F1Atodlen A1Taliadau Uniongyrchol: Ôl-ofal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

Annotations:

10Addasiadau i adran 53

Yn is-adran (1) o adran 53—

a

yn y geiriau agoriadol, yn lle “50, 51 neu 52” rhodder “50 neu 51”,

b

hepgorer paragraffau (a), (b) ac (c),

c

ym mharagraff (i), yn lle “y disodlir odanynt ddyletswydd neu bŵer awdurdod lleol i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth, neu anghenion gofalwr am gymorth, drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y disodlir y ddyletswydd honno neu’r pŵer hwnnw” rhodder “y cyflawnir odanynt ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal), drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y cyflawnir y ddyletswydd honno”, a

d

ym mharagraff (k), yn lle “50 i 52” rhodder “50 neu 51”.