RHAN 1CYFLWYNIAD

Trosolwg

I11Trosolwg ar y Ddeddf hon

1

Mae 11 Rhan i’r Ddeddf hon.

2

Mae’r Rhan hon yn darparu trosolwg ar y Ddeddf gyfan ac yn diffinio rhai termau allweddol.

3

Mae Rhan 2 (dyletswyddau cyffredinol)—

a

yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon geisio hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth (adran 5);

b

yn pennu dyletswyddau hollgyffredinol ar bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phersonau y mae angen gofal a chymorth arnynt neu y gall fod angen gofal a chymorth arnynt, gofalwyr y mae angen cymorth arnynt neu y gall fod angen cymorth arnynt, neu bersonau y mae swyddogaethau yn arferadwy mewn cysylltiad â hwy o dan Ran 6, er mwyn rhoi effaith i egwyddorion allweddol penodol (adran 6);

c

yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi datganiad yn pennu’r canlyniadau llesiant sydd i’w sicrhau ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt a dyroddi cod i helpu i sicrhau’r canlyniadau hynny (adrannau 8 i 13);

d

yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu’r anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol yn eu hardaloedd hwy (adran 14);

e

yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ataliol (adran 15);

f

yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector wrth ddarparu gofal a chymorth a chymorth i ofalwyr yn eu hardaloedd (adran 16);

g

yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â gofal a chymorth a chymorth i ofalwyr ac yn cynorthwyo i gael hyd i’r gwasanaeth hwnnw (adran 17);

h

yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol greu a chynnal cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill (adran 18).

4

Mae Rhan 3 (asesu anghenion unigolion) yn darparu ar gyfer—

a

yr amgylchiadau hynny lle y mae’n rhaid i awdurdod lleol asesu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth;

b

sut y mae asesiadau i’w cynnal.

5

Mae Rhan 4 (diwallu anghenion) yn darparu ar gyfer—

a

yr amgylchiadau lle y caiff, neu lle y mae’n rhaid i, awdurdodau lleol ddiwallu anghenion am ofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr;

b

sut y mae anghenion i’w diwallu.

6

Mae Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) yn darparu ar gyfer—

a

yr amgylchiadau y caiff awdurdodau lleol godi ffi odanynt am ddarparu neu am drefnu gofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr;

b

yr amgylchiadau y caiff awdurdodau lleol godi ffi odanynt am wasanaethau ataliol ac am ddarparu cynhorthwy;

c

sut y mae ffioedd o’r fath i’w pennu, i’w talu ac i’w gorfodi.

7

Mae Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya)—

a

yn darparu ar gyfer dehongli’r cyfeiriadau at blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (adran 74);

b

yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol—

i

sicrhau digon o lety yn eu hardaloedd i’r plant y maent yn gofalu amdanynt (adran 75), a

ii

lletya plant heb rieni neu sydd ar goll neu wedi eu gadael neu sydd o dan amddiffyniad yr heddlu neu wedi eu cadw’n gaeth neu ar remánd (adrannau 76 a 77);

c

yn darparu ar gyfer swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant y maent yn gofalu amdanynt (adrannau 75 i 103, 124 a 125);

d

yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle y caiff, neu lle y mae’n rhaid i, awdurdodau lleol ddarparu cymorth i bobl ifanc—

i

sy’n gadael, neu sydd wedi gadael, gofal awdurdod lleol;

ii

a oedd gynt yn cael eu lletya mewn sefydliadau penodol;

iii

a oedd gynt yn cael eu maethu;

iv

y mae neu yr oedd gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad â hwy;

(adrannau 104 i 118);

e

yn darparu ar gyfer terfynau ar y defnydd o lety diogel i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol neu awdurdodau lleol yn Lloegr neu blant o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau (adran 119);

f

yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu awdurdodau addysg neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol a darparu ymweliadau a gwasanaethau i’r plant hynny (adrannau 120 i 123);

g

yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniadau tuag at gynnal plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

8

Mae Rhan 7 (diogelu)—

a

yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymchwilio pan fyddant yn amau bod oedolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod (adran 126);

b

yn darparu ar gyfer gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion er mwyn awdurdodi mynediad i fangre (drwy rym os oes angen) er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod lleol i asesu a yw oedolyn yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod ac, os ydyw, beth i’w wneud am y sefyllfa honno (adran 127);

c

yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid perthnasol roi gwybod i’r awdurdod priodol pan fônt yn amau bod pobl efallai yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod (adrannau 128 a 130);

d

yn datgymhwyso adran 47 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am orchymyn llys i symud pobl y mae angen gofal a sylw arnynt o’u cartrefi i ysbytai neu fannau eraill) (adran 129);

e

yn sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i roi cymorth a chyngor er mwyn sicrhau effeithiolrwydd Byrddau Diogelu (adrannau 132 a 133);

f

yn darparu ar gyfer Byrddau Diogelu i oedolion a phlant ac ar gyfer cyfuno byrddau o’r fath (adrannau 134 i 141).

9

Mae Rhan 8 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol)—

a

yn cyflwyno Atodlen 2, sy’n pennu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (adran 143);

b

yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn penodi cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig (adran 144);

F1ba

yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn llunio—

i

adroddiadau blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, a

ii

adroddiadau ar sefydlogrwydd marchnadoedd lleol ar gyfer darparu gofal a chymorth,

(adrannau 144A a 144B);

c

yn darparu bod codau ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol i’w gwneud gan Weinidogion Cymru (adrannau 145 i 149);

F2ca

yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (adrannau 149A a 149B);

d

yn darparu ar gyfer ymyrraeth gan Weinidogion Cymru yn y modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol pan fo’n methu â’u harfer yn gywir (adrannau 150 i F3160);

da

yn caniatáu ar gyfer arolygu mangreoedd mewn cysylltiad ag adolygiadau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol neu arfer pwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny, ac i Weinidogion Cymru ofyn am wybodaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o’r fath ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig (adrannau 161 i 161C).

10

Mae Rhan 9 (cydweithrediad a phartneriaeth)—

a

yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad gyda’u partneriaid perthnasol ac eraill mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion am ofal a chymorth, gofalwyr a phlant (adrannau 162 a 163);

b

yn gosod dyletswydd ar y partneriaid perthnasol i gydweithredu â’r awdurdodau lleol, a darparu gwybodaeth iddynt, at ddiben eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (adran 164);

c

yn gwneud darpariaeth ynghylch hyrwyddo’r broses o integreiddio gofal a chymorth â gwasanaethau iechyd (adran 165);

d

yn darparu ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn cyflawni eu swyddogaethau (adrannau 166 i 169);

e

yn grymuso Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdodau lleol i ymrwymo i drefniadau ar y cyd er mwyn darparu gwasanaeth mabwysiadu (adran 170).

11

Mae gan Ran 10 (cwynion, sylwadau a gwasanaethau eirioli) dair pennod.

12

Mae Pennod 1 yn darparu ar gyfer cwynion a sylwadau am wasanaethau cymdeithasol sy’n cael eu darparu neu eu trefnu gan awdurdodau lleol.

13

Mae Pennod 2 yn darparu ar gyfer cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch gofal cymdeithasol a gofal lliniarol preifat.

14

Mae Pennod 3 yn darparu i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i bobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth.

15

Mae Rhan 11 (amrywiol a chyffredinol)—

a

yn grymuso Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i wneud ymchwil, ac yn grymuso Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi, ynghylch materion sy’n gysylltiedig â swyddogaethau o dan y Ddeddf a materion cysylltiedig eraill (adran 184);

b

yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys i bersonau mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc (adrannau 185 i 188);

c

yn gwneud darpariaeth ynghylch y camau i’w cymryd gan awdurdod lleol pan fo F4darparwr gwasanaeth (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) yn methu â diwallu anghenion yn ardal yr awdurdod oherwydd methiant busnes (adrannau 189 i 191);

d

yn datgymhwyso adran 49 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n caniatáu i awdurdod lleol dalu treuliau a dynnir gan unrhyw un neu rai o’i swyddogion a benodir yn ddirprwy gan y Llys Gwarchod) (adran 192);

e

yn gwneud darpariaeth ynghylch adennill costau rhwng awdurdodau lleol o dan rai amgylchiadau (adran 193);

f

yn darparu ar gyfer ateb cwestiynau ynghylch preswylfa arferol person at ddibenion y Ddeddf hon (adran 194);

g

yn cynnwys y diffiniadau sy’n gymwys at ddibenion y Ddeddf hon yn gyffredinol a mynegai o ymadroddion a ddiffiniwyd (adran 197);

h

yn cynnwys darpariaethau eraill sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.

16

Mae darpariaethau hefyd ynghylch gwasanaethau cymdeithasol yn y Deddfau a’r Mesurau a restrir yn Atodlen 2.