RHAN 3ASESU ANGHENION UNIGOLION

Asesu oedolion

I18I219Dyletswydd i asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorth

1

Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar oedolyn anghenion am ofal a chymorth, rhaid i’r awdurdod asesu—

a

a oes ar yr oedolyn anghenion am ofal a chymorth, a

b

os oes, beth yw’r anghenion hynny.

2

Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran—

a

oedolyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, a

b

unrhyw oedolyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

3

Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth yw barn yr awdurdod lleol ar—

a

lefel anghenion yr oedolyn am ofal a chymorth, neu

b

lefel adnoddau ariannol yr oedolyn.

4

Wrth wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—

a

ceisio canfod y canlyniadau y mae’r oedolyn yn dymuno eu sicrhau mewn bywyd o ddydd i ddydd,

b

asesu a allai darparu—

i

gofal a chymorth,

ii

gwasanaethau ataliol, neu

iii

gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,

gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodir gan yr asesiad, ac os felly, i ba raddau, ac

c

asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau.

5

Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—

a

yr oedolyn, a

b

pan fo’n ddichonadwy, unrhyw ofalwr sydd gan yr oedolyn.

6

Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.

I5I2220Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer oedolyn

1

Os yw oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o’i anghenion o dan adran 19, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion yr oedolyn yn gymwys.

2

Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 19 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan yr oedolyn—

    1. a

      nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, ond

    2. b

      bod person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan yr oedolyn—

    1. a

      nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad,

    2. b

      nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac

    3. c

      y byddai cael yr asesiad er lles pennaf yr oedolyn;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod yr oedolyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.

3

Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 19 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

a

os yw’r oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad, neu

b

os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r oedolyn wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

4

Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran yr oedolyn neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

Asesu plant

I26I1621Dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorth

1

Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod angen gofal a chymorth ar blentyn yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn, rhaid i’r awdurdod asesu—

a

a oes angen gofal a chymorth o’r math hwnnw ar y plentyn, a

b

os oes, beth yw’r anghenion hynny.

2

Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran—

a

plentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, a

b

unrhyw blentyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

3

Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth fo barn yr awdurdod lleol—

a

ar lefel anghenion y plentyn am ofal a chymorth, neu

b

ar lefel adnoddau ariannol y plentyn F1neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

4

Wrth wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—

a

asesu anghenion datblygiadol y plentyn,

b

ceisio canfod y canlyniadau—

i

y mae’r plentyn yn dymuno eu sicrhau, i’r graddau y mae’n barnu ei bod yn briodol o roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn,

ii

y mae’r personau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r plentyn, i’r graddau y mae’n barnu ei bod yn briodol o roi sylw i’r angen am hyrwyddo llesiant y plentyn, a

iii

y mae personau a bennir mewn rheoliadau (os oes rhai) yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r plentyn,

c

asesu a allai darparu—

i

gofal a chymorth,

ii

gwasanaethau ataliol, neu

iii

gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,

gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau,

d

asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau, ac

e

ystyried unrhyw amgylchiadau eraill sy’n effeithio ar lesiant y plentyn.

5

Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—

a

y plentyn, a

b

unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

6

Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.

7

At ddibenion is-adran (1) rhagdybir bod angen gofal a chymorth ar blentyn anabl yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn.

8

Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—

a

awdurdod lleol,

b

awdurdod lleol yn Lloegr,

c

awdurdod lleol yn yr Alban, neu

d

ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

I25I2022Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed

1

Os yw plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 21, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

2

Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y plentyn hwnnw o dan adran 21 o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

a

nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, a

b

nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

3

Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 21 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan blentyn, nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, na fyddai peidio â chael yr asesiad er lles pennaf y plentyn;

  • ACHOS 4 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso, neu ei niweidio mewn modd arall.

4

Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 21 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

a

os yw’r plentyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad,

b

os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gofyn wedyn am asesiad o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), neu

c

os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

5

Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y plentyn neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

I7I2123Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer plentyn o dan 16 oed

1

Os yw—

a

plentyn o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 21, a

b

yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

2

Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y plentyn hwnnw o dan adran 21, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

3

Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 21 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn—

    1. a

      bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad, a

    2. b

      nad yw’r plentyn yn cytuno â’r gwrthodiad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, y byddai peidio â chael yr asesiad yn anghyson â llesiant y plentyn;

  • ACHOS 4 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso, neu ei niweidio mewn modd arall.

4

Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 21 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

a

os yw’r plentyn yn gofyn wedyn am asesiad a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael asesiad,

b

os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gofyn wedyn am asesiad, neu

c

os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

Asesu gofalwyr

I14I424Dyletswydd i asesu anghenion gofalwr am gymorth

1

Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar ofalwr anghenion am gymorth, rhaid i’r awdurdod asesu—

a

a oes ar y gofalwr anghenion am gymorth (neu a yw’n debygol y bydd arno anghenion am gymorth yn y dyfodol), a

b

os oes, beth yw’r anghenion hynny (neu’r anghenion tebygol yn y dyfodol).

2

Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran gofalwr sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal—

a

i oedolyn neu blentyn anabl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, neu

b

i unrhyw oedolyn arall neu blentyn anabl arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

3

Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth fo barn yr awdurdod—

a

ar lefel anghenion y gofalwr am gymorth, neu

b

ar lefel adnoddau ariannol y gofalwr neu’r person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

4

Wrth gynnal asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—

a

asesu i ba raddau y mae’r gofalwr yn gallu, ac y bydd yn parhau i allu, darparu gofal i’r person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo,

b

asesu i ba raddau y mae’r gofalwr yn fodlon, ac y bydd yn parhau i fod yn fodlon, gwneud hynny,

c

yn achos gofalwr sy’n oedolyn, ceisio canfod y canlyniadau y mae’r gofalwr yn dymuno eu sicrhau,

d

yn achos gofalwr sy’n blentyn, ceisio canfod y canlyniadau—

i

y mae’r gofalwr yn dymuno eu sicrhau, i’r graddau y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol, o roi sylw i oedran a dealltwriaeth y gofalwr,

ii

y mae’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r gofalwr i’r graddau y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol, o roi sylw i’r angen am hyrwyddo llesiant y gofalwr, a

iii

y mae personau a bennir mewn rheoliadau (os oes rhai) yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r gofalwr,

e

asesu a allai darparu—

i

cymorth,

ii

gwasanaethau ataliol, neu

iii

gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,

gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodir gan yr asesiad, ac os felly, i ba raddau, ac

f

asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau.

5

Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo gynnal asesiad o anghenion o dan yr adran hon, roi sylw i’r materion a ganlyn—

a

a yw’r gofalwr yn gweithio neu’n dymuno gwneud hynny,

b

a yw’r gofalwr yn cymryd rhan, neu’n dymuno cymryd rhan, mewn gweithgareddau addysg, hyfforddiant neu unrhyw weithgaredd hamdden, ac

c

yn achos gofalwr sy’n blentyn—

i

anghenion datblygiadol y plentyn, a

ii

a yw’n briodol i’r plentyn ddarparu’r gofal (neu unrhyw ofal) yng ngoleuni’r anghenion hynny.

6

Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—

a

y gofalwr, a

b

pan fo’n ddichonadwy, y person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

7

Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.

I19I825Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr sy’n oedolyn

1

Os yw gofalwr sy’n oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

2

Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan y gofalwr—

    1. a

      nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, ond

    2. b

      bod person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan y gofalwr—

    1. a

      nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad,

    2. b

      nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr, ac

    3. c

      y byddai cael yr asesiad er lles pennaf y gofalwr.

3

Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

a

os yw’r gofalwr (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad, neu

b

os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

4

Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y gofalwr neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

I6I326Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr sy’n 16 neu’n 17 oed

1

Os yw gofalwr sy’n 16 neu’n 17 oed (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

2

Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros ofalwr sy’n 16 neu’n 17 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y gofalwr o dan adran 24 o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

a

nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, a

b

nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

3

Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan y gofalwr, nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, na fyddai peidio â chael yr asesiad er lles pennaf y gofalwr.

4

Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

a

os yw’r gofalwr (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad,

b

os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), neu

c

os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

5

Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y gofalwr neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

I9I127Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr o dan 16 oed

1

Os yw—

a

gofalwr o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, a

b

yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

2

Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros ofalwr o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y gofalwr o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

3

Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr—

    1. a

      bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad, a

    2. b

      nad yw’r gofalwr yn cytuno â’r gwrthodiad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, y byddai peidio â chael yr asesiad yn anghyson â llesiant y gofalwr.

4

Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

a

os yw’r gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael asesiad,

b

os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad, neu

c

os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

Materion atodol

I23I1528Cyfuno asesiadau o anghenion ar gyfer gofalwr a pherson y gofelir amdano

1

Pan fo gan berson, y mae’n ymddangos bod arno angen gofal a chymorth, ofalwr, caiff awdurdod lleol gyfuno—

a

asesiad o anghenion y person o dan adran 19 neu 21, a

b

asesiad o anghenion y gofalwr o dan adran 24,

ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) i (4).

2

Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer oedolyn (p’un ai o dan adran 19 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

a

bod yr oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn rhoi cydsyniad dilys, neu

b

y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

3

Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed (p’un ai o dan adran 21 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

a

bod y plentyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn rhoi cydsyniad dilys,

b

bod person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn rhoi cydsyniad dilys o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

i

nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a gydsynia i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno, a

ii

nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, neu

c

y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

4

Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer plentyn o dan 16 oed (p’un ai o dan adran 21 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

a

bod y plentyn neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn rhoi cydsyniad dilys, neu

b

y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

5

Mae cydsyniad a roddir o dan is-adran (2), (3) neu (4) yn ddilys ac eithrio yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan oedolyn neu blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed, nad oes gan yr oedolyn neu’r plentyn alluedd i gydsynio i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan blentyn o dan 16 oed, nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn o dan 16 oed mewn perthynas ag asesiad o anghenion y plentyn—

    1. a

      bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion, a

    2. b

      nad yw’r plentyn yn cytuno â’r cydsyniad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant.

6

Caiff awdurdod lleol hepgor y gofyniad i gael cydsyniad dilys yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion oedolyn—

    1. a

      nad oes unrhyw berson a gaiff roi cydsyniad dilys, a

    2. b

      y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion er lles pennaf yr oedolyn;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed—

    1. a

      nad oes gan y plentyn alluedd i roi cydsyniad dilys,

    2. b

      nad oes person awdurdodedig a gaiff roi cydsyniad dilys ar ran y plentyn, ac

    3. c

      y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion er lles pennaf y plentyn;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion plentyn o dan 16 oed—

    1. a

      nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion, a

    2. b

      y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion yn gyson â llesiant y plentyn.

7

Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn gyffredinol neu yn benodol) i benderfynu a gydsynia ar ran yr oedolyn neu’r plentyn i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno.

I12I1129Cyfuno asesiadau o anghenion ac asesiadau eraill

1

Pan fo’n ymddangos bod gan berson y mae’n ymddangos bod arno angen cymorth fel gofalwr anghenion am ofal a chymorth yn ei hawl ei hun hefyd, caiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer y person hwnnw o dan adran 24 ag asesiad o anghenion ar gyfer y person hwnnw o dan adran 19 neu 21.

2

Caiff awdurdod lleol wneud asesiad o anghenion ar gyfer person yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn gwneud asesiad arall o dan unrhyw ddeddfiad mewn perthynas â’r person hwnnw.

3

At ddibenion is-adran (2)—

a

caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad arall ar ran y corff arall neu ar y cyd ag ef, neu

b

os yw’r corff arall eisoes wedi trefnu i’r asesiad arall gael ei wneud ar y cyd â pherson arall, caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad arall ar y cyd â’r corff arall a’r person arall hwnnw.

I13I1030Rheoliadau ynghylch asesu

1

Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth am wneud asesiadau o anghenion.

2

Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer adolygu asesiadau o anghenion, a chaniateir iddynt, er enghraifft, bennu—

a

y personau a gaiff ofyn am adolygiad o asesiad (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

b

o dan ba amgylchiadau—

i

y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o asesiad, a

ii

na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.

3

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon hefyd, er enghraifft, ddarparu ar gyfer—

a

personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys wrth iddo wneud asesiad o dan adran 19, 21 neu 24;

b

y ffordd y mae asesiad i’w wneud, a chan bwy a phryd;

c

cofnodi canlyniadau asesiad;

d

yr ystyriaethau y mae awdurdod lleol i roi sylw iddynt wrth gyflawni asesiad;

e

pwerau i ddarparu gwybodaeth at ddibenion asesu.

I17I2431Rhan 3: dehongli

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “gwasanaethau ataliol” (“preventative services”) yw gwasanaethau y gellir eu darparu yn rhinwedd adran 15;

  • ystyr “gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy” (“information, advice or assistance”) yw gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy y gellir eu darparu yn rhinwedd adran 17.