RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau penodol
I8I4120Asesu plant y mae llety’n cael ei ddarparu iddynt gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg (“yr awdurdod lletya”)—
a
am gyfnod olynol o 3 mis o leiaf, neu
b
gyda’r bwriad, ar ran yr awdurdod, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.
2
Rhaid i’r awdurdod lletya hysbysu swyddog priodol yr awdurdod cyfrifol—
a
ei fod yn lletya’r plentyn, a
b
pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.
3
Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod cyfrifol” ac “yr awdurdod sy’n gyfrifol” yw—
a
yr awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr y mae’n ymddangos i’r awdurdod lletya mai’r awdurdod hwnnw yw’r un lle yr oedd y plentyn yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo gael ei letya, neu
b
pan fo’n ymddangos i’r awdurdod lletya nad oedd plentyn yn preswylio fel arfer o fewn ardal unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi.
4
Yn yr adran hon ac yn adrannau 121 a 122 ystyr “swyddog priodol” yw—
a
mewn perthynas ag awdurdod lleol, ei gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, a
b
mewn perthynas ag awdurdod lleol yn Lloegr, ei gyfarwyddwr gwasanaethau plant.
5
Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon F5, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg), rhaid i’r awdurdod—
a
asesu’r plentyn o dan adran 21, a
b
ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.
6
Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (5)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—
a
awdurdod lleol,
b
awdurdod lleol yn Lloegr,
c
awdurdod lleol yn yr Alban, neu
d
ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
I3I5121Asesu plant sy’n cael eu lletya mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol—
a
am gyfnod olynol o dri mis o leiaf, neu
b
gyda’r bwriad, ar ran y person sy’n gwneud y penderfyniad i letya’r plentyn, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.
2
Rhaid i’r person sy’n rhedeg y sefydliad o dan sylw hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol y mae’r sefydliad yn cael ei redeg yn ei ardal—
a
ei fod yn lletya’r plentyn, a
b
pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.
3
Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod—
a
asesu’r plentyn o dan adran 21, a
b
ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.
4
Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (3)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—
a
awdurdod lleol,
b
awdurdod lleol yn Lloegr,
c
awdurdod lleol yn yr Alban, neu
d
ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
5
Os yw person sy’n rhedeg cartref gofal neu ysbyty annibynnol yn methu, heb reswm resymol, â chydymffurfio â’r adran hon, bydd yn euog o drosedd.
6
Caiff person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol gael mynediad i gartref gofal neu ysbyty annibynnol o fewn ardal yr awdurdod at ddiben pennu a ydynt wedi cydymffurfio â gofynion yr adran hon.
7
Rhaid i berson sy’n arfer pŵer mynediad, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen wedi ei dilysu’n briodol sy’n dangos bod ganddo awdurdodiad i wneud hynny.
8
Mae unrhyw berson sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer mynediad yn euog o drosedd.
9
Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan yr adran hon yn atebol ar gollfarn diannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
I6I7122Ymwelwyr â phlant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt F1...
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw swyddog priodol i awdurdod lleol—
a
wedi ei hysbysu mewn cysylltiad â phlentyn o dan adran 120(2)(a) neu 121(2)(a), F3neu o dan adran 85(1) o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol), a
b
heb ei hysbysu mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw o dan adran 120(2)(b) neu adran 121(2)(b) F6, neu o dan adran 85(2) o Ddeddf Plant 1989.
2
Rhaid i’r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau a wneir o dan yr adran hon, wneud trefniadau er mwyn i gynrychiolydd yr awdurdod (“cynrychiolydd”) fynd i ymweld â’r plentyn.
3
Dyletswydd cynrychiolydd yw rhoi cyngor a chymorth i’r awdurdod lleol ynghylch y modd y mae’r awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â’r plentyn.
4
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch—
a
amlder yr ymweliadau o dan drefniadau ymweld;
b
amgylchiadau y mae’n rhaid i drefniadau ymweld odanynt ei gwneud yn ofynnol bod rhywun yn ymweld â’r plentyn;
c
swyddogaethau ychwanegol cynrychiolydd.
5
Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun fod gan y person dewisol y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.
6
Yn yr adran hon ystyr “trefniadau ymweld” yw’r trefniadau a wneir o dan is-adran (2).
I2I1123Gwasanaethau i blant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt F2...
1
Rhaid i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wasanaethau y mae’n barnu eu bod yn briodol i blant y mae’n cael hysbysiad amdanynt o dan adran 120 neu 121 F4, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol).
2
Rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir o dan yr adran hon gael eu darparu gyda golwg ar hyrwyddo cyswllt rhwng pob plentyn y mae’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad amdano a theulu’r plentyn.
3
Caiff y gwasanaethau gynnwys unrhyw beth y gall yr awdurdod ei ddarparu neu ei drefnu o dan Ran 4.
4
Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar y ddyletswydd a osodwyd gan adran 39.