RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Awdurdodau lleol
143Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol
1
At ddibenion y Ddeddf hon, swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yw ei swyddogaethau o dan y deddfiadau a grybwyllir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 2 i’r Ddeddf hon (sef y swyddogaethau a ddisgrifir yn gyffredinol yn ail golofn yr Atodlen honno).
2
Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—
a
ychwanegu eitemau at y tabl;
b
dileu eitemau o’r tabl;
c
diwygio eitemau yn y tabl.
144Cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol
1
Rhaid i awdurdod lleol benodi swyddog, a elwir yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw.
2
Ni chaniateir i awdurdod lleol benodi person yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol iddo oni bai ei fod yn fodlon bod y person hwnnw wedi dangos y cymwyseddau a bennwyd gan Weinidogion Cymru.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r cymwyseddau at ddiben is-adran (2) mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 neu mewn rheoliadau.
4
Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol, os ydynt o’r farn y gall yr un person gyflawni’n effeithiol, ar gyfer y ddau neu bob un ohonynt, swyddogaethau cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, benodi un person yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y ddau awdurdod hynny neu ar gyfer pob un ohonynt.
5
Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi penodi, neu sydd wedi penodi ar y cyd, berson o dan yr adran hon sicrhau bod staff digonol yn cael eu darparu at ddibenion ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynorthwyo’r cyfarwyddwr.