RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Atodol

193Adennill costau rhwng awdurdodau lleol

1

Mae is-adran (2) yn gymwys—

a

pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i berson sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall (“awdurdod B”), a

b

pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu naill ai—

i

i ddiwallu anghenion brys er mwyn diogelu llesiant y person, neu

ii

gyda chydsyniad awdurdod B.

2

Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu neu drefnu’r gofal a’r cymorth.

3

Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan adran 76(1) i blentyn a oedd (yn union cyn iddo ddechrau gofalu am y plentyn) yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall, caiff adennill oddi wrth yr awdurdod arall hwnnw unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

4

Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu llety o dan adran 77(1) neu (2)(a) neu (b) i blentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall (“awdurdod B”) ac nad yw’n cynnal y plentyn mewn—

a

cartref cymunedol a ddarparwyd gan awdurdod A,

b

cartref cymunedol a reolir, neu

c

ysbyty sydd wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu unrhyw ysbyty arall a roddwyd ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol.

5

Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

6

Ac eithrio lle y bo is-adran (7) yn gymwys, pan fo awdurdod lleol yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) mewn perthynas â pherson nad yw’n preswylio fel arfer yn ei ardal, caiff adennill unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo mewn cysylltiad â’r person hwnnw oddi wrth yr awdurdod lleol y mae’r person yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

7

Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) gan awdurdod lleol arall (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson ac awdurdod B yw’r awdurdod lleol cyfrifol o fewn ystyr adran 104 ar gyfer y person hwnnw, caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

194Preswylfa arferol

1

Pan fo gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth nad oes modd eu diwallu ond os yw’n byw mewn llety o fath a bennir mewn rheoliadau a bod yr oedolyn yn byw mewn llety yng Nghymru o fath a bennir felly, mae’r oedolyn i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer—

a

yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo ddechrau byw mewn llety o fath a bennir yn y rheoliadau, neu

b

os oedd heb breswylfa sefydlog yn union cyn iddo ddechrau byw mewn llety o fath a bennir felly, yn yr ardal lle’r oedd yr oedolyn yn bresennol bryd hynny.

2

Pan fo oedolyn, cyn iddo ddechrau byw yn ei lety presennol, yn byw mewn llety o fath a bennir felly (p’un a yw’r llety o’r un fath â’r llety presennol ai peidio), mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at y cyfnod y dechreuodd yr oedolyn fyw mewn llety o fath a bennir felly yn gyfeiriad at ddechrau’r cyfnod y mae’r oedolyn wedi bod yn byw mewn llety o un neu fwy o’r mathau a bennir am gyfnodau olynol.

3

Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i ddyfarnu at ddibenion is-adran (1) a oes gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth na ellir eu diwallu ond os yw’r oedolyn yn byw mewn llety o fath a bennir mewn rheoliadau.

4

Mae person y mae llety’n cael ei ddarparu iddo o dan ddeddfiad iechyd i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer—

a

yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn i’r llety gael ei ddarparu, neu

b

os oedd heb breswylfa sefydlog yn union cyn i’r llety gael ei ddarparu, yn yr ardal lle’r oedd y person yn bresennol bryd hynny.

5

Yn is-adran (4) ystyr “deddfiad iechyd” yw—

a

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

b

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

c

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;

e

Deddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009.

6

Wrth ddyfarnu preswylfa arferol plentyn at ddibenion y Ddeddf hon, mae preswylfa’r plentyn yn y mannau a ganlyn i’w ddiystyru—

a

ysgol neu sefydliad arall;

b

man lle y lleolir y plentyn yn unol â gofynion gorchymyn goruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989;

c

man lle y lleolir y plentyn yn unol â gofynion gorchymyn adsefydlu ieuenctid o dan Ran 1 o Ddeddf Cyfiawnder a Mewnfudo 2008;

d

llety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr;

e

man a bennir mewn rheoliadau.

7

Gweler hefyd adrannau 185(1) i (3) a 186(2) am ddarpariaeth o ran preswylfa arferol personau sydd mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc.

195Anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorth

1

Mae anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf hon, neu anghydfod rhwng awdurdod anfon ac awdurdod derbyn o dan adran 56 ynghylch cymhwyso’r adran honno mewn perthynas â pherson, i’w ddyfarnu arno gan—

a

Gweinidogion Cymru, neu

b

person a benodir gan Weinidogion Cymru at y ddiben hwnnw (“person penodedig”).

2

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch datrys anghydfodau o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (1); caiff y rheoliadau wneud, er enghraifft—

a

darpariaeth i sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu i berson tra bo anghydfod heb ei ddatrys;

b

darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol mewn anghydfod gymryd camau penodedig cyn cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;

c

darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;

d

darpariaeth ynghylch adolygu dyfarniad a wneir o dan is-adran (1).