Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofalLL+C

87Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofalLL+C

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 87 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

88Rheoliadau ynghylch amodau lle y caniateir i blentyn sydd mewn gofal fyw gyda rhiant etcLL+C

Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, osod gofynion ar awdurdod lleol ynghylch—

(a)gwneud unrhyw benderfyniad i ganiatáu i blentyn sydd yn ei ofal i fyw gydag unrhyw berson sy’n dod o fewn adran 81(3) (gan gynnwys gofynion o ran y rheini y mae’n rhaid ymgynghori â hwy cyn gwneud y penderfyniad a’r rheini y mae’n rhaid eu hysbysu pan fydd y penderfyniad wedi ei wneud);

(b)goruchwylio neu gynnal ymchwiliad meddygol ar y plentyn o dan sylw;

(c)symud y plentyn, o dan y fath amgylchiadau a gaiff eu pennu mewn rheoliadau, o ofal y person y rhoddwyd caniatâd i’r plentyn fyw gydag ef;

(d)y cofnodion sydd i’w cadw gan yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 88 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 88 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

89Rheoliadau ynghylch lleoliadau o’r math a grybwyllir yn adran 81(6)(d)LL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch lleoliadau o’r math a grybwyllwyd yn adran 81(6)(d).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw drefniadau arfaethedig;

(b)y cyfleoedd y mae personau o’r fath i’w cael er mwyn cyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r trefniadau arfaethedig;

(c)y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau;

(d)y cofnodion sydd i’w cadw gan awdurdodau lleol;

(e)goruchwyliaeth gan awdurdodau lleol ar unrhyw drefniadau a wneir.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 89 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

90Rheoliadau ynghylch lleoliadau y tu allan i ardalLL+C

Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, osod gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hwy—

(a)cyn i blentyn sy’n derbyn gofal ganddynt dderbyn llety mewn man y tu allan i ardal yr awdurdod, neu

(b)os yw llesiant y plentyn yn gofyn bod llety o’r fath yn cael ei ddarparu’n syth, o fewn unrhyw gyfnod penodedig wedi i’r llety hwnnw gael ei ddarparu.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I8A. 90 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

91Rheoliadau ynghylch osgoi amharu ar addysgLL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87 osod, er enghraifft, gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hwy cyn gwneud unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud â lleoliad plentyn os yw yng nghyfnod allweddol pedwar.

(2)Mae plentyn “yng nghyfnod allweddol pedwar” os yw’n ddisgybl yng nghyfnod allweddol pedwar (“the fourth key stage”) at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (gweler adran 103 o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I10A. 91 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

92Rheoliadau ynghylch lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol a darpar fabwysiadwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, wneud darpariaeth—

(a)ynglŷn â llesiant plant a leolir gyda rhieni maeth awdurdod lleol neu ddarpar fabwysiadwyr;

(b)ynghylch y trefniadau sydd i’w gwneud gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag iechyd ac addysg plant o’r fath;

(c)ynghylch y cofnodion sydd i’w cadw gan awdurdodau lleol;

(d)i sicrhau, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, bod y rhiant maeth awdurdod lleol neu’r darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef—

(i)o’r un argyhoeddiad crefyddol â’r plentyn, neu

(ii)yn ymgymryd â magu’r plentyn yn unol â’r argyhoeddiad crefyddol hwnnw;

(e)i sicrhau y bydd y plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth awdurdod lleol neu ddarpar fabwysiadwyr, a’r mangreoedd lle y maent wedi eu lletya, yn cael eu goruchwylio a’u harolygu gan awdurdod lleol ac y bydd y plant yn cael eu symud o’r mangreoedd hynny os yw’n ymddangos bod hynny’n angenrheidiol i’w llesiant.

(2)Yn yr adran hon ystyr “darpar fabwysiadydd” yw person y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(11).

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I12A. 92 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

93Rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleolLL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87 wneud darpariaeth, er enghraifft—

(a)ar gyfer sicrhau nad yw plentyn yn cael ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol [F1neu bersonau eraill] oni bai bod y person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo am y tro fel rhiant maeth awdurdod lleol gan yr awdurdod lleol a bennir;

(b)sy’n sefydlu gweithdrefn sy’n caniatáu i unrhyw berson, y gwnaed dyfarniad cymhwysol mewn cysylltiad ag ef, wneud cais o dan y weithdrefn honno am adolygiad o’r dyfarniad hwnnw gan banel a benodwyd gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae dyfarniad yn ddyfarniad cymhwysol—

(a)os yw’n ymwneud â chwestiwn ynghylch a ddylai person gael ei gymeradwyo, neu a ddylai barhau i gael ei gymeradwyo, fel rhiant maeth awdurdod lleol, a

(b)os yw o ddisgrifiad a bennir.

(3)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b) gynnwys darpariaeth o ran—

(a)dyletswyddau a phwerau panel;

(b)gweinyddiaeth a gweithdrefnau panel;

(c)penodi aelodau panel (gan gynnwys nifer, neu unrhyw gyfyngiad ar nifer, yr aelodau y caniateir i’w penodi, ac unrhyw amodau ar gyfer eu penodi);

(d)talu ffioedd i aelodau panel;

(e)dyletswyddau unrhyw berson mewn cysylltiad ag adolygiad a gynhelir o dan y rheoliadau;

(f)monitro unrhyw adolygiadau o’r fath.

(4)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (3)(e) osod dyletswydd i dalu i Weinidogion Cymru y cyfryw swm y mae Gweinidogion Cymru yn ei ddyfarnu; ond ni chaniateir gosod dyletswydd o’r fath ar berson sydd wedi gwneud cais i gael adolygiad o ddyfarniad cymhwysol.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, drwy gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall, nad yw agregiad y symiau sy’n dod yn daladwy iddynt o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4) y tu hwnt i’r gost o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniant gyda sefydliad lle y bydd y sefydliad hwnnw’n cyflawni swyddogaethau adolygu annibynnol ar eu rhan.

(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud trefniant o’r fath gyda sefydliad, rhaid i’r sefydliad gyflawni ei swyddogaethau o dan y trefniant yn unol ag unrhyw gyfarwyddyd cyffredinol neu arbennig a roddir gan Weinidogion Cymru.

(8)Caiff y trefniant gynnwys darpariaeth bod y sefydliad yn derbyn taliadau gan Weinidogion Cymru.

(9)Rhaid i daliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol â darpariaeth o’r fath gael eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu (at ddiben is-adran (5)) y gost i Weinidogion Cymru o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.

(10)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (7)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

(11)Yn yr adran hon—

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • mae “sefydliad” (“organisation”) yn cynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol, corff cyhoeddus a sefydliad preifat neu wirfoddol;

  • ystyr “swyddogaeth adolygu annibynnol” (“independent review function”) yw swyddogaeth a roddir neu a osodir ar Weinidogion Cymru drwy reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(b).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I14A. 93 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

94Rheoliadau ynghylch trefniadau asiantaethLL+C

Caiff rheoliadau o dan adran 87 wneud darpariaeth, er enghraifft, o ran yr amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol wneud trefniadau bod dyletswyddau a osodwyd arno gan y rheoliadau yn cael eu cyflawni ar ei ran.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I16A. 94 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)