6(1)Caniateir i hysbysiad cyfrannu y mae’n ofynnol ei gyflwyno i gyfrannwr o dan yr Atodlen hon gael ei gyflwyno i’r cyfrannwr—
(a)drwy ei ddosbarthu’n bersonol i’r cyfrannwr, neu
(b)drwy ei anfon at y cyfrannwr—
(i)drwy wasanaeth post cofrestredig (fel y diffinnir “registered post service” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000), neu
(ii)drwy wasanaeth post sy’n darparu i ddosbarthiad y ddogfen gael ei gofnodi.
(2)At ddibenion adran 7 o Ddeddf Ddehongli 1978 o ran ei chymhwyso i’r paragraff hwn, cyfeiriad priodol cyfrannwr yw cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfrannwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
I2Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)