RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Ymyriadau gan y llywodraeth ganolog
I4I10150Y seiliau dros ymyrryd
At ddibenion y Rhan hon, mae’r seiliau dros ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol fel a ganlyn—
SAIL 1 - mae’r awdurdod lleol wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â dyletswydd sy’n swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol;
SAIL 2 - mae’r awdurdod lleol wedi gweithredu, neu’n bwriadu gweithredu, yn afresymol wrth arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol;
SAIL 3 - mae’r awdurdod lleol yn methu, neu’n debygol o fethu, â chyflawni swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol yn unol â safon ddigonol.
I5I20151Hysbysiad rhybuddio
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod lleol os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—
a
y seiliau dros ymyrryd;
b
y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;
c
y camau gweithredu y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol eu cymryd i ddelio â’r seiliau dros ymyrryd;
d
y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan yr awdurdod lleol (“y cyfnod cydymffurfio”);
e
y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd yr awdurdod lleol yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.
3
Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio o dan is-adran (1), rhaid iddynt—
a
o fewn 21 diwrnod o roi’r hysbysiad, osod copi ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a
b
o fewn 90 diwrnod o roi’r hysbysiad, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol mewn ymateb i’r hysbysiad rhybuddio.
I8I22152Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd
1
Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd o dan y Rhan hon â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol os yw is-adran (2) neu (3) yn gymwys.
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a
b
os yw awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.
3
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol a bod ganddynt reswm dros gredu—
a
bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson sy’n galw am ymyrraeth frys o dan y Rhan hon, neu
b
ei bod yn annhebygol y byddai’r awdurdod lleol yn gallu cydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â hysbysiad rhybuddio.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 90 diwrnod i’r dyddiad y maent yn dechrau ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd yn unol â’r ymyriad.
5
Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd, rhaid iddynt adolygu’n gyson yr amgylchiadau sy’n rhoi cychwyn i’r pŵer.
6
Os daw Gweinidogion Cymru i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi cael eu trin er boddhad iddynt neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Rhan hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt hysbysu yr awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eu casgliad.
7
Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (6).
8
Hyd nes y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bob 6 mis o’r dyddiad y maent yn dechrau ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd yn unol â’r ymyriad.
9
Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau gweithredu yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.
I14I16153Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghori
1
Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
2
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, ar gyfer darparu i’r awdurdod wasanaethau penodedig cynghorol eu natur.
3
Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu drefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.
4
Yn yr adran hon ac adran 154 ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd.
I21I2154Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran yr awdurdod
1
Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
2
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o’r fath i’r awdurdod lleol neu unrhyw un o’i swyddogion y maent yn credu ei fod yn briodol i sicrhau bod y swyddogaethau hynny y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy yn cael eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.
3
Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod gyda’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.
4
Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan y person penodedig.
I1I17155Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai
1
Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
2
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt hwy.
3
Os gwneir cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.
4
Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.
I24I13156Pŵer i gyfarwyddo bod swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill yn cael eu harfer
1
Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn hwylus, caiff cyfarwyddyd o dan adran 154 neu 155 ymwneud â chyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ychwanegol at y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy.
2
Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ystyriaethau ariannol wrth benderfynu a yw’n hwylus bod cyfarwyddyd yn ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol nad ydynt yn swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd.
I3I12157Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau
1
Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
2
Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol er mwyn delio â’r seiliau dros ymyrryd, caiff Gweinidogion Cymru—
a
cyfarwyddo’r awdurdod lleol neu unrhyw un neu rai o’i swyddogion, neu
b
cymryd unrhyw gamau eraill.
I6I23158Ymyrryd: dyletswydd i adrodd
Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer i roi cyfarwyddyd o dan adran 153, 154, 155 neu 157, rhaid iddynt—
a
o fewn 21 diwrnod o roi’r cyfarwyddyd, osod copi o’r cyfarwyddyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a
b
o fewn 90 diwrnod o roi’r cyfarwyddyd, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.
I19I18159Cyfarwyddiadau
1
Rhaid i awdurdod lleol, neu swyddog i awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Rhan hon gydymffurfio ag ef.
2
Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer swyddogaeth sy’n amodol ar farn yr awdurdod lleol neu swyddog i’r awdurdod.
3
O ran cyfarwyddyd o dan y Rhan hon—
a
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
b
caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;
c
mae’n orfodadwy drwy orchymyn gorfodol ar gais gan, neu ar ran, Gweinidogion Cymru.
I9I15160Dyletswydd i gydweithredu
1
Rhaid i awdurdod lleol roi i Weinidogion Cymru ac unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) gymaint o gymorth ag y gall yr awdurdod lleol yn rhesymol ei roi mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan, neu yn rhinwedd, y Rhan hon.
2
Y personau yw—
a
unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion yr adran hon;
b
unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan y Rhan hon;
c
unrhyw berson sy’n cynorthwyo—
i
Gweinidogion Cymru, neu
ii
person a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b).
I11I7161Pwerau mynd i mewn ac arolygu
1
Mae gan berson sy’n dod o fewn is-adran (2) hawl, ar bob adeg resymol—
a
i gael mynd i mewn i fangreoedd yr awdurdod lleol o dan sylw;
b
i arolygu, a gwneud copïau, o unrhyw gofnodion neu ddogfennau eraill a gedwir gan yr awdurdod, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r awdurdod, a’r rheini’n gofnodion neu’n ddogfennau y mae’r person o’r farn eu bod yn berthnasol i gyflawniad ei swyddogaethau o dan, neu yn rhinwedd, y Rhan hon.
2
Mae’r personau canlynol yn dod o fewn yr is-adran hon—
a
person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 153 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth o bersonau, person y mae’r awdurdod yn ymrwymo i gontract neu unrhyw drefniant arall ag ef sy’n ofynnol o dan y cyfarwyddyd;
b
person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 154;
c
Gweinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 155;
d
person a enwebir drwy gyfarwyddyd o dan adran 155.
3
Wrth arfer yr hawl o dan is-adran (1)(b) i arolygu cofnodion neu ddogfennau eraill—
a
mae gan berson (“P”) hawlogaeth i gael mynediad at, ac i arolygu a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sydd, neu sydd wedi bod, yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu’r dogfennau eraill o dan sylw, a
b
caiff P ei gwneud yn ofynnol i’r personau canlynol ddarparu unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol ei gael (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, rhoi gwybodaeth ar gael i’w harolygu neu i’w chopïo ar ffurf ddarllenadwy)—
i
y person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur felly ganddo neu ar ei ran;
ii
unrhyw berson y mae’r cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd o dan ei ofal neu sy’n ymwneud fel arall â’u gweithredu.
4
Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at berson sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sy’n cynorthwyo’r person hwnnw.
5
Yn yr adran hon mae “dogfen” a “cofnodion” ill dau yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.