyn sy’n wynebu risg yn un sy’n cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed a bod arno anghenion am ofal a chymorth. Mae “camdriniaeth” a “cam-drin”, “esgeulustod” a “niwed” wedi eu diffinio yn adran 197(1) (dehongli) ac i gael ystyr “gofal a chymorth” gweler adran 4. Mae adran 130 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol hysbysu awdurdod lleol arall (yng Nghymru neu yn Lloegr) os yw plentyn y mae’n amau ei fod yn wynebu risg yn byw yn ardal yr awdurdod lleol arall hwnnw neu’n symud i’r ardal honno.
374.Yn rhannol, ailddatganiad yw hyn o’r ddyletswydd ym mharagraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989.
375.Mae adran 131 yn darparur pŵer i Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol sy’n llywodraethu’r trefniadau sydd wedi eu cynnwys yn adrannau 126, 127, 128 a 130 o’r Ddeddf. Rhaid ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn dyroddi canllawiau o’r fath.
376.Mae adran 132(1) yn darparu ar gyfer sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. Yn y Ddeddf, cyfeirir at y Bwrdd fel y Bwrdd Cenedlaethol. Dyletswyddau cyffredinol y Bwrdd Cenedlaethol yw darparu cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu (a sefydlir o dan adran 134) er mwyn sicrhau eu heffeithiolrwydd, adrodd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau diogelu ar gyfer plant ac oedolion yng Nghymru a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynglŷn â sut i wella trefniadau diogelu. Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol adrodd i Weinidogion Cymru am drefniadau diogelu yng Nghymru.
377.Mae adran 133 yn darparu y ceir gwneud rheoliadau mewn perthynas â’r Bwrdd Cenedlaethol ac yn darparu enghreifftiau o’r materion y caniateir i’r rheoliadau fynd i’r afael â hwy.
378.Mae adran 134 yn darparu bod rhaid i reoliadau bennu ym mha ardaloedd yng Nghymru y bydd Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion (“ardaloedd Byrddau Diogelu”). Bydd gan y Byrddau hyn (y cyfeirir atynt ar y cyd fel “Byrddau Diogelu”) y partneriaid hynny a nodir yn is-adran (2), a bydd gan bob un ohonynt fuddiant mewn diogelu plant ac oedolion.
379.Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â’r partneriaid hyn, bennu mewn rheoliadau pwy fydd y partner arweiniol ar gyfer Bwrdd Diogelu Oedolion a phwy fydd y partner arweiniol ar gyfer Bwrdd Diogelu Plant. Rhaid i’r partneriaid arweiniol wedyn sefydlu Byrddau Diogelu yn ardal y Bwrdd Diogelu sydd i gynnwys cynrychiolydd o’i bartneriaid (y ddau a grybwyllir yn is-adran (2) neu a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (6)(b)).
380.Mae hefyd yn bosibl i Fwrdd Diogelu gynnwys cynrychiolwyr personau neu gyrff eraill yr ystyria’r Bwrdd y dylent gael eu cynrychioli ac sy’n ymwneud â gweithgareddau neu sydd â swyddogaethau mewn perthynas â phlant neu oedolion yn yr ardal Bwrdd Diogelu o dan sylw.
381.Mae is-adran (1) yn pennu amcanion Bwrdd Diogelu Plant. Yr amcanion hyn yw amddiffyn plant yn ei ardal sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed ac atal plant yn ei ardal rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed. Mae “camdriniaeth” a “cam-drin”, “esgeulustod” a “niwed” wedi eu diffinio yn adran 197(1).
382.Mae is-adran (2) yn nodi amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion. Yr amcanion hyn yw amddiffyn oedolion yn ei ardal sydd ag anghenion am ofal a chymorth ac sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso a hefyd atal oedolion sydd ag anghenion am ofal a chymorth rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
383.Mae Bwrdd Diogelu o dan ddyletswydd i gyflawni ei amcanion drwy gydgysylltu a sicrhau effeithiolrwydd y cyfraniadau a wneir gan bob un o’r partneriaid. Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu gan gynnwys ffyrdd o roi cyfle i blant neu oedolion i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd. Caiff Bwrdd Diogelu gydweithredu â Bwrdd Diogelu arall a chaiff weithredu ar y cyd â Byrddau Diogelu eraill. Caiff Bwrdd Diogelu Plant a Bwrdd Diogelu Oedolion ffurfio cyd-fwrdd.
384.Mae adran 136 yn darparu bod rhaid i Fwrdd Diogelu, cyn dechrau blwyddyn ariannol newydd (sy’n dod i ben ar 31 Mawrth bob blwyddyn), gyhoeddi cynllun blynyddol sy’n nodi e raglen waith am y flwyddyn sy’n dod. Cyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn, rhaid i Fwrdd Diogelu gyhoeddi adroddiad ar y modd yr arferwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, a rhaid i’r adroddiad gynnwys asesiad ynghylch i ba raddau y cyflawnwyd y cynigion a nodwyd yn ei gynllun blynyddol. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch ffurf a chynnwys cynlluniau ac adroddiadau o dan yr adran hon.
385.Mae adran 137 yn darparu y caiff Bwrdd Diogelu ofyn i berson neu gorff ddarparu gwybodaeth iddo, neu i berson neu gorff arall a bennir ganddo. Rhaid cyflwyno’r cais am wybodaeth i “person neu gorff cymhwysol”, a hynny at y diben o gynorthwyo’r Bwrdd Diogelu i arfer ei swyddogaethau. Diffinnir “person neu gorff cymhwysol” yn is-adran (7) fel person neu gorff yr ystyria’r Bwrdd Diogelu fod ei weithgareddau neu ei swyddogaethau yn peri bod y person neu’r corff yn debygol o feddu ar wybodaeth sy’n berthnasol i arfer un o swyddogaethau’r Bwrdd Diogelu.
386.Mae’r adran hon yn darparu porth statudol i alluogi personau i ddarparu gwybodaeth yn gyfreithlon i Fwrdd Diogelu pan ofynnir iddynt wneud hynny. Gall prosesu data personol wrth gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae rheolwr y data yn ddarostyngedig iddi, ac eithrio rhwymedigaeth a osodir gan gontract, ddarparu sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 (gweler Atodlen 1 (paragraff (a) o’r egwyddor diogelu data gyntaf) ac Atodlen 2, paragraff 3 o’r Ddeddf honno).
387.Mae’r person neu’r corff cymhwysol o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais am wybodaeth a wneir gan Fwrdd Diogelu o dan yr adran hon, oni bai bod y person neu’r corff cymhwysol yn ystyried y byddai gwneud hynny yn anghydnaws â’u dyletswyddau eu hunain neu’n cael effaith andwyol ar arfer eu pwerau neu eu dyletswyddau. Rhaid i berson neu gorff cymhwysol sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ddarparu i’r Bwrdd Diogelu a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad.
388.Mae adran 138 yn darparu y caiff partner Bwrdd Diogelu wneud taliadau tuag at wariant a dynnir gan y Bwrdd Diogelu. Caiff ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill hefyd. Rhaid ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn y gwneir rheoliadau o dan is-adran (3) i’r graddau y mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud gan yr heddlu neu’r gwasanaethau prawf yn rhinwedd eu swydd fel partneriaid Bwrdd Diogelu.
389.Rhaid i Fwrdd Diogelu gydweithredu â’r Bwrdd Cenedlaethol a darparu gwybodaeth iddo, os gofynnir am hynny gan y Bwrdd Cenedlaethol. Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch swyddogaethau partneriaid Bwrdd Diogelu mewn perthynas â’r Byrddau Diogelu y maent wedi eu cynrychioli arnynt. Mae partner Bwrdd Diogelu o dan ddyletswydd i roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru ac mae pob partner hefyd o dan ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y Bwrdd Diogelu y mae wedi ei gynrychioli arno yn gweithredu’n effeithlon.
390.Mae adran 140 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ei gwneud yn ofynnol bod Bwrdd Diogelu Plant a Bwrdd Diogelu Oedolion yn uno i greu un Bwrdd. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phartneriaid Bwrdd Diogelu y mae’r cynigion yn ymwneud â hwy, yr Ysgrifennydd Gwladol a phersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol cyn gwneud gorchymyn (gweler adran 141).
391.Mae adran 142 yn darparu diffiniadau o’r termau allweddol at ddiben y Rhan hon.
392.Mae adran 143 yn cyflwyno Atodlen 2, sy’n cynnwys rhestr o ddeddfiadau y mae swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol wedi eu nodi a’u disgrifio ynddynt. Mae’r adran hefyd yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen drwy ychwanegu, dileu neu ddiwygio eitemau drwy is-ddeddfwriaeth.
393.Mae adran 144 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol benodi cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ac yn darparu y caiff dau neu ragor o awdurdodau lleol benodi cyfarwyddwr ar gyfer y ddau neu’r cwbl o’r awdurdodau hynny os yw hynny’n briodol. Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau darpariaeth ddigonol o staff i gynorthwyo’r cyfarwyddwr i gyflawni ei swyddogaethau, a rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r cymwyseddau y mae’n rhaid i ddarpar gyfarwyddwr meddu arnynt er mwyn ei benodi i’r swydd, naill ai ar ffurf cod neu mewn rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf. Ar hyn o bryd, mae’r cymwyseddau y mae’n rhaid i gyfarwyddwr feddu arnynt wedi eu cynnwys mewn canllawiau a ddyroddwyd o dan adran 7A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970.
394.Mae adran 145 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddyroddi a chyhoeddi un neu ragor o godau ymarfer ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o dan y Ddeddf. Caiff cod gynnwys canllawiau ynglŷn â nodau ac amcanion, ynghyd â gosod gofynion y mae’n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â hwy. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gyhoeddi pob cod a rhoi ar gael unrhyw fersiynau o’r cod sydd wedi eu dirymu neu eu disodli.
395.Mae adran 146 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ar drafft o unrhyw cod neu god diwygiedig ac yn pennu, os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r cod drafft yn dilyn yr ymgynghoriad, fod rhaid ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru am gyfnod o 40 niwrnod. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r cod drafft, ni chaniateir ei ddyroddi. Heb benderfyniad o’r fath, caiff y cod ei gyhoeddi ar yr un ffurf ag y cafodd ei osod. Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu cod mewn cod dilynol a wneir yn unol â’r adran hon neu drwy gyfarwyddyd; os dirymir cod drwy gyfarwyddyd, yna rhaid i’r cyfarwyddyd hefyd gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
396.Mae adran 147 yn galluogi awdurdod lleol i arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn ffordd nad yw’n glynu wrth y gofynion a nodir mewn cod, ar yr amod ei fod o’r farn bod rheswm da iddo wneud hynny, bod ganddo bolisi amgen yn ei le, a bod polisi wedi ei nodi mewn datganiad polisi a ddyroddir o dan yr adran hon.
397.Mae adran 148 yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad polisi a ddyroddir o dan adran 147 esbonio sut y mae polisi’r awdurdod lleol yn wahanol i’r gofyniad yn y cod, pam y mae’n cynnig gwneud pethau yn wahanol a pha bryd y bydd y polisi sydd yn y datganiad yn cael effaith. Mae’r adran hefyd yn pennu bod rhaid i’r datganiadau gael eu cyhoeddi a rhaid i gopïau gael eu hanfon at Weinidogion Cymru.
398.Mae adran 149 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol i gydymffurfio â’r cod os ydynt o’r farn na fydd datganiad polisi amgen yr awdurdod yn cyflawni yn ddigonol ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Fel y nodir mewn man arall yn y Rhan hon, rhaid rhoi’r cyfarwyddyd ar ffurf ysgrifenedig a chaniateir iddo gael ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach a rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag ef.
399.Mae adran 150 yn nodi’r seiliau sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd mewn awdurdod lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r adran yn cynnwys tair sail, sef bod yr awdurdod lleol:
wedi methu neu’n debygol o fethu wrth arfer dyletswydd sy’n swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol;
wedi gweithredu neu’n bwriadu gweithredu’n afresymol wrth arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol; neu
yn methu neu’n debygol o fethu â chyflawni swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol yn unol â safon ddigonol.
400.Mae’r adran hon yn deillio’n rhannol o adran 7D o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (sy’n gymwys mewn perthynas â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol i oedolion). Fodd bynnag, mae’r seiliau dros ymyrryd yn ehangach na’r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd mewn cysylltiad â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas ag oedolion. Maent yn adlewyrchu, yn lle hynny, y seiliau ehangach dros ymyrryd sy’n gymwys ar hyn o bryd mewn perthynas â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn cysylltiad â phlant (o dan adrannau 496 i 497B o Ddeddf Addysg 1996 ac adran 50 o Ddeddf Plant 2004). Bydd y seiliau ehangach hyn dros ymyrryd bellach yn gymwys mewn perthynas â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer pob un o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, p’un a yw’r swyddogaethau hynny i’w harfer mewn perthynas ag oedolion neu â phlant.
401.Mae adran 151 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod lleol os ydynt wedi eu bodloni bod unrhyw un neu rai o’r seiliau yn adran 150 yn bodoli. Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad bennu’r seiliau dros ymyrryd, y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y seiliau’n bodoli, y camau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eu cymryd i ddelio â’r seiliau hynny, y cyfnod y mae’n rhaid cymryd y camau ynddo, a’r camau y bydd Gweinidogion Cymru â’u bryd ar eu cymryd os na fydd yr awdurdod lleol yn cymryd y camau sy’n ofynnol. Mae is-adran (3) yn cynnwys gofynion i Weinidogion Cymru hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y camau y maent wedi eu cymryd o dan y ddarpariaeth hon.
402.Mae adran 152 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ymyrryd yn y modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol os oes hysbysiad rhybuddio wedi ei roi ac nad yw’r awdurdod wedi cymryd y camau gofynnol (is-adran (2)).
403.Mae is-adran (3) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ymyrryd yn y modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol heb roi hysbysiad rhybuddio yn unol ag adran 151 pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu rai o’r seiliau a nodir yn adran 150 yn bodoli a bod rheswm ganddynt dros gredu bod seiliau iechyd a diogelwch y mae angen ymyrraeth ar frys arnynt neu ei bod yn annhebygol bod yr awdurdod lleol yn gallu cydymffurfio neu sicrhau cydymffurfedd â’r hysbysiad rhybuddio.
404.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weindiogion Cymru adolygu’n gyson yr amgylchiadau sydd wedi rhoi’r pŵer i ymyrryd iddynt.
405.Mae is-adrannau (4) ac (8) yn cynnwys gofynion i Weinidogion Cymru hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y camau y maent wedi eu cymryd mewn perthynas ag arfer eu pŵer o dan yr adran hon a hysbysu’r Cynulliad yn gyson am y materion hynny.
406.Mae adran 153 yn darparu, pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd o dan adran 152, y cânt gyfarwyddo’r awdurdod lleol (y maent yn ymyrryd mewn cysylltiad â’r modd y mae’n arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) i ymrwymo i gontract gyda pherson neu gorff penodedig (neu berson neu gorff sy’n dod o fewn dosbarth penodedig) i ddarparu gwasanaethau penodedig o natur gynghorol. Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol bod y contract â’r person neu’r corff hwnnw yn cynnwys telerau ac amodau penodedig (is-adrannau (3) a (4)).
407.Mae adran 154 yn darparu, pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd o dan adran 152, y cânt gyfarwyddo’r awdurdod lleol i sicrhau bod y swyddogaethau, y maent yn barnu bod ymyrryd yn angenrheidiol mewn cysylltiad â hwy, i’w cyflawni gan berson arall. Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol bod y contract gyda’r person arall hwnnw yn cynnwys telerau ac amodau penodedig (is-adran (3)).
408.Mae adran 155 yn darparu, pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd o dan adran 152, y cânt gyfarwyddo bod y swyddogaethau, y maent yn barnu bod ymyrryd yn angenrheidiol mewn cysylltiad â hwy, i’w cyflawni ganddynt hwy eu hunain neu gan berson a enwebir ganddynt, Mae is-adran (3) yn egluro bod rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw arweiniad a roddir gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.
409.Mae adran 156 yn galluogi cyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 154 neu 155 i ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill yn ychwanegol at y rheini y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy, pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu ei bod yn hwylus gwneud hynny. Mae is-adran (2) yn cynnwys enghraifft o’r materion y caiff Gweinidogion Cymru roi sylw iddynt wrth benderfynu a ddylai cyfarwyddyd fod yn gymwys i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ychwanegol.
410.Mae adran 157 yn darparu, pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd o dan adran 152, fod ganddynt bŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau neu gymryd unrhyw gamau eraill er mwyn delio â’r seiliau dros ymyrryd.
411.Mae adran 158 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw gyfarwyddyd y maent yn ei wneud o dan adrannau 153, 154, 155 neu 157 ac i hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyson am y camau y mae’r awdurdod lleol yn eu cymryd i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.
412.Mae adran 159 yn cynnwys darpariaeth gyffredinol ynghylch cyfarwyddiadau ac arweiniad o dan Ran 6. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, neu swyddog i awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o’r fath gydymffurfio ag ef ac mae’n nodi’r modd y caiff cyfarwyddyd gael ei orfodi.
413.Mae adran 160 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gydweithredu a chynorthwyo Gweinidogion Cymru (ac unrhyw berson a restrir yn is-adran (2)) wrth iddo arfer swyddogaethau yn unol â’r Rhan hon o’r Ddeddf.
414.Mae adran 161 yn rhoi pŵer i’r personau a bennir yn is-adran (2) i fynd i mewn i fangre awdurdod lleol ac arolygu a gwneud copïau o unrhyw gofnodion neu ddogfennau eraill a gedwir gan yr awdurdod, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r awdurdod y mae’r person o’r farn eu bod yn berthnasol i gyflawniad ei swyddogaethau o dan Ran 8 o’r Ddeddf.
415.Mae pŵer hwn yn cynnwys pŵer i arolygu a chopïo dogfennau sy’n cynnwys gwybodaeth am unigolion preifat. Mae’r pŵer yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a ganlyn:
dim ond mewn mangre awdurdod lleol y gellir ei arfer;
dim ond i gofnodion a dogfennau a gedwir gan yr awdurdod lleol y mae’n gymwys (ac nid yw’n gymwys i gofnodion neu ddogfennau a gedwir gan unigolion preifat); ac
nid yw’n arferadwy oni bai bod y person sy’n arfer y pŵer o’r farn bod yr wybodaeth yn berthnasol i gyflawniad ei swyddogaethau o dan Ran 8 o’r Ddeddf.
416.Ni fwriedir i’r pŵer a ddarperir gan yr adran hon gael ei arfer er mwyn cael mynediad i ddogfennau a gedwir gan unigolion preifat (os byddant, er bo hynny’n annhebygol iawn, yn cadw dogfennau sy’n bodloni’r meini prawf.).
417.Mae adran 162 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng yr awdurdod lleol, pob un o ’bartneriaid perthnasol’ yr awdurdod a chyrff eraill sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n berthnasol i oedolion y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth. Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng swyddogion yr awdurdod. Mae’r trefniadau i’w gwneud gyda’r bwriad o wella llesiant oedolion sydd ag anghenion am ofal a chymorth a gofalwyr. Bydd angen i drefniadau ganolbwyntio hefyd ar wella ansawdd y gofal a’r cymorth ac amddiffyn oedolion sy’n cael neu sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
418.Caiff pob partner perthnasol ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety, sefydlu a chynnal cronfa gyfun a rhannu gwybodaeth â’i gilydd. Mae ’cronfa gyfun’ wedi ei ffurfio o gyfraniadau’r awdurdod a’r partneriaid perthnasol ac y caniateir gwneud taliadau ohoni wrth gyflawni swyddogaethau. Rhaid i’r awdurdod lleol a’i bartneriaid perthnasol hefyd roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
419.Mae’r ddarpariaeth ar gyfer oedolion a gofalwyr yn adlewyrchu darpariaethau presennol Deddf Plant 2004 mewn perthynas â phlant. Mae adran 25 o Ddeddf 2004 yn galluogi’r partneriaid perthnasol fel y’u diffiniwyd yn y Ddeddf honno i sefydlu a chynnal cronfa gyfun neu i ddarparu staff, nwyddau a chymorth i bartner arall at ddibenion y trefniadau cydweithredu o dan yr adran honno.
420.Gallai enghraifft pan ganiateir i gronfa gyfun gael ei defnyddio er budd oedolion gynnwys cyllido gweithwyr cymorth iechyd ychwanegol i gefnogi pobl a arferai gamddefnyddio sylweddau neu i ddatblygu gwasanaeth gwybodaeth a chymorth ar gyfer gofalwyr.
421.Mae adran 163 yn gwneud diwygiadau i adran 25 o Ddeddf Plant 2004 (cydweithrediad i wella llesiant: Cymru). Gwneir y diwygiadau hyn er mwyn sicrhau bod y ddyletswydd bresennol yn Neddf 2004 i wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad er mwyn gwella llesiant plant yn gydnaws â’r ddyletswydd newydd yn adran 162 o’r Ddeddf hon (Trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad: oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a gofalwyr). Yn benodol, yn lle’r diffiniad presennol o “well-being” yn adran 25 o Ddeddf 2004 mewnosodir y diffiniad sydd yn adran 2 o’r Ddeddf hon ynghyd â diffiniad newydd o “care and support”.
422.Mae adran 164 yn darparu, os yw’r awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, yn gofyn i bartner perthnasol am ei gydweithrediad neu am ddarparu gwybodaeth, rhaid i’r partner perthnasol wneud hynny, oni fyddai’n anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun neu fel arall yn cael effaith andwyol ar ei swyddogaethau ei hun. Rhaid i bartner perthnasol sy’n gwrthod cydweithredu neu ddarparu gwybodaeth roi rhesymau ysgrifenedig i’r awdurdod lleol yn esbonio ei benderfyniad i wrthod. Mae’r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
423.Mae adran 165 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gyda golwg ar integreiddio darpariaeth o ofal a chymorth â’r ddarpariaeth iechyd a’r ddarpariaeth sy’n ymwneud ag iechyd, pan fyddai hynny’n hyrwyddo, yn ei ardal, lesiant plant, oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt anghenion am gymorth a chyfrannu at atal neu oedi anghenion am ofal a chymorth ac anghenion cymorth neu wella ansawdd gofal a chymorth a chymorth, gan gynnwys y canlyniadau sydd i’w cyflawni.
424.Mae “darpariaeth gofal a chymorth”, “darpariaeth iechyd” a “darpariaeth sy’n ymwneud ag iechyd” wedi eu diffinio yn is-adrannau (2), (3) a (4) yn eu tro.
425.Mae adran 166 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu trefniadau partneriaeth sydd i’w gwneud rhwng awdurdodau lleol neu rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r trefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol neu swyddogaethau BILl neu Ymddiriedolaeth GIG. Rhaid i reoliadau bennu ffurf y trefniant partneriaeth a rhaid iddynt wneud darpariaeth ar gyfer gweithredu a rheoli’r trefniant ac ar gyfer rhannu gwybodaeth.
426.Gall awdurdodau lleol a BILlau sefydlu partneriaethau ffurfiol gyda chyllidebau cyfun neu hebddynt o dan ddeddfwriaeth bresennol. Mae adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn caniatáu i gyrff GIG ac awdurdodau lleol ddatblygu partneriaethau ffurfiol ac yn galluogi’r partneriaid i ddirprwyo swyddogaethau o un i’r llall gyda rhai cyfyngiadau. Bydd y pwerau yn yr adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo trefniadau partneriaeth ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru. Er enghraifft, mae angen i rai gwasanaethau gael eu comisiynu a’u darparu ar y lefel ranbarthol neu genedlaethol oherwydd bod nifer y bobl a fyddai’n elwa ar wasanaethau o’r fath yn fach ac mae eu hanghenion yn gymhleth iawn.
427.Mae adran 167 yn darparu y caiff awdurdod lleol a BILl dalu tuag at sefydlu a gweithredu trefniadau partneriaeth drwy wneud taliadau yn uniongyrchol neu i ’gronfa gyfun’. Cânt hefyd ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety ac adnoddau eraill i’r bartneriaeth neu mewn cysylltiad â hi. Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cyllido’r trefniadau partneriaeth.
428.Mae adran 168 yn darparu y caniateir gwneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Partneriaeth gael ei sefydlu mewn cysylltiad â threfniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 166. Caiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer aelodaeth y Bwrdd; talu cydnabyddiaeth ariannol; amcanion a swyddogaethau’r Bwrdd; gweithdrefnau; a threfniadau adrodd.
429.Mae adran 169 yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch trefniadau partneriaeth a bod rhaid i aelodau Bwrdd Partneriaeth ac eraill sy’n ymrwymo i drefniadau partneriaeth roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath ac i’r datganiad o ganlyniadau llesiant a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5.
430.Mae adran 170 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau gweithio ar y cyd mewn perthynas â gwasanaethau mabwysiadu. Mae gwasanaeth mabwysiadu wedi ei ddiffinio yn adran 2(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 drwy gyfeirio at y gwasanaethau a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 3(1) o’r Ddeddf honno. Mae adran 170 yn mewnosod adran 3A newydd yn Neddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Effaith hyn yw caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o awdurdodau lleol i gydweithio i ddarparu agweddau penodedig ar eu gwasanaeth mabwysiadu. Caiff trefniadau ar y cyd o’r fath roi cyfarwyddyd i sefydlu cronfa gyfun, pennu trefniadau staffio a lletya, rhoi cyfarwyddyd i sefydlu panel mabwysiadu a’r prosesau i’w dilyn ar gyfer datrys anghydfodau a chwynion.
431.Mae adran 171 yn rhoi i Weinidogion Cymru bwerau i wneud rheoliadau sy’n sefydlu gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol. Bydd y rhain yn disodli’r darpariaethau cyfredol ynghylch gweithdrefnau cwynion ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol Cymru o dan adrannau 114 a 115 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, sydd wedi eu datgymhwyso i’r graddau y maent yn ymwneud â Chymru.
432.Mae is-adran (1) yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau ynghylch ystyried cwynion sy’n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Mae’n nodi’r mathau o gwynion y caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar eu cyfer. Mae’r rhain yn cynnwys cwynion ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau gan awdurdod lleol neu berson arall o dan drefniant partneriaeth a wnaed gan yr awdurdod o dan adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, neu adran 75 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 mewn perthynas â swyddogaethau corff GIG, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Y bwriad yw y bydd modd i berson sy’n cael gwasanaethau iechyd yn ogystal â gwasanaethau cymdeithasol gan awdurdod lleol o dan drefniant o’r fath gwyno wrth yr awdurdod lleol hwnnw hyd yn oed os bydd y gŵyn yn ymwneud â gwasanaethau iechyd a ddarperir gan yr awdurdod.
433.Mae is-adran (2) yn caniatáu i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y person neu’r corff a fydd yn ystyried cwyn. Rhagwelir y rhoddir y rôl hon i’r awdurdod lleol o dan sylw, a cham cyntaf y broses fydd i’r awdurdod geisio datrys y mater yn anffurfiol. Os nad yw’r ymgais yn llwyddiannus, caiff ei ddilyn gan ymchwiliad ffurfiol.
434.Mae is-adran (3) yn darparu ar gyfer atgyfeirio cwynion, neu unrhyw fater a godir gan gŵyn, i fan arall. Mae’n gwneud darpariaeth benodol sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu, mewn rheoliadau, y ceir atgyfeirio materion at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) i’w hystyried o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Gwneir hyn gyda’r bwriad o godi’r ymwybyddiaeth ymhlith achwynwyr o’u hawl i gwyno wrth yr Ombwdsmon. Caiff y rheoliadau hefyd ddarparu y ceir atgyfeirio’r gŵyn neu’r mater a godir gan y gŵyn at unrhyw gorff arall ar gyfer penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau.
435.Mae is-adran (4) yn atal y rheoliadau rhag gwneud darpariaeth ynghylch ystyried cwynion a sylwadau y gellir eu gwneud o dan adrannau 174 neu 176 o’r Ddeddf hon. Mae gweithdrefn ar wahân yn cael ei chynnal o dan adran 174 ar gyfer cwynion a sylwadau eraill sy’n ymwneud â grwpiau penodedig o blant a phobl ifanc. (Mae hyn yn adlewyrchu’r gwahaniaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng y cwynion y caniateir eu hystyried o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 a’r sylwadau y caniateir eu hystyried o dan Ran III o Ddeddf Plant 1989, gyda’r darpariaethau hynny’n cael eu hailddatgan i raddau helaeth yn y Ddeddf hon).
436.Mae adran 172 yn nodi enghreifftiau pellach o’r math o ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau o dan adran 171. Mae is-adran (2) yn darparu y caiff y rheoliadau bennu materion megis pwy a gaiff wneud cwyn ac wrth bwy, y mathau o gwynion y caniateir ac na chaniateir eu gwneud, a’r weithdrefn ar gyfer gwneud ac ystyried cwyn. Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i daliad gael ei wneud mewn perthynas ag ystyried cwyn (is-adran (3)). Mae is-adran (4) yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau neu gyrff sy’n ymdrin â chwynion roi gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd ynglŷn â’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn o dan y rheoliadau. Caiff y rheoliadau awdurdodi dangos neu ddatgelu gwybodaeth neu ddogfennau (is-adran (5)). Pan na fyddai’n bosibl, oherwydd dyletswyddau cyfrinachedd o dan y gyfraith gyffredin, ddatgelu gwybodaeth berthnasol ynglŷn â chŵyn i’r corff sydd i’w hystyried o dan y rheoliadau, neu i’r corff y mae’r gŵyn i’w hatgyfeirio ato ar gyfer ei hystyried o dan ddarpariaethau eraill, caiff y rheoliadau wneud y datgeliad yn gyfreithlon. Ni fydd y ddarpariaeth hon yn drech na dulliau diogelu penodol Deddf Diogelu Data 1998, sy’n gwahardd datgelu gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn heb gydsyniad yr unigolyn hwnnw oni fydd datgelu’r wybodaeth yn angenrheidiol am un neu ragor o’r rhesymau a bennir yn y Ddeddf Diogelu Data.
437.Mae is-adran (6) yn darparu y caiff rheoliadau a wneir o dan adran 171 wneud darpariaeth ar gyfer sefyllfaoedd pan fo’r gŵyn yn codi materion sydd i’w hystyried o dan y rheoliadau a hefyd o dan weithdrefn gwyno arall. Caiff y rheoliadau, er enghraifft, ganiatáu i’r gŵyn gael ei gwneud o dan y rheoliadau a darparu bod yr agweddau hynny ar y gŵyn sy’n codi materion a ystyrir o dan y weithdrefn gwyno arall i’w trin fel pe baent wedi eu codi mewn cwyn a wnaed o dan y weithdrefn honno (e.e. caiff y rheoliadau ddarparu y ceir gwneud cwyn o dan adran 171 ynghylch gwasanaethau GIG a gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, a bod yr elfennau hynny o’r gŵyn sy’n ymwneud â gwasanaethau GIG i’w trin fel pe baent wedi eu codi mewn cwyn a wnaed o dan weithdrefn gwyno’r GIG). Yn y modd hwn, bydd modd i’r achwynydd wneud ei gŵyn i un corff, yn lle gorfod gwneud dwy gŵyn ar wahân, a bydd un gŵyn yn gallu ysgogi dwy weithdrefn gwyno ar wahân. Rhagwelir y bydd y ddwy weithdrefn wedi hynny yn gweithredu ochr yn ochr â’i gilydd, cyn belled ag y bo modd, er mwyn iddynt ymddangos i’r achwynydd fel un weithdrefn.
438.Mae adran 173 yn darparu y ceir gwneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynorthwyo pobl sy’n gwneud cwyn o dan reoliadau a wneir o dan adran 171. Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau eirioli i alluogi pobl i wneud cwynion a chânt bennu gwahanol grwpiau neu fathau o bersonau y dylid darparu cynhorthwy iddynt. Diben y ddarpariaeth hon yw galluogi Gweinidogion Cymru i dargedu’r cynhorthwy at grwpiau a nodir fel y rhai â’r angen mwyaf am eiriolaeth a chymorth arall. Caiff y rheoliadau hefyd gynnwys darpariaeth ynglŷn â rhoi cyhoeddusrwydd i unrhyw drefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy o’r fath.
439.Mae adran 174 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sylwadau sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc penodol a’r rhai sy’n gofalu amdanynt. Mae’n atgynhyrchu i raddau helaeth ddarpariaethau adran 26(3) i (3C) o Ddeddf Plant 1989 sydd i’w datgymhwyso o ran Cymru. Mae’r sylwadau y caniateir eu hystyried o dan y weithdrefn hon yn dod o fewn tri chategori:
Sylwadau ynghylch y swyddogaethau awdurdod lleol a ganlyn, naill ai mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu mewn perthynas â phlant nad ydynt yn derbyn gofal ond y gall fod arnynt anghenion am ofal a chymorth:
swyddogaethau sy’n arferadwy o dan Rannau 3 i 6 o’r Ddeddf hon (ac eithrio swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn fel gofalwr);
swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn o dan Ran 7 o’r Ddeddf hon, a;
swyddogaethau o dan Ran 4 neu 5 o Ddeddf Plant 1989 ond a bennir mewn rheoliadau.
Caiff sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno gan y personau a restrir yn is-adran (3).
Sylwadau ynghylch swyddogaethau awdurdod lleol o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989 a bennwyd mewn rheoliadau. Mae adran 14F yn darparu bod rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu, o fewn eu hardal, gwasanaethau cynnal gwarcheidiaeth arbennig (megis cwnsela, cyngor a gwybodaeth). Caiff sylwadau o’r fath gael eu cyflwyno gan y personau a restrir yn is-adran (4).
Sylwadau ynghylch swyddogaethau awdurdod lleol o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau ac a gyflwynir gan y personau a bennir yn is-adran (5).
440.Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol sicrhau bod y weithdrefn a sefydlir ganddo o dan yr adran hon yn gwarantu y bydd sylwadau’n cael eu hystyried gan un person o leiaf, nad yw’n aelod o’r awdurdod lleol o dan sylw nac yn swyddog iddo, a bydd un neu ragor o bobl o’r fath hefyd yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau dilynol ynghylch y camau i’w cymryd. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod lefel ddigonol o annibyniaeth yn rhan annatod o’r broses, er mwyn rhoi sylw digonol i safbwyntiau plant a phobl ifanc a allai fod yn agored i niwed. Gall rheoliadau ddatgymhwyso’r gofyniad hwn mewn sefyllfaoedd pan ystyrir, neu pan drafodir, sylwadau at ddibenion ceisio datrys materion yn anffurfiol (gweler is-adran (8)). Mae is-adran (9) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’r weithdrefn a sefydlir ganddo o dan yr adran hon.
441.Mae adran 175 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, wrth ystyried sylwadau, gydymffurfio â’r gofynion a osodir arno o dan adrannau 174(6) i (8) (gofynion gweithdrefnol a’r gofyniad i sylwadau gynnwys ystyriaeth gan berson nad yw’n aelod o’r awdurdod lleol o dan sylw nac yn swyddog iddo). Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol fonitro’r camau a gymerwyd ganddo i sicrhau cydymffurfedd.
442.Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganfyddiadau’r person a fu’n ystyried y sylwadau a ystyriwyd o dan adran 174, a rhaid iddo hysbysu’r person a wnaeth y sylw, y person y mae’r sylw yn ymwneud ag ef (os yw’n wahanol), ac unrhyw berson arall y mae’n ymddangos i’r awdurdod yr effeithir arno yn ôl pob tebyg, am benderfyniad yr awdurdod lleol a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw. Pan fo’r sylw yn ymwneud â phlentyn, neu pan fo’n ymddangos bod y sylw yn effeithio’n uniongyrchol ar blentyn, rhaid hysbysu’r plentyn am benderfyniad a chamau arfaethedig yr awdurdod lleol os oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol.
443.Mae adran 176 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sylwadau gan gategorïau penodol o blant a phobl ifanc ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 3 i 7 o’r Ddeddf, mewn perthynas â’r plant a’r bobl ifanc hynny. Mae hyn yn atgynhyrchu, i raddau helaeth, y ddarpariaeth sydd ar hyn o bryd yn adran 24D o Ddeddf Plant 1989, sydd i’w datgymhwyso o ran Cymru.
444.Y plant a’r bobl ifanc y caiff eu sylwadau eu hystyried o dan y weithdrefn hon yw’r rhai a ddisgrifir yn y Ddeddf fel pobl ifanc categori 2, 3, 4, 5 neu 6 (gweler y nodiadau i adran 104 o’r Ddeddf). Yn eu hanfod mae’r rhain yn blant hŷn (16 neu 17 oed) sy’n derbyn gofal neu a fu gynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol a phobl ifanc (18 oed neu’n hŷn) sydd fel rheol yn rhai sy’n gadael gofal. Diffinnir plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn adran 74 o’r Ddeddf fel plentyn sydd yng ngofal yr awdurdod lleol neu y darperir llety iddo gan yr awdurdod wrth i’r awdurdod arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol penodedig.
445.Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau a gaiff osod gofynion ynghylch y weithdrefn y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei sefydlu o dan yr adran hon, a chânt bennu terfynau amser ar gyfer cyflwyno sylwadau. Mae awdurdod lleol o dan ddyletswydd i roi cyhoeddusrwydd i’r weithdrefn a sefydlir ganddo o dan yr adran hon a rhaid i’r awdurdod gydymffurfio ag unrhyw ofynion gweithdrefnol a nodir yn y rheoliadau.
446.Mae adran 177 yn darparu y ceir gwneud rheoliadau ynghylch rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau (gan gynnwys cwynion) a ystyriwyd gan awdurdod lleol o dan adran 174 neu 176. Mae hyn yn atgynhyrchu’r ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn adran 26ZB o Ddeddf Plant 1989.
447.Mae is-adrannau (2) a (3) yn darparu enghreifftiau o’r math o ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei chynnwys yn y rheoliadau hyn.
448.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff rheoliadau ganiatáu cyfeirio sylw, neu unrhyw fater a godir gan sylw, i fan arall. Caiff rheoliadau ganiatáu cyfeirio sylw neu fater at yr Ombwdsmon er mwyn iddo ystyried p’un ai i ymchwilio iddo o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Caiff y rheoliadau hefyd ganiatáu cyfeirio sylw at unrhyw gorff arall ar gyfer penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau.
449.Mae adran 178 yn darparu bod awdurdod lleol o dan ddyletswydd i wneud trefniadau i ddarparu cynhorthwy i blant sy’n cyflwyno sylwadau o dan adrannau 174 a 176 yn eu tro. Rhaid i’r awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau hyn ar gyfer cynorthwyo. Mae’r ddarpariaeth hon yn atgynhyrchu’r ddarpariaeth yn adran 26A o Ddeddf Plant 1989 (sydd i’w datgymhwyso o ran Cymru). Rhaid i’r cynhorthwy a ddarperir o dan yr adran hon gynnwys cynhorthwy ar ffurf cynrychiolaeth ac felly bydd yn darparu ar gyfer cymorth eiriolwr ar gyfer gwneud sylwadau. Gwneir hyn er mwyn cynorthwyo plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed i gyflwyno eu sylwadau. Rhaid i reoliadau gael eu gwneud ynghylch y trefniadau hyn ar gyfer cynorthwyo. Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod pobl penodedig neu gategorïau penodedig o bobl wedi eu hatal rhag darparu’r cynhorthwy. Caiff y rheoliadau hefyd osod gofynion eraill, megis dyletswydd ar yr awdurdod lleol i fonitro’r camau a gymerir ganddo i gydymffurfio â’r gofynion a osodir gan neu o dan adran 178.
450.Mae adran 179 yn rhoi effaith i Atodlen 3 i’r Ddeddf hon. Mae’n mewnosod Rhan 2A, Rhan 2B ac Atodlen 3A newydd yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 sy’n rhoi i’r Ombwdsmon bwerau i ymchwilio i gwynion ynghylch mathau penodol o ofal cymdeithasol a gofal lliniarol.
451.Mae adran 180 hon yn diwygio adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Deddf 2006). Mae adran 187 o Ddeddf 2006 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i drefnu bod gwasanaethau eirioli annibynnol yn cael eu darparu (hynny yw, gwasanaethau sy’n darparu cynhorthwy i unigolion sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud cwynion) mewn perthynas â chwynion ynghylch gwasanaethau iechyd penodedig. Mae’r diwygiadau i adran 187 o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau eirioli annibynnol gael eu trefnu, yn ychwanegol, i (i) cwynion a wneir o dan weithdrefnau a weithredir gan ddarparwyr gofal lliniarol annibynnol, a (ii) cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Deddf 2005) mewn perthynas â darparwyr gofal lliniarol annibynnol. Mae ystyr “independent palliative care provider” wedi ei nodi yn Neddf 2005 (fel y’i diwygiwyd gan Atodlen 3 i’r Ddeddf hon).
452.Caiff gwasanaethau eirioli gael eu darparu gan awdurdod lleol mewn amryw o wahanol gyd-destunau ac o dan ddarpariaethau gwahanol y Ddeddf. Cânt gael eu darparu gan awdurdod lleol yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 178 o’r Ddeddf (Cynhorthwy i bersonau sy’n cyflwyno sylwadau) neu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 173 (Cynhorthwy i achwynwyr). Caiff gwasanaethau eirioli eu darparu hefyd fel modd o ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth (gweler adran 34(2)(e)). Caiff gwasanaethau eirioli, yn ychwanegol, gael eu trefnu gan awdurdod lleol fel modd o gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15 (Gwasanaethau ataliol) ac adran 17 (Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy).
453.Mae adran 181 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gosod dyletswydd ychwanegol ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eirioli i bobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth. Gall y rheoliadau nodi’r bobl y dylai gwasanaethau o’r fath gael eu cynnig iddynt a rhoi manylion yr amgylchiadau penodol pan fydd y gwasanaethau hynny yn cael eu rhoi ar gael. Bydd rheoliadau a wneir o dan yr adran hon yn cael eu defnyddio i dargedu personau sydd ag anghenion am ofal a chymorth mewn amgylchiadau pan fydd darparu eiriolwr yn cynorthwyo’r person i gyfleu ei safbwyntiau a’i anghenion. Gellid ei arfer, er enghraifft, i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau eirioli i berson y gofynnir iddo ystyried symud i lety preswyl neu, fel arall, i newid llety, efallai oherwydd bod cartref yn cau neu oherwydd penderfyniad ariannol arall a wnaed gan yr awdurdod lleol.
454.Caiff y rheoliadau hefyd osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi cyhoeddusrwydd i’w trefniadau ar gyfer rhoi gwasanaethau eirioli ar gael, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu rhwystro rhag eu defnyddio oherwydd diffyg eglurder neu ddealltwriaeth am yr hyn sydd ar gael. Mae’r ddarpariaeth hon yn ategu’r dyletswyddau a roddir ar awdurdodau lleol o dan adran 17 i sefydlu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i roi gwybodaeth a chyngor am ofal a chymorth i bobl, ynghyd â’u cynorthwyo i gael gafael ar y gwasanaethau hynny.
455.Mae adran 182 yn gosod cyfyngiadau ar y dibenion y caiff rheoliadau o dan adran 181 ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau eirioli gael eu darparu ar eu cyfer. Mae’r cyfyngiadau hyn yn atal rheoliadau o dan adran 181 rhag gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eirioli pan fo gofyniad yn bodoli eisoes i ddarparu gwasanaethau eirioli at y diben hwnnw, p’un ai o dan y Ddeddf hon neu mewn deddfwriaeth gyfredol. Y nod yw osgoi neilltuo sawl eiriolwr i unigolyn at yr un diben, ac osgoi dyblygu wrth ddarparu gwasanaethau eirioli. Mae is-adran (2) yn darparu, pan fo gwasanaethau eirioli yn cael eu darparu o dan adrannau 15, 17, 35, 36, 37 neu 38 o’r Ddeddf hon, na fydd unrhyw rwymedigaeth a osodir gan reoliadau o dan adran 181 i ddarparu gwasanaethau eirioli mewn cysylltiad â’r un materion yn gymwys. Pan fo gwasanaethau eirioli i’w darparu o dan fwy nag un ddarpariaeth yn y Ddeddf yr arfer gorau fel arfer yw bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan un eiriolwr. Bydd y dull hwn o weithredu yn rhoi llai o bwysau ar awdurdodau lleol hefyd.
456.Ystyrir bod cael gafael ar eiriolwr yn arbennig o bwysig i bobl sy’n cyllido eu gofal eu hunain mewn cartref gofal, oherwydd mae’n bosibl nad ydynt yn cael cefnogaeth gweithiwr cymdeithasol na chyswllt â’r gwasanaethau eraill a ddarperir gan awdurdod lleol. Mae adran 183 yn diwygio adran 22 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i ddarparu diogelwch i’r perwyl hyn. Gwneir hyn drwy ddarparu pwerau i Weinidogion Cymru osod rhwymedigaeth drwy reoliadau ar ddarparwyr cofrestredig a rheolwyr cartrefi gofal yng Nghymru i wneud trefniadau bod personau sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau o’r fath yn ymwybodol o unrhyw wasanaethau eirioli a all fod ar gael iddynt o dan adran 181 o’r Ddeddf hon.
457.Mae adran 184 yn nodi pwerau Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i wneud, comisiynu neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i faterion penodedig. Yn ogystal, mae’n gosod gofynion ar awdurdodau lleol, BILlau a sefydliadau gwirfoddol i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru o fewn paramedrau penodol wedi eu diffinio.
458.Mae’r adran hon, i raddau helaeth, yn adlewyrchu’r dull o weithredu sydd yn adran 83 o Ddeddf Plant 1989, ac, mewn perthynas â phlant, mae’n ailddatgan yn rhannol y ddarpariaeth honno.
459.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, BILlau a phartner arweiniol Bwrdd Diogelu (a ragnodir gan reoliadau o dan adran 134) ddarparu gwybodaeth iddynt. Gall Gweinidogion Cymru hefyd ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gwirfoddol ddarparu gwybodaeth am yr oedolion sydd wedi eu lletya ganddynt. Mae pŵer cyfatebol Gweinidogion Cymru yn achos plant sydd wedi eu lletya gan sefydliadau gwirfoddol yn adran 83 o Ddeddf Plant 1989.
460.Gall Gweinidogion Cymru ofyn am wybodaeth gan awdurdodau lleol sy’n golygu bod modd adnabod plant unigol (gweler is-adran (9). Fodd bynnag, dim ond os oes angen yr wybodaeth er mwyn llywio’r broses o adolygu a datblygu polisi ac arfer sy’n ymwneud â llesiant plant, neu’r broses o wneud ymchwil sy’n ymwneud â llesiant plant, y ceir gofyn amdani. Mae’n bosibl y bydd angen gwybodaeth lle y mae modd adnabod plant er mwyn i Weinidogion Cymru allu paru’r data y maent wedi eu cael drwy nifer o ffynonellau, ac yna asesu’r data mewn ffordd fwy ystyrlon. Er enghraifft, gall data cyrhaeddiad addysgol plant gynnwys ar adegau wybodaeth sy’n ei gwneud yn hawdd adnabod plant, megis cyfeirnodau disgyblion. Yng nghyd-destun datblygu polisi ac arfer sy’n ymwneud â llesiant plant, mae’n bosibl y bydd Gweinidogion Cymru am ystyried cyrhaeddiad addysgol carfannau penodol o blant, megis plant sy’n derbyn gofal. Caiff gwybodaeth am blant hefyd gael ei defnyddio i hysbysu Cyfrifiad Plant mewn Angen Cymru. Nid yw manylion plant unigol wedi eu cynnwys mewn adroddiadau o’r fath a chaiff eu data eu prosesu’n ddiogel gan Weinidogion Cymru yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
461.Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru grynodeb o’r wybodaeth a ddarperir iddynt o dan yr adran hon mewn adroddiad blynyddol, ond rhaid i’r crynodeb hwnnw beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod plentyn unigol, neu sy’n caniatáu i blentyn unigol gael ei adnabod.
462.Mae adran 185 yn gwneud darpariaeth o ran preswylfa arferol, at ddibenion y Ddeddf hon, oedolion sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid neu y mae ofynnol iddynt breswylio mewn “mangre a gymeradwywyd” neu mewn mangre arall o ganlyniad i amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol. Mae’r oedolion hynny i’w trin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe baent yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol lle y maent wedi eu cadw’n gaeth neu y mae’n ofynnol iddynt breswylio.
463.Ystyr hyn yw mai’r awdurdod lleol y mae’r carchar, y llety cadw ieuenctid, y fangre a gymeradwywyd neu’r llety arall wedi ei leoli yn ei ardal fydd yn gyfrifol am gynnal asesiadau ac am ddarparu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion cymwys yr oedolion sy’n cael eu cadw’n gaeth yno neu y mae’n ofynnol iddynt breswylio yno. Ni fydd preswylfa arferol flaenorol oedolyn yn cael ei ystyried.
464.Felly, os ymddengys i awdurdod lleol fod ar oedolyn sydd mewn carchar, mewn llety cadw ieuenctid, neu sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd neu mewn llety arall yn yr ardal, anghenion am ofal a chymorth, bydd y ddyletswydd i gynnal asesiad yn unol ag adran 19 yn gymwys. Pan fo ar oedolyn o’r fath anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso, caniateir dyletswydd i ddiwallu’r anghenion hynny.
465.Mae’r adran hon ac adran 187 yn datgymhwyso darpariaethau penodol o’r Ddeddf hon mewn perthynas ag oedolyn sydd wedi ei gadw’n gaeth mewn carchar neu mewn llety cadw ieuenctid neu y mae’n ofynnol iddo fyw mewn mangre a gymeradwywyd. Os nad yw darpariaeth wedi ei datgymhwyso neu ei haddasu, bydd yn gymwys yn un ffordd ag y mae i unrhyw oedolyn arall sy’n preswylio yn ardal yr awdurdod lleol. Er enghraifft bydd y trefniadau o ran codi ffioedd am ofal a chymorth i oedolion sydd wedi eu cadw’n gaeth yr un peth ag ar gyfer oedolion eraill sy’n preswylio yn yr ardal.
466.Mae is-adrannau (4), (5) a (6) yn nodi’r adrannau sydd wedi eu datgymhwyso mewn perthynas ag oedolion sydd wedi eu cadw’n gaeth mewn carchar neu mewn llety cadw ieuenctid neu sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.
467.Mae is-adran (7) yn cyfeirio at adran 187 sy’n cynnwys addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf hon i blant ac oedolion sydd wedi eu cadw’n gaeth neu’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.
468.Mae’r termau “llety cadw ieuenctid”, “mangre a gymeradwywyd” a “mechnïaeth mewn achos troseddol” wedi eu diffinio yn adran 188.
469.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phlant sydd wedi eu cadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar, neu y mae’n ofynnol iddynt breswylio mewn “mangre a gymeradwywyd” neu mewn mangre arall o ganlyniad i amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol. Yn aml, bydd gan blant o’r fath berthynas sefydledig â’u hawdurdod lleol, felly er mwyn sicrhau parhad y gofal, yr awdurdod lleol hwnnw fydd yn gyfrifol yn gyffredinol am gynnal unrhyw asesiadau, diwallu unrhyw anghenion, etc sy’n ofynnol o dan y Ddeddf hon (sy’n wahanol i’r sefyllfa ar gyfer oedolion sydd wedi eu cadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar, neu y mae’n ofynnol iddynt breswylio mewn mangre a gymeradwywyd neu mewn mangre arall o ganlyniad i amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol).
470.Caiff plentyn dderbyn gofal gan awdurdod lleol yn unol â gorchymyn a wnaed o dan Ddeddf Plant 1989 (adran 31) neu, yn union cyn iddo gael ei gollfarnu o drosedd, gall fod wedi bod yn cael gwasanaethau gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon. Mae’r ddarpariaeth a wneir gan yr adran hon yn cydnabod cyfrifoldebau parhaus yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal (p’un ai o dan y Ddeddf hon, neu o dan Ddeddf Plant 1989).
471.Fodd bynnag, yn achos plentyn sydd wedi ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar yng Nghymru, neu y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd neu mewn mangre arall o ganlyniad i amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol, ac:
nad yw’n preswylio fel arfer yng Nghymru, a
nad oes darpariaeth benodol wedi ei gwneud ar ei gyfer yn y darpariaethau hyn (neu o fewn adrannau 21, 37 a 38).
yr awdurdod lleol y mae’r plentyn wedi ei gadw’n gaeth yn ei ardal neu y mae’n ofynnol iddo breswylio yno sydd o dan ddyletswydd i gynnal unrhyw asesiad sy’n ofynnol gan y Ddeddf hon, i ddiwallu unrhyw anghenion etc.
472.Mae plentyn sydd wedi ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar neu y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd neu mewn mangre arall, wedi ei ddiffinio fel “plentyn perthnasol” gan is-adran (1).
473.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn glir, os yw plentyn perthnasol wedi bod yn cael gwasanaethau gan yr awdurdod lleol sy’n gartref iddo o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon, neu ei fod yn blentyn sy’n derbyn gofal neu sy’n preswylio fel arfer mewn awdurdod lleol yng Nghymru, yna y bydd yn cael ei drin fe pe bai o fewn ardal yr awdurdod lleol sy’n gartref iddo. Yr awdurdod lleol lle y mae ei gartref fydd yn gyfrifol am gynnal unrhyw asesiad o anghenion o dan y Ddeddf hon, am ddiwallu anghenion etc.
474.Mae is-adrannau (3) a (4) yn datgymhwyso rhai o ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â phlentyn sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar neu y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd. Mae angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y cydbwysedd o ran bod yn gyfrifol am blentyn o’r fath yn cael ei addasu er mwyn rhoi ystyriaeth i’r ffaith bod y plentyn yn cael ei gadw’n gaeth neu i’r gofyniad preswylio. Er enghraifft, mae adran 81 (Y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal) wedi ei datgymhwyso oherwydd y bydd llety yn cael ei ddarparu i blentyn perthnasol.
475.Mae is-adran (5) yn datgymhwyso adran 119 (Defnyddio llety i gyfyngu ar ryddid) mewn perthynas â phlant sydd wedi eu collfarnu o drosedd ac wedi ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar neu y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu sydd wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid yn unol ag adran 91 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012.
476.Mae is-adrannau (6) a (7) yn cynnwys darpariaeth ynghylch plentyn sydd wedi ei cadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar neu y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd ac yr oedd llety’n cael ei ddarparu iddo gan awdurdod lleol yn Lloegr yn unol ag adran 20 o Ddeddf Plant 1989 yn union cyn iddo gael ei gollfarnu. Bydd yr awdurdod lleol yn Lloegr a ddarparodd lety o’r fath i’r plentyn yn parhau yn gyfrifol am y plentyn yn unol ag adran 23ZA o Ddeddf Plant 1989 a rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno. Yn unol â hynny, os bydd angen gofal a chymorth ar blentyn o’r fath pan fydd yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar neu pan fydd yn ofynnol iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd, yr awdurdod lleol sy’n “gartref” iddo fydd yn gyfrifol am ddarparu gofal o’r fath.
477.Mae is-adran (8) yn cyfeirio at adran 187 sy’n cynnwys addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf hon i blant ac oedolion sydd wedi eu cadw’n gaeth neu sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.
478.Mae’r termau “carchar”, “llety cadw ieuenctid“, “mangre a gymeradwywyd” a “mechnïaeth mewn achos troseddol” oll wedi eu diffinio yn adran 188.
479.Bydd plentyn a oedd, yn union cyn ei gollfarnu a’i gadw’n gaeth neu cyn ei bod yn ofynnol iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd yng Nghymru, yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr (yn unol ag adran 31 o Ddeddf Plant 1989) yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol a fu’n gofalu amdano ddiwethaf. Mae ei statws fel plentyn sy’n derbyn gofal yn parhau a bydd yr awdurdod lleol yn Lloegr, sef yr awdurdod lleol cyfrifol at ddibenion Deddf Plant 1989, yn parhau i fod yn gyfrifol am unrhyw ofal a chymorth y mae euangen ar y plentyn pan fydd wedi ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar neu pan fydd yn ofynnol iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd yng Nghymru.
480.Mae cyfrifoldebau awdurdod lleol sy’n ”gartref” i blentyn o’r fath wedi eu nodi yn Neddf Plant 1989 (cymhwyso’r dyfarniad yn achos R. (on the application of the Howard League for Penal Reform) v the Secretary of State for the Home Department and the Department of Health (CO/1806/2002) ( “dyfarniad Munby ”)).
481.Mae rhwymedigaethau a phwerau’r awdurdod lleol yng Nghymru y mae’r carchar, y llety cadw ieuenctid neu’r fangre a gymeradwywyd wedi ei lleoli yn ei ardal, i gynnal asesiad o anghenion, neu i ddarparu gofal a chymorth, i blant o’r fath, wedi eu datgymhwyso gan adrannau 21(8), 37(6) a 38(4) o’r Ddeddf hon.
482.Mae adran 187 yn datgymhwyso rhai darpariaethau o’r Ddeddf i bersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu, ar ôl cael eu collfarnu o drosedd, y mae rhaid iddynt breswylio mewn “mangre a gymeradwywyd”. Mae’r darpariaethau sydd wedi eu datgymhwyso gan yr adran hon wedi eu datgymhwyso mewn perthynas â phlant a phobl ifanc.
483.Mae is-adran (1) yn atal person o’r fath rhag bod yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon.
484.Mae is-adran (2) yn atal person o’r fath rhag cael taliad uniongyrchol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 50 a 51 tuag at gostau diwallu anghenion cymwys y person hwnnw am ofal a chymorth.
485.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn glir na chaiff person o’r fath mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol (yn unol ag adran 57) ac eithrio pan fo person o’r fath yn cael ei ryddhau.
486.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn glir nad yw dyletswydd awdurdod lleol i ddiogelu eiddo person (yn unol ag adran 58) yn gymwys i berson sydd mewn carchar, mewn llety cadw ieuenctid neu sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.
487.Mae adran 188 yn adran ddehongli sy’n diffinio termau perthnasol a ddefnyddir yn adrannau 185 i 187.
488.Mae is-adran (2) yn darparu, os yw person yn absennol dros dro o garchar, llety cadw ieuenctid, mangre a gymeradwywyd neu fangre arall, y tybir ei fod yn cael ei gadw’n gaeth neu’n ddarostyngedig i ofyniad preswylio am y cyfnod hwn. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd person yn absennol dros dro o’r man lle y’i cedwir yn gaeth i gael triniaeth mewn ysbyty yn ardal awdurdod lleol arall, ni fydd hynny’n effeithio ar yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddarparu gofal a chymorth iddo.
489.Mae adran 189 yn gosod dyletswydd newydd ar awdurdod lleol yng Nghymru i gymryd camau os bydd person sydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“person cofrestredig”) yn methu â darparu’r llety neu’r gwasanaethau y mae’n eu darparu fel arfer o fewn ardal yr awdurdod lleol oherwydd methiant busnes.
490.Yn amgylchiadau o’r fath, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd dros dro i ddiwallu anghenion oedolion yr oedd y person cofrestredig yn darparu llety neu wasanaethau ar eu cyfer. Mae’r ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau o’r fath ond yn para am ba hyd bynnag y mae’r awdurdod lleol yn ei ystyried yn angenrheidiol.
491.Mae is-adrannau (4) i (7) yn cynnwys darpariaeth ynghylch gallu’r awdurdod o godi ffi neu i adennill costau oddi wrth awdurdod lleol arall am ddarparu gwasanaethau a ddarperir o ganlyniad i ddyletswydd dros dro a osodir gan is-adran (2).
492.Mae is-adran (8) yn gwneud darpariaeth ynghylch sut i ddatrys anghydfodau ynghylch cymhwyso’r adran hon. Mae’r weithdrefn y cyfeirir ati yn yr is-adran hon ond yn gymwys pan fo’r awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig â’r anghydfod yng Nghymru. Mae unrhyw anghydfod sy’n cynnwys awdurdod lleol neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’r tu allan i Gymru i’w drin yn unol â’r gofynion a nodir yn Rhan 1 o Ddeddf Gofal 2014 ac Atodlen 1 iddi.
493.Mae Rhan 1 o Ddeddf Gofal 2014 hefyd yn gosod dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol yng Nghymru i gymryd camau i ddiwallu anghenion oedolion am ofal a chymorth (neu gymorth) os bydd person cofrestredig yn methu â darparu llety neu wasanaethau eraill o ganlyniad i fethiant busnes, pan fo’r oedolion hynny wedi eu lleoli yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru gan:
awdurdod lleol yn Lloegr;
awdurdod lleol yn yr Alban;
Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
494.Yn unol â hynny, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu gosod o dan yr un ddyletswydd dros dro mewn perthynas â phersonau yn eu hardaloedd sydd mewn llety neu sy’n derbyn gwasanaethau a drefnwyd gan (neu o ganlyniad i daliad uniongyrchol a ddarparwyd gan) awdurdodau lleol yn Lloegr neu’r Alban neu gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
495.Mae Deddf Gofal 2014 hefyd yn cynnwys darpariaethau i ymdrin ag anghydfodau ynghylch lleoliadau ar draws ffiniau.
496.Mae’r dyletswyddau dros dro a osodir gan y Ddeddf hon (a chan Ddeddf 2014) os bydd methiant busnes ond yn gymwys mewn perthynas â gwasanaethau neu lety a ddarperir ar gyfer oedolion. Mae nifer o gamau diogelu statudol eisoes yn bodoli yn achos methiant darparwr sy’n diwallu anghenion plant am ofal a chymorth (neu gymorth) drwy ddarparu gwasanaethau neu lety (er enghraifft gwneir darpariaeth o dan Ddeddf Plant 1989 ac mewn is-ddeddfwriaeth sy’n nodi’r gofynion am barhad yn y ddarpariaeth o ofal a lleoliadau gofal).
497.Mae adran 190 yn nodi’r eithriadau i’r ddyletswydd dros dro a osodir gan adran 189. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i sefydlu dull cydlynol o ddiogelu pobl sy’n agored i niwed yn achos methiant busnes. Mae adran 190 yn egluro nad yw’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion fel y’u hamlinellir yn adran 189 cyn i’r methiant busnes gael ei ganfod.
498.Mae adran 191 yn darparu ar gyfer materion ychwanegol mewn perthynas â’r ddyletswydd newydd yn adran 189. Yn benodol, mae is-adran (7) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau at ddibenion yr adran hon ac adran 189 i bennu ystyr “methiant busnes” neu “methu â gwneud rhywbeth oherwydd methiant busnes”.
499.Mae adran 192 yn darparu ar gyfer diwygio adran 49 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae adran 49 o Ddeddf 1948 yn gymwys pan fo swyddog i’r awdurdod lleol wedi ei benodi yn ddirprwy gan y Llys Gwarchod. Mae’n darparu pŵer penodol i’r awdurdod lleol i dalu’r treuliau a dynnwyd gan y swyddog mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau fel dirprwy. Effaith y diwygiad yw na fydd yn pŵer penodol hwn yn gymwys i awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n dymuno talu treuliau dirprwy a benodwyd gan Lys yn gallu dibynnu ar eu pwerau cyffredinol o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
500.Mae adran 193 yn casglu ynghyd y trefniadau ar gyfer adennill costau rhwng awdurdodau lleol sydd i’w cael ar hyn o bryd yn adran 32 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (mewn perthynas ag oedolion) ac adran 29 o Ddeddf Plant 1989 (mewn perthynas â phlant).
501.Mae’n nodi’r amgylchiadau pan fo awdurdod lleol sy’n darparu gofal a chymorth i berson nad yw’n preswylio fel arfer yn ei ardal yn gallu adennill costau gwneud hynny oddi wrth yr awdurdod lleol lle y mae’r person yn preswylio fel arfer.
502.Mae’r adran hon yn nodi’r amgylchiadau pan fo awdurdod lleol yn gallu adennill costau a dynnwyd wrth gydymffurfio â chais a wneir o dan adran 164 am ei gydweithrediad neu am wybodaeth.
503.Mae’r adran hefyd yn nodi’r amgylchiadau pan fo hawl gan yr awdurdod lleol sy’n darparu llety ar gyfer plentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall i adennill y costau oddi wrth awdurdod lleol arall hwnnw.
504.Mae is-adran (1) yn nodi pryd y mae oedolyn i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer, os yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth yn gwneud trefniadau i’r oedolyn fyw mewn llety o fath penodol. O ganlyniad i’r trefniadau hyn, mae’n bosibl y bydd yr oedolyn yn symud i ardal arall. Yn y sefyllfa hon, effaith y ddarpariaeth hon yw y caiff yr oedolyn ei drin, at ddibenion y Ddeddf hon, fel pe bai’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol a wnaeth y trefniadau (ac nid yn yr ardal y mae wedi symud iddi).
505.Pan fo trefniadau wedi eu gwneud i’r oedolyn gael ei letya yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, bydd y darpariaethau yn Atodlen 1 i Ddeddf Gofal 2014 yn gymwys, os yw’r darpariaethau hynny wedi cychwyn cyn yr adran hon. Os nad ydynt, bydd adran 24 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â lleoliadau yn Lloegr yn unig, ac effaith hynny yw y bydd awdurdod lleol yng Nghymru yn parhau’n gyfrifol am oedolion sydd wedi eu lleoli mewn cartref gofal yn Lloegr.
506.Caiff rheoliadau bennu’r mathau o lety y mae is-adran (1) yn gymwys iddynt a chânt wneud darpariaeth ynghylch a oes ar oedolyn angen am fath penodol o lety. Er enghraifft, gellid gwneud darpariaeth mewn rheoliadau i’r darpariaethau yn is-adran (1) fod yn gymwys os yw’r oedolyn wedi ei leoli mewn cartref gofal yn unig.
507.Mae is-adran (4) yn gymwys i oedolion a phlant. Os yw person yn cael ei dderbyn i’r ysbyty neu unrhyw lety arall a ddarperir o dan ddeddfiad iechyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, mae’r person hwnnw i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n preswylio fel arfer yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer cyn iddo gael ei dderbyn. Mae hyn yn golygu y bydd yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal honno yn parhau i fod yn gyfrifol am ddiwallu anghenion y person am ofal a chymorth. Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer beth fydd yn digwydd os oedd y person heb breswylfa sefydlog cyn i’r llety gael ei ddarparu.
508.Mae is-adran (6) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phreswylfa arferol plentyn. Effaith y ddarpariaeth hon yw y caiff preswylfa arferol y plentyn ei ddyfarnu heb roi unrhyw sylw i unrhyw gyfnodau pan oedd y plentyn yn byw mewn mathau penodol o fannau, gan gynnwys ysgolion a llety awdurdod lleol. Er enghraifft, pan fo awdurdod lleol yn gwneud trefniadau i blentyn gael ei letya y tu allan i’w ardal, ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar statws preswylio arferol y plentyn.
509.Mae’r ddarpariaeth a wneir gan yr adran hon yn seiliedig ar ddarpariaeth a wnaed yn adran 24 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac adran 105 o Ddeddf Plant 1989.
510.Mae adran 195 yn darparu i Weinidogion Cymru neu berson a benodir ganddynt ddatrys anghydfodau ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac ynghylch cymhwyso adran 56 (Hygludedd gofal a chymorth) i berson. Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach, er enghraifft, i sicrhau bod anghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu tra bo’r anghydfod yn cael ei ddatrys, ac i nodi’r weithdrefn ar gyfer atgyfeirio’r anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig (gan gynnwys y camau y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol eu cymryd cyn y gwneir atgyfeiriad). Mae’r adran hon yn deillio o ddarpariaeth sydd wedi ei gwneud yn adran 32 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac adran 30 o Ddeddf Plant 1989.
511.Mae adran 196 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â gwneud gorchmynion a rheoliadau o dan y Ddeddf hon, gan gynnwys gweithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer eu gwneud.
512.Mae’r adran hon yn cynnwys diffiniad o’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf hon a mynegai o dermau a ddiffinnir mewn darpariaethau eraill yn y Ddeddf.
513.Mae adran 198 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth atodol, cysylltiedig neu ganlyniadol neu sy’n gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, er mwyn rhoi effaith lawn i ddarpariaeth yn y Ddeddf neu o ganlyniad i ddarpariaeth yn y Ddeddf.
514.Gellir defnyddio’r pŵer hwn, er enghraifft, i ddiddymu darpariaethau am wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru sy’n cael eu disodli gan ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, ac i wneud unrhyw ddiwygiadau canlyniadol sy’n deillio o ddiddymiad o’r fath.
515.Mae Atodlen 1 (a gyflwynir gan adran 85) yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff awdurdod lleol adennill cyfraniadau gan oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sy’n derbyn gofal tuag at y gost o gynnal y plentyn hwnnw. Nid yw oedolyn a all fod fel arall yn atebol i wneud cyfraniad yn atebol i gyfrannu os yw’n derbyn unrhyw fudd-dal, lwfans neu daliad arall (caiff disgrifiadau o fudd-daliadau, lwfansau neu daliad o’r fath gael eu pennu mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru).
516.Nid oes unrhyw atebolrwydd i gyfrannu at gynhaliaeth plentyn sy’n derbyn gofal pan fo’r plentyn yn byw gyda rhiant (ar ôl cael ei leoli yno yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 81).
517.Rhaid nodi unrhyw gyfraniadau a geisir gan oedolyn yn unol â’r Atodlen hon mewn hysbysiad ysgrifenedig, a rhaid ei gyflwyno i’r unigolyn perthnasol. Rhaid i’r hysbysiad bennu swm y cyfraniad wythnosol y gwneir cais amdano a’r trefniadau ar gyfer talu. Ni chaiff y cyfraniad wythnosol fod uwchlaw’r swm y byddai’r awdurdod lleol yn ei dalu fel arfer i rieni maeth awdurdod lleol i letya plentyn tebyg na’r swm y mae’r awdurdod lleol yn ystyried y byddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn ei gyfrannu.
518.Caiff hysbysiadau eu cyflwyno yn bersonol drwy eu rhoi i’r oedolyn perthnasol neu eu hanfon drwy’r post wedi eu cofrestru neu eu cofnodi. Caiff oedolyn perthnasol gyflwyno hysbysiad i’r awdurdod lleol i dynnu ei gytundeb i gyfrannu at y gost o gynnal y plentyn yn ôl. Mewn achosion o’r fath, caiff yr awdurdod lleol wneud cais i’r llys am orchymyn cyfrannu. Ni chaiff gorchmynion o’r fath bennu cyfraniad wythnosol sydd uwchlaw’r swm a nodir yn yr hysbysiad cyfrannu a rhaid iddynt roi sylw i fodd yr oedolyn perthnasol.
519.Caiff rheoliadau y caniateir i Weinidogion Cymru eu gwneud (yn unol â’r pŵer ym mharagraff 5 o’r Atodlen) ddarparu ar gyfer yr ystyriaethau y mae rhaid i awdurdodau lleol roi sylw iddynt wrth benderfynu p’un ai i geisio adennill cyfraniadau a pha drefniadau ar gyfer talu a ddylai fod, ac ar gyfer y gweithdrefnau i’w dilyn wrth ddod i gytundeb gyda’r oedolyn perthnasol neu awdurdodau lleol eraill.
520.Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth bellach o ran dirymu, amrywio a gorfodi gorchmynion cyfrannu.
521.Mae gorchymyn cyfrannu a wnaed gan lys ynadon ar hyn o bryd yn orfodadwy fel gorchymyn cynhaliaeth llys ynadon (yn unol â darpariaeth a wneir gan adran 150(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980) (gweler paragraff 4(1) o’r Atodlen). Ar ôl i adran 17 ac Atodlenni 10 ac 11 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (“Deddf 2013”) gychwyn, bydd awdurdodaeth llysoedd sirol ac ynadon mewn perthynas ag achosion teuluol yn trosglwyddo i’r llys teuluol newydd. Mae paragraff 4(2) yn cadarnhau, ar ôl i’r darpariaethau perthnasol yn Neddf 2013 gychwyn, y bydd is-baragraff (1) o’r Atodlen yn peidio â bod yn gymwys.
522.O ganlyniad i newidiadau deddfwriaethol a wnaed gan Ddeddf 2013 i sefydlu’r llys teuluol newydd, bydd gorchymyn cyfrannu a wneir o dan yr Atodlen hon yn parhau i fod yn orfodadwy yn unol â Rheolau Achosion Teuluol 2010 ond, ar ôl i’r darpariaethau sy’n effeithio ar drosglwyddo awdurdodiad gychwyn, byddant yn orfodadwy o fewn y llys teuluol newydd (gweler paragraff 91 o Atodlen 10 i Ddeddf 2013, sy’n diwygio Deddf Llysoedd 2003).
523.Mae Atodlen 2 yn rhestru’r swyddogaethau awdurdod lleol hynny sy’n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol at ddibenion y Ddeddf hon ac yn rhoi disgrifiad cyffredinol ohonynt. Cyflwynir yr Atodlen gan adran 143 o’r Ddeddf, sydd hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygio eitemau yn yr Atodlen hon ac ychwanegu neu ddileu eitemau drwy Orchymyn.
524.Mae paragraffau 1 a 2 yn mewnosod Rhan 2A a 2B newydd yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (“Deddf 2005”).
525.Mae’r adran 34A newydd yn nodi’r tri mater y mae Rhan 2A yn gymwys iddynt: (1) y camau a gymerir gan ddarparwr cartref gofal mewn cysylltiad â darparu llety, gofal nyrsio neu ofal personol mewn cartref gofal yng Nghymru; (2) y camau a gymerir gan ddarparwr gofal cartref mewn cysylltiad â darparu gofal cartref yng Nghymru; a (3) y camau a gymerir gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth gofal lliniarol yng Nghymru. Nid yw Rhan 2A yn gymwys i gwynion y gellir ymdrin â hwy o dan Ran 2 o Ddeddf 2005 nac i faterion a ddisgrifir yn yr Atodlen 3A newydd i Ddeddf 2005. Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 3A (materion sydd wedi eu heithrio o ystyriaeth yr Ombwdsmon) drwy orchymyn ond rhaid iddynt ymgynghori â’r Ombwdsmon cyn gwneud hynny. Rhaid i orchymyn o’r fath gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo. Mae’r termau a ddefnyddir yn yr adran hon wedi eu diffinio yn adrannau 34R i 34T.
526.Mae adran 34B yn adlewyrchu’r dull cyffredinol a ddefnyddiwyd yn adran 2 o Ddeddf 2005. Yn rhinwedd adran 34B(1) ni chaiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn sy’n ymwneud â mater y mae Rhan 2A o Ddeddf 2005 yn gymwys iddi oni bai:
bod y gŵyn wedi ei chyflwyno iddo’n briodol neu wedi ei chyfeirio ato’n briodol; a
cyn i’r Ombwdsmon ystyried y gŵyn, bod y mater wedi cael ei ddwyn i sylw’r darparwr y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef. Hefyd, rhaid bod y darparwr wedi cael cyfle rhesymol i ystyried y mater ac ymateb iddo.
527.Yn achos cwynion ynghylch darparwyr gofal lliniarol annibynnol, mae un amod ychwanegol, sef rhaid bod y darparwr gofal lliniarol annibynnol wedi cael arian cyhoeddus o fewn y tair blynedd cyn dyddiad y weithred y mae’r gŵyn yn ymwneud â hi. Diffinnir “public funding” yn is-adran (3) a’i ystyr yw arian oddi wrth Weinidogion Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Ymddiriedolaeth GIG neu gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys arian grant a ddarperir gan Weinidogion Cymru i’r gwasanaeth gofal lliniarol annibynnol.
528.Mae adrannau 34B(4) a 34E yn nodi’r amgylchiadau pan gyflwynir cwyn yn briodol i’r Ombwdsmon. Mae adran 34B(5) ac adran 34F yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff cwyn ei chyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon gan ddarparwr y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef. Mae adran 34B(7) yn galluogi’r Ombwdsmon i ymchwilio i gŵyn hyd yn oed os nad yw’r gofynion penodol o ran y ffordd y mae cwyn i’w chyflwyno neu ei chyfeirio wedi cael eu bodloni, a hynny os yw’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny. Mae adrannau 34B(8) a (9) yn rhoi disgresiwn eang i’r Ombwdsmon o ran a ddylid dechrau ymchwiliad, parhau ag ymchwiliad neu ei derfynu. Mae adran 34B(10) yn ei gwneud yn glir y caiff yr Ombwdsmon ddechrau ymchwiliad neu barhau ag ef hyd yn oed os yw’r gŵyn wedi ei thynnu yn ôl. Gall hyn fod yn briodol, er enghraifft, pan fo’r achwynydd ‘arweiniol’ wedi gwneud cwyn am gamau gan ddarparwr sydd hefyd wedi effeithio ar bersonau eraill, ond y mae wedi tynnu ei gŵyn ‘arweiniol’ yn ôl. Mewn achosion o’r fath, caiff yr Ombwdsmon ystyried ei bod yn bridol dechrau ymchwiliad neu barhau ag ymchwiliad, er gwaetha’r ffaith bod y gŵyn ‘arweiniol’ wedi ei thynnu yn ôl, er mwyn diogelu buddiannau’r personau eraill.
529.Mae adran 34C yn adlewyrchu adran 3 o Ddeddf 2005 ac yn rhoi pŵer eang i’r Ombwdsmon i gymryd camau i ddatrys cwynion a wnaed o dan Ran 2A o Ddeddf 2005 heb fynd ymlaen i ymchwiliad ffurfiol. Mae’r pŵer hwn ar gael i’r Ombwdsmon ei ddefnyddio yn lle’r pŵer i ymchwilio o dan y Ran hon neu’n ychwanegol at y pŵer hwnnw.
530.Mae adran 34D yn seiliedig ar adran 4 o Ddeddf 2005. Mae’n rhestru’r personau y caniateir iddynt wneud cwyn i’r Ombwdsmon o dan Ran 2A o Ddeddf 2005. Caiff person wneud cwyn os yw’n aelod o’r cyhoedd (y person a dramgwyddir, sef “the person aggrieved”) sy’n honni ei fod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i gamweinyddu neu fethiant yn y gwasanaeth (yn ôl y digwydd), neu os yw wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran person o’r fath neu os ymddengys i’r Ombwdsmon ei bod yn briodol gweithredu ar ran person o’r fath. Fodd bynnag, nid unigolion yn unig sy’n gallu cwyno i’r Ombwdsmon: caiff cwmnïau a sefydliadau gwyno i’r Ombwdsmon hefyd am anghyfiawnder neu galedi y mae aelodau o’r cyhoedd wedi ei ddioddef, ar yr amod bod yr amodau yn is-adran (1) wedi eu bodloni. Mae gan yr Ombwdsmon yr hawl i ddyfarnu a yw gofynion adran 34D wedi eu bodloni mewn achos penodol.
531.Mae adran 34E yn ei gwneud yn ofynnol i gwynion i’r Ombwdsmon gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig (sy’n cynnwys drwy ddulliau electronig). Fodd bynnag, o dan adran 34B(7), caiff yr Ombwdsmon benderfynu derbyn cwyn a gyflwynwyd ar ffurf nad yw’n ysgrifenedig os yw’n credu ei bod yn rhesymol iddo wneud hynny. Er enghraifft, os oes gan y person a dramgwyddir anabledd sy’n ei gwneud yn anodd iddo wneud ei gŵyn ar ffurf ysgrifenedig, mae gan yr Ombwdsmon ddisgresiwn i dderbyn cwyn lafar yn lle hynny.
532.Mae adran 34E(2) yn darparu mai’r terfyn amser (y cyfnod a ganiateir, sef “the permitted period”) ar gyfer gwneud cwyn i’r Ombwdsmon yw:
pan fo’r person a dramgwyddir wedi cael ei hysbysu am y mater cyn y dyddiad y daw adran 34B i rym, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y dyddiad y daw’r adran i rym; a
mewn unrhyw achos arall, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y person a dramgwyddir ei hysbysu gyntaf am y mater.
533.Eto, o dan adran 34B(7), mae gan yr Ombwdsmon ddisgresiwn i ystyried cwyn a gyflwynir y tu allan i’r terfyn amser hwnnw os yw’n ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny o dan amgylchiadau’r achos. Mae gan Weinidogion Cymru hefyd bŵer i wneud rheoliadau sy’n addasu’r modd y mae Deddf 2005 yn gymwys i gyn-ddarparwyr cartrefi gofal yng Nghymru, cyn-ddarparwyr gofal cartref yng Nghymru a chyn-ddarparwyr gofal lliniarol annibynnol yng Nghymru (gweler y diwygiadau a wneir i adran 42 o Ddeddf 2005 gan baragraff 29 o Atodlen 3A i’r Ddeddf hon). Rhagwelir y caiff y pŵer hwn gael ei ddefnyddio i amrywio, er enghraifft, y terfyn amser ar gyfer gwneud cwynion i’r Ombwdsmon ynghylch gweithredoedd personau o’r fath.
534.Yn ddarostyngedig i’r gofynion datganedig penodol yn Neddf 2005, mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar ei weithdrefnau ei hun, ac yn benodol, mae adran 34E(3) yn darparu mai mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion adran 34E wedi eu bodloni mewn achos penodol.
535.O dan adran 34F gall darparwr gyfeirio cwyn at yr Ombwdsmon a gyflwynwyd i’r darparwr. Fodd bynnag, dim ond os yw’r gŵyn wedi ei gwneud i’r darparwr gan berson y byddai hawlogaeth wedi bod ganddo i wneud y gŵyn honno’n uniongyrchol i’r Ombwdsmon y caiff y darparwr wneud hynny. Rhaid i’r gŵyn fod wedi ei gwneud hefyd i’r darparwr cyn diwedd y cyfnod a ganiateir y cyfeirir ato yn adran 34E(2). Pan fo darparwr yn cyfeirio cwyn at yr Ombwdsmon, rhaid iddi fod yn ysgrifenedig a rhaid iddi gael ei chyfeirio cyn diwedd blwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y gwnaed y gŵyn i’r darparwr. O dan adran 34B(7) caiff yr Ombwdsmon, at ddibenion derbyn cwyn sydd wedi ei chyfeirio, ddiystyru’r naill neu’r llall (neu’r ddau) o’r terfynau amser hynny os yw o’r farn ei bod yn rhesymol iddo wneud hynny.
536.Mae adran 34G yn darparu bod rhaid i’r Ombwdsmon lunio datganiad o resymau mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad y mae’n ei wneud i beidio â dechrau ymchwiliad neu i derfynu ymchwiliad. Caiff penderfyniad o’r fath ei wneud, er enghraifft, pan fo’r Ombwdsmon wedi datrys cwyn drwy ddulliau amgen o dan adran 34C ac felly wedi penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad ffurfiol.
537.O dan adran 34G(2), rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r datganiad hwnnw at:
y person a gyflwynodd y gŵyn iddo; a
y darparwr y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef.
538.O dan adran 34G(3) caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o’r datganiad at unrhyw berson arall.
539.Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o’r fath os yw gofynion adran 34G(4) wedi eu bodloni. Ni chaiff yr Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o’r fath oni bai ei fod o’r farn bod cyhoeddi er budd y cyhoedd. Wrth ddod i gasgliad, rhaid i’r Ombwdsmon ystyried buddiannau’r person a dramgwyddir ac unrhyw bersonau eraill y mae’n credu eu bod yn briodol.
540.Mae adran 34G(7) ac (8) yn gwahardd yr Ombwdsmon rhag anfon datganiad allan neu gyhoeddi datganiad:
sy’n enwi unrhyw berson (ac eithrio’r darparwr y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef); neu
sy’n cynnwys gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o beri i berson o’r fath gael ei adnabod ac y gall yr wybodaeth honno, ym marn yr Ombwdsmon, gael ei hepgor o’r datganiad heb amharu ar ei effeithiolrwydd,
oni bai bod yr Ombwdsmon yn ystyried ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys enw o’r fath neu fanylion o’r fath sy’n peri i’r person gael ei adnabod. Nid yw’r gwaharddiad hwn yn gymwys mewn perthynas â’r fersiwn o’r datganiad a anfonir at yr achwynydd.
541.Mae adran 34H(3) yn darparu, yn ddarostyngedig i’r gofynion yn is-adrannau (1) a (2) o’r adran honno, mai mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad. Gallai’r Ombwdsmon, er enghraifft, sefydlu gweithdrefnau gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o gwynion a gallai, mewn unrhyw achos penodol, wyro oddi wrth weithdrefnau sefydledig o’r fath pe bai’n ystyried bod hynny’n briodol.
542.Mae adran 34H(4)(a) yn ei gwneud yn glir y caiff yr Ombwdsmon wneud unrhyw ymholiadau y mae’n credu eu bod yn briodol. Mae adran 34H(4)(b) yn darparu mai mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a gaiff person gael ei gynrychioli’n gyfreithiol neu ei gynrychioli mewn rhyw fodd arall (er enghraifft gan eiriolwr annibynnol).
543.Mae adran 34H(6) yn rhoi pŵer i’r Ombwdsmon i wneud taliadau tuag at dreuliau’r personau sy’n ei gynorthwyo mewn ymchwiliad, yr amod bod y costau hynny wedi eu tynnu’n briodol, ac i dalu lwfansau penodol. Mater i’r Ombwdsmon yw dyfarnu a yw’n briodol gwneud taliadau o’r fath neu osod unrhyw amodau ar daliadau o’r fath.
544.Mae adran 34I yn rhoi pwerau eang i’r Ombwdsmon i’w gwneud yn ofynnol i ddangos gwybodaeth neu ddogfennau mewn perthynas ag ymchwiliad (adran 34I(2) a (3)) ac i’w gwneud yn ofynnol i bersonau penodol ddarparu iddo unrhyw gyfleusterau y mae’n gofyn amdanynt a hynny’n rhesymol (adran 34I(4)). Mae’n bosibl y bydd angen yr ail ddarpariaeth, er enghraifft, os yw’r Ombwdsmon yn ei gwneud yn ofynnol i galedwedd neu feddalwedd gyfrifiadur benodol gael ei defnyddio i weld dogfennau neu wybodaeth a ddarperir.
545.Man gan yr Ombwdsmon yr un pwerau â’r Uchel Lys mewn perthynas â chymryd tystiolaeth oddi wrth dystion (adran 34I(3)).
546.Mae adran 34I(5) yn darparu diogelwch i’r rheini y caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol iddynt roi tystiolaeth neu ei gwneud yn ofynnol iddynt ddangos gwybodaeth neu ddogfennau. Ni chaiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson o’r fath roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfennau na allai’r person hwnnw gael ei orfodi i’w rhoi neu eu dangos gerbron yr Uchel Lys.
547.Mae adran 34I(6) yn rhwystro’r Goron rhag dal gwybodaeth yn ôl ar y sail bod yr wybodaeth yn ddarostyngedig i rwymedigaeth i’w chadw’n gyfrinachol neu ar y sail bod cyfyngiad ar ei datgelu.
548.Effaith adran 34I(7), mewn perthynas â phŵer yr Ombwdsmon i’w gwneud yn ofynnol bod tystiolaeth yn cael ei rhoi neu fod gwybodaeth neu ddogfennau’n cael eu dangos, yw na all y Goron ddibynnu ar naill ai ei breintiau arbennig na’i himiwneddau i drechu hawl yr Ombwdsmon i weld gwybodaeth o’r fath o dan adran 34I(5).
549.Mae adrannau 34J(1) a (2) yn galluogi’r Ombwdsmon i ardystio i’r Uchel Lys fod person, yn ei farn ef, wedi ei rwystro’r Ombwdsmon (neu aelod o’i staff) heb esgus cyfreithlon wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 2A neu fod y person wedi ymddwyn mewn modd a fyddai’n gyfystyr â chyflawni dirmyg llys, pe bai’r weithred honno wedi ei gwneud mewn perthynas ag achos yn yr Uchel Lys.
550.Os yw’r Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif o’r fath, yna caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater ac os yw’r Uchel Lys yn darganfod bod y person o dan sylw wedi rhwystro’r Ombwdsmon, caiff yr Uchel Lys ymdrin â’r person fel pe bai wedi cyflawni dirmyg mewn perthynas â’r Uchel Lys (adran 34J(4)).
551.Mae adran 34K(2) yn darparu bod rhaid i’r Ombwdsmon lunio adroddiad ar ei ganfyddiadau ar ôl cynnal ymchwiliad a bod rhaid iddo anfon copi o’r adroddiad hwnnw at y personau a bennir yn adran 34K(3), oni bai ei fod yn penderfynu cyflwyno adroddiad o dan y weithdrefn amgen a nodir o dan adran 34N. Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill y mae’n credu eu bod yn briodol.
552.Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi ei adroddiad os yw gofynion adran 34K(5) wedi eu bodloni. Dim ond os yw’r Ombwdsmon yn ystyried bod cyhoeddi adroddiad o’r fath er budd y cyhoedd y caiff wneud hynny. Wrth ddod i’w gasgliad, rhaid i’r Ombwdsmon roi sylw i fuddiannau’r person a dramgwyddir ac unrhyw bersonau eraill y mae’n credu eu bod yn briodol.
553.Mae adrannau 34K(8) a (9) yn gwahardd yr Ombwdsmon rhag anfon adroddiad allan neu gyhoeddi adroddiad:
sy’n enwi unrhyw berson (ac eithrio’r darparwr y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef); neu
sy’n cynnwys gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o beri i unrhyw berson gael ei adnabod ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor o’r adroddiad heb amharu ar ei effeithiolrwydd,
oni bai bod yr Ombwdsmon yn ystyried ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys enw o’r fath neu fanylion o’r fath sy’n peri i’r person gael ei adnabod. Nid yw’r gwaharddiad hwn yn gymwys mewn perthynas â’rfersiynau o’r adroddiad a anfonir at yr achwynydd neu at Weinidogion Cymru. Wrth ddod i’w gasgliad o ran a fyddai er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth hon yn y fersiynau eraill o’r adroddiad, rhaid i’r Ombwdsmon roi sylw i fuddiannau’r person a dramgwyddir ac unrhyw bersonau eraill y mae’n credu eu bod yn briodol.
554.Mae adran 34L yn darparu y caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi hysbysiad ynghylch adroddiad ymchwiliad mewn papur newydd, neu gyfrwng ddarlledu/electronig arall. Rhaid i unrhyw benderfyniad i gyhoeddi hysbysiad o’r fath ystyried budd y cyhoedd, buddiannau’r person a dramgwyddir ac unrhyw bersonau eraill y mae’r Ombwdsmon yn credu eu bod yn briodol (gweler adran 34L(4)). Caiff yr hysbysiad (ymhlith pethau eraill) gynnwys y materion a bennir yn adran 34L(2). Rhaid i’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef ad-dalu’r costau rhesymol ar gyfer trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi i’r Ombwdsmon, os yw’r Ombwdsmon yn gofyn iddo wneud hynny.
555.Mae adran 34M yn darparu, os yw’r Ombwdsmon, yn dilyn ymchwiliad, yn adrodd (o dan adran 34K) bod y person a dramgwyddir wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i’r camau gweithredu yr ymchwilir iddynt, fod rhaid i’r darparwr o dan sylw ystyried adroddiad yr Ombwdsmon a’i hysbysu am y camau y mae’r darparwr wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i hynny ac yn ogystal am y cyfnod amser y cymerir y camau hyn ynddo. Rhaid i’r darparwr o dan sylw wneud yr hysbysiad o fewn un mis gan ddechrau ar y diwrnod y mae’r darparwr yn cael yr adroddiad neu unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ôl ei ddisgresiwn.
556.Mae adran 34N yn darparu nad yw’r weithdrefn adrodd lawn o dan adrannau 34K i 34M yn gymwys os yw’r Ombwdsmon yn penderfynu adrodd o dan y weithdrefn amgen a nodir yn yr adran hon. Os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ymchwiliad, yn dod i’r casgliad a ganlyn ynghylch y person a dramgwyddir:
nad yw wedi dioddef anghyfiawnder na chaledi o ganlyniad i’r camau gweithredu yr ymchwilir iddynt; neu
y mae wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o’r fath ac mae’r darparwr y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef yn cytuno o fewn y cyfnod a ganiateir (fel y’i diffinnir yn adran 34N(3)) i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon,
yna caiff yr Ombwdsmon benderfynu cyflwyno adroddiad o dan y weithdrefn amgen o dan adran 34N. Fodd bynnag, dim ond os yw wedi ei fodloni nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno adroddiad o dan y weithdrefn adrodd lawn a nodir yn adrannau 34K i 34M y caiff yr Ombwdsmon wneud hynny.
557.Mae adroddiad o dan y weithdrefn amgen yn yr adran hon yn ddarostyngedig i gyfyngiadau tebyg mewn cysylltiad ag enwi unigolion neu beri iddynt gael eu hadnabod i’r rhai sy’n gymwys i adroddiad o dan adran 34K (adran 34N(9) a (10)).
558.O dan adran 34O, caiff yr Ombwdsmon ddyroddi adroddiad arbennig mewn tri achos:
Mae’r Ombwdsmon wedi dod i’r casgliad mewn adroddiad ar ymchwiliad bod y person wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo ond:
nid yw’r Ombwdsmon wedi cael ei hysbysu gan y darparwr, yn unol ag adran 34M (Y camau i’w cymryd ar ôl cael adroddiad ymchwiliad), am y camau y mae’r darparwr wedi eu cymryd/yn bwriadu eu cymryd, neu am y cyfnod ar gyfer cymryd unrhyw gamau bwriadedig, neu
nid yw’r Ombwdsmon, ar ôl cael ei hysbysu am faterion o’r fath yn unol ag adran 34M, wedi ei fodloni gan y camau/camau bwriadedig neu’r cyfnod ar gyfer cymryd y camau, neu nid yw wedi ei fodloni bod y camau wedi eu cymryd cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.
Mae’r Ombwdsmon wedi llunio adroddiad o dan adran 34N(2) (Y weithdrefn amgen) ac nid yw wedi ei fodloni bod y darparwr wedi gweithredu ei argymhellion o fewn y cyfnod a ganiateir; ac
Mae’r ombwdsmon wedi dod i’r casgliad, wrth ddatrys cwyn o dan adran 34C (dull amgen o ddatrys cwynion), fod y person a dramgwyddir wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, bod y darparwr wedi cytuno i gymryd camau penodol ac nad yw’r Ombwdsmon wedi ei fodloni bod y darparwr wedi cymryd y camau hynny cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.
559.Mae adran 34P(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon nodi, mewn adroddiad arbennig, y ffeithiau sy’n rhoi’r hawl iddo lunio’r adroddiad a gwneud pa argymhellion bynnag y mae’n credu eu bod yn briodol mewn cysylltiad â’r camau y mae’n credu y dylid eu cymryd i unioni’r anghyfiawnder neu’r caledi a ddioddefwyd gan y person a dramgwyddir ac i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi eto. Mae adrannau 34P(2) a (3) yn nodi’r personau y mae’n rhaid anfon yr adroddiad arbennig atynt. Mae’r gofynion sy’n gymwys pan fo’r Ombwdsmon eisoes wedi ystyried y mater mewn adroddiad llawn o dan adran 34K yn wahanol i’r rhai sy’n gymwys pan fo eisoes wedi ystyried y mater o dan y weithdrefn amgen o dan adran 34N neu drwy broses ddatrys amgen o dan adran 34C.
560.Mae adrannau 34P(4) i (10) yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas ag adroddiadau arbennig. Yn benodol, mae adroddiad arbennig yn ddarostyngedig i gyfyngiadau tebyg mewn cysylltiad ag enwi unigolion neu beri iddynt gael eu hadnabod i’r rhai sy’n gymwys i adroddiad o dan adran 34K.
561.Mae adran 34Q yn rhoi’r pŵer i’r Ombwdsmon gyhoeddi hysbysiad am adroddiad arbennig mewn papur newydd neu drwy gyfryngau darlledu ac electronig. Wrth ddyfarnu a ddylid cyhoeddi, rhaid i’r Ombwdsmon ystyried budd y cyhoedd, buddiannau’r person a dramgwyddir a buddiannau unrhyw berson arall y mae’r Ombwdsmon yn credu ei fod yn briodol. Os yw’r Ombwdsmon yn gofyn i ddarparwr y mae adroddiad yn ymwneud ag ef ad-dalu’r costau rhesymol i’r Ombwdsmon am drefnu i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, rhaid iddo wneud hynny. Os yw darparwr yn methu â gwneud hynny, caiff yr Ombwdsmon adennill y costau hyn fel dyled sifil.
562.Mae adran 34R yn darparu diffiniadau o “care home” a “care home provider” drwy gyfeirio at Ddeddf Safonau Gofal 2000 (gweler adrannau 3 a 121(9) o’r Ddeddf honno i gael diffiniad o gartref gofal). Mae hefyd yn darparu bod camau darparwr cartref gofal yn cynnwys camau a gymerir gan staff y darparwr ac eraill sy’n gweithredu ar ran y darparwr.
563.Mae adran 34S yn darparu diffiniadau o “domiciliary care” a “domiciliary care provider”. Mae hefyd yn darparu bod camau gweithredu darparwr gofal cartref yn cynnwys camau a gymerir gan staff y darparwr ac eraill sy’n gweithredu ar ran y darparwr.
564.Mae adran 34T yn darparu diffiniadau o “palliative care service” ac “independent palliative care provider”. Nid yw’r term “ palliative care” wedi ei ddiffinio. Fodd bynnag, fe’i defnyddir ar y cyfan i ddisgrifio lliniaru poen y rhai sydd â chyflyrau terfynol, lleddfu ar y boen heb ymdrin ag union achos y cyflwr a gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol i bersonau sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd. Fel arfer disgrifir cyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd fel y rhai sy’n debygol o fyrhau disgwyliad oes person.
565.Wrth benderfynu p’un a yw math penodol o ofal yn gyfystyr â gofal lliniarol ai peidio, rhagwelir y bydd yr Ombwdsmon yn rhoi rhywfaint o bwys i’r diffiniad o “palliative care” a ddefnyddir gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’r diffiniad hwn yn darparu bod “palliative care is an approach that improves the quality of life of patients and their families facing the problem associated with life-threatening illness, through the prevention and relief of suffering by means of early identification and impeccable assessment and treatment of pain and other problems, physical, psychosocial and spiritual”. Mae’n debygol iawn hefyd y rhoddir pwys i ddiffiniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), sy’n darparu bod “palliative care is the active holistic care of patients with advanced progressive illness. Management of pain and other symptoms and provision of psychological, social and spiritual support is paramount. The goal of palliative care is achievement of the best quality of life for patients and their families. Many aspects of palliative care are also applicable earlier in the course of the illness in conjunction with other treatments”.
566.Mae gwasanaeth gofal lliniarol yn wasanaeth y mae ei brif bwrpas yn golygu darparu gofal lliniarol. Felly ni fwriedir i’r term gynnwys gwasanaethau sy’n darparu elfen o ofal lliniarol, ond pan fo gofal o’r fath yn gysylltiedig â’r prif wasanaeth a ddarperir. Fodd bynnag, bwriedir iddo gynnwys ystod eang o wasanaethau gofal lliniarol sy’n amrywio o wasanaethau yn y gymuned i ysbytai gofal lliniarol. Mae adran 34T yn darparu bod camau darparwr gofal lliniarol annibynnol yn cynnwys camau a gymerir gan staff y darparwr ac eraill sy’n gweithredu ar ran y darparwr.
567.Mae Rhan 2B yn gymwys i gwynion a wnaed o dan Ran 2 o Ddeddf 2005 (cwynion sy’n ymwneud ag awdurdodau rhestredig), ynghyd ag i gwynion a wnaed o dan Ran 2A o’r Ddeddf honno (cwynion sy’n ymwneud â phersonau eraill ynghylch gofal cymdeithasol a gofal lliniarol). Mae Rhan 2B yn ailddatgan, gyda mân addasiadau, y ddarpariaeth a oedd wedi ei chynnwys cyn hynny yn adrannau 25 i 27 a 32 o Ddeddf 2005.
568.Mae adran 34U(1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon ymgynghori ag ombwdsmon penodedig arall pryd bynnag y bo’n meddwl bod cwyn yn ymwneud â mater a allai fod yn destun ymchwiliad gan yr ombwdsmon arall hwnnw. Mae’r ombwdsmyn eraill y mae’n ofynnol i’r Ombwdsmon ymgynghori â hwy wedi eu pennu yn adran 34U(7). Mae gan Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, bŵer i ddiwygio’r rhestr hon o ombwdsmyn penodedig.
569.Pan fo’n ofynnol i’r Ombwdsmon ymgynghori ag ombwdsmon arall ar fater, caiff gydweithredu hefyd â’r ombwdsmon arall hwnnw ar y mater hwnnw (adran (34U(3)). Caiff yr ymgynghori a’r cydweithredu estyn i unrhyw beth sy’n ymwneud â’r mater. Ceir enghreifftiau o faterion y caniateir ymgynghori a chydweithredu arnynt yn adran 34U(4), sef:
sut y dylid cynnal ymchwiliad i’r gŵyn; a
ffurf a chynnwys adroddiad a’i gyhoeddi yn dilyn ymchwiliad.
570.Mae adran 34U(5) a (6) yn darparu, pan fo ymgynghoriad o’r fath yn digwydd, y gall yr Ombwdsmon ac unrhyw un neu rai o’r ombwdsmyn penodedig (ac eithrio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban) gynnal ymchwiliadau ar y cyd a chyhoeddi adroddiadau ar y cyd.
571.Yn achos ymgynghori ynglŷn â chŵyn, bydd yr Ombwdsmon yn gallu defnyddio ei bwerau atodol ym mharagraff 21 o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 er mwyn anfon copi o’r gŵyn at yr ombwdsmon arall. At hynny, bydd yr Ombwdsmon yn gallu defnyddio’r pwerau atodol hynny i hysbysu’r person sydd wedi gwneud y gŵyn sut y gall wneud cwyn i’r ombwdsmon arall.
572.Mae adran 34V yn ymdrin â sefyllfaoedd pan fo’r Ombwdsmon, wrth ddelio â chŵyn, yn canfod materion a allai fod yn ddarostyngedig i archwiliad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon hysbysu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am y mater ac ymgynghori ag ef ac yn caniatáu i’r Ombwdsmon hysbysu Comisiynydd y Gymraeg ac ymgynghori ag ef yn yr un modd. Caiff yr Ombwdsmon a’r Comisiynydd perthnasol wedyn gydweithredu, a chynnal ymchwiliadau ar y cyd, a llunio adroddiad ar y cyd ar y mater.
573.Mae adran 34W yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch cydweithredu rhwng yr Ombwdsmon a’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg pan fo’r cwynion yn codi materion (y cyfeirir atynt fel “connected matters”) y gallai’r Ombwdsmon neu’r Comisiynwyr priodol ddelio â hwy.
574.Mae adran 34X yn darparu bod gwybodaeth a geir gan ombwdsmyn neu gomisiynwyr eraill mewn perthynas â chwynion neu mewn cysylltiad â hwy i’w chadw’n gyfrinachol ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig. Mae adran 34X(2) yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff gwybodaeth o’r fath gael ei datgelu.
575.Mae adran 34X(6) yn darparu na ellir ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon nac unrhyw aelod o’i staff nac unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ei ran neu sy’n ei gynorthwyo roi tystiolaeth mewn unrhyw drafodion (ac eithrio drafodion a bennir yn adran 34X(2)) am:
gwybodaeth a geir i helpu’r Ombwdsmon i benderfynu a ddylid ymchwilio i gŵyn, yn ystod yr ymchwiliad i gŵyn neu wrth ddatrys cwyn; neu
gwybodaeth a geir oddi wrth ombwdsmon arall wrth ymgynghori a chydweithredu â’r Ombwdsmon arall hwnnw.
576.Mae adran 34Y(1) yn darparu y caiff un o Weinidogion y Goron roi hysbysiad i’r Ombwdsmon yn nodi y byddai datgelu unrhyw ddogfen neu wybodaeth neu ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, ym marn y Gweinidog, yn niweidiol i ddiogelwch y Deyrnas Unedig neu fel arall yn groes i fudd y cyhoedd. Pan fo hysbysiad o’r fath yn cael ei roi, nid yw’r Ddeddf hon yn awdurdodi’r Ombwdsmon nac yn ei gwneud yn ofynnol iddo, nac aelod o’i staff neu unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ei ran neu’n ei gynorthwyo, ddatgelu gwybodaeth benodedig o’r fath.
577.Pan fo’r Ombwdsmon neu aelod o’i staff etc. o dan rwymedigaeth i ddatgelu’r wybodaeth yn rhinwedd gofyniad cyfreithiol arall, nid oes dim yn yr adran hon yn atal y person hwnnw rhag cydymffurfio â’r rhwymedigaeth honno.
578.Mae adran 34Z yn darparu bod y canlynol yn destun braint absoliwt at ddibenion difenwi, sef:
cyhoeddi (a fydd yn dwyn ei ystyr arferol o fewn y gyfraith sy’n ymwneud â difenwi) unrhyw fater gan yr Ombwdsmon, aelod o’i staff neu berson arall sy’n gweithredu ar ei ran neu’n ei gynorthwyo wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Ddeddf 2005;
cyhoeddi unrhyw fater mewn unrhyw adroddiad a gyhoeddir gan berson wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf 2005 (Gofyniad ar awdurdodau rhestredig i gyhoeddi adroddiad yr Ombwdsmon ar ymchwiliad); ac
cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn a wnaed neu a gyfeiriwyd at yr Ombwdsmon o dan Ddeddf 2005, pan fo’r mater wedi ei gyhoeddi yn un o’r cyfathrebiadau a ganlyn:
cyfathrebiadau rhwng awdurdod rhestredig a bennir yn adran 28 ac Atodlen 3 o Ddeddf 2005 (gan gynnwys aelod neu aelod cyfetholedig, swyddog neu aelod o staff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod neu sy’n cynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau) a’r Ombwdsmon (neu ei staff neu bersonau sy’n gweithredu ar ei ran neu’n ei gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau);
cyfathrebiadau rhwng darparwr cartref gofal, darparwr gofal cartref neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol, (gan gynnwys swyddog neu aelod o staff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y darparwr hwnnw neu’n ei gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau) a’r Ombwdsmon (neu ei staff neu bersonau sy’n gweithredu ar ei ran neu sy’n ei gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau);
cyfathrebiadau rhwng y person a dramgwyddir neu’r person sy’n gwneud y gŵyn ar ran y person a dramgwyddir ac aelod etholedig o Gynulliad Cenedlaethol Cymru; a
cyfathrebiadau rhwng y person a dramgwyddir neu’r person sy’n gwneud y gŵyn ar ran y person a dramgwyddir a’r Ombwdsmon (neu ei staff, personau sy’n gweithredu ar ei ran neu’n ei gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau).
579.Mae’r ddarpariaeth hon yn atgynhyrchu’n gyffredinol ddiogelwch tebyg a geir o dan y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag ombwdsmyn eraill.
580.Mae paragraff 3 o’r Atodlen i’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw darpariaethau adran 34V a 34W o Ddeddf 2005 yn gymwys mewn perthynas â Chomisiynydd y Gymraeg cyn i swyddogaethau’r Comisiynydd o dan Ran 5 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fod mewn grym.
581.Mae paragraff 4 o’r Atodlen yn mewnosod Atodlen newydd i Ddeddf 2005. Mae’r Atodlen newydd hon (Atodlen 3A) yn nodi’r materion y mae’r Ombwdsmon wedi ei wahardd rhag ymchwilio iddynt o dan Ran 2A o Ddeddf 2005.
582.Mae paragraffau 5 i 36 o’r Atodlen yn gwneud newidiadau canlyniadol i Ddeddf 2005 a deddfwriaeth gysylltiedig.