F1Atodlen A1Taliadau Uniongyrchol: Ôl-ofal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

Annotations:

1Cyffredinol

Mae adran 50 (taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion oedolyn), 51 (taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion plentyn) a 53 (taliadau uniongyrchol: darpariaeth bellach) yn gymwys mewn perthynas ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ond fel pe bai’r addasiadau a ganlyn wedi eu gwneud i’r adrannau hynny.

Addasiadau i adran 50

2

Yn lle is-adran (1) o adran 50 rhodder—

1

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i oedolyn y mae adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal i’r oedolyn o dan yr adran honno.

3

Yn is-adran (3) o’r adran honno—

a

ym mharagraff (a), yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”)” rhodder “mewn cysylltiad â darparu i’r oedolyn (“A”) wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”, a

b

ym mharagraff (c)(i), yn lle “o ddiwallu anghenion A” rhodder “o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

4

Yn is-adran (4) o’r adran honno—

a

ym mharagraff (a), yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”)” rhodder “y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn gymwys iddo (“A”)”, a

b

ym mharagraff (d)(i) yn lle “o ddiwallu anghenion A” rhodder “o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

5

Yn is-adran (5) o’r adran honno—

a

ym mharagraff (a), yn lle “anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”, a

b

ym mharagraff (b), yn lle “tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

6

Yn is-adran (6)(b) o’r adran honno, yn lle “anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

Addasiadau i adran 51

7

Yn lle is-adran (1) o adran 51 rhodder—

1

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson mewn cysylltiad â phlentyn y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal i’r plentyn o dan yr adran honno.

8

Yn is-adran (3)(a) a (b) o’r adran honno, yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn gymwys iddo”.

9

Yn is-adran (5)(a) o’r adran honno, yn lle “ddiwallu anghenion y plentyn” rhodder “gyflawni ei ddyletswydd tuag at y plentyn o dan adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

Addasiadau i adran 53

10

Yn is-adran (1) o adran 53—

a

yn y geiriau agoriadol, yn lle “50, 51 neu 52” rhodder “50 neu 51”,

b

hepgorer paragraffau (a), (b) ac (c),

c

ym mharagraff (i), yn lle “y disodlir odanynt ddyletswydd neu bŵer awdurdod lleol i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth, neu anghenion gofalwr am gymorth, drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y disodlir y ddyletswydd honno neu’r pŵer hwnnw” rhodder “y cyflawnir odanynt ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal), drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y cyflawnir y ddyletswydd honno”, a

d

ym mharagraff (k), yn lle “50 i 52” rhodder “50 neu 51”.

11

Hepgorer is-adrannau (2) i (8) o’r adran honno.

12

Ar ôl is-adran (8) o’r adran honno mewnosoder—

8A

Rhaid i reoliadau a wneir o dan adrannau 50 a 51 bennu bod rhaid i daliadau uniongyrchol i dalu’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) gael eu gwneud ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau hynny i ddiwallu’r anghenion hynny.

13

Yn is-adran (9) o’r adran honno—

a

yn lle “, 51 neu 52” rhodder “neu 51”, a

b

yn lle “gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth)” rhodder “gwasanaethau ôl-ofal”.

14

Yn lle is-adran (10) o’r adran honno, yn lle “ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth) i ddiwallu anghenion” rhodder “wasanaethau ôl-ofal”.