PENNOD 3LL+CGWASANAETHAU EIRIOLI
181Darparu gwasanaethau eirioliLL+C
(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol drefnu i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i bobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r anghenion hynny yn cael eu diwallu gan awdurdod lleol ai peidio); mae hyn yn ddarostyngedig i adran 182.
(2)Mae “gwasanaethau eirioli” yn wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth.
(3)Caiff y rheoliadau bennu—
(a)y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael iddynt;
(b)yr amgylchiadau y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael odanynt;
(c)y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y caniateir, neu na chaniateir, i wasanaethau eirioli gael eu darparu ganddynt.
(4)Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’w drefniadau ar gyfer rhoi gwasanaethau eirioli ar gael.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
182Darparu gwasanaethau eirioli: cyfyngiadauLL+C
(1)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 181 ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i berson—
(a)at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 173;
(b)at y diben o gyflwyno sylwadau y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person o dan adran 178;
(c)at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr iechyd meddwl annibynnol i fod ar gael o dan adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;
(d)at ddibenion y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran [69 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018] neu baragraff 6D o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010;
(e)at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol i fod ar gael o dan adran 35 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005;
(f)at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
(2)Pan—
(a)bo gwasanaethau eirioli yn cael eu darparu ar gyfer person o dan adran 15, 17, 35, 36, 37 neu 38, a
(b)byddai rheoliadau o dan adran 181 (ar wahân i’r is-adran hon) yn gosod gofyniad ar awdurdod lleol i roi gwasanaethau eirioli ar gael i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r un materion,
nid yw’r gofyniad hwnnw yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
F1183Rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli mewn cartrefi gofalLL+C
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1A. 183 wedi ei diddymu (2.4.2018) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 31; O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag ergl. 6)