RHAN 3ASESU ANGHENION UNIGOLION
Asesu plant
21Dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorth
(1)
Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod angen gofal a chymorth ar blentyn yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn, rhaid i’r awdurdod asesu—
(a)
a oes angen gofal a chymorth o’r math hwnnw ar y plentyn, a
(b)
os oes, beth yw’r anghenion hynny.
(2)
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran—
(a)
plentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, a
(b)
unrhyw blentyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.
(3)
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth fo barn yr awdurdod lleol—
(a)
ar lefel anghenion y plentyn am ofal a chymorth, neu
(b)
ar lefel adnoddau ariannol y plentyn F1neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(4)
Wrth wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—
(a)
asesu anghenion datblygiadol y plentyn,
(b)
ceisio canfod y canlyniadau—
(i)
y mae’r plentyn yn dymuno eu sicrhau, i’r graddau y mae’n barnu ei bod yn briodol o roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn,
(ii)
y mae’r personau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r plentyn, i’r graddau y mae’n barnu ei bod yn briodol o roi sylw i’r angen am hyrwyddo llesiant y plentyn, a
(iii)
y mae personau a bennir mewn rheoliadau (os oes rhai) yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r plentyn,
(c)
asesu a allai darparu—
(i)
gofal a chymorth,
(ii)
gwasanaethau ataliol, neu
(iii)
gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,
gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau,
(d)
asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau, ac
(e)
ystyried unrhyw amgylchiadau eraill sy’n effeithio ar lesiant y plentyn.
(5)
Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—
(a)
y plentyn, a
(b)
unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(6)
Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.
(7)
At ddibenion is-adran (1) rhagdybir bod angen gofal a chymorth ar blentyn anabl yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn.
(8)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—
(a)
awdurdod lleol,
(b)
awdurdod lleol yn Lloegr,
(c)
awdurdod lleol yn yr Alban, neu
(d)
ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
22Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed
(1)
Os yw plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 21, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.
(2)
Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y plentyn hwnnw o dan adran 21 o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(a)
nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, a
(b)
nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn,
nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.
(3)
Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 21 yn yr achosion a ganlyn—
ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan blentyn, nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad;
ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;
ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, na fyddai peidio â chael yr asesiad er lles pennaf y plentyn;
ACHOS 4 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso, neu ei niweidio mewn modd arall.
(4)
Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 21 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—
(a)
os yw’r plentyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad,
(b)
os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gofyn wedyn am asesiad o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), neu
(c)
os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, wedi newid,
(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).
(5)
Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y plentyn neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.
23Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer plentyn o dan 16 oed
(1)
Os yw—
(a)
plentyn o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 21, a
(b)
yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad,
nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.
(2)
Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y plentyn hwnnw o dan adran 21, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.
(3)
Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 21 yn yr achosion a ganlyn—
ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;
ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn—
- (a)
bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad, a
- (b)
nad yw’r plentyn yn cytuno â’r gwrthodiad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;
- (a)
ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, y byddai peidio â chael yr asesiad yn anghyson â llesiant y plentyn;
ACHOS 4 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso, neu ei niweidio mewn modd arall.
(4)
Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 21 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—
(a)
os yw’r plentyn yn gofyn wedyn am asesiad a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael asesiad,
(b)
os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gofyn wedyn am asesiad, neu
(c)
os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, wedi newid,
(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).