RHAN 5CODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL
Codi ffioedd am ddiwallu anghenion
I10I659Pŵer i osod ffioedd
1
Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i berson dalu ffi i’r awdurdod am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) cymorth o dan adrannau 35 i 45 i ddiwallu anghenion person.
2
Caiff ffi a osodir o dan is-adran (1) gwmpasu dim mwy na’r gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn gymwys iddynt.
3
Ond pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion am fod adran 35(4)(b)(i), 36, 38, 41(2), (4) neu (6)(a)(i), 43(2) neu (4)(a)(i) neu 45 yn gymwys, caiff ei gwneud yn ofynnol i berson dalu ffi i’r awdurdod (yn ychwanegol at unrhyw ffi a osodir o dan is-adran (1)) am sefydlu’r trefniadau ar gyfer diwallu’r anghenion hynny.
4
Mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’r canlynol—
a
y ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 61 neu 62 (os oes rhai), a
b
dyletswyddau’r awdurdod o dan adrannau 63, 66 a 67 (os ydynt yn gymwys).
I7I260Personau y caniateir i ffioedd gael eu gosod arnynt
1
Mae’r adran hon yn disgrifio’r personau y caniateir i ffioedd gael eu gosod arnynt o dan adran 59.
2
Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion oedolyn, neu ar gyfer sefydlu’r trefniadau ar gyfer y gofal a’r cymorth hwnnw, gael ei gosod ar yr oedolyn hwnnw.
3
Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion plentyn, neu ar gyfer sefydlu’r trefniadau ar gyfer y gofal a’r cymorth hwnnw, gael ei gosod—
a
pan fo’r gofal a chymorth yn cael eu darparu i blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn hwnnw;
b
pan fo anghenion y plentyn am ofal a chymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu rhywbeth i oedolyn, ar yr oedolyn hwnnw.
4
Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu cymorth i ddiwallu anghenion gofalwr, neu am sefydlu’r trefniadau ar gyfer y cymorth hwnnw, gael ei gosod—
a
pan fo’r cymorth yn cael ei ddarparu i ofalwr sy’n oedolyn, ar y gofalwr hwnnw;
b
pan fo’r cymorth yn cael ei ddarparu i ofalwr sy’n blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr hwnnw;
ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (5).
5
Pan fo anghenion gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i berson y mae’r gofalwr yn darparu, neu’n bwriadu darparu, gofal iddo, nid yw is-adran (4) yn gymwys; caniateir i ffi am ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y cymorth hwnnw, neu am sefydlu’r trefniadau ar gyfer y cymorth hwnnw, gael ei gosod yn lle hynny—
a
pan fo anghenion y gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i oedolyn, ar yr oedolyn hwnnw;
b
pan fo anghenion y gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn hwnnw.
I15I2061Rheoliadau ynghylch arfer pŵer i osod ffi
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad ag arfer pŵer i osod ffi o dan adran 59.
2
Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth am swm y ffi y caniateir ei gosod o dan adran 59(1); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) wneud hynny drwy, er enghraifft—
a
pennu uchafswm y caniateir ei osod am ofal a chymorth, neu (yn achos gofalwyr) gymorth, o fath penodedig neu gyfuniad penodedig o bethau o’r fath, neu fformiwla neu ddull i ddyfarnu’r uchafswm hwnnw;
b
ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol bennu ffi am ofal a chymorth, neu (yn achos gofalwyr) gymorth, o fath penodedig neu gyfuniad penodedig o bethau o’r fath drwy gyfeirio at gyfnod amser penodedig;
c
pennu, yn achos ffi y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (a), uchafswm y caniateir ei osod, neu fformiwla neu ddull i benderfynu’r uchafswm hwnnw.
3
Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth am swm y ffi y caniateir ei gosod o dan adran 59(3); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) wneud hynny, er enghraifft, drwy bennu uchafswm y caniateir ei osod am sefydlu trefniadau—
a
mewn amgylchiadau penodedig, neu
b
ar gyfer personau o ddisgrifiad penodedig.
I5I1262Rheoliadau yn datgymhwyso pŵer i osod ffi
Caiff rheoliadau ddatgymhwyso pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan adran 59(1) neu (3) (ac felly cânt ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45 yn rhad ac am ddim); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud hynny, er enghraifft, pan fo’r gofal a’r cymorth, neu (yn achos gofalwyr) y cymorth—
a
o fath penodedig;
b
yn cael ei ddarparu neu ei drefnu o dan amgylchiadau penodedig;
c
yn cael ei ddarparu i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu’n cael ei drefnu ar eu cyfer;
d
yn cael ei ddarparu neu ei drefnu am gyfnod penodedig yn unig.
I19I163Dyletswydd i gynnal asesiad ariannol
1
Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â pherson y mae awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno o dan adran 59, pe bai’n diwallu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol asesu lefel adnoddau ariannol y person er mwyn dyfarnu a fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person dalu’r ffi safonol (ond mae hynny’n ddarostyngedig i adran 65).
3
Yn y Rhan hon ystyr “ffi safonol” yw’r swm y byddai awdurdod lleol yn ei godi o dan adran 59 pe na châi unrhyw ddyfarniad ei wneud o dan adran 66 ynghylch gallu person i dalu’r swm hwnnw.
4
Cyfeirir at asesiad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “asesiad ariannol”.
I3I1764Rheoliadau am asesiadau ariannol
1
Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiadau ariannol ac mewn perthynas â’u cynnal.
2
Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—
a
cyfrifo incwm;
b
cyfrifo cyfalaf.
3
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth hefyd ar gyfer y materion canlynol (ymhlith materion eraill)—
a
trin, neu beidio â thrin, symiau o fath penodedig fel incwm neu fel cyfalaf;
b
achosion neu amgylchiadau lle y mae person i’w drin fel un a chanddo adnoddau ariannol sy’n uwch na lefel benodedig (a’r rhain yn achosion neu’n amgylchiadau a all gynnwys, er enghraifft, achosion lle y mae’r person sy’n cael ei asesu wedi methu â darparu i’r awdurdod lleol, pan ofynnwyd iddo wneud hynny, wybodaeth neu ddogfennau sydd ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth);
c
achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid neu y caniateir i asesiad ariannol newydd gael ei gynnal.
I16I465Rheoliadau’n datgymhwyso’r ddyletswydd i gynnal asesiad ariannol
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth am amgylchiadau lle nad yw’n ofynnol i awdurdod lleol (er gwaethaf adran 63) gynnal asesiad ariannol.
I9I1866Dyfarniad ynghylch gallu person i dalu ffi
1
Pan fo awdurdod lleol wedi cynnal asesiad ariannol—
a
rhaid i’r awdurdod ddyfarnu, yng ngoleuni’r asesiad, a fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person a aseswyd dalu’r ffi safonol am y gofal a’r cymorth neu (yn achos gofalwyr) y cymorth y byddai ffi’n cael ei gosod arno mewn cysylltiad â hwy neu ef, a
b
os yw’r awdurdod yn dyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person a aseswyd dalu’r ffi safonol, rhaid i’r awdurdod ddyfarnu’r swm (os oes un) y byddai’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw ei dalu am y gofal a’r cymorth hwnnw neu’r cymorth hwnnw.
2
Yn yr adran hon ystyr “y person a aseswyd” yw’r person y mae ei adnoddau ariannol wedi eu hasesu o dan adran 63.
3
Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth am wneud dyfarniadau o dan is-adran (1).
4
Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benderfynu, mewn achos lle y mae adnoddau ariannol person (p’un ai incwm, cyfalaf, neu gyfuniad o’r ddau) yn uwch na lefel benodedig, y byddai’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw dalu’r ffi safonol.
5
Cyfeirir at y lefel a bennir at ddibenion is-adran (4) yn y Ddeddf hon fel “y terfyn ariannol”.
6
Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person a aseswyd dalu unrhyw swm am y gofal a’r cymorth neu (yn achos gofalwyr) y cymorth a fyddai’n lleihau incwm neu gyfalaf y person islaw lefelau penodedig; a chaiff y rheoliadau, (gan ddibynnu ar adran 196(2)) bennu lefelau gwahanol—
a
ar gyfer incwm ac ar gyfer cyfalaf,
b
ar gyfer amgylchiadau gwahanol, ac
c
ar gyfer disgrifiadau gwahanol o bersonau.
7
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth hefyd (ymhlith pethau eraill) am achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid i awdurdod lleol, neu lle y caiff, ddisodli dyfarniad â dyfarniad newydd.
8
Mae dyfarniad o dan is-adran (1) yn cael effaith o ddyddiad y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn rhesymol (a chaniateir iddo fod yn ddyddiad cyn yr un y gwnaed y dyfarniad arno); ond mae hynny’n ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan is-adran (9).
9
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynglŷn â’r dyddiad y mae dyfarniad o dan is-adran (1) i gael effaith ohono (a chaiff gynnwys darpariaeth i ddyfarniad gael effaith o ddyddiad cyn yr un pan gafodd ei wneud).
10
Pan fo dyfarniad yn disodli dyfarniad sy’n bodoli eisoes, mae’r dyfarniad sy’n bodoli eisoes yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd y dyfarniad newydd yn cael effaith.
11
At ddibenion is-adran (10), mae dyfarniad yn disodli dyfarniad sy’n bodoli eisoes os yw’n ymwneud â’r un person a’r un gofal a chymorth neu (yn achos gofalwyr) yr un cymorth.
I11I1367Dyletswydd i roi effaith i ddyfarniad ynghylch gallu i dalu ffi
1
Rhaid i awdurdod lleol roi effaith i ddyfarniad o dan adran 66 wrth osod ffioedd o dan adran 59.
2
Ond caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch amgylchiadau lle nad yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys.
I8I1468Cytundebau ar daliadau gohiriedig
1
Caiff rheoliadau bennu ym mha achosion neu o dan ba amgylchiadau neu amodau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid i awdurdod lleol, ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig gyda pherson y mae’n ofynnol iddo (neu y mae’n mynd i fod yn ofynnol iddo) dalu ffi o dan adran 59.
2
Mae cytundeb ar daliad gohiriedig yn gytundeb—
a
y mae’r awdurdod lleol yn cytuno odano i beidio â’i gwneud yn ofynnol i swm gofynnol y person gael ei dalu tan yr amser sy’n cael ei bennu yn y rheoliadau neu ei ddyfarnu’n unol â hwy, a
b
y mae’r person yn cytuno odano i roi i’r awdurdod lleol arwystl dros fuddiant y person yn ei gartref i sicrhau bod swm gofynnol y person yn cael ei dalu.
3
Swm gofynnol y person yw’r hyn o’r ffi y mae’n ofynnol i’r person (neu y mae’n mynd i fod yn ofynnol iddo) ei dalu o dan adran 59 ag a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.
4
Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i’r awdurdod lleol godi—
a
llog ar swm gofynnol y person;
b
unrhyw swm cysylltiedig â chostau gweinyddol yr awdurdod lleol a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy;
c
llog ar swm a godir o dan baragraff (b).
5
Caiff y rheoliadau ddarparu bod y llog y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(a) i’w godi drwy gyfrwng rhwymedigaeth yn y cytundeb ar daliad gohiriedig ac i’w drin yn yr un ffordd â swm gofynnol y person.
6
Caiff y rheoliadau—
a
pennu costau sydd, neu nad ydynt, i’w hystyried yn gostau gweinyddol at ddibenion is-adran (4)(b);
b
darparu bod swm y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(b) neu fod llog y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(c) i’w godi drwy gyfrwng rhwymedigaeth yn y cytundeb ar daliad gohiriedig ac i’w drin yn yr un ffordd â swm gofynnol y person.
7
Ni chaiff yr awdurdod lleol godi llog o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (4) yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.
8
Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch hyd y cytundeb ac ar gyfer ei derfynu gan y naill barti neu’r llall; rhaid i’r rheoliadau, ymhlith pethau eraill, alluogi’r person i’w derfynu a therfynu’r arwystl y mae’n rhoi effaith iddo drwy—
a
hysbysu’r awdurdod lleol, a
b
talu i’r awdurdod y swm llawn y mae’r person yn atebol i’w dalu mewn cysylltiad â swm gofynnol y person ac unrhyw swm a godir o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4).
9
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth am hawliau a rhwymedigaethau’r awdurdod lleol a’r person pan fo’r person yn gwaredu’r buddiant y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef ac yn caffael buddiant mewn eiddo arall yng Nghymru neu Loegr; caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth—
a
i’r awdurdod lleol beidio â’i gwneud yn ofynnol i’r symiau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (8)(b) gael eu talu tan yr amser a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy, a
b
i’r person roi i’r awdurdod lleol arwystl dros ei fuddiant yn yr eiddo arall.
10
Mae cyfeiriad at gartref person yn gyfeiriad at yr eiddo y mae’r person yn ei feddiannu fel ei unig neu brif breswylfa; ac mae cyfeiriad at fuddiant person mewn eiddo yn gyfeiriad at fuddiant cyfreithiol neu lesiannol y person yn yr eiddo hwnnw.
11
Caiff rheoliadau gymhwyso’r adran hon, gydag addasiadau neu hebddynt, er mwyn galluogi person i gytuno i roi arwystl dros fuddiant y person mewn eiddo yng Nghymru neu Loegr yr oedd yn arfer ei ddefnyddio fel ei unig neu brif breswylfa.