RHAN 1CYFLWYNIAD
Trosolwg
I41Trosolwg ar y Ddeddf hon
1
Mae 11 Rhan i’r Ddeddf hon.
2
Mae’r Rhan hon yn darparu trosolwg ar y Ddeddf gyfan ac yn diffinio rhai termau allweddol.
3
Mae Rhan 2 (dyletswyddau cyffredinol)—
a
yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon geisio hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth (adran 5);
b
yn pennu dyletswyddau hollgyffredinol ar bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phersonau y mae angen gofal a chymorth arnynt neu y gall fod angen gofal a chymorth arnynt, gofalwyr y mae angen cymorth arnynt neu y gall fod angen cymorth arnynt, neu bersonau y mae swyddogaethau yn arferadwy mewn cysylltiad â hwy o dan Ran 6, er mwyn rhoi effaith i egwyddorion allweddol penodol (adran 6);
c
yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi datganiad yn pennu’r canlyniadau llesiant sydd i’w sicrhau ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt a dyroddi cod i helpu i sicrhau’r canlyniadau hynny (adrannau 8 i 13);
d
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu’r anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol yn eu hardaloedd hwy (adran 14);
e
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ataliol (adran 15);
f
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector wrth ddarparu gofal a chymorth a chymorth i ofalwyr yn eu hardaloedd (adran 16);
g
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â gofal a chymorth a chymorth i ofalwyr ac yn cynorthwyo i gael hyd i’r gwasanaeth hwnnw (adran 17);
h
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol greu a chynnal cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill (adran 18).
4
Mae Rhan 3 (asesu anghenion unigolion) yn darparu ar gyfer—
a
yr amgylchiadau hynny lle y mae’n rhaid i awdurdod lleol asesu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth;
b
sut y mae asesiadau i’w cynnal.
5
Mae Rhan 4 (diwallu anghenion) yn darparu ar gyfer—
a
yr amgylchiadau lle y caiff, neu lle y mae’n rhaid i, awdurdodau lleol ddiwallu anghenion am ofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr;
b
sut y mae anghenion i’w diwallu.
6
Mae Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) yn darparu ar gyfer—
a
yr amgylchiadau y caiff awdurdodau lleol godi ffi odanynt am ddarparu neu am drefnu gofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr;
b
yr amgylchiadau y caiff awdurdodau lleol godi ffi odanynt am wasanaethau ataliol ac am ddarparu cynhorthwy;
c
sut y mae ffioedd o’r fath i’w pennu, i’w talu ac i’w gorfodi.
7
Mae Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya)—
a
yn darparu ar gyfer dehongli’r cyfeiriadau at blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (adran 74);
b
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol—
i
sicrhau digon o lety yn eu hardaloedd i’r plant y maent yn gofalu amdanynt (adran 75), a
ii
lletya plant heb rieni neu sydd ar goll neu wedi eu gadael neu sydd o dan amddiffyniad yr heddlu neu wedi eu cadw’n gaeth neu ar remánd (adrannau 76 a 77);
c
yn darparu ar gyfer swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant y maent yn gofalu amdanynt (adrannau 75 i 103, 124 a 125);
d
yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle y caiff, neu lle y mae’n rhaid i, awdurdodau lleol ddarparu cymorth i bobl ifanc—
i
sy’n gadael, neu sydd wedi gadael, gofal awdurdod lleol;
ii
a oedd gynt yn cael eu lletya mewn sefydliadau penodol;
iii
a oedd gynt yn cael eu maethu;
iv
y mae neu yr oedd gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad â hwy;
(adrannau 104 i 118);
e
yn darparu ar gyfer terfynau ar y defnydd o lety diogel i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol neu awdurdodau lleol yn Lloegr neu blant o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau (adran 119);
f
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu awdurdodau addysg neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol a darparu ymweliadau a gwasanaethau i’r plant hynny (adrannau 120 i 123);
g
yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniadau tuag at gynnal plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.
8
Mae Rhan 7 (diogelu)—
a
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymchwilio pan fyddant yn amau bod oedolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod (adran 126);
b
yn darparu ar gyfer gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion er mwyn awdurdodi mynediad i fangre (drwy rym os oes angen) er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod lleol i asesu a yw oedolyn yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod ac, os ydyw, beth i’w wneud am y sefyllfa honno (adran 127);
c
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid perthnasol roi gwybod i’r awdurdod priodol pan fônt yn amau bod pobl efallai yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod (adrannau 128 a 130);
d
yn datgymhwyso adran 47 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am orchymyn llys i symud pobl y mae angen gofal a sylw arnynt o’u cartrefi i ysbytai neu fannau eraill) (adran 129);
e
yn sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i roi cymorth a chyngor er mwyn sicrhau effeithiolrwydd Byrddau Diogelu (adrannau 132 a 133);
f
yn darparu ar gyfer Byrddau Diogelu i oedolion a phlant ac ar gyfer cyfuno byrddau o’r fath (adrannau 134 i 141).
9
Mae Rhan 8 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol)—
a
yn cyflwyno Atodlen 2, sy’n pennu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (adran 143);
b
yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn penodi cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig (adran 144);
c
yn darparu bod codau ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol i’w gwneud gan Weinidogion Cymru (adrannau 145 i 149);
d
yn darparu ar gyfer ymyrraeth gan Weinidogion Cymru yn y modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol pan fo’n methu â’u harfer yn gywir (adrannau 150 i 161).
10
Mae Rhan 9 (cydweithrediad a phartneriaeth)—
a
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad gyda’u partneriaid perthnasol ac eraill mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion am ofal a chymorth, gofalwyr a phlant (adrannau 162 a 163);
b
yn gosod dyletswydd ar y partneriaid perthnasol i gydweithredu â’r awdurdodau lleol, a darparu gwybodaeth iddynt, at ddiben eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (adran 164);
c
yn gwneud darpariaeth ynghylch hyrwyddo’r broses o integreiddio gofal a chymorth â gwasanaethau iechyd (adran 165);
d
yn darparu ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn cyflawni eu swyddogaethau (adrannau 166 i 169);
e
yn grymuso Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdodau lleol i ymrwymo i drefniadau ar y cyd er mwyn darparu gwasanaeth mabwysiadu (adran 170).
11
Mae gan Ran 10 (cwynion, sylwadau a gwasanaethau eirioli) dair pennod.
12
Mae Pennod 1 yn darparu ar gyfer cwynion a sylwadau am wasanaethau cymdeithasol sy’n cael eu darparu neu eu trefnu gan awdurdodau lleol.
13
Mae Pennod 2 yn darparu ar gyfer cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch gofal cymdeithasol a gofal lliniarol preifat.
14
Mae Pennod 3 yn darparu i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i bobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth.
15
Mae Rhan 11 (amrywiol a chyffredinol)—
a
yn grymuso Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i wneud ymchwil, ac yn grymuso Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi, ynghylch materion sy’n gysylltiedig â swyddogaethau o dan y Ddeddf a materion cysylltiedig eraill (adran 184);
b
yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys i bersonau mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc (adrannau 185 i 188);
c
yn gwneud darpariaeth ynghylch y camau i’w cymryd gan awdurdod lleol pan fo sefydliad neu asiantaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “establishment” ac “agency” yn Neddf Safonau Gofal 2000) yn methu â diwallu anghenion yn ardal yr awdurdod oherwydd methiant busnes (adrannau 189 i 191);
d
yn datgymhwyso adran 49 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n caniatáu i awdurdod lleol dalu treuliau a dynnir gan unrhyw un neu rai o’i swyddogion a benodir yn ddirprwy gan y Llys Gwarchod) (adran 192);
e
yn gwneud darpariaeth ynghylch adennill costau rhwng awdurdodau lleol o dan rai amgylchiadau (adran 193);
f
yn darparu ar gyfer ateb cwestiynau ynghylch preswylfa arferol person at ddibenion y Ddeddf hon (adran 194);
g
yn cynnwys y diffiniadau sy’n gymwys at ddibenion y Ddeddf hon yn gyffredinol a mynegai o ymadroddion a ddiffiniwyd (adran 197);
h
yn cynnwys darpariaethau eraill sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.
16
Mae darpariaethau hefyd ynghylch gwasanaethau cymdeithasol yn y Deddfau a’r Mesurau a restrir yn Atodlen 2.
Termau allweddol
I22Ystyr “llesiant”
1
Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben y Ddeddf hon.
2
Ystyr “llesiant”, o ran person, yw llesiant mewn perthynas ag unrhyw un neu rai o’r canlynol—
a
iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol;
b
amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod;
c
addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden;
d
perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol;
e
cyfraniad a wneir at y gymdeithas;
f
sicrhau hawliau a hawlogaethau;
g
llesiant cymdeithasol ac economaidd;
h
addasrwydd llety preswyl.
3
O ran plentyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys—
a
datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol;
b
“lles” fel y diffinnir y term Saesneg cyfatebol “welfare” at ddibenion Deddf Plant 1989.
4
O ran oedolyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys—
a
rheolaeth ar fywyd pob dydd;
b
cymryd rhan mewn gwaith.
I33Ystyr “oedolyn”, “plentyn”, “gofalwr”ac “anabl”
1
Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben y Ddeddf hon.
2
Ystyr “oedolyn” yw person sy’n 18 oed neu drosodd.
3
Ystyr “plentyn” yw person dan 18 oed.
4
Ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl; ond gweler is-adrannau (7) ac (8) ac adran 187(1).
5
Mae person yn “anabl” os oes ganddo anabledd (“disability”) at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (6).
6
Caiff rheoliadau ddarparu bod person sy’n dod o fewn categori penodedig i’w drin neu i beidio â chael ei drin fel un sy’n anabl at ddibenion y Ddeddf hon.
7
Nid yw person yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon os yw’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal—
a
o dan gontract neu yn rhinwedd contract, neu
b
fel gwaith gwirfoddol.
8
Ond caiff awdurdod lleol drin person fel gofalwr at ddibenion unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon os yw’r awdurdod o’r farn bod natur y berthynas rhwng y person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal a’r person y mae’r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu, neu i’w ddarparu, iddo yn golygu y byddai’n briodol i’r cyntaf gael ei drin fel gofalwr at ddibenion y swyddogaeth honno neu’r swyddogaethau hynny.
I14Ystyr “gofal a chymorth”
Mae unrhyw gyfeiriad at ofal a chymorth yn y Ddeddf hon i’w ddehongli fel cyfeiriad at—
a
gofal;
b
cymorth;
c
gofal a chymorth.