RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI
PENNOD 1CWYNION A SYLWADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL
I4I16171Cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ystyried cwynion ynghylch—
a
y modd y mae awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;
b
y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan berson arall yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod lleol wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny;
c
y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan awdurdod lleol neu berson arall yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod o dan adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu adran 75 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 mewn perthynas â swyddogaethau corff GIG (o fewn ystyr “NHS body” yn yr adran berthnasol) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
2
Caiff y rheoliadau ddarparu bod cwyn yn cael ei hystyried gan un neu fwy o’r canlynol—
a
yr awdurdod lleol y gwneir y gŵyn amdano mewn cysylltiad â’i swyddogaethau;
b
panel annibynnol a sefydlwyd o dan y rheoliadau;
c
unrhyw berson neu gorff arall ac eithrio un o Weinidogion y Goron.
3
Caiff y rheoliadau ddarparu bod cwyn neu unrhyw fater arall a godir gan y gŵyn—
a
yn cael ei chyfeirio neu ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) er mwyn i’r Ombwdsmon ystyried p’un a yw’n mynd i ymchwilio i’r gŵyn neu’r mater o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (ac yn cael ei thrin neu ei drin fel cwyn a gyfeiriwyd yn briodol o dan adran 2(3) o’r Ddeddf honno);
b
yn cael ei chyfeirio neu ei gyfeirio at unrhyw berson neu gorff arall er mwyn i’r person neu’r corff hwnnw ystyried p’un a yw am gymryd unrhyw gamau nad ydynt yn rhai sydd i’w cymryd o dan y rheoliadau.
4
Ond ni chaiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cwynion y gellir eu hystyried yn sylwadau o dan adran 174 neu 176.
I13I11172Cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol: materion atodol
1
Mae’r canlynol yn enghreifftiau pellach o’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau o dan adran 171.
2
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
a
y personau a gaiff wneud cwyn;
b
y cwynion y caniateir, neu na chaniateir, iddynt gael eu gwneud;
c
y personau y caniateir gwneud cwynion iddynt;
d
y cwynion nad oes angen iddynt gael eu hystyried;
e
y cyfnod y mae’n rhaid gwneud unrhyw gwynion ynddo;
f
y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth wneud ac ystyried cwyn;
g
materion sydd wedi eu heithrio rhag cael eu hystyried;
h
llunio adroddiad neu argymhellion ynghylch cwyn;
i
y camau gweithredu sydd i’w cymryd o ganlyniad i gŵyn.
3
Caiff y rheoliadau—
a
ei gwneud yn ofynnol i berson neu gorff y gwneir cwyn amdano i wneud taliad mewn perthynas ag ystyried y gŵyn o dan y rheoliadau,
b
ei gwneud yn ofynnol bod taliad o’r math hwnnw—
i
yn cael ei wneud i berson neu gorff a bennir yn y rheoliadau, a
ii
yn swm a bennir yn y rheoliadau, neu a gyfrifir neu a ddyfernir o dan y rheoliadau, ac
c
ei gwneud yn ofynnol i banel annibynnol adolygu’r swm y gellir ei godi o dan baragraff (a) mewn achos penodol ac, os yw hynny’n briodol ym marn y panel, rhoi swm llai yn ei le.
4
Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson neu gorff sy’n ystyried cwynion o dan y rheoliadau i roi cyhoeddusrwydd i’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn o dan y rheoliadau.
5
Caiff y rheoliadau hefyd—
a
darparu bod gwahanol rannau o gŵyn neu agweddau gwahanol arni yn cael eu trin yn wahanol;
b
ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth neu ddogfennau yn cael eu dangos er mwyn galluogi cwyn i gael ei hystyried yn briodol;
c
awdurdodi bod gwybodaeth neu ddogfennau sy’n berthnasol i gŵyn yn cael eu datgelu i berson neu gorff sy’n ystyried cwyn o dan y rheoliadau neu y mae cwyn wedi ei chyfeirio ato (er gwaethaf unrhyw reol cyfraith gyffredin a fyddai, fel arall, yn gwahardd y datgeliad neu’n cyfyngu arno).
6
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cwynion sy’n codi materion sydd i’w hystyried o dan y rheoliadau a materion sydd i’w hystyried o dan weithdrefnau cwyno statudol eraill; gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth i—
a
galluogi cwyn o’r fath i gael ei gwneud o dan y rheoliadau, a
b
sicrhau bod materion sydd i’w hystyried o dan weithdrefnau cwyno statudol eraill yn cael eu trin fel pe baent yn faterion a godwyd mewn cwyn a wnaed o dan y gweithdrefnau priodol.
7
Yn is-adran (6) ystyr “gweithdrefnau cwyno statudol” yw gweithdrefnau a sefydlwyd gan neu o dan ddeddfiad o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
I12I2173Cynhorthwy i achwynwyr
1
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol—
a
gwneud trefniadau i roi cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau sy’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, cwyn o dan reoliadau a wnaed o dan adran 171, a
b
rhoi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau ar gyfer darparu’r cynhorthwy hwnnw.
2
Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch—
a
y personau y mae’n rhaid darparu cynhorthwy iddynt;
b
y math o gynhorthwy y mae’n rhaid ei ddarparu i’r personau hynny;
c
y personau y caniateir i’r cynhorthwy hwnnw gael ei ddarparu ganddynt;
d
y cam neu’r camau wrth ystyried cwyn y mae’n rhaid darparu cynhorthwy mewn perthynas ag ef neu hwy;
e
y math o gyhoeddusrwydd y mae’n rhaid ei roi i’r trefniadau ar gyfer darparu’r cynhorthwy hwnnw.
I7I5174Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc
1
Rhaid i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried y canlynol—
a
sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (3) yn gymwys iddo ynghylch y modd y mae’n cyflawni swyddogaeth gymhwysol mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal ganddo, neu blentyn nad yw’n derbyn gofal ganddo ond y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth;
b
sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (4) yn gymwys iddo ynghylch y modd y mae’n cyflawni swyddogaethau o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cynnal gwarcheidiaeth arbennig) sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau;
c
sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (5) yn gymwys iddo ynghylch y modd mae’n cyflawni swyddogaethau o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau.
2
Mae’r canlynol yn swyddogaethau cymhwysol at ddibenion is-adran (1)(a)—
a
swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn o dan Rannau 3 i 6 (ac eithrio swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn fel gofalwr);
b
swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn o dan Ran 7;
c
swyddogaethau o dan Ran 4 neu Ran 5 o Ddeddf Plant 1989 sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau.
3
Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau ynghylch cyflawni swyddogaethau cymhwysol) yn gymwys i’r canlynol—
a
y plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu’r plentyn nad yw’n derbyn gofal ganddo ond y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth;
b
rhiant y plentyn;
c
person nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;
d
rhiant maeth awdurdod lleol y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(5);
e
darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(11);
f
unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod ganddo ddiddordeb digonol yn lles y plentyn i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.
4
Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau am gyflawni swyddogaethau penodedig o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989) yn gymwys i’r canlynol—
a
plentyn y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn perthynas ag ef;
b
gwarcheidwad arbennig neu riant y plentyn;
c
person sydd wedi gwneud cais am asesiad o dan adran 14F(3) neu (4) o Ddeddf Plant 1989;
d
unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod ganddo ddiddordeb digonol yn lles y plentyn i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.
5
Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau am y modd y mae swyddogaethau penodedig yn cael eu cyflawni o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002) yn gymwys i’r canlynol—
a
person a grybwyllwyd yn adran 3(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (y personau hynny y gwneir darpariaeth ar gyfer eu hanghenion gan y Gwasanaeth Mabwysiadu) ac unrhyw berson arall y mae trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau mabwysiadu (o fewn ystyr “adoption services” yn y Ddeddf honno) yn ei rychwantu;
b
unrhyw berson arall y mae’r awdurdod yn barnu bod ganddo ddiddordeb digonol mewn plentyn sydd wedi ei fabwysiadu neu a allai gael ei fabwysiadu i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.
6
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau (yn ddarostyngedig i is-adran (8)) fod y weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon yn sicrhau bod o leiaf un person nad yw’n aelod o’r awdurdod lleol nac yn swyddog iddo yn cymryd rhan yn y camau a ganlyn—
a
ystyried unrhyw sylw y mae’r adran hon yn gymwys iddo, a
b
unrhyw drafodaethau sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdod am y camau sydd i’w cymryd, o ganlyniad i’r ystyried hwnnw, mewn perthynas â’r person y mae’r sylw yn ymwneud ag ef.
7
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y weithdrefn y mae’n rhaid ei sefydlu at ddibenion yr adran hon.
8
Caiff y rheoliadau ddarparu (ymhlith pethau eraill) nad yw is-adran (6) yn gymwys mewn perthynas ag ystyried neu drafod sy’n digwydd er mwyn datrys yn anffurfiol y materion a godwyd mewn sylw.
9
Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’r weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon.
I15I14175Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc: darpariaeth bellach
1
Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo roi ystyriaeth i sylwadau y mae adran 174 yn gymwys iddynt, gydymffurfio â gofynion a osodwyd gan neu o dan is-adrannau (6) i (8) o’r adran honno.
2
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro’r camau y maent wedi eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion hynny.
3
Caiff rheoliadau osod terfynau amser ar gyflwyno sylwadau y mae adran 174 yn gymwys iddynt.
4
Pan fo sylw wedi ei ystyried o dan weithdrefn a sefydlwyd at ddibenion adran 174, rhaid i awdurdod lleol—
a
rhoi sylw i ganfyddiadau’r personau a roddodd ystyriaeth i’r sylw, a
b
cymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol i hysbysu (yn ysgrifenedig) y personau a grybwyllir yn is-adran (5) am benderfyniad yr awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad hwnnw ac am unrhyw gamau gweithredu y mae wedi eu cymryd neu y mae’n bwriadu eu cymryd.
5
Y personau hynny yw—
a
y person a gyflwynodd y sylw,
b
y person y mae’r sylw yn ymwneud ag ef (os yw’n wahanol), ac
c
unrhyw berson arall y mae’n ymddangos i’r awdurdod yr effeithir arno yn ôl pob tebyg.
6
Pan fo’r person a grybwyllir yn is-adran (5)(b) neu (c) yn blentyn, dim ond pan fo’r awdurdod lleol o’r farn bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol y mae’r ddyletswydd o dan is-adran (4)(b) yn gymwys.
I1I10176Sylwadau sy’n ymwneud â phlant a fu gynt yn derbyn gofal etc
1
Rhaid i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sylwadau (gan gynnwys cwynion) a gyflwynir iddo gan bersonau y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 3 i 7 mewn perthynas â’r personau hynny.
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys i—
a
personau ifanc categori 2;
b
personau ifanc categori 3;
c
personau ifanc categori 4;
d
personau ifanc categori 5;
e
personau ifanc categori 6;
f
personau o dan 25 oed, a fyddai, pe baent o dan 21 oed—
i
yn bersonau ifanc categori 5, neu
ii
yn bersonau ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd adran 104(3)(a).
3
Caiff rheoliadau osod—
a
gofynion mewn perthynas â’r weithdrefn y mae’n rhaid ei sefydlu;
b
terfynau amser ar gyfer cyflwyno sylwadau y mae’r weithdrefn yn gymwys iddynt.
4
Rhaid i awdurdod lleol—
a
rhoi cyhoeddusrwydd i’r weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon;
b
cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodwyd o dan is-adran (3)(a) wrth roi ystyriaeth i sylwadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt.
5
Yn yr adran hon mae i “person ifanc categori 2”, “person ifanc categori 3”, “person ifanc categori 4”, “person ifanc categori 5” a “person ifanc categori 6” yr ystyr a roddir gan adran 104.
I3I8177Rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau (gan gynnwys cwynion) sy’n dod o fewn adran 174 neu 176.
2
Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth—
a
ar gyfer rhoi ystyriaeth bellach i sylw gan banel annibynnol a sefydlwyd o dan y rheoliadau;
b
ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth roi ystyriaeth bellach i sylw;
c
ar gyfer cyflwyno argymhellion ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd o ganlyniad i roi ystyriaeth bellach i sylw;
d
ynghylch llunio adroddiadau am roi ystyriaeth bellach i sylw;
e
ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol o dan sylw o ganlyniad i roi ystyriaeth bellach i sylw;
f
bod sylw yn cael ei gyfeirio yn ôl at yr awdurdod lleol o dan sylw er mwyn i’r awdurdod ei ailystyried.
3
Caiff y rheoliadau—
a
ei gwneud yn ofynnol bod taliad yn cael ei wneud, mewn perthynas â’r ystyriaeth bellach a roddir i sylw, gan awdurdod lleol y mae’r sylw wedi ei wneud amdano mewn cysylltiad â’i swyddogaethau;
b
ei gwneud yn ofynnol bod y taliad—
i
yn cael ei wneud i berson neu gorff a bennir yn y rheoliadau, a
ii
yn swm a bennir yn y rheoliadau, neu’n un a gyfrifir neu a ddyfernir oddi tanynt;
c
ei gwneud yn ofynnol i banel annibynnol adolygu’r swm y gellir ei godi o dan baragraff (a) mewn achos penodol a rhoi, os gwêl y panel yn dda, swm llai yn ei le;
d
darparu bod gwahanol rannau o sylw neu agweddau gwahanol arno yn cael eu trin yn wahanol;
e
ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth neu ddogfennau yn cael eu dangos er mwyn galluogi sylw i gael ei ystyried yn briodol;
f
awdurdodi bod gwybodaeth neu ddogfennau sy’n berthnasol i sylw yn cael ei datgelu neu eu datgelu i berson neu gorff sy’n rhoi ystyriaeth bellach i sylw o dan y rheoliadau (er gwaethaf unrhyw reol cyfraith gyffredin a fyddai, fel arall, yn gwahardd y datgeliad neu’n cyfyngu arno).
4
Caiff y rheoliadau ddarparu hefyd bod sylw neu unrhyw fater a godir gan sylw—
a
yn cael ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) er mwyn i’r Ombwdsmon ystyried p’un a yw’n mynd i ymchwilio i’r sylw neu’r mater o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (ac yn cael ei drin gan yr Ombwdsmon fel cwyn a gyfeiriwyd yn briodol o dan adran 2(3) o’r Ddeddf honno);
b
yn cael ei gyfeirio at unrhyw berson neu gorff er mwyn i’r person hwnnw neu’r corff hwnnw ystyried p’un a ydynt yn mynd i gymryd unrhyw gamau nad ydynt yn rhai i’w cymryd o dan y rheoliadau.
I6I9178Cynhorthwy i bersonau sy’n cyflwyno sylwadau
1
Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy—
a
i blant sy’n cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, sylwadau sy’n dod o fewn adran 174, a
b
i bersonau sy’n cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, sylwadau sy’n dod o fewn adran 176.
2
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn cynnwys dyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy pan fo’r sylwadau hynny yn cael eu hystyried ymhellach o dan adran 177.
3
Rhaid i’r cynhorthwy a ddarperir o dan y trefniadau gynnwys cynhorthwy ar ffurf cynrychiolaeth.
4
Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â’r trefniadau.
5
O ran y rheoliadau—
a
rhaid iddynt ei gwneud yn ofynnol bod y trefniadau yn sicrhau nad yw personau penodedig neu gategorïau penodedig o bersonau yn darparu cynhorthwy, a
b
caniateir iddynt osod gofynion eraill mewn perthynas â’r trefniadau.
6
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro’r camau y maent wedi eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion a osodir gan neu o dan yr adran hon.
7
Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’w drefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy o dan yr adran hon.