RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
Trefniadau lleol
I6I514Asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol
1
Rhaid i awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, asesu ar y cyd—
a
i ba raddau y mae pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth yn ardal yr awdurdod lleol;
b
i ba raddau y mae yna ofalwyr yn ardal yr awdurdod lleol y mae angen cymorth arnynt;
c
i ba raddau y mae yna bobl yn ardal yr awdurdod lleol nad yw eu hanghenion am ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, eu hanghenion am gymorth) yn cael eu diwallu (gan yr awdurdod, y Bwrdd neu fel arall);
d
ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yn ardal yr awdurdod lleol (gan gynnwys anghenion gofalwyr am gymorth);
e
ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol) yn ardal yr awdurdod lleol;
f
y camau y mae angen eu cymryd i ddarparu’r ystod a’r lefel o wasanaethau a nodir yn unol â pharagraffau (d) ac (e) drwy gyfrwng y Gymraeg.
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, ddarparu ar gyfer amseru ac adolygu asesiadau.
F13
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F14
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
14AF3Cynlluniau yn dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14
1
Yn yr adran hon, ystyr “corff perthnasol” yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd o dan adran 14(1).
2
Rhaid i bob corff perthnasol baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi—
a
ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, mewn ymateb i’r asesiad o anghenion o dan baragraffau (a) i (c) o adran 14(1);
b
yn achos awdurdod lleol, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, wrth geisio sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol);
c
yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw beth y mae’r Bwrdd yn bwriadu ei wneud mewn cysylltiad â’i ddyletswydd o dan adran 15(5) (Byrddau Iechyd Lleol i roi sylw i bwysigrwydd camau ataliol wrth arfer swyddogaethau);
d
sut y mae’r gwasanaethau a nodir yn y cynllun i gael eu darparu, gan gynnwys y gweithredoedd y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd i ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;
e
unrhyw weithredoedd eraill y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r asesiad o dan adran 14(1);
f
manylion unrhyw beth y mae’r corff yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i’r asesiad ar y cyd â chorff perthnasol arall;
g
yr adnoddau sydd i’w neilltuo wrth wneud y pethau a nodir yn y cynllun.
3
Caniateir i gynllun corff perthnasol gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 F5, 44(5) neu 47(6) neu (11) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r corff yn aelod ohono.
4
Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd gyda’i gilydd o dan adran 14(1) baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2).
5
Caiff dau awdurdod lleol neu ragor baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2); ond ni chaniateir i gynllun ar y cyd o’r fath gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol onid yw pob awdurdod lleol yn aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler adrannau 47 a 49 o Ddeddf 2015 (uno F6a daduno byrddau gwasanaethau cyhoeddus)).
6
Rhaid i gorff perthnasol gyflwyno’r canlynol i Weinidogion Cymru—
a
unrhyw ran o gynllun a baratowyd ganddo o dan is-adran (2) sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant gofalwyr;
b
unrhyw ran arall o gynllun o’r fath y caniateir ei ragnodi drwy reoliadau.
7
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynlluniau a baratoir ac a gyhoeddir o dan is-adran (2), gan gynnwys darpariaeth—
a
sy’n pennu pryd y mae cynllun i gael ei gyhoeddi;
b
ynghylch adolygu cynllun;
c
ynghylch ymgynghori â phersonau wrth baratoi neu adolygu cynllun;
d
ynghylch monitro a gwerthuso gwasanaethau a gweithredoedd eraill a nodir mewn cynllun.
I1I815Gwasanaethau ataliol
1
Rhaid i awdurdod lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu ystod a lefel o wasanaethau a fydd yn ei farn ef yn sicrhau’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.
2
Y dibenion yw—
a
cyfrannu at atal neu oedi datblygiad anghenion pobl am ofal a chymorth;
b
lleihau’r anghenion am ofal a chymorth i bobl y mae arnynt anghenion o’r fath;
c
hyrwyddo magwraeth plant gan eu teuluoedd, pan fo hynny’n gyson â llesiant y plant;
d
cadw i’r lleiaf posibl yr effaith sydd gan eu hanableddau ar bobl anabl;
e
cyfrannu at atal pobl rhag dioddef gan gamdriniaeth neu esgeulustod;
f
lleihau’r angen am—
i
achosion cyfreithiol am orchmynion gofalu neu oruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989,
ii
achosion troseddol yn erbyn plant,
iii
unrhyw achosion teuluol neu achosion cyfreithiol eraill mewn perthynas â phlant a allai arwain at eu rhoi yng ngofal awdurdod lleol, neu
iv
achosion cyfreithiol o dan awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn perthynas â phlant;
g
annog plant i beidio â throseddu;
h
osgoi’r angen i blant gael eu lleoli mewn llety diogel F2o fewn yr ystyr a roddir yn adran 119 ac o fewn yr ystyr a roddir i “secure accommodation” yn adran 25 o Ddeddf Plant 1989;
i
galluogi pobl i fyw eu bywydau mewn ffordd mor annibynnol â phosibl.
3
Mae’r pethau y gellir eu darparu neu eu trefnu wrth gyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn cynnwys gofal a chymorth (neu yn achos gofalwyr, cymorth) o’r math y mae’n rhaid eu darparu neu y caniateir eu darparu o dan adrannau 35 i 45, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r gofal hwnnw a’r cymorth hwnnw.
4
Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau eraill, roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.
5
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, wrth arfer ei swyddogaethau, roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.
6
Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1)—
a
rhaid i awdurdod lleol nodi’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael yn ei ardal a all helpu i sicrhau’r dibenion yn is-adran (2) ac ystyried cynnwys neu ddefnyddio’r gwasanaethau hynny wrth gyflawni’r ddyletswydd;
b
caiff awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth wasanaethau y mae’n barnu y gallai fod yn rhesymol i bersonau eraill eu darparu neu eu trefnu wrth iddo benderfynu beth y dylai ddarparu neu drefnu;
c
rhaid i awdurdod lleol wneud y defnydd gorau o adnoddau’r awdurdod ac yn benodol osgoi darpariaeth a allai beri gwariant anghymesur.
7
Nid yw darpariaeth i’w hystyried yn un sy’n peri gwariant anghymesur ond oherwydd bod y ddarpariaeth honno’n ddrutach na darpariaeth gyffelyb.
8
Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol gyflawni’r ddyletswydd ar y cyd o dan is-adran (1) mewn perthynas â’u hardal gyfun; a phan fônt yn gwneud hynny—
a
mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a
b
mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.
9
Gweler adrannau 46 (eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo), 47 (eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd), 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc) a 49 (cyfyngiadau ar ddarparu taliadau) am eithriad i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) a chyfyngiadau ar y modd y caniateir i’r ddyletswydd gael ei chyflawni.
I9I316Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector
1
Rhaid i awdurdod lleol hyrwyddo—
a
datblygiad mentrau cymdeithasol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;
b
datblygiad sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;
c
ymglymiad personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i’w darparu ar eu cyfer yn y broses o ddylunio a gweithredu’r ddarpariaeth honno;
d
argaeledd gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol yn ei ardal gan sefydliadau trydydd sector (p’un a yw’r sefydliadau yn fentrau cymdeithasol neu’n sefydliadau cydweithredol ai peidio).
2
Yn yr adran hon—
mae “gofal a chymorth” (“care and support”) yn cynnwys cymorth i ofalwyr;
ystyr “gwasanaethau ataliol” (“preventative services”) yw gwasanaethau y mae’r awdurdod lleol o’r farn y byddent yn sicrhau unrhyw un neu rai o’r dibenion yn adran 15(2);
mae “y gymdeithas” (“society”) yn cynnwys adran o’r gymdeithas;
ystyr “menter gymdeithasol” (“social enterprise”) yw sefydliad y mae ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn rhai y gallai person farnu’n rhesymol eu bod yn weithgareddau a gyflawnir er budd y gymdeithas (“ei amcanion cymdeithasol”), ac sydd—
- a
yn creu’r rhan fwyaf o’i incwm drwy fusnes neu fasnach,
- b
yn ailfuddsoddi’r rhan fwyaf o’i elw yn ei amcanion cymdeithasol,
- c
yn annibynnol ar unrhyw awdurdod cyhoeddus, a
- d
yn cael ei berchenogi, ei lywio a’i reoli mewn ffordd sy’n gyson â’i amcanion cymdeithasol;
- a
ystyr “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yw sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas.
3
At ddibenion yr adran hon, caiff rheoliadau ddarparu—
a
bod gweithgareddau o ddisgrifiad penodedig i’w trin neu ddim i’w trin fel gweithgareddau y gallai person farnu’n rhesymol eu bod yn weithgareddau sy’n cael eu cyflawni er budd y gymdeithas;
b
bod sefydliadau neu drefniadau o ddisgrifiad penodedig i’w trin neu ddim i’w trin fel—
i
mentrau cymdeithasol,
ii
sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol, neu
iii
sefydliadau trydydd sector;
c
ar gyfer yr hyn sydd, neu’r hyn nad yw, neu a gaiff fod, yn gyfystyr ag adran o’r gymdeithas.
I7I1017Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy
1
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau y darperir gwasanaeth i roi i bobl—
a
gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â gofal a chymorth, a
b
cynhorthwy i gael gafael ar ofal a chymorth.
2
Yn is-adran (1)(a), mae “gwybodaeth” yn cynnwys gwybodaeth ariannol (gan gynnwys gwybodaeth am daliadau uniongyrchol), ond nid yw’n gyfyngedig i’r wybodaeth honno.
3
Rhaid i’r awdurdod lleol geisio sicrhau bod y gwasanaeth—
a
yn ddigonol i alluogi person i wneud cynlluniau ar gyfer diwallu anghenion am ofal a chymorth a allai godi, a
b
yn darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i berson mewn modd sy’n hygyrch i’r person hwnnw.
4
Rhaid i’r gwasanaeth gynnwys, o leiaf, gyhoeddi gwybodaeth a chyngor am y materion a ganlyn—
a
y system y darperir ar ei chyfer gan y Ddeddf hon a’r modd y mae’r system yn gweithredu yn ardal yr awdurdod,
b
y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael yn ardal yr awdurdod,
c
sut i gael gafael ar y gofal a’r cymorth sydd ar gael, a
d
sut i leisio pryderon am lesiant person y mae’n ymddangos bod arno anghenion am ofal a chymorth.
5
Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau mewn ardal awdurdod lleol, at ddibenion yr adran hon, ddarparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol hwnnw am y gofal a’r cymorth y mae’n eu darparu yn ardal yr awdurdod lleol.
6
Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol sicrhau ar y cyd fod gwasanaeth yn cael ei ddarparu o dan yr adran hon i’w hardal gyfun; a phan fônt yn gwneud hynny—
a
mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a
b
mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.
7
Yn yr adran hon, mae “gofal a chymorth” yn cynnwys cymorth i ofalwyr.
I4I218Cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill
1
Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o’r bobl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod ac—
a
sydd â nam ar eu golwg neu nam difrifol ar eu golwg,
b
sydd â nam ar eu clyw neu nam difrifol ar eu clyw, neu
c
sydd â nam ar eu golwg ac ar eu clyw sydd, gyda’i gilydd, yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd.
2
Rhaid i’r gofrestr nodi, mewn cysylltiad â phob person sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr—
a
y paragraff yn is-adran (1) y mae’r person hwnnw yn dod o’i fewn, a
b
amgylchiadau ieithyddol y person.
3
Caiff rheoliadau bennu, at ddibenion is-adran (1), gategorïau o bobl sydd i’w trin, neu nad ydynt i’w trin, fel pe baent yn dod o fewn paragraff (a), (b) neu (c) o’r is-adran honno.
4
Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o blant y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd o fewn ardal yr awdurdod lleol.
5
Caiff awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o oedolion y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol.
6
Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson—
a
sy’n anabl,
b
nad yw’n anabl ond y mae ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n arwain, neu y mae’r awdurdod yn barnu y gall yn y dyfodol arwain, at anghenion am ofal a chymorth, neu
c
sy’n dod o fewn unrhyw gategori arall o bersonau y mae’r awdurdod yn barnu ei bod yn briodol ei gynnwys mewn cofrestr o bersonau y mae arnynt, neu y mae’r awdurdod yn ystyried y gall fod arnynt yn y dyfodol, anghenion am ofal a chymorth.
7
O ran awdurdod lleol—
a
caiff gategoreiddio pobl sydd wedi eu cynnwys mewn cofrestr o dan is-adran (4) neu (5) fel y gwêl yn dda, a
b
rhaid iddo nodi amgylchiadau ieithyddol y bobl hynny yn y gofrestr berthnasol.
8
Caniateir i’r cofrestrau a lunnir ac a gedwir o dan yr adran hon gael eu defnyddio wrth arfer swyddogaethau’r awdurdod; er enghraifft, er mwyn—
a
cynllunio’r modd y mae’r awdurdod yn darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr, a
b
monitro newidiadau dros amser yn nifer y bobl yn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a’r mathau o anghenion sydd ganddynt hwy neu eu gofalwyr.
9
Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnwys unrhyw berson mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon oni bai—
a
bod y person wedi gwneud cais i gael ei gynnwys yn y gofrestr, neu
b
bod cais i’w gynnwys felly wedi ei wneud ar ran y person.
10
Pan fo awdurdod lleol yn cynnwys person mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon—
a
rhaid i’r awdurdod hysbysu’r person ei fod wedi ei gynnwys felly, a
b
os gwneir cais gan y person neu ar ran y person, rhaid i’r awdurdod ddileu o’r gofrestr unrhyw ddata personol F4(o fewn ystyr “
personal data
”
yn Rhan 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(2) a (14) o'r Ddeddf honno)) sy’n ymwneud â’r person hwnnw.