I1I2F11ATODLEN 2SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Atod. 2 entry wedi ei hepgor (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) yn rhinwedd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 24(6)(a); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3
Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(a)
Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(b)
Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(c)
Geiriau yn Atod. 2 wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(d)
Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hepgor (27.4.2015) yn rhinwedd Deddf Tai (Cymru) 2014 (anaw 7), a. 145(3), Atod. 3 para. 22(3)(a); O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 53
Geiriau yn Atod. 2 Table 1 wedi eu hepgor (1.7.2022) yn rhinwedd Health and Care Act 2022 (c. 31), aau. 91(4)(c)(ii), 186(6); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)
Geiriau yn Atod. 2 wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(e)
Geiriau yn Atod. 2 wedi eu mewnosod (27.4.2015) gan Deddf Tai (Cymru) 2014 (anaw 7), a. 145(3), Atod. 3 para. 22(3)(b); O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 53
Atod. 2 entry wedi ei fewnosod (1.9.2021) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 24(6)(b); O.S. 2021/373, ergl. 8(j)(xl)
Atod. 2 entry wedi ei fewnosod (1.9.2021) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 24(6)(c); O.S. 2021/373, ergl. 8(j)(xl)
Y deddfiad | Natur y swyddogaethau |
---|---|
Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 Adrannau 34 a 34A | Amddiffyn yr ifanc mewn perthynas ag achosion troseddol a diannod. |
Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 Adran 65 | Cymorth ariannol a chymorth arall a roddir gan awdurdodau lleol i sefydliadau gwirfoddol penodol. |
Deddf Plant a Phobl Ifanc 1969 Y Ddeddf gyfan | Gofal a dulliau eraill o ymdrin â phlant a phersonau ifanc yn ystod achosion llys. |
Deddf Mabwysiadu 1976 | Swyddogaethau sy’n parhau i fod yn arferadwy yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed a wneir gan neu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. |
Deddf Iechyd Meddwl 1983 Rhannau 2, 3 a 4; Adrannau 66, 67, 69(1), 114, 115, 116, 117 a 130 | Lles y rhai hynny sydd ag anhwylder meddwl; gwarcheidiaeth personau sy’n dioddef gan anhwylder meddwl gan gynnwys y personau hynny sydd wedi eu symud i Gymru a Lloegr o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon; arfer swyddogaethau perthynas agosaf y person sy’n dioddef felly; arfer swyddogaethau’r perthynas agosaf mewn perthynas â cheisiadau a chyfeiriadau at y Tribiwnlys Haen Gyntaf neu Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru; penodi gweithwyr iechyd meddwl sydd wedi eu cymeradwyo; mynd i mewn ac arolygu; lles ysbytai penodol; ôl-ofal cleifion a gedwir yn gaeth; erlyniadau. |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 Adran 46(2) a (5) | Claddu neu amlosgi person sy’n marw mewn llety a ddarperir o dan F1Ran 4 o’r Ddeddf hon ac adennill treuliau o ystad y person hwnnw. |
Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban) 1984 Adran 10 | Lles personau penodol tra bônt yn yr ysbyty yn yr Alban. |
Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 F7Adrannau 1, 2 a 5(5) | Cynrychioli ac asesu personau anabl. |
Deddf Tai (Yr Alban) 1987 Adran 38(b) | Cydweithredu mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref. |
F4Deddf Plant 1989 Y Ddeddf gyfan i’r graddau y mae’n rhoi swyddogaethau i awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr y Ddeddf ac eithrio—
| F4Adroddiadau lles; cydsynio i gais am orchymyn preswylio mewn cysylltiad â phlentyn mewn gofal; swyddogaethau sy’n ymwneud â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig; gorchmynion cymorth teulu; gofal a goruchwylio; amddiffyn plant; swyddogaethau mewn perthynas â chartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol a sefydliadau gwirfoddol, cartrefi plant preifat, a threfniadau preifat ar gyfer maethu plant; arolygu cartrefi plant ar ran Gweinidogion Cymru; ymchwil a dychwelebau gwybodaeth. |
F6Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 Adran 47 | F6Asesiad o anghenion am wasanaethau o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. |
F5. . . | F5. . . |
|
|
Deddf Mabwysiadu (Agweddau Rhwng Gwledydd) 1999 Adrannau 1 a 2(4) | Swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 1 yn rhoi effaith i’r Confensiwn ar Amddiffyn Plant a Chydweithredu mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd, a gwblhawyd yn yr Hag ar 29 Mai 1993, a swyddogaethau o dan Erthygl 9(a) i (c) o’r Confensiwn. |
Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 | Cynnal Gwasanaeth Mabwysiadu; swyddogaethau awdurdod lleol fel asiantaeth fabwysiadu. |
F10. . . | F10. . . |
Deddf Galluedd Meddyliol 2005 Adrannau 39, 39A, 39C, 39D, 49 ac Atodlen A1 | Cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol cyn darparu llety i berson nad oes ganddo alluedd; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol wrth roi awdurdodiad brys, neu wrth wneud cais am awdurdodiad safonol, o dan Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gael ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf yn cael ei dalu; adroddiadau mewn achosion cyfreithiol; swyddogaethau sy’n ymwneud â phreswylwyr ysbytai a chartrefi gofal. |
Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 Adran 66 | Swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluol. |
F3Adran 67 | F3Y ddarpariaeth o wasanaethau gofal perthnasol o fewn ystyr yr adran honno. |
Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 Rhannau 1 i 3 | Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, asesu defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. |
Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 Adran 92 | Swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei remandio i lety awdurdod lleol. |
Deddf Gofal 2014 Adrannau 50 a 52 | Dyletswydd dros dro i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth (neu anghenion am gymorth) pan fo sefydliad neu asiantaeth yn methu â’u diwallu oherwydd methiant busnes. |
F2Deddf Tai (Cymru) 2014 Adran 95(2),(3) a (4); ond dim ond pan fo’r swyddogaethau hynny’n gymwys yn rhinwedd is-adran (5)(b) o’r adran honno. | F2Cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref. |
Y Ddeddf hon Y Ddeddf gyfan, ac eithrio’r swyddogaethau o dan adrannau 15(4) (i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau eraill nad ydynt yn rhai gwasanaethau cymdeithasol), 120(2), 128(1) a (2), 130(1) a (2), 162 ac adran 164. | Gwasanaethau ataliol; gofal a chymorth; cymorth i ofalwyr; plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya; diogelu oedolion a phlant. |
F8Deddf Plant a Theuluoedd 2014 | |
Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 31, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. | Dyletswydd i gydymffurfio â chais i gydweithredu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddiben arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. |
F9Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 | |
Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 65, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. | Dyletswydd i gydymffurfio â chais i gydweithredu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddiben arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. |
Atod. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)