Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 05/05/2022.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ATODLEN 2 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 03 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
( a gyflwynwyd gan adran 143)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Y deddfiad | Natur y swyddogaethau |
---|---|
Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 Adrannau 34 a 34A | Amddiffyn yr ifanc mewn perthynas ag achosion troseddol a diannod. |
Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 Adran 65 | Cymorth ariannol a chymorth arall a roddir gan awdurdodau lleol i sefydliadau gwirfoddol penodol. |
Deddf Plant a Phobl Ifanc 1969 Y Ddeddf gyfan | Gofal a dulliau eraill o ymdrin â phlant a phersonau ifanc yn ystod achosion llys. |
Deddf Mabwysiadu 1976 | Swyddogaethau sy’n parhau i fod yn arferadwy yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed a wneir gan neu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. |
Deddf Iechyd Meddwl 1983 Rhannau 2, 3 a 4; Adrannau 66, 67, 69(1), 114, 115, 116, 117 a 130 | Lles y rhai hynny sydd ag anhwylder meddwl; gwarcheidiaeth personau sy’n dioddef gan anhwylder meddwl gan gynnwys y personau hynny sydd wedi eu symud i Gymru a Lloegr o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon; arfer swyddogaethau perthynas agosaf y person sy’n dioddef felly; arfer swyddogaethau’r perthynas agosaf mewn perthynas â cheisiadau a chyfeiriadau at y Tribiwnlys Haen Gyntaf neu Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru; penodi gweithwyr iechyd meddwl sydd wedi eu cymeradwyo; mynd i mewn ac arolygu; lles ysbytai penodol; ôl-ofal cleifion a gedwir yn gaeth; erlyniadau. |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 Adran 46(2) a (5) | Claddu neu amlosgi person sy’n marw mewn llety a ddarperir o dan [F1Ran 4] o’r Ddeddf hon ac adennill treuliau o ystad y person hwnnw. |
Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban) 1984 Adran 10 | Lles personau penodol tra bônt yn yr ysbyty yn yr Alban. |
Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 [F2Adrannau 1, 2 a 5(5)] | Cynrychioli ac asesu personau anabl. |
Deddf Tai (Yr Alban) 1987 Adran 38(b) | Cydweithredu mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref. |
[F3Deddf Plant 1989 Y Ddeddf gyfan i’r graddau y mae’n rhoi swyddogaethau i awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr y Ddeddf ac eithrio— (a) Rhan 3 ac Atodlen 2 (cymorth awdurdod lleol i blant a theuluoedd); (b) adran 36 a pharagraffau 12 i 19(1) o Atodlen 3 (gorchmynion goruchwylio addysg).] | [F3Adroddiadau lles; cydsynio i gais am orchymyn preswylio mewn cysylltiad â phlentyn mewn gofal; swyddogaethau sy’n ymwneud â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig; gorchmynion cymorth teulu; gofal a goruchwylio; amddiffyn plant; swyddogaethau mewn perthynas â chartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol a sefydliadau gwirfoddol, cartrefi plant preifat, a threfniadau preifat ar gyfer maethu plant; arolygu cartrefi plant ar ran Gweinidogion Cymru; ymchwil a dychwelebau gwybodaeth.] |
[F4Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 Adran 47] | [F4Asesiad o anghenion am wasanaethau o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.] |
F5. . . | F5. . . |
[F6Deddf Addysg 1996 Adran 322] | [F6Cymorth i awdurdod lleol arall wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf.] |
Deddf Mabwysiadu (Agweddau Rhwng Gwledydd) 1999 Adrannau 1 a 2(4) | Swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 1 yn rhoi effaith i’r Confensiwn ar Amddiffyn Plant a Chydweithredu mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd, a gwblhawyd yn yr Hag ar 29 Mai 1993, a swyddogaethau o dan Erthygl 9(a) i (c) o’r Confensiwn. |
Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 | Cynnal Gwasanaeth Mabwysiadu; swyddogaethau awdurdod lleol fel asiantaeth fabwysiadu. |
Deddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003 Rhan 1 | Swyddogaethau sy’n ymwneud â chleifion mewn ysbytai y mae’n debygol y bydd angen gwasanaethau gofal cymunedol arnynt er mwyn eu rhyddhau o’r ysbyty yn ddiogel. |
Deddf Galluedd Meddyliol 2005 Adrannau 39, 39A, 39C, 39D, 49 ac Atodlen A1 | Cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol cyn darparu llety i berson nad oes ganddo alluedd; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol wrth roi awdurdodiad brys, neu wrth wneud cais am awdurdodiad safonol, o dan Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gael ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf yn cael ei dalu; adroddiadau mewn achosion cyfreithiol; swyddogaethau sy’n ymwneud â phreswylwyr ysbytai a chartrefi gofal. |
Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 Adran 66 | Swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluol. |
[F7Adran 67] | [F7Y ddarpariaeth o wasanaethau gofal perthnasol o fewn ystyr yr adran honno.] |
Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 Rhannau 1 i 3 | Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, asesu defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. |
Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 Adran 92 | Swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei remandio i lety awdurdod lleol. |
Deddf Gofal 2014 Adrannau 50 a 52 | Dyletswydd dros dro i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth (neu anghenion am gymorth) pan fo sefydliad neu asiantaeth yn methu â’u diwallu oherwydd methiant busnes. |
[F8Deddf Tai (Cymru) 2014 Adran 95(2),(3) a (4); ond dim ond pan fo’r swyddogaethau hynny’n gymwys yn rhinwedd is-adran (5)(b) o’r adran honno.] | [F8Cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref. ] |
Y Ddeddf hon Y Ddeddf gyfan, ac eithrio’r swyddogaethau o dan adrannau 15(4) (i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau eraill nad ydynt yn rhai gwasanaethau cymdeithasol), 120(2), 128(1) a (2), 130(1) a (2), 162 ac adran 164. | Gwasanaethau ataliol; gofal a chymorth; cymorth i ofalwyr; plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya; diogelu oedolion a phlant. |
[F9Deddf Plant a Theuluoedd 2014 | |
Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 31, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. | Dyletswydd i gydymffurfio â chais i gydweithredu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddiben arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.] |
[F10Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 | |
Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 65, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. | Dyletswydd i gydymffurfio â chais i gydweithredu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddiben arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.] |
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(a)
F2Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(b)
F3Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(c)
F4Geiriau yn Atod. 2 wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(d)
F5Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hepgor (27.4.2015) yn rhinwedd Deddf Tai (Cymru) 2014 (anaw 7), a. 145(3), Atod. 3 para. 22(3)(a); O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 53
F6Atod. 2 entry wedi ei hepgor (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig) yn rhinwedd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 24(6)(a); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
F7Geiriau yn Atod. 2 wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(e)
F8Geiriau yn Atod. 2 wedi eu mewnosod (27.4.2015) gan Deddf Tai (Cymru) 2014 (anaw 7), a. 145(3), Atod. 3 para. 22(3)(b); O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 53
F9Atod. 2 entry wedi ei fewnosod (1.9.2021) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 24(6)(b); O.S. 2021/373, ergl. 8(j)(xl)
F10Atod. 2 entry wedi ei fewnosod (1.9.2021) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 24(6)(c); O.S. 2021/373, ergl. 8(j)(xl)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: