107Asesiadau a chynlluniau llwybr: cyffredinolLL+C
(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 1 gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon—
(a)tra bo’r awdurdod yn dal i ofalu amdano, a
(b)wedi iddo roi’r gorau i ofalu amdano.
(2)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 nad oes ganddo gynllun llwybr eisoes, gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon.
(3)Ar ôl cynnal asesiad o dan is-adran (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod lleol lunio cynllun llwybr a’i gynnal cyhyd ag y bydd y person ifanc yn dod o fewn categori 1, 2 neu 3 (ond gweler is-adran (12)).
(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall (os oes cyngor a chymorth arall) y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon.
(5)Wrth gynnal asesiad o dan is-adran (4), caiff yr awdurdod lleol ystyried unrhyw ddyletswydd a all fod ganddo i wneud taliad i’r person ifanc o dan adran 112(2).
(6)Ar ôl cynnal asesiad o dan is-adran (4), rhaid i’r awdurdod lleol lunio cynllun llwybr.
(7)Mae cynllun llwybr yn gynllun sy’n nodi—
(a)yn achos cynllun ar gyfer person ifanc categori 1—
(i)y cyngor a’r cymorth arall y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon, tra bydd yn gofalu amdano ac wedi hynny, a
(ii)pryd y byddai, o bosibl, yn rhoi’r gorau i ofalu amdano;
(b)yn achos cynllun ar gyfer person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4, y cyngor a’r cymorth arall y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon;
(c)unrhyw faterion eraill (os oes rhai) a bennir mewn rheoliadau.
(8)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth o ran asesiadau at ddibenion yr adran hon.
(9)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynglŷn â’r canlynol—
(a)y personau y dylid ymgynghori â hwy mewn perthynas ag asesiad;
(b)sut mae asesiad i’w gynnal, gan bwy a phryd;
(c)cofnodi canlyniadau asesiad;
(d)yr ystyriaethau y mae’r awdurdod lleol i roi sylw iddynt wrth gynnal asesiad.
(10)Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r cynllun llwybr yn gyson (ond gweler is-adrannau (12) a (13)).
(11)Caiff yr awdurdod lleol gynnal asesiad neu adolygiad o dan yr adran hon ar yr un adeg ag unrhyw asesiad neu adolygiad arall o anghenion y person ifanc.
(12)Yn achos person ifanc categori 3, mae’r dyletswyddau o dan is-adrannau (3) a (10) yn ddarostyngedig i adran 111.
(13)Yn achos person ifanc categori 4, mae’r ddyletswydd o dan is-adran (10) yn ddarostyngedig i adran 113.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Aau. 105-116 wedi eu eithrio gan 2002 c. 41, Atod. 3 para. 1(1)(o) (fel y'i fewnosodwyd (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 199(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)