( a gyflwynwyd gan adran 143)

F1ATODLEN 2LL+CSWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Diwygiadau Testunol

F1Atod. 2 entry wedi ei hepgor (1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) yn rhinwedd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 24(6)(a); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2Atod. 2 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

TABL 1

Y deddfiadNatur y swyddogaethau

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933

Adrannau 34 a 34A

Amddiffyn yr ifanc mewn perthynas ag achosion troseddol a diannod.

Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968

Adran 65

Cymorth ariannol a chymorth arall a roddir gan awdurdodau lleol i sefydliadau gwirfoddol penodol.

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1969

Y Ddeddf gyfan

Gofal a dulliau eraill o ymdrin â phlant a phersonau ifanc yn ystod achosion llys.

Deddf Mabwysiadu 1976

Swyddogaethau sy’n parhau i fod yn arferadwy yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed a wneir gan neu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Deddf Iechyd Meddwl 1983

Rhannau 2, 3 a 4; Adrannau 66, 67, 69(1), 114, 115, 116, 117 a 130

Lles y rhai hynny sydd ag anhwylder meddwl; gwarcheidiaeth personau sy’n dioddef gan anhwylder meddwl gan gynnwys y personau hynny sydd wedi eu symud i Gymru a Lloegr o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon; arfer swyddogaethau perthynas agosaf y person sy’n dioddef felly; arfer swyddogaethau’r perthynas agosaf mewn perthynas â cheisiadau a chyfeiriadau at y Tribiwnlys Haen Gyntaf neu Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru; penodi gweithwyr iechyd meddwl sydd wedi eu cymeradwyo; mynd i mewn ac arolygu; lles ysbytai penodol; ôl-ofal cleifion a gedwir yn gaeth; erlyniadau.

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984

Adran 46(2) a (5)

Claddu neu amlosgi person sy’n marw mewn llety a ddarperir o dan [F2Ran 4] o’r Ddeddf hon ac adennill treuliau o ystad y person hwnnw.

Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban) 1984

Adran 10

Lles personau penodol tra bônt yn yr ysbyty yn yr Alban.

Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986

[F3Adrannau 1, 2 a 5(5)]

Cynrychioli ac asesu personau anabl.

Deddf Tai (Yr Alban) 1987

Adran 38(b)

Cydweithredu mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref.

[F4Deddf Plant 1989

Y Ddeddf gyfan i’r graddau y mae’n rhoi swyddogaethau i awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr y Ddeddf ac eithrio—

(a)

Rhan 3 ac Atodlen 2 (cymorth awdurdod lleol i blant a theuluoedd);

(b)

adran 36 a pharagraffau 12 i 19(1) o Atodlen 3 (gorchmynion goruchwylio addysg).]

[F4Adroddiadau lles; cydsynio i gais am orchymyn preswylio mewn cysylltiad â phlentyn mewn gofal; swyddogaethau sy’n ymwneud â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig; gorchmynion cymorth teulu; gofal a goruchwylio; amddiffyn plant; swyddogaethau mewn perthynas â chartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol a sefydliadau gwirfoddol, cartrefi plant preifat, a threfniadau preifat ar gyfer maethu plant; arolygu cartrefi plant ar ran Gweinidogion Cymru; ymchwil a dychwelebau gwybodaeth.]

[F5Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990

Adran 47]

[F5Asesiad o anghenion am wasanaethau o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.]
F6. . .F6. . .

[F1Deddf Addysg 1996

Adran 322]

[F1Cymorth i awdurdod lleol arall wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf.]

Deddf Mabwysiadu (Agweddau Rhwng Gwledydd) 1999

Adrannau 1 a 2(4)

Swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 1 yn rhoi effaith i’r Confensiwn ar Amddiffyn Plant a Chydweithredu mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd, a gwblhawyd yn yr Hag ar 29 Mai 1993, a swyddogaethau o dan Erthygl 9(a) i (c) o’r Confensiwn.

Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002

Cynnal Gwasanaeth Mabwysiadu; swyddogaethau awdurdod lleol fel asiantaeth fabwysiadu.
F7. . .F7. . .

Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Adrannau 39, 39A, 39C, 39D, 49 ac Atodlen A1

Cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol cyn darparu llety i berson nad oes ganddo alluedd; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol wrth roi awdurdodiad brys, neu wrth wneud cais am awdurdodiad safonol, o dan Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gael ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf yn cael ei dalu; adroddiadau mewn achosion cyfreithiol; swyddogaethau sy’n ymwneud â phreswylwyr ysbytai a chartrefi gofal.

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Adran 66

Swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluol.

[F8Adran 67]

[F8Y ddarpariaeth o wasanaethau gofal perthnasol o fewn ystyr yr adran honno.]

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Rhannau 1 i 3

Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, asesu defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012

Adran 92

Swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei remandio i lety awdurdod lleol.

Deddf Gofal 2014

Adrannau 50 a 52

Dyletswydd dros dro i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth (neu anghenion am gymorth) pan fo sefydliad neu asiantaeth yn methu â’u diwallu oherwydd methiant busnes.

[F9Deddf Tai (Cymru) 2014

Adran 95(2),(3) a (4); ond dim ond pan fo’r swyddogaethau hynny’n gymwys yn rhinwedd is-adran (5)(b) o’r adran honno.]

[F9Cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref. ]

Y Ddeddf hon

Y Ddeddf gyfan, ac eithrio’r swyddogaethau o dan adrannau 15(4) (i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau eraill nad ydynt yn rhai gwasanaethau cymdeithasol), 120(2), 128(1) a (2), 130(1) a (2), 162 ac adran 164.

Gwasanaethau ataliol; gofal a chymorth; cymorth i ofalwyr; plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya; diogelu oedolion a phlant.
[F10Deddf Plant a Theuluoedd 2014
Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 31, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.Dyletswydd i gydymffurfio â chais i gydweithredu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddiben arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.]
[F11Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 65, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.Dyletswydd i gydymffurfio â chais i gydweithredu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddiben arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.]

Diwygiadau Testunol

F7Geiriau yn Atod. 2 Table 1 wedi eu hepgor (1.7.2022) yn rhinwedd Health and Care Act 2022 (c. 31), aau. 91(4)(c)(ii), 186(6); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)