Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 27/04/2017.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, RHAN 6 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 17 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(1)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gyfeiriad at blentyn—
(a)sydd yn ei ofal, neu
(b)y mae llety wedi ei ddarparu iddo gan yr awdurdod wrth i’r awdurdod arfer unrhyw un neu rai o’r swyddogaethau sy’n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ac eithrio swyddogaethau o dan adran 15, Rhan 4, neu adran 109, 114 neu 115.
(2)Yn is-adran (1) ystyr “llety” yw llety a ddarperir am gyfnod parhaus o fwy na 24 awr.
(3)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gyfeiriad at berson ifanc sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod tra bo’n blentyn neu at berson ifanc a oedd yn derbyn gofal gan yr awdurdod tra oedd yn blentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau sy’n sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ei fod yn gallu darparu i’r plant a grybwyllir yn is-adran (2) lety sydd—
(a)o fewn ardal yr awdurdod, a
(b)yn diwallu anghenion y plant hynny.
(2)Y plant y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw’r rhai—
(a)y mae’r awdurdod lleol yn gofalu amdanynt,
(b)nad yw’r awdurdod yn gallu gwneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 81(2), ac
(c)y mae natur eu hamgylchiadau yn golygu y byddai’n gyson â llesiant y plant i lety sydd yn ardal yr awdurdod gael ei ddarparu iddynt.
(3)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i fantais cael—
(a)nifer o ddarparwyr llety yn ei ardal sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd, a
(b)ystod o lety yn ei ardal a allai ddiwallu anghenion gwahanol ac sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd.
(4)Yn yr adran hon ystyr “darparwyr llety” yw—
(a)rhieni maeth awdurdod lleol, a
(b)cartrefi plant.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal yr ymddengys i’r awdurdod bod angen llety arno oherwydd—
(a)nad oes unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,
(b)bod y plentyn ar goll neu wedi cael ei adael, neu
(c)bod y person sydd wedi bod yn gofalu am y plentyn yn cael ei atal (p’un ai yn barhaol ai peidio, ac am ba reswm bynnag) rhag darparu llety neu ofal addas i’r plentyn.
(2)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan is-adran (1) i blentyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol arall, caiff yr awdurdod lleol arall hwnnw gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i’r plentyn o fewn—
(a)tri mis o gael ei hysbysu’n ysgrifenedig bod llety’n cael ei ddarparu i’r plentyn, neu
(b)unrhyw gyfnod hirach arall a bennir.
[F1(2A)Pan fo awdurdod lleol yn Lloegr yn darparu llety o dan adran 20(1) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety i blant: cyffredinol) i blentyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru, caiff yr awdurdod lleol hwnnw yng Nghymru gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i’r plentyn o fewn—
(a)tri mis o gael ei hysbysu’n ysgrifenedig fod llety’n cael ei ddarparu i’r plentyn, neu
(b)unrhyw gyfnod hirach arall a bennir.]
(3)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal sydd wedi cyrraedd 16 oed ac y byddai llesiant y plentyn hwnnw, ym marn yr awdurdod, yn debygol o gael ei andwyo’n ddifrifol os na fyddai’r awdurdod yn darparu llety iddo.
(4)Ni chaniateir i awdurdod lleol ddarparu llety o dan yr adran hon i unrhyw blentyn os bydd unrhyw berson yn gwrthwynebu a hwnnw—
(a)yn berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a
(b)yn fodlon ac yn gallu—
(i)darparu llety i’r plentyn, neu
(ii)trefnu bod llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn.
(5)Caiff unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn symud y plentyn ar unrhyw adeg o lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol o dan yr adran hon.
(6)Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys tra bo unrhyw berson—
(a)y mae gorchymyn preswylio o’i blaid ef mewn grym mewn cysylltiad â’r plentyn,
(b)sy’n warcheidwad arbennig i’r plentyn, neu
(c)sydd â gofal am y plentyn yn rhinwedd gorchymyn a wnaed wrth arfer awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn cysylltiad â phlant,
yn cytuno bod y plentyn yn derbyn gofal mewn llety a ddarperir gan, neu ar ran, yr awdurdod lleol.
(7)Pan fo mwy nag un person o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (6), rhaid i bob un ohonynt fod yn gytûn.
(8)Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys pan fo plentyn sydd wedi cyrraedd 16 oed yn cytuno bod llety’n cael ei ddarparu iddo o dan yr adran hon.
Diwygiadau Testunol
F1A. 76(2A) wedi ei fewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 299
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud darpariaeth ar gyfer derbyn a rhoi llety i blant sy’n cael eu symud o’u cartrefi neu sy’n cael eu cadw oddi yno o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989.
(2)Rhaid i awdurdod lleol dderbyn plant, a darparu llety i blant—
(a)sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu ac y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 46(3)(f) o Ddeddf Plant 1989;
(b)y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;
(c)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod dynodedig mewn cysylltiad â hwy a bod y plant hynny—
(i)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 4 o Atodlen 1 neu baragraff 6 o Atodlen 8 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (torri etc gorchmynion atgyfeirio a gorchmynion gwneud iawn);
(ii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 21 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (torri etc gorchmynion adsefydlu ieuenctid);
(iii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 10 o’r Atodlen i Ddeddf Troseddau Stryd 1959 (torri gorchmynion o dan adran 1(2A) o’r Ddeddf honno);
(iv)yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid sy’n gosod gofyniad preswylio awdurdod lleol neu yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu.
(3)Yn is-adran (2), mae gan y termau isod yr un ystyr â’r termau Saesneg cyfatebol yn Rhan 1 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno)—
“gofyniad preswylio awdurdod lleol” (“local authority residence requirement”);
“gorchymyn adsefydlu ieuenctid” (“youth rehabilitation order”);
“gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu” (“youth rehabilitation order with fostering”).
(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—
(a) pan fo plentyn—
(i)wedi ei symud o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989, neu
(ii)wedi ei gadw’n gaeth o dan adran 38 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a
(b)pan nad yw’r plentyn yn cael llety a ddarperir—
(i)gan awdurdod lleol [F2neu awdurdod lleol yn Lloegr], neu
(ii)mewn ysbyty a freiniwyd yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu sydd fel arall wedi ei roi ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol.
(5)Gellir adennill unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd wrth roi llety i’r plentyn oddi wrth yr awdurdod lleol [F3neu’r awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 77(4)(b)(i) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 300(a)
F3Geiriau yn a. 77(5) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 300(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am unrhyw blentyn—
(a)diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn, a
(b)defnyddio gwasanaethau sydd ar gael i blant, y mae eu rhieni eu hunain yn gofalu amdanynt, mewn modd sy’n ymddangos yn rhesymol i’r awdurdod yn achos y plentyn.
(2)Mae dyletswydd awdurdod lleol o dan is-adran (1)(a) i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt yn cynnwys, er enghraifft—
(a)dyletswydd i hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol y plentyn;
(b)dyletswydd—
(i)i asesu, o bryd i’w gilydd, a oes gan y plentyn anghenion am ofal a chymorth sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a nodwyd o dan adran 32, a
(ii)os oes ar y plentyn anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra, i ddiwallu, o leiaf, yr anghenion hynny.
(3)Cyn gwneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â phlentyn y mae’n gofalu amdano, neu’n bwriadu gofalu amdano, rhaid i awdurdod lleol (yn ogystal â’r materion a nodir yn adrannau 6(2) a (4) a 7(2) (dyletswyddau hollgyffredinol eraill)), roi sylw i—
(a)barn, dymuniadau a theimladau unrhyw berson y mae ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol ym marn yr awdurdod;
(b)argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.
(4)Os yr ymddengys i awdurdod lleol ei bod yn angenrheidiol iddo, er mwyn amddiffyn aelodau o’r cyhoedd rhag niwed difrifol, arfer ei bwerau mewn cysylltiad â phlentyn y mae’n gofalu amdano mewn modd nad yw efallai yn gyson â’i ddyletswyddau o dan yr adran hon neu adran 6, caiff wneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Pan fo plentyn yng ngofal awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod ddarparu llety i’r plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn gynnal y plentyn mewn agweddau eraill ar wahân i ddarparu llety ar ei gyfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (“C”).
(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn is-adran (3), ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) ac (11).
(3)Mae person (“P”) yn dod o fewn yr is-adran hon—
(a)os P yw rhiant C,
(b)os nad P yw rhiant C ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros C, neu
(c)mewn achos pan fo C yng ngofal yr awdurdod lleol ac yr oedd gorchymyn preswylio mewn grym mewn cysylltiad ag C yn union cyn y gwnaed y gorchymyn gofal, os oedd P yn berson y gwnaed y gorchymyn preswylio o’i blaid.
(4)Nid yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau o’r math a grybwyllwyd yn yr is-adran honno os byddai gwneud hynny—
(a)yn anghyson â llesiant C, neu
(b)yn gam na fyddai’n rhesymol ymarferol.
(5)Os nad yw awdurdod lleol yn gallu gwneud trefniadau o dan is-adran (2), rhaid iddo leoli C yn y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael, yn ei farn ef (ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (11)).
(6)Yn is-adran (5) ystyr “lleoliad” yw—
(a)lleoliad gydag unigolyn sy’n berthynas, yn ffrind neu’n berson arall sy’n gysylltiedig ag C ac sydd hefyd yn rhiant maeth awdurdod lleol,
(b)lleoliad gyda rhiant maeth awdurdod lleol nad yw’n dod o fewn paragraff (a),
(c)lleoliad mewn cartref plant, neu
(d)yn ddarostyngedig i adran 82, lleoliad yn unol â threfniadau eraill sy’n cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon.
(7)Wrth benderfynu ar y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C o dan is-adran (5), rhaid i awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y Rhan hon (yn enwedig, i’w ddyletswyddau o dan adran 78)—
(a)rhoi blaenoriaeth uwch i leoliad sy’n dod o fewn paragraff (a) o is-adran (6) na’r hyn a roddir i leoliadau sy’n dod o fewn paragraffau eraill yr is-adran honno,
(b)cydymffurfio â gofynion is-adran (8), i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol o dan holl amgylchiadau achos C, ac
(c)cydymffurfio ag is-adran (9) oni bai nad yw hynny’n rhesymol ymarferol.
(8)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—
(a)bod y lleoliad yn caniatáu i C fyw gerllaw cartref C;
(b)nad yw’r lleoliad yn amharu ar addysg na hyfforddiant C;
(c)os oes gan C frawd neu chwaer sydd hefyd yn derbyn llety gan yr awdurdod lleol, bod y lleoliad yn galluogi i C fyw gyda’r brawd neu’r chwaer;
(d)os yw C yn anabl, bod y llety a ddarperir yn addas i anghenion penodol C.
(9)Rhaid i’r lleoliad, o ran ei natur, olygu bod llety’n cael ei ddarparu i C o fewn ardal yr awdurdod lleol.
(10)Mae is-adran (11) yn gymwys pan—
(a)bo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni y dylai C gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ac yn bwriadu lleoli C i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”),
(b)bo asiantaeth fabwysiadu wedi dyfarnu bod A yn addas i fabwysiadu plentyn, ac
(c)na fo’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu.
(11)Rhaid i’r awdurdod lleol leoli C gydag A oni bai y byddai’n fwy priodol yn ei farn—
(a)i wneud trefniadau er mwyn i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn is-adran (3), neu
(b)i leoli C mewn lleoliad o ddisgrifiad a grybwyllwyd yn is-adran (6).
(12)At ddibenion is-adran (10)—
(a)mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption agency” gan adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
(b)nid yw awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny o dan—
(i)adran 19 o’r Ddeddf honno (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant), neu
(ii)gorchymyn lleoli a wneir o dan adran 21 o’r Ddeddf honno.
(13)Caiff yr awdurdod lleol ddyfarnu—
(a)telerau unrhyw drefniadau y mae’n eu gwneud o dan is-adran (2) mewn perthynas ag C (gan gynnwys telerau o ran talu), a
(b)y telerau ar gyfer gosod C gyda rhiant maeth awdurdod lleol o dan is-adran (5) neu gyda darpar fabwysiadydd o dan is-adran (11) (gan gynnwys telerau o ran talu ond yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 49 o Ddeddf Plant 2004).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 81 wedi ei eithrio (6.4.2016) gan O.S. 2012/2813, rhl. 2A(a) (fel y'i mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 (O.S. 2016/211), rhl. 1(2), Atod. 3 para. 131)
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety i blentyn (“C”) ac eithrio yn unol â threfniadau sy’n dod o fewn adran 81(6)(d), ni chaniateir iddo wneud trefniadau o’r fath ar gyfer C oni bai ei fod wedi penderfynu gwneud hynny o ganlyniad i adolygiad o achos C a gwblhawyd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102 (adolygu achosion ac ymchwiliadau i sylwadau).
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn rhwystro awdurdod lleol rhag gwneud trefniadau ar gyfer C o dan adran 81(6)(d) os yw wedi ei fodloni bod angen, er mwyn diogelu llesiant C—
(a)gwneud trefniadau o’r fath, a
(b)gwneud hynny ar frys.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2A. 82 wedi ei eithrio (6.4.2016) by S.I. 2012/2813, rhl. 2A(b) (fel y'i mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 (O.S. 2016/211), rhl. 1(2), Atod. 3 para. 131)
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Pan fo plentyn yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i unrhyw gynllun gofal a chymorth a lunnir o dan adran 54 mewn perthynas â’r plentyn hwnnw gael—
(a)ei adolygu, a
(b)ei gynnal o dan yr adran hon.
(2)Pan fo plentyn nad oes ganddo gynllun gofal a chymorth o dan adran 54 yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
(3)Rhaid i awdurdod lleol barhau i adolygu’n gyson y cynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon.
(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r plentyn y mae cynllun yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod—
(a)gwneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu eu bod yn briodol, a
(b)diwygio’r cynllun.
(5)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)sut y mae cynlluniau o dan yr adran hon i’w paratoi;
(b)pa bethau y mae’n rhaid i gynllun eu cynnwys;
(c)adolygu a diwygio cynlluniau.
(6)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(c) bennu, yn benodol—
(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad o gynllun (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);
(b)o dan ba amgylchiadau—
(i)y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o gynllun, a
(ii)na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.
(7)Wrth lunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol gynnwys y plentyn y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(8)Caiff yr awdurdod lleol—
(a)llunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, adolygu neu ddiwygio dogfen arall yn achos y plentyn o dan sylw, a
(b)cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun.
(9)Caniateir i unrhyw ran o gynllun a gynhelir o dan yr adran hon sy’n bodloni’r gofynion a osodir gan neu o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 gael ei thrin at ddibenion y Ddeddf honno fel cynllun a lunnir o dan adran 31A o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Caiff rheoliadau o dan adran 83, er enghraifft—
(a)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau ar ffurf benodedig;
(b)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau yn cynnwys pethau penodedig;
(c)gwneud darpariaeth ynghylch personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys yn y broses o lunio, adolygu neu ddiwygio cynlluniau;
(d)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau’n cael eu llunio, eu hadolygu neu eu diwygio gan bersonau penodedig;
(e)rhoi swyddogaethau i bersonau a bennir yn y rheoliadau mewn cysylltiad ag adolygu neu ddiwygio cynlluniau;
(f)pennu personau y mae’n rhaid darparu copïau ysgrifenedig o gynllun ar eu cyfer (gan gynnwys, mewn achosion penodedig, darparu copïau heb gydsyniad y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef);
(g)pennu’r amgylchiadau pellach y mae’n rhaid adolygu’r cynlluniau odanynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniadau tuag at gynhaliaeth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I23A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Pan fo awdurdod lleol yn lleoli plentyn y mae’n gofalu amdano mewn cartref plant y mae Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei ddarparu, ei gyfarparu ac yn ei gynnal o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989, rhaid iddo wneud hynny ar y telerau a’r amodau a ddyfernir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd).]
Diwygiadau Testunol
F4A. 86 wedi ei amnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 301
Gwybodaeth Cychwyn
I25A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I27A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, osod gofynion ar awdurdod lleol ynghylch—
(a)gwneud unrhyw benderfyniad i ganiatáu i blentyn sydd yn ei ofal i fyw gydag unrhyw berson sy’n dod o fewn adran 81(3) (gan gynnwys gofynion o ran y rheini y mae’n rhaid ymgynghori â hwy cyn gwneud y penderfyniad a’r rheini y mae’n rhaid eu hysbysu pan fydd y penderfyniad wedi ei wneud);
(b)goruchwylio neu gynnal ymchwiliad meddygol ar y plentyn o dan sylw;
(c)symud y plentyn, o dan y fath amgylchiadau a gaiff eu pennu mewn rheoliadau, o ofal y person y rhoddwyd caniatâd i’r plentyn fyw gydag ef;
(d)y cofnodion sydd i’w cadw gan yr awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I29A. 88 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch lleoliadau o’r math a grybwyllwyd yn adran 81(6)(d).
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw drefniadau arfaethedig;
(b)y cyfleoedd y mae personau o’r fath i’w cael er mwyn cyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r trefniadau arfaethedig;
(c)y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau;
(d)y cofnodion sydd i’w cadw gan awdurdodau lleol;
(e)goruchwyliaeth gan awdurdodau lleol ar unrhyw drefniadau a wneir.
Gwybodaeth Cychwyn
I31A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, osod gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hwy—
(a)cyn i blentyn sy’n derbyn gofal ganddynt dderbyn llety mewn man y tu allan i ardal yr awdurdod, neu
(b)os yw llesiant y plentyn yn gofyn bod llety o’r fath yn cael ei ddarparu’n syth, o fewn unrhyw gyfnod penodedig wedi i’r llety hwnnw gael ei ddarparu.
Gwybodaeth Cychwyn
I33A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87 osod, er enghraifft, gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hwy cyn gwneud unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud â lleoliad plentyn os yw yng nghyfnod allweddol pedwar.
(2)Mae plentyn “yng nghyfnod allweddol pedwar” os yw’n ddisgybl yng nghyfnod allweddol pedwar (“the fourth key stage”) at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (gweler adran 103 o’r Ddeddf honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I35A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, wneud darpariaeth—
(a)ynglŷn â llesiant plant a leolir gyda rhieni maeth awdurdod lleol neu ddarpar fabwysiadwyr;
(b)ynghylch y trefniadau sydd i’w gwneud gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag iechyd ac addysg plant o’r fath;
(c)ynghylch y cofnodion sydd i’w cadw gan awdurdodau lleol;
(d)i sicrhau, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, bod y rhiant maeth awdurdod lleol neu’r darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef—
(i)o’r un argyhoeddiad crefyddol â’r plentyn, neu
(ii)yn ymgymryd â magu’r plentyn yn unol â’r argyhoeddiad crefyddol hwnnw;
(e)i sicrhau y bydd y plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth awdurdod lleol neu ddarpar fabwysiadwyr, a’r mangreoedd lle y maent wedi eu lletya, yn cael eu goruchwylio a’u harolygu gan awdurdod lleol ac y bydd y plant yn cael eu symud o’r mangreoedd hynny os yw’n ymddangos bod hynny’n angenrheidiol i’w llesiant.
(2)Yn yr adran hon ystyr “darpar fabwysiadydd” yw person y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(11).
Gwybodaeth Cychwyn
I37A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87 wneud darpariaeth, er enghraifft—
(a)ar gyfer sicrhau nad yw plentyn yn cael ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol [F5neu bersonau eraill] oni bai bod y person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo am y tro fel rhiant maeth awdurdod lleol gan yr awdurdod lleol a bennir;
(b)sy’n sefydlu gweithdrefn sy’n caniatáu i unrhyw berson, y gwnaed dyfarniad cymhwysol mewn cysylltiad ag ef, wneud cais o dan y weithdrefn honno am adolygiad o’r dyfarniad hwnnw gan banel a benodwyd gan Weinidogion Cymru.
(2)Mae dyfarniad yn ddyfarniad cymhwysol—
(a)os yw’n ymwneud â chwestiwn ynghylch a ddylai person gael ei gymeradwyo, neu a ddylai barhau i gael ei gymeradwyo, fel rhiant maeth awdurdod lleol, a
(b)os yw o ddisgrifiad a bennir.
(3)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b) gynnwys darpariaeth o ran—
(a)dyletswyddau a phwerau panel;
(b)gweinyddiaeth a gweithdrefnau panel;
(c)penodi aelodau panel (gan gynnwys nifer, neu unrhyw gyfyngiad ar nifer, yr aelodau y caniateir i’w penodi, ac unrhyw amodau ar gyfer eu penodi);
(d)talu ffioedd i aelodau panel;
(e)dyletswyddau unrhyw berson mewn cysylltiad ag adolygiad a gynhelir o dan y rheoliadau;
(f)monitro unrhyw adolygiadau o’r fath.
(4)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (3)(e) osod dyletswydd i dalu i Weinidogion Cymru y cyfryw swm y mae Gweinidogion Cymru yn ei ddyfarnu; ond ni chaniateir gosod dyletswydd o’r fath ar berson sydd wedi gwneud cais i gael adolygiad o ddyfarniad cymhwysol.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, drwy gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall, nad yw agregiad y symiau sy’n dod yn daladwy iddynt o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4) y tu hwnt i’r gost o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniant gyda sefydliad lle y bydd y sefydliad hwnnw’n cyflawni swyddogaethau adolygu annibynnol ar eu rhan.
(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud trefniant o’r fath gyda sefydliad, rhaid i’r sefydliad gyflawni ei swyddogaethau o dan y trefniant yn unol ag unrhyw gyfarwyddyd cyffredinol neu arbennig a roddir gan Weinidogion Cymru.
(8)Caiff y trefniant gynnwys darpariaeth bod y sefydliad yn derbyn taliadau gan Weinidogion Cymru.
(9)Rhaid i daliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol â darpariaeth o’r fath gael eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu (at ddiben is-adran (5)) y gost i Weinidogion Cymru o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.
(10)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (7)—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.
(11)Yn yr adran hon—
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;
mae “sefydliad” (“organisation”) yn cynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol, corff cyhoeddus a sefydliad preifat neu wirfoddol;
ystyr “swyddogaeth adolygu annibynnol” (“independent review function”) yw swyddogaeth a roddir neu a osodir ar Weinidogion Cymru drwy reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(b).
Diwygiadau Testunol
F5Geiriau yn a. 93(1)(a) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 302
Gwybodaeth Cychwyn
I39A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Caiff rheoliadau o dan adran 87 wneud darpariaeth, er enghraifft, o ran yr amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol wneud trefniadau bod dyletswyddau a osodwyd arno gan y rheoliadau yn cael eu cyflawni ar ei ran.
Gwybodaeth Cychwyn
I41A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod, oni bai nad yw hynny’n rhesymol ymarferol neu yn gyson â llesiant y plentyn, hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a—
(a)rhieni’r plentyn,
(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, ac
(c)unrhyw berthynas, ffrind neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn.
(2)Pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod y personau canlynol yn cael eu hysbysu’n rheolaidd am y man lle y mae’r plentyn yn cael ei letya—
(a)rhieni’r plentyn;
(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(3)Rhaid i bob person a grybwyllwyd yn is-adran (2)(a) neu (b) sicrhau bod yr awdurdod yn cael ei hysbysu’n rheolaidd am ei gyfeiriad.
(4)Pan fo awdurdod lleol (“yr awdurdod derbyn”) yn cymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i blentyn [F6oddi wrth awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 76 (“yr awdurdod trosglwyddo”)]—
(a)rhaid i’r awdurdod derbyn (pan fo hynny’n rhesymol ymarferol) hysbysu—
(i)rhieni’r plentyn, a
(ii)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,
(b)mae is-adran (2) yn gymwys i’r awdurdod trosglwyddo, yn ogystal â’r awdurdod derbyn, hyd nes y bydd o leiaf un o’r personau a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) o’r is-adran honno wedi cael ei hysbysu am y newid, ac
(c)nid yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson hysbysu’r awdurdod derbyn am ei gyfeiriad hyd nes y bydd y person hwnnw wedi cael ei hysbysu o dan baragraff (a).
(5)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol hysbysu person am y man lle y mae plentyn, ac eithrio plentyn o dan 16 oed sy’n cael ei letya o dan adran 76, os oes gan yr awdurdod sail resymol dros gredu y byddai hysbysu’r person yn peryglu llesiant y plentyn.
(6)Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio, heb esgus rhesymol, ag is-adran (3) yn euog o drosedd ac yn atebol o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol.
Diwygiadau Testunol
F6Geiriau yn a. 95(4) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 303
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C3A. 95 wedi ei eithrio gan OS 2005/1313 rhl. 46A(2) (fel y'i eithirwyd) (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) a Chynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/216), rhlau. 1(2), 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I43A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a
(b)pan fo’r amodau a grybwyllir yn is-adran (4) wedi eu bodloni.
(2)Caiff yr awdurdod wneud taliadau mewn perthynas â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y personau canlynol wrth ymweld â’r plentyn—
(a)rhiant i’r plentyn,
(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu
(c)unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn.
(3)Caiff yr awdurdod wneud taliadau i’r plentyn, neu i unrhyw berson ar ran y plentyn, mewn cysylltiad â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y plentyn neu ar ei ran wrth iddo ymweld â’r personau a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2).
(4)Yr amodau yw—
(a)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod na fyddai’n bosib cynnal yr ymweliad o dan sylw fel arall heb galedi ariannol gormodol, a
(b)bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud y taliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I45A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—
(a)plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol;
(b)plentyn a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond nid yw bellach yn derbyn gofal gan yr awdurdod o ganlyniad i amgylchiadau a bennwyd mewn rheoliadau;
(c)plentyn sy’n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.
(2)Rhaid i reoliadau sy’n pennu categori at ddiben is-adran (1)(c) hefyd bennu’r awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir gan neu o dan yr adran hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn y categori penodedig.
(3)Rhaid i awdurdod lleol—
(a)sicrhau bod person sy’n cynrychioli’r awdurdod (“cynrychiolydd”) yn ymweld â phlentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;
(b)trefnu bod cyngor a chymorth arall priodol ar gael i blentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo.
(4)O ran y dyletswyddau a osodwyd gan is-adran (3)—
(a)maent i’w cyflawni yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon;
(b)maent yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad sy’n gymwys i’r man lle y mae’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael ei letya.
(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon at ddibenion is-adran (4)(a) wneud darpariaeth am—
(a)amlder yr ymweliadau;
(b)yr amgylchiadau pan fo’n rhaid i gynrychiolydd ymweld â’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;
(c)swyddogaethau cynrychiolydd.
(6)Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun bod gan y person a ddewiswyd y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I47A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn benodi person annibynnol i fod yn ymwelydd ar gyfer y plentyn os—
(a)yw’r plentyn yn dod o fewn categori a bennwyd mewn rheoliadau, neu
(b)mewn unrhyw achos arall, yr ymddengys i’r awdurdod y byddai gwneud hynny’n fuddiol i’r plentyn.
(2)Rhaid i berson a benodir o dan yr adran hon ymweld â’r plentyn, ymgyfeillio ag ef a’i gynghori.
(3)Y mae hawlogaeth gan berson a benodir o dan yr adran hon i adennill oddi wrth yr awdurdod penodi unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(4)Daw penodiad person fel ymwelydd yn unol â’r adran hon i ben—
(a)os yw’r plentyn bellach wedi peidio â derbyn gofal gan yr awdurdod lleol,
(b)os bydd y person yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod penodi, neu
(c)os bydd yr awdurdod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person ei fod wedi terfynu’r penodiad.
(5)Nid yw dod â phenodiad o’r fath i ben yn effeithio ar unrhyw ddyletswydd o dan yr adran hon i wneud penodiad pellach.
(6)Pan fo awdurdod lleol yn cynnig penodi ymwelydd ar gyfer plentyn o dan yr adran hon, ni chaniateir gwneud y penodiad—
(a)os yw’r plentyn yn ei wrthwynebu, a
(b)os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud gwrthwynebiad deallus.
(7)Pan fo ymwelydd wedi cael ei benodi i’r plentyn o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol ddod â’r penodiad i ben—
(a)os yw’r plentyn yn gwrthwynebu bod y penodiad yn parhau, a
(b)os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud gwrthwynebiad deallus.
(8)Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi effaith i wrthwynebiad plentyn o dan is-adran (6) neu (7) a’r gwrthwynebiad yw bod unrhyw un yn cael ei benodi’n ymwelydd ar ei gyfer, nid oes yn rhaid i’r awdurdod gynnig penodi person arall o dan is-adran (1) hyd nes y bydd y gwrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl.
(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y mae person i’w ystyried at ddibenion yr adran hon fel un sy’n annibynnol ar yr awdurdod penodi.
Gwybodaeth Cychwyn
I49A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Os yw awdurdod lleol yn gofalu am blentyn, rhaid iddo benodi unigolyn i fod yn swyddog adolygu annibynnol ar achos y plentyn hwnnw.
(2)Rhaid gwneud y penodiad cychwynnol o dan is-adran (1) cyn i achos y plentyn gael ei adolygu gyntaf yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102.
(3)Os yw swydd wag yn codi mewn perthynas ag achos plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol wneud penodiad arall o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(4)Rhaid i’r person a benodir ddod o fewn categori o bersonau a bennir mewn rheoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I51A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i’r swyddog adolygu annibynnol—
(a)monitro’r modd y mae’r awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag achos y plentyn;
(b)cymryd rhan, yn unol â rheoliadau, mewn unrhyw adolygiad ar achos y plentyn;
(c)sicrhau bod unrhyw ddymuniadau a theimladau canfyddedig y plentyn ynglŷn â’r achos yn cael eu hystyried yn briodol gan yr awdurdod lleol;
(d)cyflawni unrhyw swyddogaeth arall a bennir mewn rheoliadau.
(2)Rhaid i swyddogaethau swyddog adolygu annibynnol gael eu cyflawni—
(a)yn y modd a bennir mewn rheoliadau, a
(b)gan roi sylw i unrhyw ganllawiau y bydd yr awdurdod hwnnw yn ei gyhoeddi mewn perthynas â chyflawni’r swyddogaethau hynny.
(3)Os bydd y swyddog adolygu annibynnol o’r farn ei bod hi’n briodol gwneud hynny, caniateir i achos y plentyn gael ei atgyfeirio gan y swyddog hwnnw at un o swyddogion achosion teuluol Cymru.
(4)Os nad yw’r swyddog adolygu annibynnol yn swyddog i’r awdurdod lleol, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod—
(a)i gydweithredu â’r unigolyn hwnnw, a
(b)i gymryd unrhyw gamau rhesymol y bydd ar yr unigolyn hwnnw eu hangen i alluogi swyddogaethau’r unigolyn hwnnw o dan yr adran hon i gael eu cyflawni yn foddhaol.
Gwybodaeth Cychwyn
I53A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Mewn perthynas â phlant yr atgyfeirir eu hachosion at swyddogion achosion teuluol Cymru o dan adran 100(3), caiff yr Arglwydd Ganghellor drwy reoliadau—
(a)estyn unrhyw swyddogaethau sydd gan swyddogion achosion teuluol Cymru mewn perthynas ag achosion teuluol (o fewn ystyr “family proceedings” yn adran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000) i achosion eraill;
(b)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw swyddogaethau sydd gan swyddogion achosion teuluol Cymru yn cael eu cyflawni yn y modd a bennir gan y rheoliadau.
(2)Nid yw’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I55A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i achos bob plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol gael ei adolygu yn unol â darpariaethau’r rheoliadau.
(2)Ymhlith pethau eraill, caiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer—
(a)y modd y mae pob achos i’w adolygu;
(b)yr ystyriaethau y mae hi’n ofynnol i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth adolygu pob achos;
(c)pryd y mae gofyn i bob achos gael ei adolygu am y tro cyntaf a pha mor aml y bydd adolygiadau dilynol i’w cynnal;
(d)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod, cyn iddo gynnal unrhyw adolygiad, geisio barn—
(i)y plentyn,
(ii)rhieni’r plentyn,
(iii)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, a
(iv)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod yn ystyried bod ei farn yn berthnasol,
gan gynnwys, yn benodol, farn y personau hynny mewn perthynas ag unrhyw fater penodol sydd i’w ystyried yn ystod yr adolygiad;
(e)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod, yn achos plentyn sydd o dan ei ofal—
(i)adolygu’n gyson y cynllun o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 (gorchmynion gofal: cynlluniau gofal) ar gyfer y plentyn ac, os yw’r awdurdod o’r farn bod angen newid o ryw fath, i ddiwygio’r cynllun, neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny, a
(ii)ystyried a ddylid gwneud cais i ddiddymu’r gorchymyn gofal;
(f)ei gwneud yn ofynnol, yn achos plentyn mewn llety a ddarperir gan neu ar ran yr awdurdod—
(i)os nad oes cynllun ar gyfer gofal y plentyn yn y dyfodol, i’r awdurdod lunio un,
(ii)os oes cynllun o’r fath ar gyfer y plentyn, i’r awdurdod ei adolygu’n gyson ac, os yw o’r farn bod angen newid o ryw fath, iddo ddiwygio’r cynllun neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny, a
(iii)ystyried a yw’r llety yn unol â gofynion y Rhan hon;
(g)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod roi gwybod i’r plentyn, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, am unrhyw gamau y caiff ef neu hi gymryd o dan y Ddeddf hon neu Ddeddf Plant 1989;
(h)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod wneud trefniadau, gan gynnwys trefniadau gydag unrhyw gyrff eraill sy’n darparu gwasanaethau ac y mae’n barnu bod y cyrff hynny yn briodol, i weithredu unrhyw benderfyniad y mae’n bwriadu ei wneud yn ystod yr adolygiad neu yn ganlyniad iddo;
(i)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod hysbysu’r canlynol am fanylion canlyniad yr adolygiad ac am unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddo o ganlyniad i’r adolygiad—
(i)y plentyn,
(ii)rhieni’r plentyn,
(iii)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, a
(iv)unrhyw berson arall y dylid, yn ei farn ef, ei hysbysu;
(j)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod fonitro’r trefniadau a wnaed ganddo gyda golwg ar sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I57A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn ei gynghori a’i gynorthwyo ac ymgyfeillio ag ef gyda golwg ar hyrwyddo llesiant y plentyn pan fydd wedi peidio â gofalu amdano.
Gwybodaeth Cychwyn
I59A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Mae gan y categorïau o berson ifanc a ddiffinnir yn is-adran (2) yr hawlogaeth i gael cymorth yn unol ag adrannau 105 i 115.
(2)Yn y Ddeddf hon—
ystyr “person ifanc categori 1” yw plentyn—
sy’n 16 neu’n 17 oed,
sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, ac
sydd wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr am gyfnod penodedig, neu gyfnodau sy’n cyfateb, gyda’i gilydd, i gyfnod penodedig, a ddechreuodd ar ôl i’r plentyn gyrraedd oedran penodedig, ac a ddaeth i ben ar ôl i’r plentyn gyrraedd 16 oed;
ystyr “person ifanc categori 2” yw plentyn—
sy’n 16 neu’n 17 oed,
nad yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, ac
a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1;
ystyr “person ifanc categori 3” yw person sy’n 18 oed neu drosodd—
sydd wedi bod yn berson ifanc categori 2 (ac a fyddai’n parhau i fod felly pe bai o dan 18 oed), neu
a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1;
ystyr “person ifanc categori 4” yw person—
sy’n berson ifanc categori 3 y mae’r dyletswyddau o dan adrannau 105, 106, 107(3) a (10) a 110 wedi peidio â bod yn gymwys iddo (gweler adran 111),
sydd wedi hysbysu’r awdurdod lleol cyfrifol ei fod yn dilyn, neu ei fod yn dymuno dilyn, rhaglen addysg neu hyfforddiant, ac
sydd heb gyrraedd 25 oed neu unrhyw oedran is a bennir;
ystyr “person ifanc categori 5” yw person—
sydd wedi cyrraedd 16 oed ond heb gyrraedd 21 oed eto,
y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad ag ef (neu os yw wedi cyrraedd 18 oed, yr oedd mewn grym pan gyrhaeddodd yr oedran hwnnw), ac
a oedd, yn union cyn gwneud y gorchymyn hwnnw, yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;
ystyr “person ifanc categori 6” yw person, ac eithrio person ifanc categori 5—
a oedd, ar unrhyw adeg ar ôl cyrraedd 16 oed ond tra oedd yn dal yn blentyn, yn derbyn gofal neu wedi ei letya neu ei faethu ond nad yw’n derbyn gofal nac yn cael ei letya na’i faethu mwyach,
os oedd wedi ei letya neu ei faethu felly, sydd bellach o fewn Cymru, ac
sydd heb gyrraedd 21 oed eto.
(3)Yn y diffiniad o “person ifanc categori 6”, ystyr “yn derbyn gofal, wedi ei letya neu ei faethu” yw—
(a)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol (heb fod yn derbyn gofal wedyn gan awdurdod lleol yn Lloegr),
(b)wedi ei letya gan neu ar ran sefydliad gwirfoddol,
(c)wedi ei letya mewn cartref preifat i blant,
(d)wedi ei letya am gyfnod olynol o dri mis o leiaf—
(i)gan neu ar ran Bwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig,
(ii)gan neu ar ran grŵp comisiynu clinigol neu Fwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,
(iii)gan neu ar ran awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg,
(iv)gan neu ar ran awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer swyddogaethau addysg,
(v)mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol, neu
(vi)mewn unrhyw lety a ddarperir gan neu ar ran Ymddiriedolaeth GIG neu gan neu ar ran Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, neu
(e)wedi ei faethu yn breifat (o fewn ystyr adran 66 o Ddeddf Plant 1989).
(4)Mae is-adran (3)(d) yn gymwys hyd yn oed os dechreuodd y cyfnod o dri mis a grybwyllwyd yno cyn i’r plentyn gyrraedd 16 oed.
(5)Yn y Ddeddf hon ystyr “awdurdod lleol cyfrifol” ac “awdurdod lleol sy’n gyfrifol”yw—
(a)mewn perthynas â pherson ifanc categori 1, yr awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;
(b)mewn perthynas â pherson ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4, yr awdurdod lleol a fu’n gofalu am y person hwnnw olaf;
(c)mewn perthynas â pherson ifanc categori 5, awdurdod lleol a ddyfernir yn unol â rheoliadau;
(d)mewn perthynas â pherson ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd paragraff (a) o is-adran (3), yr awdurdod lleol a fu’n gofalu am y person hwnnw olaf;
(e)mewn perthynas â pherson ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd unrhyw baragraff arall o’r is-adran honno, yr awdurdod lleol y mae’r person o fewn ei ardal.
(6)Caiff rheoliadau, at ddibenion unrhyw un neu rai o’r pwerau neu’r dyletswyddau o dan adrannau 105 i 115—
(a)pennu categorïau ychwanegol o bersonau;
(b)pennu categorïau o bersonau nad ydynt i’w trin fel rhai sy’n dod o fewn categori o berson ifanc a grybwyllwyd yn is-adran (1);
(c)gwneud darpariaeth ar gyfer dyfarnu pa awdurdod lleol fydd yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol at ddibenion categori a bennwyd o dan baragraff (a).
Gwybodaeth Cychwyn
I61A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 gymryd camau rhesymol i gadw mewn cysylltiad â’r person hwnnw p’un a yw’r person o fewn ei ardal ai peidio.
(2)Os yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 wedi colli cyswllt â’r person hwnnw, rhaid iddo—
(a)ystyried sut i ailsefydlu’r cyswllt hwnnw, a
(b)cymryd camau rhesymol i wneud hynny.
(3)Yn achos person ifanc categori 2, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (2) heb unrhyw oedi a pharhau i gymryd camau rhesymol i ailsefydlu’r cyswllt hyd nes y bydd yn llwyddo.
(4)Yn achos person ifanc categori 3, mae’r dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 111.
(5)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd adran 104(3)(a) gymryd camau rhesymol i gysylltu â’r person ifanc ar yr adegau hynny y mae’n eu hystyried yn briodol gyda golwg ar gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 115.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I63A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol drefnu bod gan berson a grybwyllir yn is-adran (2) gynghorydd personol.
(2)Y personau yw—
(a)person ifanc categori 1;
(b)person ifanc categori 2;
(c)person ifanc categori 3;
(d)person ifanc categori 4.
(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1)—
(a)yn achos person ifanc categori 3, yn ddarostyngedig i adran 111;
(b)yn achos person ifanc categori 4, yn ddarostyngedig i adran 113.
(4)Mae cynghorwyr personol a benodir o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon i gael unrhyw swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I65A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 1 gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon—
(a)tra bo’r awdurdod yn dal i ofalu amdano, a
(b)wedi iddo roi’r gorau i ofalu amdano.
(2)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 nad oes ganddo gynllun llwybr eisoes, gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon.
(3)Ar ôl cynnal asesiad o dan is-adran (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod lleol lunio cynllun llwybr a’i gynnal cyhyd ag y bydd y person ifanc yn dod o fewn categori 1, 2 neu 3 (ond gweler is-adran (12)).
(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall (os oes cyngor a chymorth arall) y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon.
(5)Wrth gynnal asesiad o dan is-adran (4), caiff yr awdurdod lleol ystyried unrhyw ddyletswydd a all fod ganddo i wneud taliad i’r person ifanc o dan adran 112(2).
(6)Ar ôl cynnal asesiad o dan is-adran (4), rhaid i’r awdurdod lleol lunio cynllun llwybr.
(7)Mae cynllun llwybr yn gynllun sy’n nodi—
(a)yn achos cynllun ar gyfer person ifanc categori 1—
(i)y cyngor a’r cymorth arall y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon, tra bydd yn gofalu amdano ac wedi hynny, a
(ii)pryd y byddai, o bosibl, yn rhoi’r gorau i ofalu amdano;
(b)yn achos cynllun ar gyfer person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4, y cyngor a’r cymorth arall y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon;
(c)unrhyw faterion eraill (os oes rhai) a bennir mewn rheoliadau.
(8)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth o ran asesiadau at ddibenion yr adran hon.
(9)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynglŷn â’r canlynol—
(a)y personau y dylid ymgynghori â hwy mewn perthynas ag asesiad;
(b)sut mae asesiad i’w gynnal, gan bwy a phryd;
(c)cofnodi canlyniadau asesiad;
(d)yr ystyriaethau y mae’r awdurdod lleol i roi sylw iddynt wrth gynnal asesiad.
(10)Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r cynllun llwybr yn gyson (ond gweler is-adrannau (12) a (13)).
(11)Caiff yr awdurdod lleol gynnal asesiad neu adolygiad o dan yr adran hon ar yr un adeg ag unrhyw asesiad neu adolygiad arall o anghenion y person ifanc.
(12)Yn achos person ifanc categori 3, mae’r dyletswyddau o dan is-adrannau (3) a (10) yn ddarostyngedig i adran 111.
(13)Yn achos person ifanc categori 4, mae’r ddyletswydd o dan is-adran (10) yn ddarostyngedig i adran 113.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I67A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adran (2) wrth—
(a)cynnal asesiad mewn perthynas â’r person ifanc o dan adran 107(1),
(b)llunio a chynnal cynllun llwybr ar gyfer y person ifanc o dan adran 107(3), neu
(c)adolygu cynllun llwybr y person ifanc o dan adran 107(10).
(2)Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ganfod a yw’r person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18.
(3)Mae “trefniant byw ôl-18” yn drefniant—
(a)pan fo person ifanc categori 3—
(i)sydd o dan 21 oed, a
(ii)a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1, a
(b)pan fo person (“cyn-riant maeth”) a oedd yn rhiant maeth awdurdod lleol i’r person ifanc yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben,
yn parhau i fyw gyda’i gilydd ar ôl i’r gofal a ddarparwyd i’r person ifanc ddod i ben.
(4)Pan fo’r person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ddarparu cyngor a chymorth arall er mwyn hwyluso’r trefniant.
(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol cyfrifol o’r farn y byddai gwneud trefniant byw ôl-18 rhwng y person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn anghyson â llesiant y person ifanc.
(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)y personau y mae’n rhaid darparu gwybodaeth iddynt ynghylch trefniadau byw ôl-18;
(b)y modd y mae’n rhaid i’r wybodaeth honno gael ei darparu.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I69A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 ddiogelu a hyrwyddo llesiant y person hwnnw ac, oni chaiff ei fodloni nad yw’n ofynnol i lesiant y person, cynorthwyo’r person drwy—
(a)cynnal y person,
(b)darparu llety addas i’r person, neu ei gynnal mewn llety o’r fath, ac
(c)darparu cymorth o unrhyw ddisgrifiadau eraill a bennir mewn rheoliadau.
(2)Caiff cymorth o dan is-adran (1) fod ar ffurf da neu mewn arian parod.
(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ystyr “llety addas” ac yn benodol ynghylch addasrwydd landlordiaid neu ddarparwyr llety eraill.
(4)Mae adran 78(3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad gan awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon fel y bo’n gymwys mewn perthynas â phenderfyniadau y cyfeiriwyd atynt yn yr adran honno.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I71A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw drwy—
(a)cyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig;
(b)cyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;
(c)gwneud grant i’r person ifanc, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;
(d)gwneud unrhyw beth arall sy’n briodol yn ei farn ef, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc.
(2)Yn ogystal, rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 sydd â threfniant byw ôl-18—
(a)monitro’r trefniant, a
(b)os yw’r awdurdod o’r farn bod y trefniant yn gyson â llesiant y person ifanc, ddarparu cyngor a chymorth arall i’r person ifanc a’r cyn-riant maeth gyda golwg ar gynnal y trefniant.
(3)Yn is-adran (2) mae i “trefniant byw ôl-18” yr ystyr a roddir iddo gan adran 108 ac mae i “cyn-riant maeth” yr un ystyr ag sydd iddo yn y diffiniad hwnnw.
(4)Gall y cymorth a roddir o dan is-adran (1)(d) a (2)(b) fod ar ffurf da neu mewn arian parod.
(5)Pan fo cymorth yn cael ei ddarparu i gyn-riant maeth o dan is-adran (2)(b), rhaid i’r cymorth gynnwys cymorth ariannol.
(6)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 sy’n dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr dalu’r swm perthnasol i’r person ifanc hwnnw.
(7)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (6) yn ychwanegol at ddyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan is-adran (1).
(8)Mae is-adran (9) yn gymwys pan fo’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 wedi ei fodloni—
(a)bod y person ifanc mewn addysg bellach neu uwch lawnamser,
(b)bod y person ifanc yn cael cymorth o dan is-adran (1)(b) neu (c) neu wedi cael taliad o dan is-adran (6), ac
(c)bod angen llety ar y person ifanc yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael.
(9)Rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
(a)darparu llety addas i’r person ifanc yn ystod y gwyliau, neu
(b)talu digon i’r person ifanc i sicrhau llety o’r fath.
(10)Mae’r dyletswyddau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i adran 111.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I73A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Mae dyletswyddau awdurdod lleol cyfrifol tuag at berson ifanc categori 3 yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn cyrraedd 21 oed, ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (2).
(2)Pan fo cynllun llwybr person ifanc categori 3 yn nodi rhaglen addysg neu hyfforddiant sy’n estyn y tu hwnt i’r dyddiad y bydd y person ifanc yn cyrraedd 21 oed—
(a)mae’r dyletswyddau o dan adran 110(1)(b) ac (c), (6) a (9) yn parhau hyd nes bod y person ifanc yn peidio â dilyn y rhaglen, a
(b)mae’r dyletswyddau o dan adrannau 105, 106 ac 107(3) a (10) yn parhau’n gydredol â’r dyletswyddau hynny ac yn dod i ben ar yr un pryd.
(3)At ddibenion is-adran (2)(a), rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I75A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw, i’r graddau y bo’n ofynnol i’w anghenion addysg neu hyfforddiant, drwy—
(a)cyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;
(b)gwneud grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant.
(2)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 sy’n dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr dalu’r swm perthnasol i’r person ifanc hwnnw.
(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (2)(a) yn ychwanegol at ddyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan is-adran (1).
(4)Pan fo awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 wedi ei fodloni bod y person ifanc mewn addysg bellach neu uwch lawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—
(a)darparu llety addas i’r person ifanc yn ystod y gwyliau, neu
(b)talu digon i’r person ifanc i sicrhau llety o’r fath.
(5)Caiff yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 ystyried ei ddyletswydd o dan is-adran (2) wrth asesu angen y person ifanc o dan adran 107(4) ac wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (4).
(6)Mae’r dyletswyddau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i adran 113.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I77A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Mae dyletswyddau awdurdod lleol cyfrifol tuag at berson ifanc categori 4 yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn peidio â dilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant yn unol â’i gynllun llwybr.
(2)At ddibenion is-adran (1), caiff yr awdurdod lleol cyfrifol ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I79A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 5 ystyried a fodlonwyd yr amodau yn is-adran (2) mewn perthynas â’r person ifanc.
(2)Yr amodau yw—
(a)bod ar y person angen cymorth o fath y gall yr awdurdod ei roi o dan yr adran hon, a
(b)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y person yr oedd yn derbyn gofal ganddo y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef.
(3)Os yw’r amodau wedi eu bodloni rhaid i’r awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef a chaiff roi cymorth i’r person hwnnw yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (4).
(4)Caiff y cymorth gael ei roi—
(a)ar ffurf da;
(b)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos at i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu’n chwilio am waith;
(c)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos i’r lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;
(d)drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;
(e)drwy ddarparu llety, os na chaniateir i gymorth gael ei roi mewn cysylltiad â’r llety o dan baragraffau (b) i (d);
(f)mewn arian parod.
(5)Caiff awdurdod lleol hefyd roi cymorth yn y modd a ddisgrifir ym mharagraffau (c) a (d) o is-adran (4) i berson ifanc—
(a)sydd o dan 25 oed, a
(b)a fyddai’n berson ifanc categori 5 pe bai o dan 21 oed.
(6)Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (4)(c) neu (d) caiff ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(7)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod person ifanc y caiff ddarparu cymorth iddo o dan is-adran (4) neu (5) mewn addysg bellach neu uwch llawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—
(a)darparu llety addas i’r person yn ystod y gwyliau, neu
(b)talu digon i’r person i sicrhau llety o’r fath.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I81A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 6 ystyried a fodlonwyd yr amodau yn is-adran (2) mewn perthynas â’r person ifanc.
(2)Yr amodau yw—
(a)bod ar y person angen cymorth o fath y gall yr awdurdod lleol ei roi o dan yr adran hon, a
(b)pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(b) i (e), bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y person yr oedd y person ifanc yn derbyn gofal ganddo, yn cael ei letya ganddo neu ei faethu ganddo (o fewn ystyr yr is-adran honno) y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef.
(3)Os yw’r amodau wedi eu bodloni—
(a)rhaid i’r awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef, os yw’r person hwnnw yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a) neu (b), a
(b)mewn unrhyw achos arall, caiff yr awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef.
(4)Pan fo awdurdod lleol, o ganlyniad i’r adran hon, o dan ddyletswydd neu wedi ei rymuso i gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef, caiff roi cymorth i’r person hwnnw yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5).
(5)Caiff y cymorth gael ei roi—
(a)ar ffurf da;
(b)pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a)—
(i)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig;
(ii)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;
(iii)drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;
(c)drwy ddarparu llety, os na chaniateir i gymorth gael ei roi mewn cysylltiad â’r llety o dan baragraff (b);
(d)mewn arian parod.
(6)Caiff awdurdod lleol hefyd roi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5)(b)(ii) a (iii) i berson ifanc—
(a)sydd o dan 25 oed, a
(b)a fyddai’n berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a), pe bai o dan 21 oed.
(7)Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5)(b)(ii) neu (iii) caiff ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(8)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod person ifanc y caiff ddarparu cymorth iddo o dan is-adran (4) neu (6) mewn addysg bellach neu uwch lawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—
(a)darparu llety addas i’r person yn ystod y gwyliau, neu
(b)talu digon i’r person i sicrhau llety o’r fath.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I83A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Caiff rheoliadau, at ddibenion adrannau 110(6) a 112(2)—
(a)pennu’r swm perthnasol;
(b)pennu ystyr “addysg uwch”;
(c)gwneud darpariaeth o ran talu’r swm perthnasol;
(d)gwneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y caniateir i’r swm perthnasol (neu unrhyw ran ohono) gael ei adennill gan awdurdod lleol oddi wrth berson ifanc y gwnaed taliad iddo o dan y darpariaethau hynny.
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ystyr “addysg bellach” (“further education”), “addysg uwch” (“higher education”), “gwyliau” (“vacation”) a “llawnamser” (“full-time”) at ddibenion adrannau 110(8), 112(4), 114(7) a 115(8).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C4Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I85A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Caiff awdurdod lleol osod ffi am gymorth (ac eithrio cyngor) o dan adrannau 109 i 115.
(2)O ran ffi a osodir o dan adran (1)—
(a)dim ond y gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn gymwys iddi;
(b)caniateir ei gosod—
(i)ar y person ifanc sy’n cael y cymorth, os yw’r person ifanc hwnnw wedi cyrraedd 18 oed;
(ii)ar berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y person ifanc sy’n cael y cymorth, os yw’r person ifanc o dan 18 oed.
(3)Nid yw person yn atebol am dalu ffi o dan yr adran hon yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’n cael budd-dal sydd o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.
(4)Yn is-adran (3) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.
(5)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 61 neu 62 yn gymwys i ffioedd o dan yr adran hon mewn perthynas â chymorth fel y bo’n gymwys i ffioedd o dan adran 59 mewn perthynas â gofal a chymorth.
(6)Caiff rheoliadau gymhwyso unrhyw ddarpariaeth a wneir yn neu o dan adrannau 63 i 68 neu adrannau 70 i 73 i godi ffioedd o dan yr adran hon gyda neu heb addasiadau penodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I87A. 117 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol bod person ifanc—
(a)y mae ganddo ddyletswydd i gadw mewn cysylltiad ag ef o dan adran 105,
(b)y mae wedi bod yn cynghori ac yn cyfeillio o dan adran 114 neu 115, neu
(c)y mae wedi bod yn rhoi cymorth arall iddo o dan adran 114 neu 115,
yn bwriadu byw, neu yn byw, yn ardal awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.
(2)Pan fo plentyn sy’n cael ei letya yng Nghymru—
(a)gan sefydliad gwirfoddol neu mewn cartref preifat i blant,
(b)gan neu ar ran unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig,
(c)gan neu ar ran grŵp comisiynu clinigol neu Fwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,
(d)gan neu ar ran awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg,
(e)gan neu ar ran awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer swyddogaethau addysg,
(f)mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol, neu
(g)mewn unrhyw lety a ddarperir gan neu ar ran Ymddiriedolaeth GIG neu gan neu ar ran Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG,
yn peidio â chael ei letya felly mwyach ar ôl cyrraedd 16 oed, rhaid i’r person y cafodd y plentyn ei letya ganddo neu ar ei ran neu sy’n rhedeg neu’n rheoli’r cartref neu’r ysbyty (yn ôl y digwydd) hysbysu’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y mae’r plentyn yn bwriadu byw yn ei ardal.
(3)Dim ond os yw’r llety wedi cael ei ddarparu am gyfnod o dri mis yn olynol o leiaf y bydd is-adran (2) yn gymwys yn rhinwedd paragraffau (b) i (g).
(4)Mewn achos lle y cafodd plentyn ei letya gan neu ar ran awdurdod lleol, neu awdurdod lleol yn Lloegr, wrth arfer swyddogaethau addysg, nid yw is-adran (2) yn gymwys oni fo’r awdurdod a fu’n lletya’r plentyn yn wahanol i’r awdurdod y mae’r plentyn yn bwriadu byw yn ei ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I89A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon, ni chaniateir i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr gael ei leoli, ac os yw wedi ei leoli, ni chaniateir iddo gael ei gadw mewn llety yng Nghymru a ddarperir at y diben o gyfyngu ar ryddid (“llety diogel”) onid yw’n ymddangos—
(a)bod y plentyn—
(i)yn un sydd â hanes o ddianc a’i fod yn debyg o ddianc o lety o unrhyw ddisgrifiad arall, a
(ii)yn debyg o ddioddef gan niwed o bwys os yw’n dianc, neu
(b)bod y plentyn, os yw’n cael ei gadw mewn llety o unrhyw ddisgrifiad arall, yn debyg o anafu ei hun neu bersonau eraill.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)pennu—
(i)cyfnod na chaniateir i blentyn gael ei gadw y tu hwnt iddo mewn llety diogel yng Nghymru heb awdurdod y llys, a
(ii)y cyfnod hwyaf y caiff y llys awdurdodi bod plentyn yn cael ei gadw amdano mewn llety diogel yng Nghymru;
(b)rhoi pŵer i’r llys i awdurdodi o bryd i’w gilydd fod plentyn yn cael ei gadw mewn llety diogel yng Nghymru am unrhyw gyfnod pellach y bydd y rheoliadau yn ei bennu;
(c)darparu bod ceisiadau i’r llys o dan yr adran hon i’w gwneud gan awdurdod lleol [F7neu awdurdod lleol yn Lloegr] yn unig.
(3)Mae’n ddyletswydd ar lys sy’n gwrando cais o dan yr adran hon i ddyfarnu a yw unrhyw feini prawf perthnasol ar gyfer cadw plentyn mewn llety diogel wedi eu bodloni yn achos y plentyn.
(4)Os bydd llys yn dyfarnu bod unrhyw feini prawf o’r fath wedi eu bodloni, rhaid iddo wneud gorchymyn yn awdurdodi bod y plentyn i’w gadw mewn llety diogel ac yn pennu’r cyfnod hwyaf ar gyfer cadw’r plentyn felly.
(5)Os caiff gwrandawiad cais o dan yr adran hon ei ohirio, caiff y llys wneud gorchymyn interim yn caniatáu i’r plentyn gael ei gadw mewn llety diogel yn ystod cyfnod y gohiriad.
(6)Ni chaiff unrhyw lys arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran hon mewn cysylltiad â phlentyn nad yw wedi ei gynrychioli’n gyfreithiol yn y llys hwnnw, oni bai ei fod, ar ôl cael ei hysbysu am ei hawl i wneud cais am [F8y ddarpariaeth o gynrychiolaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012] ac wedi cael cyfle i wneud hynny, wedi gwrthod neu wedi methu â gwneud cais.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu—
(a)bod yr adran hon i’w chymhwyso neu nad yw i’w chymhwyso i unrhyw ddisgrifiad o blant a bennir yn y rheoliadau;
(b)bod yr adran hon yn cael effaith mewn perthynas â phlant o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau yn ddarostyngedig i addasiadau a bennir yn y rheoliadau;
(c)bod darpariaethau eraill a bennir yn y rheoliadau i gael effaith at ddibenion dyfarnu a ganiateir i blentyn o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau gael ei leoli neu ei gadw mewn llety diogel yng Nghymru.
(8)Nid yw rhoi awdurdodiad o dan yr adran hon yn rhagfarnu unrhyw bŵer sydd gan unrhyw lys yn Lloegr a Chymru i roi cyfarwyddiadau ynglŷn â’r plentyn y mae’r awdurdodiad yn ymwneud ag ef.
(9)Nid yw rhoi awdurdodiad o dan yr adran hon yn rhagfarnu effaith unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan lys yn yr Alban ynglŷn â phlentyn y mae’r awdurdodiad yn ymwneud ag ef, i’r graddau y mae’r cyfarwyddyd yn cael effaith yng nghyfraith Lloegr a Chymru.
(10)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 76(5).
[F9(11)Bydd gorchymyn a wneir o dan yr adran hon mewn perthynas â phlentyn, pe byddai fel arall yn parhau i fod mewn grym, yn peidio â chael effaith pan fydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed.]
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn a. 119(2)(c) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 304(a)
F8Geiriau yn a. 119(6) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 304(b)
F9A. 119(11) wedi ei fewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 304(c)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C5A. 119 wedi ei eithrio (6.4.2016) gan Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1988), rhlau. 1(2), 14
C6A. 119 wedi ei addasu (6.4.2016) gan Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1988), rhlau. 1(2), 15
C7A. 119 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (6.4.2016) gan Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1988), rhlau. 1(2), 16
Gwybodaeth Cychwyn
I91A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg (“yr awdurdod lletya”)—
(a)am gyfnod olynol o 3 mis o leiaf, neu
(b)gyda’r bwriad, ar ran yr awdurdod, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.
(2)Rhaid i’r awdurdod lletya hysbysu swyddog priodol yr awdurdod cyfrifol—
(a)ei fod yn lletya’r plentyn, a
(b)pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.
(3)Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod cyfrifol” ac “yr awdurdod sy’n gyfrifol” yw—
(a)yr awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr y mae’n ymddangos i’r awdurdod lletya mai’r awdurdod hwnnw yw’r un lle yr oedd y plentyn yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo gael ei letya, neu
(b)pan fo’n ymddangos i’r awdurdod lletya nad oedd plentyn yn preswylio fel arfer o fewn ardal unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi.
(4)Yn yr adran hon ac yn adrannau 121 a 122 ystyr “swyddog priodol” yw—
(a)mewn perthynas ag awdurdod lleol, ei gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, a
(b)mewn perthynas ag awdurdod lleol yn Lloegr, ei gyfarwyddwr gwasanaethau plant.
(5)Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon [F10, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg)], rhaid i’r awdurdod—
(a)asesu’r plentyn o dan adran 21, a
(b)ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.
(6)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (5)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—
(a)awdurdod lleol,
(b)awdurdod lleol yn Lloegr,
(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu
(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn a. 120(5) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 305
Gwybodaeth Cychwyn
I93A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol—
(a)am gyfnod olynol o dri mis o leiaf, neu
(b)gyda’r bwriad, ar ran y person sy’n gwneud y penderfyniad i letya’r plentyn, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.
(2)Rhaid i’r person sy’n rhedeg y sefydliad o dan sylw hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol y mae’r sefydliad yn cael ei redeg yn ei ardal—
(a)ei fod yn lletya’r plentyn, a
(b)pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.
(3)Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod—
(a)asesu’r plentyn o dan adran 21, a
(b)ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.
(4)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (3)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—
(a)awdurdod lleol,
(b)awdurdod lleol yn Lloegr,
(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu
(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
(5)Os yw person sy’n rhedeg cartref gofal neu ysbyty annibynnol yn methu, heb reswm resymol, â chydymffurfio â’r adran hon, bydd yn euog o drosedd.
(6)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol gael mynediad i gartref gofal neu ysbyty annibynnol o fewn ardal yr awdurdod at ddiben pennu a ydynt wedi cydymffurfio â gofynion yr adran hon.
(7)Rhaid i berson sy’n arfer pŵer mynediad, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen wedi ei dilysu’n briodol sy’n dangos bod ganddo awdurdodiad i wneud hynny.
(8)Mae unrhyw berson sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer mynediad yn euog o drosedd.
(9)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan yr adran hon yn atebol ar gollfarn diannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I95A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw swyddog priodol i awdurdod lleol—
(a)wedi ei hysbysu mewn cysylltiad â phlentyn o dan adran 120(2)(a) neu 121(2)(a), [F12neu o dan adran 85(1) o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol),] a
(b)heb ei hysbysu mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw o dan adran 120(2)(b) neu adran 121(2)(b) [F13, neu o dan adran 85(2) o Ddeddf Plant 1989].
(2)Rhaid i’r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau a wneir o dan yr adran hon, wneud trefniadau er mwyn i gynrychiolydd yr awdurdod (“cynrychiolydd”) fynd i ymweld â’r plentyn.
(3)Dyletswydd cynrychiolydd yw rhoi cyngor a chymorth i’r awdurdod lleol ynghylch y modd y mae’r awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â’r plentyn.
(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch—
(a)amlder yr ymweliadau o dan drefniadau ymweld;
(b)amgylchiadau y mae’n rhaid i drefniadau ymweld odanynt ei gwneud yn ofynnol bod rhywun yn ymweld â’r plentyn;
(c)swyddogaethau ychwanegol cynrychiolydd.
(5)Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun fod gan y person dewisol y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.
(6)Yn yr adran hon ystyr “trefniadau ymweld” yw’r trefniadau a wneir o dan is-adran (2).
Diwygiadau Testunol
F11Geiriau ym mhennawd a. 122 wedi eu hepgor (6.4.2016) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 306(c)
F12Geiriau yn a. 122(1)(a) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 306(a)
F13Geiriau yn a. 122(1)(b) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 306(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I97A. 122 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wasanaethau y mae’n barnu eu bod yn briodol i blant y mae’n cael hysbysiad amdanynt o dan adran 120 neu 121 [F15, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol)].
(2)Rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir o dan yr adran hon gael eu darparu gyda golwg ar hyrwyddo cyswllt rhwng pob plentyn y mae’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad amdano a theulu’r plentyn.
(3)Caiff y gwasanaethau gynnwys unrhyw beth y gall yr awdurdod ei ddarparu neu ei drefnu o dan Ran 4.
(4)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar y ddyletswydd a osodwyd gan adran 39.
Diwygiadau Testunol
F14Geiriau ym mhennawd a. 123 wedi eu hepgor (6.4.2016) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 307(b)
F15Geiriau yn a. 123(1) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 307(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I99A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Ni chaiff awdurdod lleol drefnu, neu helpu i drefnu, i blentyn yn ei ofal fyw y tu allan i Loegr a Chymru heb gymeradwyaeth y llys.
(2)Caiff awdurdod lleol, gyda chymeradwyaeth pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn drefnu, neu helpu i drefnu, i unrhyw blentyn arall sy’n derbyn gofal ganddo i fyw y tu allan i Loegr a Chymru.
(3)Ni chaiff y llys roi ei gymeradwyaeth i hyn o dan is-adran (1) oni chaiff ei fodloni—
(a)y byddai byw y tu allan i Loegr a Chymru er lles pennaf y plentyn,
(b)y gwnaed, neu y gwneir, trefniadau addas i dderbyn y plentyn a threfniadau addas er ei lesiant yn y wlad lle bydd yn byw,
(c)bod y plentyn wedi cydsynio i fyw yn y wlad honno, a
(d)bod pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn wedi cydsynio bod y plentyn yn byw yn y wlad honno.
(4)Pan fo’r llys wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i gydsynio neu wrthod cydsynio, caiff anwybyddu is-adran (3)(c) a chymeradwyo os bydd y plentyn yn mynd i fyw yn y wlad sydd o dan sylw gyda rhiant, gwarcheidwad, gwarcheidwad arbennig, neu berson addas arall.
(5)Pan fo person y mae angen ei gydsyniad gan is-adran (3)(d) yn methu â chydsynio, caiff y llys hepgor cydsyniad y person hwnnw os yw wedi ei fodloni—
(a)nad oes modd dod o hyd i’r person neu nad oes gan y person alluedd i gydsynio, neu
(b)bod llesiant y plentyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r cydsyniad gael ei hepgor.
(6)Nid yw adran 85 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (sy’n gosod cyfyngiadau ar fynd â phlant allan o’r Deyrnas Unedig) yn gymwys yn achos plentyn a fydd yn byw y tu allan i Loegr a Chymru gyda chymeradwyaeth y llys a roddir o dan yr adran hon.
(7)Pan fydd llys yn penderfynu rhoi ei gydsyniad o dan yr adran hon, caiff orchymyn nad yw ei benderfyniad i gael effaith yn ystod y cyfnod apelio.
(8)Yn is-adran (7) ystyr “y cyfnod apelio” yw—
(a)lle y gwneir apêl yn erbyn y penderfyniad, y cyfnod rhwng gwneud y penderfyniad a dyfarnu ar yr apêl, a
(b)fel arall, y cyfnod pryd y caniateir apelio yn erbyn y penderfyniad.
F16(9) Nid yw’r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol sy’n lleoli plentyn i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadwyr.
Diwygiadau Testunol
F16 A. 124(9): testyn wedi'i ddiwygio (27.4.2017) gan Deddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017 (c. 16), a. 70(1)(a), Atod. 1 para. 13
Gwybodaeth Cychwyn
I101A. 124 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Os yw plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn marw—
(a)rhaid i’r awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru,
(b)rhaid i’r awdurdod hysbysu, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, rieni’r plentyn a phob person nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,
(c)caiff yr awdurdod, gyda chydsyniad pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol i’w gael), drefnu i gorff y plentyn gael ei gladdu neu ei amlosgi, a
(d)caiff yr awdurdod, os bodlonir yr amodau a grybwyllir yn is-adran (2), wneud taliadau i unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu unrhyw berthynas, gyfaill neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn, mewn cysylltiad â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y person hwnnw wrth fod yn bresennol yn angladd y plentyn.
(2)Dyma’r amodau—
(a)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod na fedrai’r person o dan sylw fod yn bresennol yn angladd y plentyn fel arall heb galedi ariannol gormodol, a
(b)bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud y taliadau.
(3)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi amlosgi lle nad yw’n unol ag arfer argyhoeddiad crefyddol y plentyn.
(4)Pan fo awdurdod lleol wedi arfer ei bŵer o dan is-adran (1)(c) mewn cysylltiad â phlentyn a oedd o dan 16 oed pan fu farw, caiff adennill oddi wrth unrhyw un o rieni’r plentyn unrhyw dreuliau a dynnwyd ganddo.
(5)Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil unrhyw symiau y mae modd eu hadennill yn y modd hwn, ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’u hadennill.
(6)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw ddeddfiad sy’n rheoleiddio neu’n awdurdodi claddu, amlosgi neu gynnal archwiliad anatomegol o gorff y person ymadawedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I103A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Diwygiadau Testunol
At ddibenion y Rhan hon, ystyr “llys” (“court”) yw’r Uchel Lys neu lys teulu.
(1)Caiff awdurdod sydd â’r pŵer i wneud rheolau llys wneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer rhoi effaith i—
(a)y Rhan hon, neu
(b)darpariaethau unrhyw offeryn statudol a wneir o dan y Rhan hon,
yr ymddengys i’r awdurdod hwnnw ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus.
(2)Mae adran 93 o Ddeddf Plant 1989 (rheolau llys) yn gymwys i reolau a wneir yn unol â’r adran hon fel y mae’n gymwys i reolau a wneir yn unol â’r adran honno.
Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth—
(a)mewn cysylltiad â’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn unrhyw achos perthnasol (gan gynnwys y modd y mae unrhyw gais i gael ei wneud neu y mae achos arall i gael ei ddechrau);
(b)o ran y personau sydd â hawlogaeth i gymryd rhan mewn unrhyw achos perthnasol, p’un ai fel partïon i’r achos neu drwy gael y cyfle i gyflwyno sylwadau i’r llys;
(c)i blant gael eu cynrychioli ar wahân mewn achos perthnasol;
(d)o ran y dogfennau a’r wybodaeth sydd i’w darparu, a’r hysbysiadau sydd i’w rhoi, mewn cysylltiad ag unrhyw achos perthnasol;
(e)mewn cysylltiad â gwrandawiadau rhagarweiniol;
(f)sy’n galluogi’r llys, o dan unrhyw amgylchiad a ragnodir, i barhau ag unrhyw gais er nad yw hysbysiad o’r achos wedi ei roi i’r ymatebydd.
(3)Yn is-adran (2)—
ystyr “a ragnodir” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi gan y rheolau;
ystyr “achos perthnasol” (“relevant proceedings”) yw unrhyw gais a wneir, neu achos a ddygir, o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1) ac unrhyw ran o achos o’r fath; ac
ystyr “hysbysiad o achos” (“notice of proceedings”) yw gwŷs neu unrhyw hysbysiad arall o achos sy’n ofynnol; ac ystyr “rhoi” (“given”), mewn perthynas â gwŷs, yw “cyflwyno” (“served”).
(4)Nid yw’r adran hon nac unrhyw bŵer arall yn y Ddeddf hon i wneud rheolau llys i gael ei gymryd fel pe bai’n cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod o dan sylw i wneud rheolau llys.
(5)Wrth wneud unrhyw reolau o dan yr adran hon, bydd yr awdurdod yn ddarostyngedig i’r un gofyniad o ran ymgynghori (os oes un) ag sy’n gymwys pan fydd yr awdurdod yn gwneud rheolau o dan ei bŵer cyffredinol i wneud rheolau.
Mae adran 97 o Ddeddf Plant 1989 (preifatrwydd i blant sy’n rhan o achosion penodol) yn gymwys mewn perthynas â phlant sy’n rhan o achosion o dan y Rhan hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas â phlant sy’n rhan o unrhyw achos o dan y Ddeddf honno.
125D.(1)Rhaid i berson beidio â chyhoeddi i’r cyhoedd yn gyffredinol, nac i unrhyw ran o’r cyhoedd, unrhyw ddeunydd y bwriedir iddo sicrhau bod modd adnabod, neu sy’n debygol o olygu bod modd adnabod—LL+C
(a)unrhyw blentyn sy’n rhan o unrhyw achos gerbron yr Uchel Lys neu’r llys teulu y caiff unrhyw bŵer o dan y Ddeddf hon ei arfer ynddo gan y llys mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn; neu
(b)cyfeiriad neu ysgol fel un plentyn sy’n rhan o unrhyw achos o’r fath.
(2)Mewn unrhyw achos am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r sawl a gyhuddir brofi nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo unrhyw reswm dros amau, fod y deunydd a gyhoeddwyd wedi ei fwriadu i sicrhau bod modd adnabod y plentyn, neu’n debygol o olygu bod modd adnabod y plentyn.
(3)Caiff y llys neu’r Arglwydd Ganghellor, os yw wedi ei fodloni bod lles y plentyn yn gwneud hynny yn ofynnol ac, yn achos yr Arglwydd Ganghellor, os yw’r Arglwydd Brif Ustus yn cytuno, drwy orchymyn hepgor gofynion is-adran (1) i’r graddau hynny a bennir yn y gorchymyn.
(4)At ddibenion yr adran hon—
mae “cyhoeddi” (“publish”) yn cynnwys—
cynnwys mewn gwasanaeth rhaglenni (o fewn yr ystyr a roddir i “programme service” yn Neddf Darlledu 1990);
achosi i’r deunydd gael ei gyhoeddi; ac
mae “deunydd” (“material”) yn cynnwys unrhyw lun neu gynrychiolaeth.
(5)Mae unrhyw berson sy’n mynd yn groes i’r adran hon yn euog o drosedd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(6)Caiff yr Arglwydd Brif Ustus enwebu deiliad swydd farnwrol (fel y diffinnir “judicial office holder” yn adran 109(4) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005) i arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3).]
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: