Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Materion atodolLL+C

28Cyfuno asesiadau o anghenion ar gyfer gofalwr a pherson y gofelir amdanoLL+C

(1)Pan fo gan berson, y mae’n ymddangos bod arno angen gofal a chymorth, ofalwr, caiff awdurdod lleol gyfuno—

(a)asesiad o anghenion y person o dan adran 19 neu 21, a

(b)asesiad o anghenion y gofalwr o dan adran 24,

ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) i (4).

(2)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer oedolyn (p’un ai o dan adran 19 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

(a)bod yr oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn rhoi cydsyniad dilys, neu

(b)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

(3)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed (p’un ai o dan adran 21 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

(a)bod y plentyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn rhoi cydsyniad dilys,

(b)bod person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn rhoi cydsyniad dilys o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(i)nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a gydsynia i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno, a

(ii)nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, neu

(c)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

(4)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer plentyn o dan 16 oed (p’un ai o dan adran 21 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

(a)bod y plentyn neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn rhoi cydsyniad dilys, neu

(b)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

(5)Mae cydsyniad a roddir o dan is-adran (2), (3) neu (4) yn ddilys ac eithrio yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan oedolyn neu blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed, nad oes gan yr oedolyn neu’r plentyn alluedd i gydsynio i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan blentyn o dan 16 oed, nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn o dan 16 oed mewn perthynas ag asesiad o anghenion y plentyn—

    (a)

    bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion, a

    (b)

    nad yw’r plentyn yn cytuno â’r cydsyniad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant.

(6)Caiff awdurdod lleol hepgor y gofyniad i gael cydsyniad dilys yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion oedolyn—

    (a)

    nad oes unrhyw berson a gaiff roi cydsyniad dilys, a

    (b)

    y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion er lles pennaf yr oedolyn;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed—

    (a)

    nad oes gan y plentyn alluedd i roi cydsyniad dilys,

    (b)

    nad oes person awdurdodedig a gaiff roi cydsyniad dilys ar ran y plentyn, ac

    (c)

    y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion er lles pennaf y plentyn;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion plentyn o dan 16 oed—

    (a)

    nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion, a

    (b)

    y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion yn gyson â llesiant y plentyn.

(7)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn gyffredinol neu yn benodol) i benderfynu a gydsynia ar ran yr oedolyn neu’r plentyn i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 28 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

29Cyfuno asesiadau o anghenion ac asesiadau eraillLL+C

(1)Pan fo’n ymddangos bod gan berson y mae’n ymddangos bod arno angen cymorth fel gofalwr anghenion am ofal a chymorth yn ei hawl ei hun hefyd, caiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer y person hwnnw o dan adran 24 ag asesiad o anghenion ar gyfer y person hwnnw o dan adran 19 neu 21.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud asesiad o anghenion ar gyfer person yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn gwneud asesiad arall o dan unrhyw ddeddfiad mewn perthynas â’r person hwnnw.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad arall ar ran y corff arall neu ar y cyd ag ef, neu

(b)os yw’r corff arall eisoes wedi trefnu i’r asesiad arall gael ei wneud ar y cyd â pherson arall, caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad arall ar y cyd â’r corff arall a’r person arall hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 29 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

30Rheoliadau ynghylch asesuLL+C

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth am wneud asesiadau o anghenion.

(2)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer adolygu asesiadau o anghenion, a chaniateir iddynt, er enghraifft, bennu—

(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad o asesiad (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)o dan ba amgylchiadau—

(i)y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o asesiad, a

(ii)na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon hefyd, er enghraifft, ddarparu ar gyfer—

(a)personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys wrth iddo wneud asesiad o dan adran 19, 21 neu 24;

(b)y ffordd y mae asesiad i’w wneud, a chan bwy a phryd;

(c)cofnodi canlyniadau asesiad;

(d)yr ystyriaethau y mae awdurdod lleol i roi sylw iddynt wrth gyflawni asesiad;

(e)pwerau i ddarparu gwybodaeth at ddibenion asesu.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 30 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

31Rhan 3: dehongliLL+C

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “gwasanaethau ataliol” (“preventative services”) yw gwasanaethau y gellir eu darparu yn rhinwedd adran 15;

  • ystyr “gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy” (“information, advice or assistance”) yw gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy y gellir eu darparu yn rhinwedd adran 17.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I8A. 31 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)