RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI
PENNOD 3GWASANAETHAU EIRIOLI
181Darparu gwasanaethau eirioli
(1)
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol drefnu i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i bobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r anghenion hynny yn cael eu diwallu gan awdurdod lleol ai peidio); mae hyn yn ddarostyngedig i adran 182.
(2)
Mae “gwasanaethau eirioli” yn wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth.
(3)
Caiff y rheoliadau bennu—
(a)
y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael iddynt;
(b)
yr amgylchiadau y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael odanynt;
(c)
y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y caniateir, neu na chaniateir, i wasanaethau eirioli gael eu darparu ganddynt.
(4)
Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’w drefniadau ar gyfer rhoi gwasanaethau eirioli ar gael.
182Darparu gwasanaethau eirioli: cyfyngiadau
(1)
Ni chaiff rheoliadau o dan adran 181 ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i berson—
(a)
at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 173;
(b)
at y diben o gyflwyno sylwadau y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person o dan adran 178;
(c)
at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr iechyd meddwl annibynnol i fod ar gael o dan adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;
(d)
at ddibenion y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 332BB o Ddeddf Addysg 1996 neu baragraff 6D o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010;
(e)
at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol i fod ar gael o dan adran 35 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005;
(f)
at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
(2)
Pan—
(a)
bo gwasanaethau eirioli yn cael eu darparu ar gyfer person o dan adran 15, 17, 35, 36, 37 neu 38, a
(b)
byddai rheoliadau o dan adran 181 (ar wahân i’r is-adran hon) yn gosod gofyniad ar awdurdod lleol i roi gwasanaethau eirioli ar gael i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r un materion,
nid yw’r gofyniad hwnnw yn gymwys.
F1183Rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli mewn cartrefi gofal
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .