RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
Dyletswyddau hollgyffredinol
I5I15Dyletswydd llesiant
Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon geisio hyrwyddo llesiant—
a
pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a
b
gofalwyr y mae arnynt angen cymorth.
I4I36Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: cyffredinol
1
Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon—
a
mewn perthynas ag unigolyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth, neu y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth,
b
mewn perthynas â gofalwr y mae arno anghenion am gymorth, neu y gall fod arno anghenion am gymorth, neu
c
mewn perthynas ag unigolyn y mae swyddogaethau yn arferadwy mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 6 (plant sy’n derbyn gofal etc),
gydymffurfio â’r dyletswyddau yn is-adran (2).
2
Rhaid i’r person—
a
i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r unigolyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny,
b
rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn,
c
rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau’r unigolyn (gan gynnwys, er enghraifft, iaith), a
d
rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cymorth priodol er mwyn galluogi’r unigolyn i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r unigolyn i gyfathrebu wedi ei gyfyngu am unrhyw reswm.
3
Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag oedolyn sy’n dod o fewn is-adran (1)(a), (b) neu (c), yn ogystal, roi sylw i—
a
pwysigrwydd dechrau gyda’r ragdybiaeth mai’r oedolyn sydd yn y sefyllfa orau i farnu llesiant yr oedolyn, a
b
pwysigrwydd hyrwyddo annibyniaeth yr oedolyn pan fo’n bosibl.
4
Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn is-adran (1)(a), (b) neu (c), yn ogystal—
a
rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn, a
C1b
pan fo’r plentyn o dan 16 oed, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae gwneud hynny—
i
yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn, a
ii
yn rhesymol ymarferol.
I6I27Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig
1
Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag oedolyn sy’n dod o fewn adran 6(1)(a) neu (b) roi sylw dyladwy i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991.
2
Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn adran 6(1)(a), (b) neu (c) roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno drwy benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).
3
At ddibenion is-adran (2), mae Rhan 1 o’r Confensiwn i’w thrin fel pe bai’n cael effaith—
a
fel a nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ond
b
yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel a nodir am y tro yn Rhan 3 o’r Atodlen honno.
4
Nid yw is-adran (2) yn gymwys i Weinidogion Cymru (gweler, yn lle hynny, Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011).